Llwyth: adolygiad gan Catrin Rogers
Catrin Rogers sy’n adolygu cynhyrchiad newydd Sherman Cymru.
Pan berfformwyd Look Back in Anger, drama chwyldroadol John Osborne, am y tro cyntaf ym 1956, gwreiddyn y sioc oedd bod dramodydd – a chwmni theatr o’r brif ffrwd – wedi troi eu sylw at bobl dosbarth gweithiol am y tro cyntaf, ac felly’n dechrau cyfnod gwbl newydd yn hanes theatr Lloegr.
Gyda Llwyth, mae Dafydd James wedi cymryd camau enfawr lle wnaeth Pam fi, Duw? gan John Owen ond mentro. Ar yr olwg gyntaf, ‘gwrywgydiaeth’ yw’r brif thema. Mae’r script yn amlygu pa mor annigonol ac afiach yw’r gair, a hefyd mor annigonol mae’r portread o fywyd hoyw wedi bod yn niwylliant Cymru.
Pedwar dyn hoyw ar noson allan yn y brifddinas, un nos Sadwrn wedi gêm ryngwladol. Aneurin, eu harweinydd magnetig yw’r adroddwr. Wedi dod adre o Lundain, lle mae ei anturiaethau rhywiol a’i yrfa fel nofelydd yn bwydo ei ego, mae e wrth ei fodd yn brolio am ei hanesion wrth ei gynulleidfa addolgar – Rhys a Gareth, cwpl dadleugar ond ffyddlon, a Dada, dyn mamol, cariadus, hŷn na’r lleill.
Byddai disgrifio’r plot ddim yn gwneud unrhyw gyfiawnder â’r ddrama – cystal crynhoi drwy ddweud bod y script, y cyflymder, datblygiad pob un cymeriad a safon yr actio yn gwneud hon yn un o’r dramau mwyaf crefftus, difyr, dwys – a hir-ddisgwyliedig – yn hanes theatr Cymru dros y ganrif ddwytha.
Un o’i chryfderau mwyaf ydy’r mynegiant o’r schizophrenia o fod yn Gymro Cymraeg ag un troed yn Llundain, yn ddyn hoyw ymysg diwylliant rygbi llethol y de, ac ynglwm wrth eich teulu ac eto’n ysu am gael dianc. Mae’r drafodaeth o Gymreictod yn enwedig, i mi, yn ffraeth a heriol, ac eto’n hynod ddeallus. “Cult yw e,” meddai Aneurin am y Steddfod. “All those parents, cheering for their offspring… it’s just like a fascist rally.”
Rhaid diolch, mae’n siŵr, i gyfuniad o lwc dda a gwaith caled arwain at ffeindio actorion o safon uchel, yn enwedig Siôn Young sy’n chwarae Gavin, y bachgen naïf, hoffus, y mae’r pedwar yn cwrdd mewn clwb nos. Hawdd oedd anghofio taw actor oedd yna o gwbl, mor ddi-ymdrech a real oedd ei berfformiad.
Dyw’r cyfanwaith ddim yn berffaith. Mae’r set yn siomedig – yn hen-ffasiwn a di-ddychymyg – ac mae’r diwedd braidd yn flêr a diymatal o’i gymharu â’r gweddill. Ond cwynion bach yw’r rhain am ddrama o’r safon uchaf.
Mae na ymdeimlad cryf yng Nghaerdydd, ymysg y cannoedd fu’n ddigon lwcus i gael tocyn i weld Llwyth, ein bod wedi gweld dechrau pennod newydd bwysig yn hanes theatr Gymraeg. Dwi’n mawr, mawr obeithio bod hi’n arwydd o’r hyn sydd i ddod gan Dafydd – ac yn fwy na hyn, yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o ddramodwyr.
Mae Catrin Rogers yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i National Theatre Wales.




[...] Gymraeg gyntaf Dafydd James wedi bod yn unfrydig. O bapur y Guardian i’r cylchgronau Buzz a Tu Chwith, mae Llwyth, sy’n ddrama ddwyieithog, wedi llwyddo ennyn edmygedd a brwdfrydedd pawb sydd [...]