Adolygiad gan Heledd Melangell Williams
Wrth gerdded lawr stryd gul wedi ei hamlyncu gan chwyn, beth oedd yn fy nisgwyl ar ddiwedd y jyngl blêr ond murlun anferth o ben Mr Bean. Dyma oedd y murlun cyntaf a welais o’r ‘Boiler House’ a synhwyrais fod gwledd gweledol (er hollol wallgo) o fy mlaen. Yr oedd mur oddeutu 100 llath o hyd â darluniau graffiti ar ei hyd yn llifo o un i’r llall – pob gwaith o gelf un mor ddiddorol a’r diwethaf. Beth arall oeddwn i ddisgwyl o’r dref lle ganwyd y dychymyg miniocaf ym myd llên plant- Roald Dahl?
Bu rhai o’r gweithiau yn hollol abstract, gwennyn meirch mawr yn hedfan ymysg patrymau plethog a lliwiau yn cyrlio i’w gilydd. Peiriant barfog ag ymenydd amryliw, wrth ei ymyl murlun o dduw Hindwaidd; roedd amrediad y delwaddau yn syfrdanol.
Roedd rhai o’r murluniau yn edrych fel gweithiau mor gymleth a’r Mona Lisa o ran crefft, ac eraill yn syml a phlaen a buaswch yn tybio mai plentyn a’i baentiodd (sydd yn fwy na tebygol- mae’r Boiler House yn cynnig cyrsiau graffiti i grwpiau ieuenctid). Yr oeddwn yn hoff iawn sut y gosodwyd celf gan artistiaid proffesiynol ochr yn ochr â phobol oedd efallai erioed wedi codi can o baent o’r blaen.
Yr oedd yr awyrgylch yn y Boiler House yn un braf iawn gan fod neb llai na Llwybr Llaethog yn DJ’io y dydd hwnnw, y cyfeiliant perffaith i’r fath le!
Drws nesaf i’r prif adeilad (oedd efo graffiti fel rash amrylyw drosto) roedd arddangosfa gelf mwy ‘traddodiadol’. Yr oedd llawer o’r lluniau mewn fframiau yn wahanol i’r graffiti ond yr oedd y celf ei hyn yn unrhywbeth heblaw ‘traddodiadol’ wedi dweud hynny. Dangoswyd celf cyfrifiadurol sef fideo o flodau tebyg i sglefrynod yn gwyrdroi yn eu hunman. Dangoswyd lluniau lle’r oedd y celf yn tywallt allan o’i ffram, llun o adfeilion pren a phren go iawn oddi tano yn ymestyn yn ddelwedd i fyd real y trydydd dimensiwn. Roedd yno gelf ‘byw’, hynny yw, bu i ddyn beintio o’m blaenau ni mewn ffordd swrreal: nid brwsh paent â ddefnyddiodd ar ei ganfas, ond wrth grogi wrth ei draed o’r nenfwd trochodd ei ben mewn bwcedi o baent cyn llusgo ei wallt drost y canfas gwyn oddi tano. Heidiai pobl o’i amgylch i weld y fath beth.
Yr oedd llu o weithiau celf diddorol yn yr arddangosfa yma, a thema abswrd yn rhedeg drwy’r holl brofiad. Yr oedd yr oriel ‘chwaethus’ fodern a gig Llwybr Llaethog mewn môr o gelf stryd ochr yn ochr â’i gilydd yn ardderchog. Yr wyf heb os yn argymell i chi fynd i weld y lle hwn pan gewch siawns. Mae’r celf ar y muriau tu allan yno i bawb eu mwynhau ac yn werth eu gweld.


