Lansio Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’ Nos Fawrth, Ebrill 5 yn Gwdihŵ, Caerdydd
Lansio Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’
(Cyfrol 34)
Nos Fawrth 5 Ebrill 2011, 7.30 pm
Gwdihŵ, Guilford Crescent, Caerdydd, CF10 2HJ
Tâl mynediad: £2.00
Dewch draw i fwynhau perfformiadau o’r gyfrol newydd yng nghwmni Osian Rhys Jones, Llyr Gwyn Lewis a llawer mwy. Chewch chi ddim mo’ch siomi!
Gallwch brynu copi yno, neu gallwch danysgrifio am bris gostyngol ar ein gwefan, yma: http://tuchwith.com/tanysgrifio-am-flwyddyn/
er mwyn derbyn eich cylchgrawn drwy’r post yr wythnos nesaf!
Dyma ddyfyniad o’r golygyddol i roi darlun i chi o’r deunydd deinamig yn y gyfrol:
Yn y gyfrol hon, rydyn ni’n parhau i hybu partneriaethau creadigol deinamig trwy gomisiynu artistiaid o wahanol gyfryngau i gydweithio. Mae’n hynod o bwysig ein bod fel artistiaid ifanc yn ymwybodol o waith ein gilydd ac yn ymateb i’n gilydd er mwyn adeiladu cymuned artistig gyffrous yn y Gymraeg. Comisiynwyd Huw Aaron i gydweithio ag Osian Rhys Jones i greu stori graffeg â naws ffuglen wyddonias ac mae’r canlyniad yn mynd i’ch cludo i Wythnos yng Nghymru Fydd sinistr lle mae canu gwlad yn teyrnasu. Parhawyd â’r thema ‘mapio’ a welwydyn rhifyn 32 o tu chwith, trwy gomisiynu Rowan O’Neil a Hywel Griffiths i rannu syniadau am y trywydd hwn. Yn y gyfrol, mae erthygl gan Rowan yn trafod y syniad o fapio dwfn y bu Clive McLucas, un o gyfarwyddwyr Brith Gof, yn ei ddatblygu cyn ei farwolaeth sydyn. Mapio’i daith ar hyd llwybrau arfordirol Ceredigion mae Hywel Griffiths wedi dewis ei wneud, a hynny trwy gyfrwng cerddi. Gosodwyd her gerbron Gethin Rhys, y gwyddonydd, a Michelle Davies, sy’n arbenigo mewn dramâu teledu, i gydweithio i greu cyfanwaith o’r ffeithiol a’r dychmygol ddychanol.
Yn ogystal yn y gyfrol hon, mae adran newydd o’r enw Crochan Syniadau. Comisiynwyd yr artist Siân Green, a Branwen Huws, sy’n ysgrifennu rhyddiaith, i fynd ar daith o gwmpas Ynys Llanddwyn i ddarganfod mwy am ryfeddodau geometreg yr ynys. Yn y gyfrol hon, ceir eu hymateb creadigol i’r daith;hoffwn bwysleisio nad gwaith gorffenedig mohono, ond ymateb artistiaid o fewn pum niwrnod o gyflawni’r daith.
Hefyd yn y gyfrol, mae cymysgedd o erthyglau gan wyddonwyr fel Huw Waters, sy’n esbonio’i atyniad cynhenid at wyddoniaeth a darganfod sut mae pethau’n gweithio. Wrth ymateb i Huw Waters, mae Llŷr Gwyn Lewis yn gofyn yn ei ysgrif beth yw posibiliadau chwalu’r ffiniau rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Mae Steffan John yn rhoi cyflwyniad i faes polisi, ac i ba raddau y gall tystiolaeth wyddonol gynorthwyo gwleidyddion i greu polisi llwyddiannus ar gyfer y wlad.
Ceir cryn ymateb i fioleg yn y gyfrol. Mae Karen Owen yn myfyrio ar y berthynas rhwng Darwin a Chymru mewn cerdd; Mair Rees sy’n ymchwilio i bortread y misglwyf mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mewn stori bryfoclyd, mae Elis Gomer yn ymdrin â’r sawl sy’n ceisio gwyrdroi bioleg naturiol y corff.
Yn yr ysbryd hwnnw o gydweithio ac ymateb, fe’ch anogaf chithau i ymateb i’r cylchgrawn hwn ar ein gwefan fel y gallwn ymestyn y trafodaethau sy’n cael eu cynnig yn y rhifyn hwn o tu chwith. Fel y dywedodd Gwyneth Lewis, mae digon yn gyffredin rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau:

Edrych ymlaen at y digwyddiad a’r gyfrol newydd!