1

Adolygiad o DAU.UN.UN.DIM a Yn y Tren gan Michelle Davies

Michelle Davies sy’n adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o  DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn ac Yn y Trên gan Saunders Lewis ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Nos Wener, Mai 14eg.

Rhodri Meilir a Lowri Gwynne yn DAU.UN.UN.DIM

Rhodri Meilir a Lowri Gwynne yn DAU.UN.UN.DIM

“Er mwyn i’r hil barhau, rhaid glanhau”

Dyna sail y byd tywyll, sinistr, y mae’r ddau brif gymeriad yn byw ynddi yn DAU.UN.UN.DIM.  Gyda’r naill yn perthyn i’r garfan bur, a’r llall i’r amhur; mae’r tensiynau rhyngddynt yn drydanol. Arweinir ni fel cynulleidfa ar daith Awen Alaw – y ferch bur gyntaf – wrth iddi chwilio am rywbeth mwy i’w bodolaeth di-emosiwn a di-ystyr.  Yr un i’w harwain i weld y goleuni yw Brân, terfysgwr perycla’r wlad, dyn sy’n mwynhau pethau anghyfreithlon y byd – celf a chariad.  Chwaraeir gêm eiriol beryglus rhwng y ddau drwy gydol y ddrama wrth i ni fethu ag ymddiried yn yr un ohonynt…a yw’r ddau yn bwriadu bradychu ei gilydd?

Wedi ei gosod ganrif i’r dyfodol, archwilir pa fath o fywyd fydd ar y blaned wrth i ddatblygiadau gwyddonol a’r chwilfrydedd am berson ‘perffaith’ fynd i’r eithaf.  Defnyddir technoleg fodern i beri i’r gynulleidfa brofi’r teimlad annifyr o gael eich gwylio – byd pan mae’r brawd mawr wirioneddol ym mhob twll a chornel.  Yn yr un modd mae synau annifyr sgrechiadau a gynau yn y pellter yn cryfhau’r teimlad mai byd arswydus ydyw ac na ellid ymddiried yn neb.

DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn

DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn

Ar lwyfan traws, agos atoch chi, a oedd yn adlewyrchu byd caeëdig, mwll y byd Teledu Cylch Cyfyng, roedd modd gweld pob symudiad gan y ddau actor – Lowri Gwynne a Rhodri Meilir – a teimlir ar brydiau eu bod yn meddwl am y linell nesaf yn hytrach na pherfformio.  Rhywbeth a fydd yn gwella wrth i’r daith fynd rhagddi gobeithio.  Roedd  cyfarwyddo Betsan Llwyd yn wych wrth i’r ddau gymeriad  symud o naill ben i’r llwyfan i’r llall heb amharu ar fwynhâd y gynulleidfa (a oedd yn siomedig o fychan o ystyried mai cynhyrchiad Theatr Genedlaethol oedd hon).

Dyma sgript gwych sy’n plethu ac yn troelli yn gywrain ac yn cynnig mewnwelediad ddifyr i fyd ffuglen-wyddonol Gymraeg.  Rhoddwyd cyfle i arbrofi ag arddull y cynhyrchiad a chonfensiynau’r theatr draddodiadol, gyda golygfeydd agoriadol y ddrama’n digwydd ar y ddau sgrîn fawr i gerddoriaeth ffynci, addas.

Wedi’r egŵyl cafwyd cyfle i weld un o ddramâu llai adnabyddus Saunders Lewis – drama fer iawn – Yn y Trên.  Roedd tempo hon yn wahanol iawn i’r thriller gan Manon Wyn ond mae hon hefyd yn ymwneud â diffyg pwrpas bywyd wrth i’r teithiwr rhyfedd fyned ar daith y trên heb wybod i ble yr aiff na phaham.  Pwysleisir yma abswrdiaeth bywyd wrth iddynt oll deithio ar drên na fydd byth yn cyrraedd pen ei thaith a gwelir marwolaeth cymunedau wrth i’r gorsafoedd bychain rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gau – “Does dim Dyfed, mae pob stêshion wedi marw”.  Roedd hon yn ddrama mor fyr ei bod bron yn rhy fyr, ond fe aeth Betsan Llwyd ati’n gelfydd i gyfleu’r teimlad bod y ddau gymeriad ar drên wrth iddynt suo yn ôl ac ymlaen yn ddibaid drwy gydol y ddrama fer (er bod Rhodri Meilir yn edrych fwyfwy fel meddwyn na theithiwr trên wrth iddo golli’i falans ar adegau).

Dyma ddau gynhyrchiad pur gwahanol i’w gilydd a braf iawn yw cael dweud i mi fwynhau’r ddwy yn eu ffyrdd eu hunain.  Roedd hi’n arbennig o braf cael clywed llais heriol a ffres Manon Wyn mewn cynhyrchiad cyffrous, iasol.  Piti na fyddai DAU.UN.UN.DIM ychydig hirach ac yn medru hawlio noson cyfan o theatr i’w hun.

Mae Michelle Davies yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Cofiwch am rhifyn newydd tu chwith wedi ei olygu gan Jon Gower. Gallwch brynu neu danysgrifio i’r cylchgrawn ar y wefan hon.

Yn y Tren gan Saunders Lewis

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
  1. Dafydd yn dweud:

    Rydw i’n 17 mlwydd oed ac ‘Dau. Un. Un. Dim.’ oedd heb os y ddrama Gymraeg gorau ‘dwi erioed wedi gweld. Roedd Manon Wyn wedi llawn llwyddo cyfleu erchylldra o fyd cyfan mewn dim ond dau gymeriad. Rhan o’r beth oedd yn ei wneud mor syfrdanol oedd y diddordeb oedd yn cael ei greu yn y cymeriadau: Roeddwn i gafael ar i bob darn o wybodaeth roedden nhw’n dweud am ei hunain, yn pwyso a mesur ynteu gwir neu celwydd oeddwn nhw’n ei ddweud. ‘Thriller’ medrus, dirdynnol a tu hwnt o cwl, yn enwedig erbyn y diweddglo. Rydw i wedi bod yn aros am ddrama Gymraeg fel hyn!