1

Rhifyn 33 Tu Chwith AR WERTH NAWR!

Mae rhifyn 33 o tu chwith ar werth nawr!

Prynwch yn eich siop leol neu tanysgrifiwch (cynnig arbennig am wythnos yr Eisteddfod)

Ar faes yr Eisteddfod, gallwch ei brynu ar stonin y Cyngor Llyfrau, stondinau siopau Cymraeg neu stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Y thema yw Croesi Ffiniau ac mae’r rhifyn wedi ei olygu gan Menna Machreth a ceri Elen.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
- ‘Monopoli’r Eisteddfod’ gan Rhodri Llŷr Evans – a yw’n sefydliad diwylliannol yn atal ein llenyddiaeth a’n awduron rhag datblygu?
- Clare Potter, bardd o’r Cymoedd, yn cyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf
- Stori fer am aliens ac ysgrif gan Chris Cope
- celf gan Manon a Awst a Benjamin Walther – artisitiaid sy’n arddangos yn yr Eisteddfod
- Genres o Tseina, Malaysia ac Ewrop yn ymddangos yn y Gymraeg am y tro cyntaf
- adfywio genres Cymraeg – y faled a ‘Gweledigaethau’ (fel Gweledigaethau’r Bardd Cwsc)
- erotica
- erthygl am chick-lit
- cartŵn y band newydd Planed Roc
- ‘Coron Ceri’ gan Eurig Salisbury
- Stori gan Dewi Huw Owen
- Cadwyn stori
- Sgwennu fel dyn neu menyw? Gruffudd Owen a Gwennan Evans

Cofiwch hefyd am Y Babell Wên Nos Fawrth Awst 3ydd yng Nglwb Rygbi Glyn Ebwy! Noson wedi ei noddi a’i chyd-drefnu gan Tu Chwith

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
  1. [...] set gan Mr Huw, darlleniadau o’r gyfrol newydd ‘Croesi Ffiniau‘ a gêm i’r gynulleidfa, sef sgwennu geiriau am yr ŵyl i alaw gan Mr [...]