0

Maria Reimondez – awdures o Galisia yn ymweld â Bangor gan Rhiannon Heledd Williams

Bu’r awdures o Galisia, Maria Reimondez, yn awdures breswyl ym Mhrifysgol Bangor drwy gydol mis Mawrth 2010. Yn ystod y mis, bu’n cyflwyno ei gwaith creadigol a gwaith merched eraill o Galisia. Hi yw awdur y nofel Pirata (2009) sydd wedi ei gyfieithu i sawl iaith, nofel am fôr ladron sy’n trafod natur hyblyg ac anwadal hunaniaeth. Bu Rhiannon Heledd Williams yn y gynulleidfa yn gwrando ar ddarlith a gyflwynodd Maria Reimondez am gyfieithu gan ei bod wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu traddodiad o gyfieithu i’r Galisieg.

Gan nad ydw i’n gyfieithydd fy hun, roedd darlith yr awdures Maria Reimondez o Galisia, ‘The Missing Link between Translation Theory and Practice’ ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar yn agoriad llygad enfawr. Ei phrif amcan oedd tanlinellu rôl allweddol y cyfieithydd yn ei gyfraniad creadigol i’r broses o gyfieithu testun. Dadleuodd fod cyfieithu yn fwy nag ymdriniaeth fecanyddol o eiriau, ond yn ffenomenon sydd yn amsugno nifer o ddylanwadau cymdeithasol ac yn lliwio’r cynnyrch gorffenedig. O’r herwydd, nid yw trosi darn o lenyddiaeth i iaith arall bob amser yn golled fel y’i hystyrir yn aml, gan fod y dylanwadau hyn yn ei gyfoethogi. Mae’r testun yn ymestyn tros ffiniau ieithyddol a diwylliannol, a gall y gwahaniaethau ideolegol a fodola rhwng awdur a chyfieithydd ei atgyfnerthu.

Siaradodd yn huawdl am y rheidrwydd i ddiffinio rôl y cyfieithydd yn y berthynas gyda’r awdur, fel nad yw’n teimlo’n anweledig ac yn niwtral. O safbwynt ffeministaidd, mynegodd y siom a deimla nifer o gyfieithwyr benywaidd eu bod yn cael eu hanwybyddu gan awduron gwrywaidd, heb lais yn erbyn goruchafiaeth yr awdur na rhyddid i arbrofi. Cânt eu trin fel modd i bontio yr un cynnyrch mewn dwy iaith, yn hytrach nag elfen hanfodol yn y triongl ynghyd â’r awdur a’i waith. Mynna Reimondez mai’r unig ffordd i fywiogi’r testun mewn iaith arall yw rhoi hawliau i’r cyfieithydd roi ei stamp unigol ar y gwaith, ac yn ei sgil bwydo maeth ei wahaniaeth diwylliannol i’r testun gwreiddiol. Siaradodd yn frwd hefyd dros hawliau cyfieithwyr i wrthwynebu ac anghytuno gydag unrhyw syniadau gwrthgymdeithasol neu hiliol sy’n deillio o’r deunydd gwreiddiol. Haerodd nad gwaith cyfieithydd yw newid geiriau’n slafaidd, ond medda ar y fraint i godi llais yn erbyn unrhyw anghyfiawnder yn y gwaith y mae’n ymdrin ag o.

Trwy roi mwy o rym i’r cyfieithydd siapio’r testun yn ôl ei gefndir cymdeithasol unigryw, gellir ehangu gorwelion y testun ar gyfer anghenion penodol y gynulleidfa newydd. A’r grym hwn yw’r ‘ddolen goll’ angenrheidiol rhwng damcaniaethu am gyfieithu, a’i weithredu yn ymarferol fel amod euraid i bob cyfieithydd.

Mae Rhiannon Heledd Williams yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Os hoffech chi roi adolygiad ar wefan tu chwith cysylltwch â ni: tuchwith@googlemail.com

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us