0

Adolygiad o Ddeffro’r Gwanwyn

Dyma adolygiad o ‘Deffro’r Gwanwyn’ cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol gan Manon Elin sy’n ddisgybl ym Mro Myrddin ac o’r un oedran å’r cymeriadau yn y ddrama.

Fel ffan mawr o sioeau cerdd, ro’n i’n edrych ‘mlaen i weld y sioe gerdd gyntaf erioed i Theatr Genedlaethol Cymru ei llwyfannu, a ches i ddim fy siomi. ‘Deffro’r Gwanwyn’ yw cyfieithiad Dafydd James o’r sioe gerdd enwog ‘Spring Awakening.’ Gyda thocynnau’r ddwy noson gyntaf yng Nghaerfyrddin wedi gwerthu allan, roedd hi’n argoeli’n sioe gerdd dda.

Mae’r sioe gerdd yn adrodd hanes criw o un ar ddeg o bobl ifanc wrth iddynt arbrofi’n gorfforol ac yn emosiynol wrth fynd trwy eu glasoed. Am fod y sioe gerdd wedi cael ei gosod ar ddiwedd y 1800au, mae’n portreadu cymdeithas yr adeg honno, pan oedd nad oedd oedolion yn trafod ffeithiau bywyd gyda’r plant. Erbyn diwedd y sioe gerdd, mae canlyniad yr anwybodaeth yn drychinebus i un o’r cymeriadau. Mae cast y sioe gerdd yn cynnwys cymysgedd o 13 actor adnabyddus a newydd, sy’n profi fod Theatr Genedlaethol Cymru yn barod i feithrin talentau ifanc newydd.

Llwyddodd y sioe gerdd i gyrraedd ac i blesio ei chynulleidfa darged – sef pobl ifanc, am ei bod yn ymdrin â materion sydd o ddiddordeb i bobl yr oed yma, ac yn defnyddio iaith debyg i’r hyn mae pobl ifanc dyddiau yma yn ei defnyddio. Er hyn, roedd y bobl hŷn yn y gynulleidfa i weld fel petai nhw hefyd yn mwynhau.

Nodwedd anarferol am y sioe gerdd, oedd pa mor agos oedd y gynulleidfa yn eistedd at y set. Gan fod y seddi wedi cael eu gosod mewn hanner cylch o gwmpas y llwyfan, roedd y gynulleidfa yn teimlo’n rhan o’r sioe gerdd. Roedd hyn yn profi proffesiynoldeb yr actorion, am nad oedd hyn yn tynnu eu sylw oddi ar eu perfformiad. Roedd y set wedi cael ei adeiladu mewn ffordd ddiddorol, am ei fod yn newid yn hawdd i ddynodi lleoliad neu awyrgylch gwahanol.

Trwy gydol y sioe gerdd roedd dawn gerddorol naturiol y perfformwyr yn amlwg. O bosib, roedd safon y canu yn well na’r recordiad gwreiddiol. Er bod lleisiau anhygoel gan y ddau brif gymeriad, mi fyddai’r sioe wedi cael ei chyfoethogi petai gan weddill y cast mwy o ddarnau unawdol.

Un peth gwan am y sioe gerdd oedd bod y ddau ‘oedolyn’ yn actio nifer o gymeriadau gwahanol. Roedd hyn yn gallu bod yn ddryslyd ar adegau. Heb amheuaeth, yn fy marn i, y gân olaf oedd uchafbwynt y sioe gerdd, am fod y 13 cymeriad yn canu gyda’i gilydd ar yr un adeg. Roedd lleisiau’r perfformwyr i gyd yn asio’n dda, ac yn creu awyrgylch a naws iasol.

Gobeithio’n wir nad dyma’r sioe gerdd olaf fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ei llwyfannu.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us