Pen Talar: Rhagolygiad #pethaubychain
Pen Talar
Rhagolygiad
Bydd y gyfres hir-ddisgwyliedig Pen Talar yn ymddangos ar ffurf naw pennod gan ddechrau ar Fedi’r 12fed ar S4C. Hir ddisgwyliedig am sawl rheswm ond yn bennaf oherwydd does dim byd yn mynd i gyffroi cynulleidfa S4C yn fwy na drama dda sy’n mynd i’r afael â hanes y mudiad cenedlaethol yn ystod yr hanner canrif diwethaf: fersiwn Cymru o ‘Our Friends from the North’. Drama yw rhagoriaeth S4C felly ni allai’r amseru fod yn well ar gyfer drama a allai ail-danio boliau’r gynulleidfa dros y sianel. Gallai’r ddrama hon grisialu popeth yr hoffai sylfaenwyr y sianel Gymraeg fod wedi breuddwydio amdano yn y lle cyntaf: cyfryngau creadigol sy’n codi cwestiynau ac adlewyrchu pwy ydym ni. A phwy all dynnu eu llygaid oddi ar olwg ac actio ysblennydd Richard Harrington a Ryland Teifi!
‘Nid diffinio rydym ni’n ei wneud, ond dehongli’ meddai Ed Thomas, cyd-awdur Sion Eirian, mewn dangosiad o’r bennod gyntaf yr wythnos ddiwethaf. Bydd eu dehongliad nhw o hanes y mudiad cenedlaethol yn wahanol fel y mae’n wahanol i bob unigolyn, heb amheuaeth. Y gobeith felly yw y bydd trafodaeth gwirioneddol yn tyfu wrth i’r gyfres fynd rhagddi – am y tir canol yn y dehongliadau, am y gwahaniaethau, y llwyddiannau a’r methiannau, am daith y gwerthoedd gwreiddiol i’r cwestiwn beth ydyn nhw heddiw. Taith unigolion yn ymyrryd â thynged cenedl a’r genedl honno’n ymyrryd ag unigolion yw addewid y gyfres, a dywed S4C ar eu gwefan: ‘yn stori am baradwys coll, i eraill, stori o obaith am baradwys wedi ei adennill. Yn sicr, mae hon yn ddrama daer, gref a fydd yn ysgogi atgofion a breuddwydion cenedl gyfan.’
Drama am gyfeillgarwch dau ffrind Defi a Doug yw Pen Talar, dau sy’n penderfynu body n ‘blood brothers’ ar ôl tystio i ddigwyddiadau erchyll yn eu pentref yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r actorion ifanc (Samuel Davies a Daniel Leyshon) yn y bennod gyntaf o safon aruthrol ac yn argyhoeddi ym mhob golygfa, gyda Doug yn gwneud jobyn arbennig o adlewyrchu ei Dad (Dafydd Hywel). Cewch eich taro gan naws y pentref a’r cyfnod ond nid oes unrhyw beth sentimental am y ffilmio; efallai mai nostalgia fydd yn taro rhai ond naws y pentref a’r rhyddid y goedwig a’r wlad o’u cwmpas sy’n galluogi’r sefyllfa a’r lleoliad i fod yn bersonol i bawb, does dim gwahaniaeth ym mha bynnag gyfnod y’ch magwyd.
Mab i athro ysgol yw Defi, teulu dosbarth canol diwylliedig ac ymrwymedig i Blaid Cymru, tra bod Doug yn fab i lowr a chefnogwr o’r Blaid Lafur. Beirniadaeth deg fyddai dweud fod y cefndiroedd yma’n ystrydebol ar y lleiaf ac yn groes i brofiad nifer, ond mae’n rhoi blas ar beth allai fod yn drafodaeth ddifyr am y berthynas rhwng y mudiad cenedlaethol a sosialaeth yn ystod y gyfres o bosib? Mewn darlith yn yr Eisteddfod, roedd Daniel Williams o Brifysgol Abertawe yn trafod creadoau Aneirin Bevan a Paul Robeson gan ddod i’r casgliad nad oes modd asio’r sosialaeth a hunaniaeth yn llwyddiannus. Bydd y gyfres hefyd yn cynnig dehongliad a gwahodd trafodaeth mae’n debyg ar gyflwr ein cymunedau wrth i bobl ifanc symud i ffwrdd. Hefyd, roedd yn ddiddorol nodi y portread o Gristnogaeth yn y bennod gyntaf wrth i un o’r aelodau gwyno wrth dad Defi nad oedd digon o drafod ynghylch eneidiau yn yr Ysgol Sul bellach ond trafod creisis taflegrau Ciwba. I’r sawl sy’n ymddiddori yn hanes diweddar Cristnogaeth yng Nghymru mae hyn yn arwyddo y rhwyg mawr rhwng rhyddfrydiaeth a Christnogaeth efengylaidd yn y chwedegau. Mae’r cymeriad hwn yn gyfrifol am weithred ofnadwy sydd yn pwysleisio rhagrith, ond mae’r syniad o rhagrith crefyddol mor dreuliedig erbyn hyn fel ei fod braidd yn ddisgwyliedig. Llawer gwell byddai ymestyn y cymeriad a’r tyndra rhwng safbwyntiau gwahanol, ond byddai angen drama arall i wneud hynny!
Yn ystod yr wythnosau nesaf y bwriad yw fod adolygiad o bob pennod ar wefan Tu Chwith, ac mae croeso i chi ymateb er mwyn cael trafodaeth am y cymeriadau a’r materion sy’n codi yn eu bywydau. Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen at un dehongliad o hanes Cymru yn deugain mlynedd diwethaf drwy lygaid cymeriadau a’r pethau a ddaw i’w rhan.
Cofiwch wylio’r bennod gyntaf ar Fedi 12fed ac ewch i wefan S4C nawr i wylio’r rhagflas fydd yn sicr o yrru ias drwyddoch!
http://www.s4c.co.uk/pentalar/
