1
Tu Chwith yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
Diolch i bawb am ddod i’r digwyddiad Tu Chwith yn y pabell lenyddiaeth yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010.
Cafwyd set gan Mr Huw, darlleniadau o’r gyfrol newydd ‘Croesi Ffiniau‘ a gêm i’r gynulleidfa, sef sgwennu geiriau am yr ŵyl i alaw gan Mr Huw.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau a ffilmiwyd:
Mr Huw a chaneuon newydd o’i albwm arfaethedig, Creaduriaed Od.
Ciron Gruffydd yn darllen darn o’i gyfraniad ef i rifyn ‘Croesi Ffiniau’ sef darn wedi ei ddylanwadu gan Biji genre o China (un o ddarnau comisiwn rhifyn ‘Croesi Ffiniau’ sef ysgrifennu darn mewn genre/ffurf o wlad arall).
Anni Llŷn yn darllen darn o’u hysgrif am lenorion sy’n croesi ffiniau llenyddiaeth.

[...] wedi sgwennu cofnodion am ddiwrnod 1, diwrnod 2 a diwrnod 3. Diolch i Menna am y fideos o’r digwyddiad Tu Chwith ddoe. [...]