1

Llyfr y Flwyddyn 2011: eich dewis chi?

Nos Fercher, Ebrill 13eg, bydd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi. Mae tipyn o amrywiaeth ymhlith y llyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn 2010.

Beth fyddai ar eich rhestr chi? Beth am ddanfon eich rhestr chi atom ni gyda nodyn o esboniad pam? Neu danfonwch eich hoff dri gan ddweud pam yn gryno, a rhestri rhai eraill rydych chi wedi eu darllen ac yr hoffech eu gweld ar y rhestr hir.

Yn bersonol, mae’r nofelau yn llywodraethu o ran safon y deunydd a gyhoeddwyd yn 2010. Mae Llyfr y Flwyddyn wedi llwyddo i fod yn destun dadleuol sawl tro dros y blynyddoedd, gan gynnwys y llynedd pan na gydnabyddwyd cyfraniad Marian Delyth i’r cyhoeddiad buddugol sef ’100 Lle i’w Gweld cyn Marw’ gan John Davies a lluniau gan Marian Delyth. Mae’n ddigon teg i ddweud bod y gystadleuaeth wedi peri penbleth i sawl un dros y blynyddoedd, o geisio gwneud synnwyr o’r rheolau a pha gyhoeddiadau sy’n gymwys i geisio deall sut y daeth y tri beirniad i’w penderfyniadau. Mae Dogfael yn enwedig wedi blogio’n wych am restrau Llyfr y Flwyddyn yn 2008 a 2009.

Felly dyma fy nghynigion i. Yn anochel, mae nifer o nofelau oherwydd dyna dwi’n eu darllen yn bennaf tu allan i’m gwaith dyddiol o ddarllen yn y llyfrgell. Cofiwch ddanfon eich cynigion chi at tuchwith@googlemail.com a gallwn eu cyhoeddi yma.

Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn
dewis Menna Machreth

1. Ned Thomas, Bydoedd – Cofiant Cyfnod (Y Lolfa, 2010)
Heb os, llyfr y flwyddyn! Disgrifia Ned Thomas y gyfrol fel ‘cofiant cyfnod’ yn hytrach na hunangofiant, ac yn sicr llwydda i gyfleu awyrgylch gwahanol gyfnodau yn ei hanes mewn ffordd ddiffuant yn y gyfrol hon. Darllen anhepgor i’r sawl sydd eisiau deall mwy am yr iaith Gymraeg a’i chyd-destun rhyngwladol.

2. Dewi Prysor, Lladd Duw (Y Lolfa, 2010)
Nofel llawn grit sy’n mynd i’r afael a dadfeiliad cymdeithas yn ein broydd Cymraeg. Mae’r ddeialog yn grafog ac yn eich cipio i fynd tanddaearol y cymeriadau sy’n ceisio dianc oddi wrth y grymoedd mawr sy’n eu rheoli.

3. Angharad Price, Caersaint (Y Lolfa, 2010)
Daw crefft yr awdur i’r amlwg yn y nofel hon sy’n symud yn effeithiol rhwng y doniol a’r ingol. Mae awyrgylch y tref Caersaint yn holl bresennol ar bob tudalen.

4. Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-So – Theori Beirniadaeth Lenyddol R. M. (Bobi) Jones (Gwasg Prifysgol Cymru Caerdydd, 2010)
Cyfrol sy’n gyflwyniad ac yn gymorth mawr wrth fynd i’r afael â chyfraniad enfawr Yr Athro Bobi Jones i feirniadaeth Gymraeg.

5. Gwyn Thomas, Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
Cerddi sy’n gweld pethau mawr yn y pethau bach gan fardd mawr y vers libre yn y Gymraeg.

6. Jerry Hunter, Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)
Cymeriadau sy’n gafael mewn stori am frawd a chwaer a’u gwewyr meddwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd, heb fod yn sentimental.

7. Hywel Gwynfryn, Hugh Griffith (Gwasg Gomer, 2010)
Camp oedd ysgrifennu cofiant ym mhersona yr actor disglair hwn, a chynnig rhywbeth gwahanol i’r arlwy arall o gofiannau.

8. Ifan Morgan Jones, Yr Argraff Gyntaf (Y Lolfa, 2010)
Nofel dditectif sy’n cydio.

9. Dafydd Huws, Nefar In Ewrop – Llyfr Taith gan y Dyn Dwâd, Goronwy Jones (Y Lolfa, 2010)
Y nofel olaf yn nhrioleg Y Dyn Dwâd, gan roi dychan sydd mawr ei angen ymhlith y cyhoeddiadau Cymraeg.

10. Elin Haf, Ar Fôr Tymhestlog (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Taith epig sy’n dangos dyfalbarhâd Cymraes i gyrraedd y nod, wedi eu hadrodd mewn ffordd ddynol ac annwyl iawn.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
  1. Ifan Morgan Jones yn dweud:

    “8. Ifan Morgan Jones, Yr Argraff Gyntaf (Y Lolfa, 2010)”

    Diolch am fod yn garedig ond bydd angen gwell nofel na hwn i fi gyrraedd y rhestr! Rywbeth i fi anelu ato yn y dyfodol.