tu chwith

Cyfle gwych i gyfieithwyr: Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru – Oxfam Cymru 2010

29 Mehefin 2010 Ffeiliwyd o dan: amrywiol — Tagiau: — Menna Machreth @ 2:44 PM

Her Gyfieithu – O’r Ffrangeg i’r Gymraeg neu Saesneg

Mae Tŷ Cyfieithu Cymru ac Oxfam Cymru yn cynnal her gyfieithu ac mae’r wobr yn gyfle gwych i unrhyw gyfieithydd llenyddol.

Yr her eleni ydi cyfieithu rhan o’r stori fer, La folie était venue avec la pluie gan yr awdur o Haiti Yanick Lahens o’r Ffrangeg gwreiddiol i’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’r darn i’w gyfiethu yn ogystal a dolen at y stori fer yn ei chyfanrwydd ar ein gwefan:

http://www.cyfnewidfalen.org/features.cfm?lan=w&switch=dsp&feature_id=280&featuretype=1

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw hanner nos ar yr 16eg o Orffennaf 2010 a’r beirniad yw Patrick McGuiness a Gareth Miles.

Y wobr yw comisiwn i gyfieithu’r stori fer yn ei chyfanrwydd, dwy noson yn Nhŷ Newydd – Tŷ Cyfieithu Cymru (i’w drefnu gyda Thŷ Newydd) a Ffon Farddol 2010.

Dylid anfon eich cynigion at Dr Sioned Puw Rowlands, sioned@cyfnewidfalen.org

neu

Her Gyfieithu 2010,

Cyfnewidfa Lên Cymru,

Sefydliad Mercator ar Gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant,

Prifysgol Cymru Aberystwyth,

Campws Llanbadarn,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3AS.

Cyhoeddir enw’r enillydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd am 11:00yb, Ddydd Iau, 5 Awst 2010 ar stondin Prifysgol Aberystwyth.

Mae Tŷ Cyfieithu Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, HALMA a’r Academi.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.cyfnewidfalen.org

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Paratoi rhifyn nesaf Tu Chwith: Croesi Ffiniau…

14 Mehefin 2010 Ffeiliwyd o dan: amrywiol, cylchgronnau — Tagiau:, , , , — Menna Machreth @ 9:58 PM

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn comisiynu darnau ar gyfer rhifyn nesaf tu chwith ac mae’r thema ‘croesi ffiniau’ wedi bod yn gwneud i mi feddwl llawer. Yn amlwg, gallwch groesi ffiniau daearyddol a hyd yn oed croesi ffin rhwng un hunaniaeth a’r llall a mabwysiadu hunaniaeth newydd.

Yn benodol, dwi wedi bod yn meddwl am y gwahanol ffurfiau a genres sydd ganddom ni mewn llenyddiaeth. Wrth i awdur arbrofi â genre neu ffurf nad yw wedi arfer â hi, gall fod yn her sy’n ymestyn ei ddychymyg ac yn rhoi agwedd newydd i’w waith a’i feddylfryd. Dyma pam rwyf wedi mynd ati i herio awduron i ysgrifennu mewn ffurf sydd naill ai heb cael ei weld yn y Gymraeg o’r blaen neu yn hen ffurf/confensiwn Cymraeg sydd angen cael ei atgyfodi i’n hoes ni.

Dwi wedi cael blas arbennig yn dod ar draws ffurfiau o wledydd eraill a chomisiynu awduron i ddefnyddio’r ffurf, gan obeithio y gwelwn ni waith ffres a genre newydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gymraeg. Er enghraifft, ffurf o Tseina yw’r ‘biji‘ sy’n rhyw fath o lyfr nodiadau yn llawn dywediadau, straeon bach, hanes rhywbeth, dyfyniadau neu unrhyw beth mae’r awdur eisiau cyfeirio ato. Ffurf arall dwi’n edrych ymlaen i’w gweld yn y Gymraeg yw’r ‘Pantoum‘ o Malaysia sydd â nifer o linellau yn ailadrodd yn ystod y gerdd.

Yn ogystal, mae Ceri Elen yn cyd-olygu’r rhifyn hwn gyda fi felly dwi’n edrych ymlaen i weld y cynnyrch sy’n dod o’i chomisiynu hithau hefyd.

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld ffrwyth gwaith yr awduron!

Mae amser i gyfrannu o hyd. Danfonwch eich cynnyrch at tuchwith@googlemail.com erbyn Gorffennaf 1af.

Cofiwch gallwch danysgrifio ar y wefan hon i gylchgrawn tu chwith i dderbyn y copi cyfredol drwy’r post a bod ymysg y cyntaf i dderbyn y rhifyn nesaf pan gaiff ei gyhoeddi! Tanysgrifiwch yma.

Menna Machreth

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Ysgrifennwch Haiku neu Senryu ar y wefan/facebook/twitter/e-bost ar gyfer rhifyn ‘Croesi Ffiniau’ Haf 2010

7 Mehefin 2010 Ffeiliwyd o dan: Barddoniaeth, cylchgronnau — Tagiau:, , — Menna Machreth @ 11:20 PM

Mae gan tu chwith her i chi. Yr her yw i ysgrifennu haiku neu senryu (disgrifiad o ofynion y pennillion isod) a’u postio ar y wefan hon yn y blwch ‘sylwad/comment’ neu eu postio ar facebook tu chwith neu ar twitter (gan gyfeirio’r pennill @tuchwith). Gallwch hefyd eu e-bostio nhw i fi os ydych am eu ysgrifennu dan ffugenw. Byddaf yn dethol y goreuon i’w rhoi yn rhifyn nesaf tu chwith a fydd yn cael ei gyhoeddi fis Awst.

Mwy am y rhifyn nesaf: Croesi Ffiniau

Thema rhifyn nesaf tu chwith fydd ‘Croesi Ffiniau’. Mae amser o hyd i gyfrannu os dymunwch; y dyddiad cau yw Mehefin 30ain, 2010. Bydd y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi fis Awst.

Danfonwch eich cynnyrch at tuchwith@googlemail.com

Rwyf wedi comisiynu nifer o ddarnau sy’n chwarae â genre neu ffurf. Y gobaith yw bydd enghreifftiau yn y gyfrol o hen ffurfiau yn cael adfywiad mewn ffordd cyfoes neu ffurfiau a genres o wledydd eraill yn gwneud ymddangosiad yn y Gymraeg.

Beth yw haiku?

- cerdd tair llinell
- daw o Japan yn wreiddiol lle mae’n cael ei gofnodi fel llinell fertigol.
- mae’n cynnwys llinell fyr i ddechrau, yr ail yn linell hirach, a’r trydydd llinell yn fyr eto; mae rhai’n defnyddio 5 sill yn y llinell gyntaf, 7 sill yn yr ail, 5 sill yn y trydydd.
- Peidiwch defnyddio mwy na 17 sill yn yr haiku
- Mae Haiku fel arfer yn canolbwyntio ar fyd natur a bydd cyfeiriad at fyd natur.
- Bydd Haiku fel arfer yn cyfleu emosiwn ac yn disgrifio pethau/gwrthrychau gan ddefnyddio’r synhwyrau.
- Mae’n bosib fod dwy ran i haiku, efallai er mwyn cymharu neu gyferbynu.

Enghraifft:

Awdur o Gymru sydd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o haikus yw Nigel Jenkins. Dyma enghraifft o’i waith:

the bunched daffs drool
as she grasps with both hands
her ninetieth spring

Beth yw senryu?

- mae senryu ychydig yn wahanol i haiku ond maen nhw dal yn fyrrach nag 17 sillaf ac yn dair llinell o hyd.
- Yn gyffredinol, mae senryu yn trafod y natur ddynol – perthnasau, gwaith, rhyfel. Datblygodd y senryu o’r haiku yn Japan yn ystod y 17eg ganrif (edo period).
- Mae senryu yn ffraeth ac nid yw’n cyfeirio at natur fel yr haiku.

Enghraifft:

When the night falls
the day starts to break
on the brothels

gan Yanagidaru shui (c. 1796) (dyfynnwyd yn McSweeneys)

After ten years, I wrote him: ‘Now?’
He returned the word,
One letter gone.

Gan Nicky Beer (McSweeneys)

Felly, pam na wnewch chi drio sgwennu un o’r penillion bach twt yma? Hyd yn oed os nag ydych chi wedi ysgrifennu o’r blaen, beth am geisio rhoi haiku neu senryu at ei gilydd?

Postiwch eich cynnyrch yn y blwch ‘sylwad’ islaw neu ar facebook, twitter neu ebostiwch tuchwith@googlemail.com Bydd yn dipyn o hwyl i weld cynnyrch pawb.

Efallai bydd eich gwaith yng nghylchgrawn tu chwith!

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Rhodri ap Dyfrig yn sôn am lansiad DVD Pictiwrs/Tu Chwith yn Aberystwyth

28 Mai 2010 Ffeiliwyd o dan: Adolygiadau, Cyfweliadau, ffilm — Tagiau:, , , , , — Menna Machreth @ 5:04 PM

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Artes Mundi 2010 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru: adolygiad Catrin Gardiner

26 Mai 2010 Ffeiliwyd o dan: amrywiol — Menna Machreth @ 3:01 PM

delwedd o ffilm Yael Bartana

Mae wedi bod yn wythnos fawr yng nghalendar celf gweledol Cymru yr wythnos yma, wrth i enillydd gwobr Artes Mundi gael ei gyhoeddi mewn seremoni yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Iau 19eg Mai. Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae’r wobr yn amlwg yn aeddfedu ac, oherwydd y pynicau a drafodir yn y gwaith – materion dyngarol, mudo, perthyn, hanes, globaleiddio a’i ganlyniadau – mae’n barhaol berthnasol. Mae’r arddangosfa’n gyfle arbennig i weld gwaith artistiaid o ledled y byd – mwy na thebyg yn enwau anhysbys i ni – yn trafod materion dwys a herfeiddiol sydd eto’n debygol o fod yn ddieithr i ni. Trafferthion mudo y boblogaeth Twrcaidd o Fwlgaria, unrhyw un? Beth am hanes hen ffatri yn Nhaiwan?

Ond, cyfarwydd yw pwnc yr enillydd, Yael Bartana. Yn wreiddiol o’r Israel, trafoda Bartana hanes Palesteina a’r Iddewon. Yn ei ffilm, ‘Wall and Tower’, cawn ein cyflwyno i fudiad gwleidyddol yng Ngwlad Pŵyl sy’n galw ar Iddewon i ddychwelyd i’r wlad. Cawn ffeithiau am rifau dychrynllyd o Iddewon Pwylaidd a laddwyd ar orchymyn Hitler, ac anogir Iddewon Pwylaidd presennol i ail-boblogi’r gymdeithas Iddewig. Gwelir dynion a gwragedd o bob oedran yn cydweithio i adeiladu cartrefi o bren, yn gwenu a chanu wrth adeiladu eu hiwtopia newydd. Llawn gobaith chwyldro a ffreshni bywyd newydd yw’r broses adeiladu – ond cawn ambell i fflach sy’n taro’r gwyliwr braidd yn od; y sumbol newydd bygythiol a grewyd fel banner, y wal uchel iawn o gwmpas yr adeiladau sy’n ffin rhwng y gymdeithas newydd a’r byd y tu allan, a’r weiren bigog yn coroni’r cyfan. Try’r holl brofiad o wylio’n annifyr wrth i’r iwtopia droi’n ghetto, y wal a’r tŵr yn gysgod o wersyll-garchar – a’r Iddewon yn creu hyn eu hunain.

delwedd o ffilm Yael Bartana

Dyma’n union un o effeithau pwrpasol gwaith Bartana. Delia hi ag ail-greu sefyllfaoedd hanesyddol, a’i droi ar ei ben, yn ogystal a phropoganda gan ei droi yn erbyn ei hun. Gorfoda hyn i ni’r gynulleidfa gwestiynu yr hyn rydym yn ei weld – nid yn unig yn ei gwaith hi, ond ym mhopeth a welwn yn y cyfryngau. Perffaith felly yw prif gyfrwng yr arddangosfa, sef ffilm. Defnyddia Bartana gerddoriaeth a’r broses olygu i greu ei phropoganda ei hun, a rhaid dweud ei bod hi’n anodd dychmygu unrhyw gyfrwng arall yn cyfleu ei hamcan yn well.

Mae defnyddio ffilm wedi codi gwrychyn ers y gystadleuaeth gyntaf, ond yn bersonol, credaf ei fod yn ddull cyfoes iawn o gyfarthrebu syniadau, gan alluogi artistiaid i gyflwyno tystiolaeth heb sensro’r cyfryngau na’r llywodraeth (sy’n anffodus yn digwydd yn rhy aml mewn gwledydd comiwynyddol), ac yn caniatau rhwyddineb teithio. Efallai gellir disgrifio’r cyfrwng nid fel ffilm gelf, ond yn fwy o newyddiaduraeth aesthetig.

Beth yw perthnasedd yr arddangosfa a’r wobr yma i Gymru? Nid rhoi Cymru ar fap celf y byd yw unig fantais y gystadleuaeth. Dengys Artes Mundi artistiaid o bedwar ban byd yn chwilio am ffordd o ymateb ac o gyflwyno tystiolaeth am sefyllfaoedd cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol sy’n effeithio eu bywydau a’u gwlad, a llawer yn delio â’r broblem o geisio mynegi eu hunain yng nghysgod cymydog pwerus a bygythiol. O ystyried cyflwr sigledig gwleidyddol ac economaidd Cymru, a’r chwilio parhaol i ffeindio llais cryf o fewn i’r byd celf, mae’n anodd meddwl am arddangosfa sy’n cynnig fwy o ysbrydoliaeth.

delwedd o ffilm Yael Bartana

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Cyhoeddi ffilmiau newydd yng nghylchgrawn tu chwith

18 Mai 2010 Ffeiliwyd o dan: Cyfweliadau, Cymru, cylchgronnau, ffilm — Tagiau:, , , , , , , , , — Menna Machreth @ 3:32 PM

Bu Pictiwrs yn chwilio am ffilmiau byr annibynnol i fynd ar DVD arbennig. Mae’r DVD hwnnw yn cael ei gyhoeddi â rhifyn 32 o tu chwith sydd ar werth nawr. Gallwch brynu’r cylchgrawn sydd â’r DVD ynddo yn eich siop Gymraeg leol neu oddi ar y wefan hon neu trwy danysgrifio i’r cylchgrawn.

Dyma’r ail DVD mae Pictiwrs a Tu Chwith wedi ei gyhoeddi. Diolch i Rondo am noddi’r DVD.

Llond Bol o Jeli

Dyma’r gyntaf o brosiectau animeiddio blynyddol Galeri Caernarfon.

Caiff pobol ifanc ag anghenion arbennig gyfle i gyd-weithio â cherddorion ac animeiddwyr proffesiynnol i greu ffilm animeiddiedg.

Egin

Cyfarwyddwr: Nerys Wyn Davies

Awdur: Karl Luke

Caiff Lewis blanhigyn bychan i’w dyfu fel rhan o’i ddosbarth gwyddoniaeth. Ond gyda Tad sy’n fwli, a phroblemau â cariad ei ffrind, gall Lewis wneud i fwy na’r planhigyn egino.

Yr Injan Odli

Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod

Comisiwn gan yr Academi oedd Yr Injan Odli fel rhan o wŷl Llên y Lli. Gofynom i 24 bardd a llenorion i gyfleu mewn cwpled ystyr “Beth yw dychymyg”  iddyn nhw. Ar noson y perfformiad, roedd 24 cliced (trigger) ar y llawr, a gwahoddwyd y gynulleidfa i wasgu botymau ar hap, gan gyfuno’r cwpledi ar hap.

Y Neidiwr

Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod

Casgliad ar gyfer Amgueddfa Cymru oedd prosiect llechi Cymdeithas y Rhyfeddod. Y bwriad oedd cyfleu y defnydd cyfoes sy’n cael ei wneud o ardaloedd y Chwareli yng Ngogledd Cymru. Mae Y Neidiwr yn ddarn o ffilm archif o berson yn gwneud naid feiddgar uwchben Chwarel Cors y Bryniau.

Datblygu hawlfraint Pete Telfer

Datblygu 2008

Cyfarwyddwr: Pete Telfer

Roeddwn i’n falch iawn pan ofynnodd Em’s Ankst i fi i ffilmio David Rupert Edwards a Pat Morgan yn dychwelyd i’r stiwdio yn Fflach yn Aberteifi. Hwn oedd y tro cyntaf i David fod unrhywle’n agos at feicroffôn mewn 13 mlynedd. Roedd yn fraint cael bod yno pan ddychwelodd Gwir Dywysog Cymru.

Eisteddodd Pat wrth y piano ac estynnodd David ddarn o bapur plygedig o’i boced. Roedd ysgrifen flêr ar ddwy ochr y cerpyn papur, y rhan fwyaf ohono wedi ei ddileu. Edrychai’r ddogfen werthfawr hon, oedd â phenillion ‘Cân y Mynach Modern’ arni, y farddoniaeth roedd David am ei ryddhau i’r byd ar ôl absenoldeb mor hir, fel petai wedi cael ei ddiosg a’i godi eto sawl gwaith.

Chwaraeodd Pat y piano a darllennodd Dave ei farddoniaeth. A dyna ni.

Roedd Dave yn barod i fynd ar ôl un take.

Roedd rhaid i mi ofyn iddyn nhw wneud un take arall fel fy mod yn gallu cael ychydig mwy o saethiadau. Fe gytunon nhw. Cefais ragor o saethiadau a’r take hwn a roddwyd ar y sengl. Does dim dybio, dim ychwanegu na dileu. Ddatblygu ar ei ffurf buraf yw hwn.

Diolch Pat a David am ddychwelyd unwaith yn rhagor, er dim ond am ennyd fechan, i’n hatgoffa bod Datblygu wedi torri’r mowld fel bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhydd. Diolch am eich gonestrwydd.

Methu Meddwl (She’s Got Spies)

Cynhyrchydd: Laura Nunez

Mae Methu Meddwl yn gân gan She’s Got Spies am benblethdod a theimlo ar goll heb gyn-gariad. Mae hi eisiau dianc rhag y teimladau, ond methu gwneud hynny yn unrhywle yn y byd. Cafodd y fideo ei recordio ym Milano, Yr Eidal ac Ogwr, Cymru a mae’n dilyn stori’r gân.

Y Fargen

Cyfarwyddwr: James Nee

Cynhyrchydd: Rhodri ap Dyfrig

Yn dilyn marwolaeth ei frawd, mae Maredudd un dychwelyd i’r tŷ lle treulion nhw sawl gwyliau gyda’u gilydd, a lle dwedon nhw eu ffarwel diwethaf cyn i Caradog adael i fynd i’r Unol Daleithiau. Gan ofni na fyddai’n gweld ei frawd bach eto wedi iddo ddiflannu yno unwaith o’r blaen, mae’r ddau yn gwneud addewid y byddant yn cyfarfod eto yn y tŷ, flwyddyn union o’r dyddiad, beth bynnag ddigwyddith.

Gyda’r atgofion o’i frawd dal yn glir fel gwydr yn ei ben ac yn y tŷ hwnnw, mae iechyd meddyliol Maredudd yn graddol ddirywio. Ond alla ei ewyllys i weld ei frawd un waith eto, ddod â fo’n ôl? Bron…

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Adolygiad o The Devil Inside Him (John Osborne) National Theatre Wales

Ffeiliwyd o dan: Adolygiadau, Cymru, Theatr — Tagiau:, , , , , , , — Menna Machreth @ 3:29 PM

Adolygiad gan Menna Machreth

The Devil Inside Him gan John Osborne

Brwydr unigolyn yn erbyn crefydd y dydd yw un o’r pethau rydyn ni’n credu ein bod yn deall yn ein hoes ni, ond dwi’n amau’n fawr ein bod ni. Thema gyffredin yw dangos gorthrwm cymdeithas ar ryddid ac ewyllys yr arwr, ond yr un yw’r peryglon o grefyddoldeb, boed yn seiliedig ar grefydd sefydliadau crefyddol fel y ddrama hon, neu arian, delweddau perffaith, sefydliadau gwleidyddol neu seciwlariaeth. Roedd llais Huw Prosser a oedd yn erfyn am anadl wrth iddo fygu yn ei gymdeithas anoddefgar yn annog meddwl am leisiau coll ein cymdeithas ‘blwralaidd’ heddiw. Dyma un o’r rhesymau nad yw’r ddrama wedi dyddio fel y credai nifer o fynychwyr y Theatr Newydd, Caerdydd ar Fai’r 11eg.

Denodd y ddrama gryn sylw oherwydd dyma’r eildro erioed iddi gael ei chynhyrchu ers ei ysgrifennu ym 1948 ac mae’n siŵr fod y National Theatre Wales newydd yn meddwl bod pob Nadolig wedi dod ar unwaith gan fod y ddrama wedi ei lleoli rhyw ddeg milltir tu allan i Abertawe. ‘Don’t Look Back in Anger’ yw drama byd-enwog John Osbourne am y dyn ifanc cynddeiriog, ac roedd gwreiddiau hwnnw i’w weld yng nghymeriad Huw Prosser. Cafodd ei darganfod yn archifau’r Arglwydd Chamberlain yn y Llyfrgell Brydeinig yn 2008 ar ôl gwaharddiad hir rhag ei pherfformio. Roedd gan John Osborne gysylltiadau cryf â Chymru oherwydd Cymro oedd ei dad, a’r darlun o’i fam-gu a garai emynau a’i athro Ysgrythur o Gymru a arweiniodd iddo ysgrifennu yn ei hunangofiant: ‘I assumed that being Welsh and believing in God were the darkest heart of religion. It was easy to imagine God with a firmament South Wales accent, whereas Jesus might easily come from Surrey.’

Iwan Rheon yn perfformio Huw Prosser

Cydiodd y perfformiad o’r cychwyn yn bennaf oherwydd yr actio ystyrlon o’r safon uchaf ac a ddangosai ôl meddwl caled ynghylch taith y cymeriadau yn ystod y ddrama. Roedd portread Rachel Lumberg o’r Mrs Evans llawn clecs a barn am bawb a phopeth yn siŵr o osod haenen ychwanegol o Gymreictod lliwgar ar y sgript; cymaint y llwyddodd i ddwyn doniolwch i’r ddrama fel y chwerthynai’r gynulleidfa wrth dybio i’w hymateb hi i ddigwyddiadau erchyll y ddrama. Roedd Jamie Ballard yn effeithiol fel Burn sef llais cydymdeimlad, a llwyddodd i ddenu’r gynulleidfa ar y daith o rwystredigaeth tuag at agwedd cymdeithas y pentref at Huw Prosser, tra perfformiodd Catrin Stewart cymeriad Dilys yn dawelach nac y disgwylwyd. Gellir edmygu portread Derek Hutchinson am beidio â gadael i’r tad, Mr Prosser, lithro i’r ystrydeb o dad llym a welir yn y script yn enwedig pan rhuthra i mewn i amddiffyn ei fab rhag y brwmstan y gweinidog ar ddiwedd Act 1 (er y mae’n bosib fod hynny’n y sgript). Llwyddodd Helen Griffin i ddehongli perthynas y fam a’r mab yn ingol wrth iddi edrych yn ôl ar ei mab cyn gadael y tŷ fel pe bae’n gwybod na fyddai’n derbyn dealltwriaeth wrth neb arall. Roedd disgwyliadau mawr ar ysgwyddau Iwan Rheon wedi ei lwyddinat yn y West End yn ddiweddar ond llwyddodd i gyfleu ankst dynol Huw Prosser er ei fod yn rhy awyddus i bortreadu’r dyn ifanc cythryblus ‘Don’t Look Back in Anger’ ar ddechrau’r ddrama, ac yn sicr fel lwyddodd i wneud y mwyaf o iaith dreisiol y ddrama. Yn wir, byddai’n ddifyr edrych ar daith Huw Prosser i ganfod ei ewyllys ei hun ochr yn ochr â chymeriadau John Gwilym Jones yn ‘Ac eto nid Myfi.’

Rhaid canmol set gwych, yn enwedig y cloc yn tician yn ddisgwylgar (fel Dr Faustus), a galluogodd agor y nenfwd ar ddiwedd y ddrama i ddatgelu grisiau at y gwynt nerthol a ysai Huw Prosser i’w brofi, gan rhoi terfyn gafaelgar i’r ddrama a allai wedi gorffen yn fflat fel arall.  Rhaid dweud efallai nad oedd y cynhyrchiad wedi chwarae digon â’r syniad o ‘ddiafol’ fel yr awgryma’r teitl; byddai ystyried faint o ddrygioni oedd yng nghymeriad oedd yn Huw Prosser a faint o ddylanwad y gymdeithas o’i gwmpas a’i arweiniod i’r erchylltra a gyflawna ar ddiwedd y ddrama. Wedi’r cyfan, ar ddechrau’r ddrama mae Huw Prosser yn disgrifio lladd mochyn sy’n rhagfynegi diwedd Dilys y forwyn wyrdroedig, ond mae diwedd y ddrama yn anwybyddu hynny’n llwyr.

Cafwyd perfformiad llwyddiannus iawn gan roi golwg i ni ar ddrama â themâu oesol o beryglon deddfoldeb credoau yr oes ar gymdeithas, ac rwy’n siŵr fod y National Theatre Wales yn edrych ymlaen at ymweld eto â’r cyfnod hwn yn hanes Cymru yn ddyfnach ac mewn ffordd llai ystrydebol na’r ddrama hon.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Adolygiad o DAU.UN.UN.DIM a Yn y Tren gan Michelle Davies

17 Mai 2010 Ffeiliwyd o dan: Adolygiadau, Cymru, Theatr — Tagiau:, , , , , , — Menna Machreth @ 3:10 PM

Michelle Davies sy’n adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o  DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn ac Yn y Trên gan Saunders Lewis ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Nos Wener, Mai 14eg.

Rhodri Meilir a Lowri Gwynne yn DAU.UN.UN.DIM

Rhodri Meilir a Lowri Gwynne yn DAU.UN.UN.DIM

“Er mwyn i’r hil barhau, rhaid glanhau”

Dyna sail y byd tywyll, sinistr, y mae’r ddau brif gymeriad yn byw ynddi yn DAU.UN.UN.DIM.  Gyda’r naill yn perthyn i’r garfan bur, a’r llall i’r amhur; mae’r tensiynau rhyngddynt yn drydanol. Arweinir ni fel cynulleidfa ar daith Awen Alaw – y ferch bur gyntaf – wrth iddi chwilio am rywbeth mwy i’w bodolaeth di-emosiwn a di-ystyr.  Yr un i’w harwain i weld y goleuni yw Brân, terfysgwr perycla’r wlad, dyn sy’n mwynhau pethau anghyfreithlon y byd – celf a chariad.  Chwaraeir gêm eiriol beryglus rhwng y ddau drwy gydol y ddrama wrth i ni fethu ag ymddiried yn yr un ohonynt…a yw’r ddau yn bwriadu bradychu ei gilydd?

Wedi ei gosod ganrif i’r dyfodol, archwilir pa fath o fywyd fydd ar y blaned wrth i ddatblygiadau gwyddonol a’r chwilfrydedd am berson ‘perffaith’ fynd i’r eithaf.  Defnyddir technoleg fodern i beri i’r gynulleidfa brofi’r teimlad annifyr o gael eich gwylio – byd pan mae’r brawd mawr wirioneddol ym mhob twll a chornel.  Yn yr un modd mae synau annifyr sgrechiadau a gynau yn y pellter yn cryfhau’r teimlad mai byd arswydus ydyw ac na ellid ymddiried yn neb.

DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn

DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn

Ar lwyfan traws, agos atoch chi, a oedd yn adlewyrchu byd caeëdig, mwll y byd Teledu Cylch Cyfyng, roedd modd gweld pob symudiad gan y ddau actor – Lowri Gwynne a Rhodri Meilir – a teimlir ar brydiau eu bod yn meddwl am y linell nesaf yn hytrach na pherfformio.  Rhywbeth a fydd yn gwella wrth i’r daith fynd rhagddi gobeithio.  Roedd  cyfarwyddo Betsan Llwyd yn wych wrth i’r ddau gymeriad  symud o naill ben i’r llwyfan i’r llall heb amharu ar fwynhâd y gynulleidfa (a oedd yn siomedig o fychan o ystyried mai cynhyrchiad Theatr Genedlaethol oedd hon).

Dyma sgript gwych sy’n plethu ac yn troelli yn gywrain ac yn cynnig mewnwelediad ddifyr i fyd ffuglen-wyddonol Gymraeg.  Rhoddwyd cyfle i arbrofi ag arddull y cynhyrchiad a chonfensiynau’r theatr draddodiadol, gyda golygfeydd agoriadol y ddrama’n digwydd ar y ddau sgrîn fawr i gerddoriaeth ffynci, addas.

Wedi’r egŵyl cafwyd cyfle i weld un o ddramâu llai adnabyddus Saunders Lewis – drama fer iawn – Yn y Trên.  Roedd tempo hon yn wahanol iawn i’r thriller gan Manon Wyn ond mae hon hefyd yn ymwneud â diffyg pwrpas bywyd wrth i’r teithiwr rhyfedd fyned ar daith y trên heb wybod i ble yr aiff na phaham.  Pwysleisir yma abswrdiaeth bywyd wrth iddynt oll deithio ar drên na fydd byth yn cyrraedd pen ei thaith a gwelir marwolaeth cymunedau wrth i’r gorsafoedd bychain rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gau – “Does dim Dyfed, mae pob stêshion wedi marw”.  Roedd hon yn ddrama mor fyr ei bod bron yn rhy fyr, ond fe aeth Betsan Llwyd ati’n gelfydd i gyfleu’r teimlad bod y ddau gymeriad ar drên wrth iddynt suo yn ôl ac ymlaen yn ddibaid drwy gydol y ddrama fer (er bod Rhodri Meilir yn edrych fwyfwy fel meddwyn na theithiwr trên wrth iddo golli’i falans ar adegau).

Dyma ddau gynhyrchiad pur gwahanol i’w gilydd a braf iawn yw cael dweud i mi fwynhau’r ddwy yn eu ffyrdd eu hunain.  Roedd hi’n arbennig o braf cael clywed llais heriol a ffres Manon Wyn mewn cynhyrchiad cyffrous, iasol.  Piti na fyddai DAU.UN.UN.DIM ychydig hirach ac yn medru hawlio noson cyfan o theatr i’w hun.

Mae Michelle Davies yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Cofiwch am rhifyn newydd tu chwith wedi ei olygu gan Jon Gower. Gallwch brynu neu danysgrifio i’r cylchgrawn ar y wefan hon.

Yn y Tren gan Saunders Lewis

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Arddangosfa Gelf Fodern a Graffiti y ‘Boiler House’: Llandâf 1af o Fai 2010

13 Mai 2010 Ffeiliwyd o dan: amrywiol, featured — Menna Machreth @ 5:36 PM

Adolygiad gan Heledd Melangell Williams

Wrth gerdded lawr stryd gul wedi ei hamlyncu gan chwyn, beth oedd yn fy nisgwyl ar ddiwedd y jyngl blêr ond murlun anferth o ben Mr Bean. Dyma oedd y murlun cyntaf a welais  o’r ‘Boiler House’ a synhwyrais fod gwledd gweledol (er hollol wallgo) o fy mlaen. Yr oedd mur oddeutu 100 llath o hyd â darluniau graffiti ar ei hyd yn llifo o un i’r llall – pob gwaith o gelf un mor ddiddorol a’r diwethaf. Beth arall oeddwn i ddisgwyl o’r dref lle ganwyd y dychymyg miniocaf ym myd llên plant- Roald Dahl?

Bu rhai o’r gweithiau yn hollol abstract, gwennyn meirch mawr yn hedfan ymysg patrymau plethog a lliwiau yn cyrlio i’w gilydd. Peiriant barfog ag ymenydd amryliw, wrth ei ymyl murlun o dduw Hindwaidd; roedd amrediad y delwaddau yn syfrdanol.

Roedd rhai o’r murluniau yn edrych fel gweithiau mor gymleth a’r Mona Lisa o ran crefft, ac eraill yn syml a phlaen a buaswch yn tybio mai plentyn a’i baentiodd  (sydd yn fwy na tebygol- mae’r Boiler House yn cynnig cyrsiau graffiti i grwpiau ieuenctid). Yr oeddwn yn hoff iawn sut y gosodwyd celf gan artistiaid proffesiynol ochr yn ochr â phobol oedd efallai erioed wedi codi can o baent o’r blaen.

Yr oedd yr awyrgylch yn y Boiler House yn un braf iawn gan fod neb llai na Llwybr Llaethog yn DJ’io y dydd hwnnw, y cyfeiliant perffaith i’r fath le!

Drws nesaf i’r prif adeilad (oedd efo graffiti fel rash amrylyw drosto) roedd arddangosfa gelf mwy ‘traddodiadol’. Yr oedd llawer o’r lluniau mewn fframiau yn wahanol i’r graffiti ond yr oedd y celf ei hyn yn unrhywbeth heblaw ‘traddodiadol’ wedi dweud hynny. Dangoswyd celf cyfrifiadurol sef fideo o flodau tebyg i sglefrynod yn gwyrdroi yn eu hunman. Dangoswyd lluniau lle’r oedd y celf yn tywallt allan o’i ffram, llun o adfeilion pren a phren go iawn oddi tano yn ymestyn yn ddelwedd i fyd real y trydydd dimensiwn. Roedd yno gelf ‘byw’, hynny yw, bu i ddyn beintio o’m blaenau ni mewn ffordd swrreal: nid brwsh paent â ddefnyddiodd ar ei ganfas, ond wrth grogi wrth ei draed o’r nenfwd trochodd ei ben mewn bwcedi o baent cyn llusgo ei wallt drost y canfas gwyn oddi tano. Heidiai pobl o’i amgylch i weld y fath beth.

Yr oedd llu o weithiau celf diddorol yn yr arddangosfa yma, a thema abswrd yn rhedeg drwy’r holl brofiad. Yr oedd yr oriel ‘chwaethus’ fodern a gig Llwybr Llaethog mewn môr o gelf stryd ochr yn ochr â’i gilydd yn ardderchog. Yr wyf heb os yn argymell i chi fynd i weld y lle hwn pan gewch siawns. Mae’r celf ar y muriau tu allan yno i bawb eu mwynhau ac yn werth eu gweld.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us

Adolygiad o noson theatr Dirty Protest gan Lowri Cooke

9 Mai 2010 Ffeiliwyd o dan: Gwleidyddiaeth, Theatr, amrywiol — Tagiau:, , , , , — Menna Machreth @ 9:21 PM

Pan oedd pawb yn meddwl bod digon o ddrama ar noson etholiad, roedd criw theatr ‘Dirty Protest’ wedi mynd ati i berfformio nifer o ddramâu newydd gan ddramodwyr ifanc. Bu Lowri Cooke yna i brofi’r arlwy etholiadol ei naws:

(Os am ddarllen mwy am y project theatr, bu tu chwith yn cyfweld â Tim Price, un o sylfaenwyr Dirty Protest, ar gyfer rhifyn 29 y gallwch ei brynu yma.)

Dirty Protest: nosweithiau theatr yng Nghaerdydd

A minnau’n hen gyfarwdd ag yfed chilli mojitos yn bar Milgi y Rhath, doeddwn i erioed wedi manteisio ar y cyfle i fynychu un o nosweithiau’r criw theatr Dirty Protest yno tan iddyn nhw gynnal eu llwyfaniad diweddara’ ddechrau’r mis.

Ac fel rhywun sy’n tueddu i lynnu at leoliadau mwy confensiynol y Chapter a’r Sherman fel cyrchfannau theatr yn y brifddinas,  y cwbl ro’n i’n wybod oedd y dylwn gyrraedd cyn 8 yr hwyr ar Fai y 6ed er mwyn profi chwe drama fer wedi eu llwyfanu mewn lleoliad “cyfagos”, oll yn ymateb i’r thema “Counted”- gydag ambell un yn cyffwrdd â digwyddiad mawr y noson dan sylw, sef yr Etholiad Cyffredinol.

Teg dweud i’r gynulleidfa brofi amrywiaeth o ran safon a themâu yn y warws gyfagos, oedd wedi’i ddodrefnu’n gynnil â bynting blodeuog, goleuadau coed-Dolig, a waliau’n dangos olion protest liwgar, os nad cwbl ffiaidd- a hynny i gyfeiliant mash-up o un o ganeuon Corinne Bailey Rae.

Ar ôl i Corinne dawelu, cyflwynwyd tri actor y noson-Tom Cullen, Remy Beasley a Ceri Murphy-  gan eu cyfarwyddwraig Mared Swain, a ffwrdd â ni, gan ddechrau- yn fy marn i- gyda’r ddrama wanaf, sef 2020 Vision, a sgwennwyd gan wyryf- neu“cherrypopper”-  y noson, y bardd lleol Mab Jones.

O’r chwe drama fer, roedd hi’n amlwg mai hon roedd yr actorion eu hunain â’r lleia o hyder ynddi, gan iddynt lynnu’n gadarn yn eu sgriptiau, a llithro’n achlysurol dros y geiriau, oedd yn cynrychioli dadl deledu hallt rhwng arweinwyr dwy brif blaid ryngwladol yn y flwyddyn 2020. Mae gen i ofn mai deialog go gyfarwydd a gafwyd, yn cynrhychioli ymryson rhwng yr adain chwith a’r adain dde, gan orffen yn weddol ystrydebol cyn i’r cyflwynydd teledu gyhoeddi enillydd yr etholiad.

Diolch byth felly am y llwyfaniad nesa, sef Not a Funeral gan Ed Hime. Dyma ddrama fer oedd yn ateb gofynion y cyfrwng i’r dim, a cafwyd actio, sgwennu a chyfarwyddo caboledig drwyddi draw. Gofynwyd i ni wrando ar ddau frawd a chwaer yn adrodd moliant gwahanol i’w diweddar dad wrth yr ychydig bobol arhosodd am baned yn dilyn ei gynhebrwng. Llwyddodd y tri i hoelio sylw’r gynulleidfa o’r cychwyn cynta, wrth bupuro tameidiau bychain o wybodaeth ynglyn ag amgylchiadau ei farwolaeth, a llwyddwyd i gyfleu tensiwn nerfus wrth ddatgelu’r pwnc dadleuol dan sylw, a hynny trwy gyfrwng hiwmor aruthrol o dywyll. Wnai ddim datgelu’r troad, gan yr hoffwn eich annog i gofio enw’r ddrama a’i hawdur, ac i geisio’i gweld os gewch y cyfle rhywdro eto.

Use it or Lose it gan Mark Williams oedd y drydedd ddrama. Cafodd y gynulleidfa eu plesio’n arw gan syniad syml ond hynod ddifyr am y cynghorydd cariad “Clive St John; Life Recycler” . Dechreuwyd â phrofiad sy’n gyffredin dros y bydysawd, sef diwedd aflwyddianus i ddêt trychinebus rhwng William (Tom Cullen) a Donna (Remy Beasley). Yna, tra’n aros am y bws ola, daw William i synhwyro presenoldeb Clive (Ceri Murphy), wrth i’r angel anghonfensiynol fesur ei “lefelau-gwastraff” a’i ddyfarnu’n sefyllfa enbydus, neu yn ei eiriau ef, “Code Red”. Deallwn fod modd i Clive ddiddymu’r hen William o’r blaned, fel y gwnaeth gyda’r deinosoriaid dwetha’,  gan bwysleisio’r holl gyfleoedd a wastraffwyd gan y Romeo rwtsh-sbwriel yn ystod ei oes. Dyma ddrama fer ag iddi sgript gadarn gan awdur sy’n dangos potensial mawr.

Mae’n wir mai actio Ceri Murphy ddisgleiriodd fwya yn Use it or Lose It, ond dangosodd y bedwaredd ddrama- Hug a Tory gan Atiha Sen Gupta- y ddau actor gwrywaidd yn cydweithio’n dda â’i gilydd wrth bortreadu Craig a Luke- dau ffrind ar stâd cyngor. Gwyrdroir ein disgwyliadau o’r ddau “hoody” pan gyrhaedda un o ymgyrchwyr y Torîaid, Tabitha, i ofyn iddynt fod yn “artistiaid cefndirol” yn ystod ymweliad gan “Dave”. Dyma enghraifft dda o stori newyddion yn sbarduno drama fer effeithiol, gyda sgript sydd sy’n byrlymu o ffraethineb ac sy’n groesbeilliad difyr o waith gorau Armando Iannucci a Samuel Beckett.

Rhaid cyfadde i mi ddiflasu rhywfaint ar The Statement unwaith i’r cysyniad canolog gael ei sefydlu. Mae’r ddrama, gan Jack Thorne, yn cyflwyno cwpwl cyfoglyd o gariadus (a chwareir gan Remy Beasley a Tom Cullen) sy’n baglu dros ei gilydd i rannu manylion bychain yr achlysur dan sylw. Daw’n amlwg yn fuan nad priodi yw’r Datganiad mawr, ond yn hytrach cytundeb i gyflawni hunanladdiad. Syniad da sy’n mynd i nunlle braidd a geir yma, ond roedd hi’n braf gweld yr actores yn cael y cyfle i chwarae rôl ganolog.

Dychwelyd i thema’r Etholiad Gyffredinol wnaeth y cynhyrchiad olaf, sef Independence Fay gan James Graham, a hynny’n llawer mwy effeithiol na’r ddrama agoriadol. Clustfeinio wnaethom ar sbinfeistr y Ceidwadwyr wrth iddo geisio dwyn perswâd ar ferch ifanc ag iddi ddilyniant enfawr ar Facebook i sefyll yn yr etholiad er mwyn denu dilynwyr Llafur a sicrhau llwyddiant i’w ymgeisydd ef. Ymgais i ddychanu dryswch y drefn etholiadol a geir yn y ddrama hon, a rhaid dweud y llwyddwyd i gynnal y syniad canolog hyd at ddiweddglo sydd yn hynod foddhaol.

Mae’n wir nad oedd pob drama’n plesio, ac efallai byddai’n syniad gofyn i’r cymdogion droi lefel sain  eu mash-ups hwythau lawr rhyw fymryn y tro nesa.  Ond rhaid dweud i mi fwynhau’r profiad o weld y chwe chynyrchiad cryno yn fawr. Fel gŵyl flynyddol Egin cwmni Sherman Cymru, mae hi’n bleser cael gweld hadau o syniadau ar waith, ac yn ddifyrrach byth dyfalu pa rai sy’n haeddu datblygiad pellach.

Felly, y tro nesa fyddwch am fwynhau un o Fojito’s gore Caerdydd, cofiwch am y brathiadau bach blasus o theatr sydd i’w profi’n achlysurol tu hwnt i’r Yurt yn y Milgi.

Mae Lowri Cooke yn byw yng Nghaerdydd.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
Cofnodion Hŷn»

delwedd tu chwith gan rhys bevan jones