0

Adolygiad: The Beach (Cynhyrchiad National Theatre Wales).

The Beach
National Theatre for Wales
Prestatyn
27ain mis Awst 2010

Nid oedd gennyf syniad beth i’w ddisgwyl yng nghynyrchiad diweddaraf y National Theatre Wales a ddisgrifwyd fel ‘outdoor gaming on the beach at Prestatyn.’ Roedd y gorchymyn ‘come and join us’ hefyd yn awgrymu rhyw elfen o weithred gan y gynulleidfa, ac fel un sydd yn mwynhau ymlacio mewn cadair foethus yn y theatr i fwynhau’r arlwy ar y llwyfan, nid oeddwn yn siŵr a oedd cymryd rhan mewn rhyw syrcas awyr-agored yn mynd i fod at fy nant. O ddeall fod y gynulleidfa’n rhan o’r perfformiad byw, roeddwn felly’n teimlo’n nerfus fel aelod o’r cast! Roedd y gair ‘gemau’ hefyd yn awgrymu mai adloniant ysgafn heb unrhyw ystyr yn perthyn iddo a oedd yn fy nisgwyl. Ond fe’m siomwyd ar yr ochr orau.

Ni allem ddymuno am dywydd gwell, a’r noson o hirddydd haf yn ychwanegu at yr awyrgylch. Dechreuai’r perfformiad cyn gynted ag y camodd pob un ohonom ar y traeth, gan wynebu set effeithiol o chwech o beintiadau a darnau plastig ar y tywod. Fe’n croesawyd gan Charlie a TJ, dau fywiog a oedd yn erfyn am ein cymorth i adfywio’r dref unwaith eto. Wedi i bawb gerdded o amgylch y darluniau o olygfeydd o’r dref, eisteddodd pob un ohonom o dan gynfas enfawr er mwyn dod i adnabod ein gilydd yn well.

Fodd bynnag, erbyn i ni weld golau dydd unwaith eto, roedd y darnau neu’r ‘elements’ wedi diflannu, a dyma ddechrau ar antur gyffrous i gasglu’r elfennau coll a’u dychwelyd i’w priod le. Mewn timau, cawsom gymryd rhan mewn cyfres o gemau amrywiol a fyddai’n ein gwobrwyo â’r darnau coll, a’n galluogi i gwblhau’r golygfeydd a gwneud y dref yn gyflawn unwaith eto.

Rhyw fath o ‘charades’ oedd y gêm gyntaf, ble roedd rhaid i ni gyfleu brawddeg i weddill y tîm, gan gyfathrebu heb siarad gan fod ‘casŵ’ yn ein cegau, gan chwarae’n glyfar iawn â’r ystyr ddyfnach o fynegi’r gwahaniaeth ieithyddol yn y dref. Cawsom gyfarfod â gwyddonydd wedi colli ei feddwl yn yr ail dasg, actor gwych a oedd yn ein herio i gludo pypedau plastig mewn car cebl o un ochr i’r llall yn ôl rheolau caeth ei ddyfais. Cawsom ein gwlychu’n socian gan y drydedd gêm, ble roedd dyn dieflig wedi dwyn y dŵr o’r môr, a ninnau’n ceisio ail-lenwi’r tanciau gyda phibell ddŵr er mwyn cadw’r pysgod yn fyw. Tasg arall oedd diddanu un o’r byd adloniant drwy ddawnsio a gwneud ymarfer corff mewn rhes, cyn mynd ymlaen at hen wraig a wnai i ni wrando ar straeon amrywiol am Brestatyn a’u gosod gyda’r dyddiad cywir. Cefais dipyn o ymarfer corff yn y gêm olaf drwy gario llefrith a oedd wedi ei odro i’r parlwr gan ddefnyddio matiau o dan draed i’w cludo o un ochr i’r llall!

Casglwyd yr elfennau gan ein tîm a’u gosod ar ddarlun y farchnad, yn cynnwys pêl, ffair, sinema a hwylbren, a chawsom drydydd yn ein hymgyrch i weddnewid Prestatyn drwy ddisgrifio ein gweledigaeth! Roedd yn ddiweddglo perffaith i’r noson wrth i’r haul fachlud dros y bae, a ninnau wedi ymlâdd! Daeth un dyn ataf ynghanol yr antur i ddweud fod hen ddynes yn ceisio dwyn yr elfennau a oedd wedi eu casglu yn barod, sy’n brawf o awyrgylch y perfformiad yn achosi i ni gymryd yr orchwyl o ddifrif!

Roedd yr arbrawf o ddileu’r ffin rhwng yr actorion a’r gynulleidfa yn hynod o ddifyr, ac er ei fod yn her i’r meddwl, roedd yn werth mentro i gymryd rhan. Roedd y syniad, y set a’r actorion yn hynod o gredadwy, a’r ffaith fod pob perfformiad yn unigryw yn ychwanegu at eu dyfeisgarwch. Gwnaed ymchwil lleol trylwyr i’r dref, gan adlewyrchu ei hagweddau amrywiol a chyfleu ystyr ddyfnach drwy gyfrwng y gemau ysgafn. I mi, cyflawnodd wir bwrpas y Theatr Genedlaethol – cyfleu darlun o’r lleol er mwyn dod i adnabod un rhan o’n cenedl yn well.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us