Gwyddoniaeth a Chymru
Fel tamaid i aros pryd, dyma ysgrif fer gan Gruffudd Antur i’ch cadw ar flaen eich seddi nes cyhoeddi’r rhifyn nesaf o gylchgrawn Tu Chwith sydd wedi ei selio ar y thema Gwyddoniaeth.
————
Gwyddoniaeth a Chymru
Go brin y buasai unrhyw un yn meddwl yn reddfol am Gymru pan sonnir am wyddoniaeth a mathemateg. Tueddir i’w chysylltu fwy â chanu, pyllau glo, eisteddfodau, rygbi, ac ambell ystrydeb arall sy’n llai dymunol. Wedi’r cyfan, gwlad fechan iawn ydyw, gyda llawer llai na hanner poblogaeth y ddinas fwyaf yn Lloegr. Fyth oddi ar Lyfrau Gleision 1847, mae adroddiadau yn adrodd yn gyson nad yw safon yr addysg yng Nghymru gystal â safonau addysg Lloegr. ‘Does ryfedd felly nad yw’r pynciau gwyddonol mor boblogaidd â’r celfyddydau yma, ond cwbl anghywir yw dweud na chafodd unrhyw Gymro ddylanwad ar wyddoniaeth erioed.
Bob dydd, torrir tir newydd mewn gwyddoniaeth. Mae blaen y gad yn hynod gyffrous, ac mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario bob blwyddyn er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Un o’r llefydd sy’n cael sylw mawr ar hyn o bryd yw safle CERN o dan y ddaear yn y Swistir, sef y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr, neu’r Large Hadron Collider. Prif bwrpas y prosiect yw ceisio dod o hyd i’r Boson Higgs arfaethedig, sef un o ronynnau sylfaenol y bydysawd.
Mae’n bell iawn o Gymru mewn sawl ffordd. Er hyn, mae’r cysylltiad rhwng yr LHC a Chymru yn agos iawn, gan mai gwyddonydd o Gymro yw arweinydd y prosiect blaengar hwn. Brodor o Aberdâr yw Dr Lyn Evans, ac ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, datblygodd i fod yn un o’r pennaf arbenigwyr yn y byd mewn ffiseg gronynnau. Yr hyn sydd hefyd yn arbennig yw fod Evans yr Atom yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Gymry eraill yn y gorffennol pell.
O gwmpas y flwyddyn 1510, ganed i Thomas a Rose Recorde o Ddinbych y Pysgod fab o’r enw Robert. Ym 1525, aeth i Rydychen, lle graddiodd cyn symud ymlaen i Gaergrawnt tan 1545. Er gwaethaf yr yrfa ddisglair hon, bu farw heb geiniog yng ngharchar Southwark ym 1558, ond nid heb adael gwaddol enfawr ar ei ôl.
Yn ystod ei yrfa, cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys The Grounde of Artes (1542), The Urinal of Physick (1548), The Pathway to Knowledge (1551), The Castle of Knowledge (1556) a Whetstone of Witte (1557). Erbyn heddiw, mae’r llyfrau hyn yn hynod o brin, a gwerthwyd copi o’r argraffiad cyntaf o’r Whetstone of Witte ym 1998 am $27,000. Ydy, mae’n llawer o arian, ond mae arwyddocâd pendant i’r llyfr hwn, oherwydd mai dyma lle daeth sumbol newydd a chwyldroadol i sylw’r byd. Y mae’n sumbol a ddefnyddir gan filiynau o bobl bob dydd heb iddynt feddwl ddwywaith. Dywed Recorde:
…to auoide the tediouſe repetition of theſe
woordes : is equalle to : I will ſette as I doe
often in woorke vſe, a paire of paralleles, or
Gemowe lines of one lengthe, thus: =, bicauſe
noe .2. thynges, can be moare equalle.
sef
…er mwyn osgoi ailadrodd y geiriau “yn hafal i” hyd syrffed, gosodaf, fel y gwnaf yn aml yn fy ngwaith, bâr o linellau paralel, neu linellau dwbl (Gemowe) o’r un hyd, fel hyn: =, oherwydd nis gall dau beth fod yn fwy hafal i’w gilydd.
O dan y geiriau hyn, ceir yr hafaliad cyntaf un fel sy’n gyfarwydd i bawb heddiw:
(Mewn nodiant diweddar: 14x + 15 =71)
Felly, dyma Gymro a osododd batrwm a ddefnyddir filoedd o weithiau bob dydd gan blant ysgol ac ysgolheigion fel ei gilydd, a hynny bron i bum can mlynedd ar ôl ei farwolaeth.
Ychydig dros ganrif ar ôl marw Recorde, ganed gŵr a gafodd ddylanwad enfawr arall ar fathemateg. Y gŵr hwn oedd William Jones, mab John ac Elisabeth Jones o Lanfihangel Tre’r Beirdd, Ynys Môn. Dyna ddechrau gwylaidd i fywyd os bu un erioed, a go brin y buasai neb yn disgwyl iddo sefydlu confensiwn rhyngwladol a ddefnyddir hyd heddiw. Er hyn, ar ôl derbyn addysg mewn ysgol elusen yn Llanfechell o bobman, daeth William yn gyfaill agos i rai o gewri mawrion y dydd, gan gynnwys Syr Edmund Halley a Syr Isaac Newton neb llai.
Yn debyg i Recorde o’i flaen, trwy lyfr y sefydlwyd enwogrwydd ac etifeddiaeth William Jones. Enw’r llyfr y tro hwn oedd Synopsis Palmariorum Matheseos: or, a new introduction to the Mathematics, a gyhoeddwyd ym 1706. Yn y llyfr hwn y cafwyd, am y tro cyntaf, y llythyren Roegaidd π, neu pi, ar gyfer dynodi cymhareb cylchedd cylch i’w ddiamedr. Dilynwyd awgrym William Jones, ac fel yr arwydd ar gyfer yn hafal i a gynigwyd ym 1557, defnyddir π gan filoedd o bobl hyd heddiw, a daeth yn un o’r sumbolau a’r cysyniadau mwyaf sylfaenol mewn mathemateg a gwyddoniaeth.
Yn wir, mae π wedi dod yn rhywfaint o obsesiwn. Rhoddir gwerth π fel arfer i tua 3.142, ond gan ei fod yn rhif anghymarebol, nid oes ganddo werth terfynol, ac mae rhai mathemategwyr wedi darganfod gwerth π i driliwn lle degol! Braidd yn eithafol efallai. Hefyd, dyma ran o gerdd foliant i π:
The endless number cannot be expressed by any algebraic equation.
No pattern has been found in its digits,
Yet it cannot be proven in a finite amount of time
That no pattern exists in an infinite number of digits.
Pi goes beyond our reality.
Ie, tila iawn, ond anhygoel yw meddwl mai Cymro o Lanfihangel Tre’r Beirdd oedd arloeswr hyn oll, a bod gwyddonwyr ledled y byd yn defnyddio confensiynau a osodwyd gan ddau Gymro o gefndiroedd digon di-nod.
Dywedodd y colofnydd A. N. Wilson unwaith am y Cymry:
The Welsh have never made any significant contribution to any branch of knowledge, culture or entertainment …
Diolch byth mai mewn anwybodaeth remp y dywedwyd hyn, a’n bod ni, bellach, yn gwybod yn well.
Gruffudd Antur
