Adolygiad o The Devil Inside Him (John Osborne) National Theatre Wales
Adolygiad gan Menna Machreth
Brwydr unigolyn yn erbyn crefydd y dydd yw un o’r pethau rydyn ni’n credu ein bod yn deall yn ein hoes ni, ond dwi’n amau’n fawr ein bod ni. Thema gyffredin yw dangos gorthrwm cymdeithas ar ryddid ac ewyllys yr arwr, ond yr un yw’r peryglon o grefyddoldeb, boed yn seiliedig ar grefydd sefydliadau crefyddol fel y ddrama hon, neu arian, delweddau perffaith, sefydliadau gwleidyddol neu seciwlariaeth. Roedd llais Huw Prosser a oedd yn erfyn am anadl wrth iddo fygu yn ei gymdeithas anoddefgar yn annog meddwl am leisiau coll ein cymdeithas ‘blwralaidd’ heddiw. Dyma un o’r rhesymau nad yw’r ddrama wedi dyddio fel y credai nifer o fynychwyr y Theatr Newydd, Caerdydd ar Fai’r 11eg.
Denodd y ddrama gryn sylw oherwydd dyma’r eildro erioed iddi gael ei chynhyrchu ers ei ysgrifennu ym 1948 ac mae’n siŵr fod y National Theatre Wales newydd yn meddwl bod pob Nadolig wedi dod ar unwaith gan fod y ddrama wedi ei lleoli rhyw ddeg milltir tu allan i Abertawe. ‘Don’t Look Back in Anger’ yw drama byd-enwog John Osbourne am y dyn ifanc cynddeiriog, ac roedd gwreiddiau hwnnw i’w weld yng nghymeriad Huw Prosser. Cafodd ei darganfod yn archifau’r Arglwydd Chamberlain yn y Llyfrgell Brydeinig yn 2008 ar ôl gwaharddiad hir rhag ei pherfformio. Roedd gan John Osborne gysylltiadau cryf â Chymru oherwydd Cymro oedd ei dad, a’r darlun o’i fam-gu a garai emynau a’i athro Ysgrythur o Gymru a arweiniodd iddo ysgrifennu yn ei hunangofiant: ‘I assumed that being Welsh and believing in God were the darkest heart of religion. It was easy to imagine God with a firmament South Wales accent, whereas Jesus might easily come from Surrey.’
Cydiodd y perfformiad o’r cychwyn yn bennaf oherwydd yr actio ystyrlon o’r safon uchaf ac a ddangosai ôl meddwl caled ynghylch taith y cymeriadau yn ystod y ddrama. Roedd portread Rachel Lumberg o’r Mrs Evans llawn clecs a barn am bawb a phopeth yn siŵr o osod haenen ychwanegol o Gymreictod lliwgar ar y sgript; cymaint y llwyddodd i ddwyn doniolwch i’r ddrama fel y chwerthynai’r gynulleidfa wrth dybio i’w hymateb hi i ddigwyddiadau erchyll y ddrama. Roedd Jamie Ballard yn effeithiol fel Burn sef llais cydymdeimlad, a llwyddodd i ddenu’r gynulleidfa ar y daith o rwystredigaeth tuag at agwedd cymdeithas y pentref at Huw Prosser, tra perfformiodd Catrin Stewart cymeriad Dilys yn dawelach nac y disgwylwyd. Gellir edmygu portread Derek Hutchinson am beidio â gadael i’r tad, Mr Prosser, lithro i’r ystrydeb o dad llym a welir yn y script yn enwedig pan rhuthra i mewn i amddiffyn ei fab rhag y brwmstan y gweinidog ar ddiwedd Act 1 (er y mae’n bosib fod hynny’n y sgript). Llwyddodd Helen Griffin i ddehongli perthynas y fam a’r mab yn ingol wrth iddi edrych yn ôl ar ei mab cyn gadael y tŷ fel pe bae’n gwybod na fyddai’n derbyn dealltwriaeth wrth neb arall. Roedd disgwyliadau mawr ar ysgwyddau Iwan Rheon wedi ei lwyddinat yn y West End yn ddiweddar ond llwyddodd i gyfleu ankst dynol Huw Prosser er ei fod yn rhy awyddus i bortreadu’r dyn ifanc cythryblus ‘Don’t Look Back in Anger’ ar ddechrau’r ddrama, ac yn sicr fel lwyddodd i wneud y mwyaf o iaith dreisiol y ddrama. Yn wir, byddai’n ddifyr edrych ar daith Huw Prosser i ganfod ei ewyllys ei hun ochr yn ochr â chymeriadau John Gwilym Jones yn ‘Ac eto nid Myfi.’
Rhaid canmol set gwych, yn enwedig y cloc yn tician yn ddisgwylgar (fel Dr Faustus), a galluogodd agor y nenfwd ar ddiwedd y ddrama i ddatgelu grisiau at y gwynt nerthol a ysai Huw Prosser i’w brofi, gan rhoi terfyn gafaelgar i’r ddrama a allai wedi gorffen yn fflat fel arall. Rhaid dweud efallai nad oedd y cynhyrchiad wedi chwarae digon â’r syniad o ‘ddiafol’ fel yr awgryma’r teitl; byddai ystyried faint o ddrygioni oedd yng nghymeriad oedd yn Huw Prosser a faint o ddylanwad y gymdeithas o’i gwmpas a’i arweiniod i’r erchylltra a gyflawna ar ddiwedd y ddrama. Wedi’r cyfan, ar ddechrau’r ddrama mae Huw Prosser yn disgrifio lladd mochyn sy’n rhagfynegi diwedd Dilys y forwyn wyrdroedig, ond mae diwedd y ddrama yn anwybyddu hynny’n llwyr.
Cafwyd perfformiad llwyddiannus iawn gan roi golwg i ni ar ddrama â themâu oesol o beryglon deddfoldeb credoau yr oes ar gymdeithas, ac rwy’n siŵr fod y National Theatre Wales yn edrych ymlaen at ymweld eto â’r cyfnod hwn yn hanes Cymru yn ddyfnach ac mewn ffordd llai ystrydebol na’r ddrama hon.




Oedd y ddrama yma yn gadael eich pen mewn llanast diddorol. Be ydi moesoldeb, ai ‘side affect’ camddealltwriaeth yw drygioni? (dwi’n meddwl dyma oedd yn cael ei awgrymu yn y sgwrs rhwng y doctor a Huw pan oedd pwyslais ar ‘comunication’) Oes yna fath beth a cyfrifoldeb? (os mai amgylchedd ac genynau sydd yn eich ffurfio fel unigolyn) Oedd hi’n fwynhad ei gweld ac yr oedd y comedi ynddi yn rhyddhad ac yn cyferbynnu’n dda efo pa mor ‘intense’ odd y ddrama. Oedd yna lot i gnoi cil arno wedi ei gwylio ac yr wyf yn sicir buasai angen ei gwylio sawl dro cyn i unrhywun allu amgyffred sut mae eu credoadu/moesau eu hunain yn cyfaddawdu a’r ddrama ps yw hyn yn bosib o gwbwl. Wedi i ni deimlo dros Huw a’i weld fel arwr lle mae hyn yn ein gadael ni wedi iddo ddod yn lofruddiwr? Ai bai y cymdeithas a’i teulu ydoedd? Ond be wnaethon nhw oedd yn uniongyrchol ‘ddrwg’? Drama ardderchog a’r un mwyaf diddorol i mi ei weld yn y saesneg hyd yn hyn!