Mae wedi bod yn wythnos fawr yng nghalendar celf gweledol Cymru yr wythnos yma, wrth i enillydd gwobr Artes Mundi gael ei gyhoeddi mewn seremoni yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Iau 19eg Mai. Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae’r wobr yn amlwg yn aeddfedu ac, oherwydd y pynicau a drafodir yn y gwaith – materion dyngarol, mudo, perthyn, hanes, globaleiddio a’i ganlyniadau – mae’n barhaol berthnasol. Mae’r arddangosfa’n gyfle arbennig i weld gwaith artistiaid o ledled y byd – mwy na thebyg yn enwau anhysbys i ni – yn trafod materion dwys a herfeiddiol sydd eto’n debygol o fod yn ddieithr i ni. Trafferthion mudo y boblogaeth Twrcaidd o Fwlgaria, unrhyw un? Beth am hanes hen ffatri yn Nhaiwan?
Ond, cyfarwydd yw pwnc yr enillydd, Yael Bartana. Yn wreiddiol o’r Israel, trafoda Bartana hanes Palesteina a’r Iddewon. Yn ei ffilm, ‘Wall and Tower’, cawn ein cyflwyno i fudiad gwleidyddol yng Ngwlad Pŵyl sy’n galw ar Iddewon i ddychwelyd i’r wlad. Cawn ffeithiau am rifau dychrynllyd o Iddewon Pwylaidd a laddwyd ar orchymyn Hitler, ac anogir Iddewon Pwylaidd presennol i ail-boblogi’r gymdeithas Iddewig. Gwelir dynion a gwragedd o bob oedran yn cydweithio i adeiladu cartrefi o bren, yn gwenu a chanu wrth adeiladu eu hiwtopia newydd. Llawn gobaith chwyldro a ffreshni bywyd newydd yw’r broses adeiladu – ond cawn ambell i fflach sy’n taro’r gwyliwr braidd yn od; y sumbol newydd bygythiol a grewyd fel banner, y wal uchel iawn o gwmpas yr adeiladau sy’n ffin rhwng y gymdeithas newydd a’r byd y tu allan, a’r weiren bigog yn coroni’r cyfan. Try’r holl brofiad o wylio’n annifyr wrth i’r iwtopia droi’n ghetto, y wal a’r tŵr yn gysgod o wersyll-garchar – a’r Iddewon yn creu hyn eu hunain.
Dyma’n union un o effeithau pwrpasol gwaith Bartana. Delia hi ag ail-greu sefyllfaoedd hanesyddol, a’i droi ar ei ben, yn ogystal a phropoganda gan ei droi yn erbyn ei hun. Gorfoda hyn i ni’r gynulleidfa gwestiynu yr hyn rydym yn ei weld – nid yn unig yn ei gwaith hi, ond ym mhopeth a welwn yn y cyfryngau. Perffaith felly yw prif gyfrwng yr arddangosfa, sef ffilm. Defnyddia Bartana gerddoriaeth a’r broses olygu i greu ei phropoganda ei hun, a rhaid dweud ei bod hi’n anodd dychmygu unrhyw gyfrwng arall yn cyfleu ei hamcan yn well.
Mae defnyddio ffilm wedi codi gwrychyn ers y gystadleuaeth gyntaf, ond yn bersonol, credaf ei fod yn ddull cyfoes iawn o gyfarthrebu syniadau, gan alluogi artistiaid i gyflwyno tystiolaeth heb sensro’r cyfryngau na’r llywodraeth (sy’n anffodus yn digwydd yn rhy aml mewn gwledydd comiwynyddol), ac yn caniatau rhwyddineb teithio. Efallai gellir disgrifio’r cyfrwng nid fel ffilm gelf, ond yn fwy o newyddiaduraeth aesthetig.
Beth yw perthnasedd yr arddangosfa a’r wobr yma i Gymru? Nid rhoi Cymru ar fap celf y byd yw unig fantais y gystadleuaeth. Dengys Artes Mundi artistiaid o bedwar ban byd yn chwilio am ffordd o ymateb ac o gyflwyno tystiolaeth am sefyllfaoedd cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol sy’n effeithio eu bywydau a’u gwlad, a llawer yn delio â’r broblem o geisio mynegi eu hunain yng nghysgod cymydog pwerus a bygythiol. O ystyried cyflwr sigledig gwleidyddol ac economaidd Cymru, a’r chwilio parhaol i ffeindio llais cryf o fewn i’r byd celf, mae’n anodd meddwl am arddangosfa sy’n cynnig fwy o ysbrydoliaeth.



