Ymateb i erthygl ‘Monopoli’r Eisteddfod’ cyfrol 33
Yng nghyfrol 33 ‘Croesi Ffiniau’ o gylchgrawn Tu Chwith, cyhoeddwyd erthygl dan y teitl ‘Monopoli’r Eisteddfod’ gan Rhodri Llŷr Evans a drafodai cystadleuaethau llên cenedlaethol. Mae’r erthygl ar dudalen 117.
Derbyniom yr ymateb canlynol i’r erthygl a hoffem dynnu sylw darllenwyr Tu Chwith tuag ato.
_____________________________________________________
Monopoli’r Eistedddfod Genedlaethol – y gwir
Yn yr erthygl ‘Monopoli’r Eisteddfod’ yn rhifyn Haf 2010 o Tu Chwith ceir y paragraff hwn:
Fel yn achos debacle y Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005, pan ddaru’r beirniaid wobrwyo nofel hanesyddol, saff ar draul nofel gyntaf Llwyd Owen, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau – er mai hi oedd yr enghraifft orau o athrylith ar waith yn y gystadleuaeth yn ôl y beirniaid – a hynny am fod yn nofel Owen ‘wendidau ieithyddol’(a dim oll i’w wneud â’r ffaith fod ynddi regfeydd a golygfeydd o drais a rhyw allai beri gofid i rai eisteddfodwyr…). Bwydo darllenwyr y genedl â bwyd llwy oedd peth felly, dim llai na bradychu safonau yn enw parchusrwydd Nain a pharhau ag obsesiwn unllygeidiog yr Eisteddfod o ystyried cynnwys ac arddull yn ddau endid ar wahân.
Y mae hwn yn baragraff anhygoel ac yn cynnwys ar y gorau gamliwio dybryd ac ar ei waethaf gelwydd. Oherwydd hyn y mae’n rhaid i ni, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth hon ymateb i’r erthygl. Yn anffodus mae un o’r beirniaid, Catrin Puw Davies, wedi ein gadael, ond gwarth ar ei henw da fyddai peidio ateb yr honiadau cibddall a geir yn yr erthygl hon.
Pe bai’r awdur (Rhodri Llŷr Evans) wedi mynd ati yn ddiragfarn a heb ragdybiaethau i ddarllen y feirniadaeth gyfansawdd yn y Cyfansoddiadau am y flwyddyn honno, gan gynnwys y rhagymadrodd, fe fyddai siawns wedi deall mai ar sail ei hiaith wallus – yn cynnwys idiomau Saesneg wedi eu cyfieithu, cam gyfieithu o’r Saesneg ac yn arbennig cystrawen wallus y penderfynwyd na ellid gwobrwyo Llwyd Owen.
Dyma baragraff allweddol o’r feirniadaeth:
I’r llenor, y gystrawen yw’r craidd, fel y mae’r gynghanedd yn hanfodol i fardd y mesurau caeth, ac ni ellir dychmygu sefyllfa lle y byddai beirniaid y gadair am wobrwyo awdl sy’n llawn o wallau cynganeddol. Nid elfen sy’n ychwanegol i gynllunio a datblygu syniadau, i ddisgrifio a chymeriadu, i gyfleu gwrthdaro rhwng cymeriadau, yw mynegiant, ond rhan annatod o’r holl wead.
O fod wedi darllen y paragraff yna sut ar y ddaear y gallai awdur yr erthygl ddatgan i ni ‘fradychu safonau’, na chwaith sut y gallai ddweud fod yna ystyried cynnwys ac arddull yn ddau endid ar wahân? Onid y fo sy’n gwneud hynny?
Dyma nifer fach o enghreifftiau byrion o‘r camgymeriadau oedd yn britho’r gwaith ac yn llesteirio’r mynegiant. Roedd y gyfrol yn llawn ohonyn nhw.
Mae’r caniad dal yn llwyddo.
O leiaf deg galwad.
Fy mhigyrnau
O’r gors gystadleuol hyn.
Er y gwlybanwch
Yn gyflym ddiflannu.
Cododd wynt main o’r dwyrain.
Dim ond ymweliad wrth y medelwr.
A’i phoblogaeth famolol.
Thema’r erthygl yw fod gan yr Eisteddfod fonopoli ar feirniadaeth gyfoes a chyfeiria’r paragraff ddyfynnwyd at “obsesiwn unllygeidiog yr Eisteddfod”. (nid bod gan sefydliad lygaid). P’run bynnag ni roddir i feirniaid y cystadleuthau llenyddol unrhyw gyfarwyddiadau gan neb parthed chwaeth a chynnwys, dangosir ynddynt ymddiriedaeth lwyr fel pobl sy’n gwybod be di be ym myd llenyddiaeth, yn ymwybodol fod yna safonau a bod yna seiliau cadarn i feirniadaeth lenyddol. Prin fod beirniaid llenyddol yn ymwybodol o unrhyw ‘friff diwylliannol-wleidyddol’ ar ran yr eisteddfod, beth bynnag yw ystyr hynny, ond mae’n sicr fod y mwyafrif ohonynt yn gwybod am gyfrol John Gwilym Jones ‘Crefft y Llenor’ sy’n glasur yn y maes.
Dadl Rhodri Llŷr Evans yw fod yr Eisteddfod yn gweithredu trwy ei beirniaid a’u bod, yn y cystadleuthau hyn (Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen) “ fel rheol yn gyn enillwyr eisteddfodau cenedlaethol blaenorol.” O’r deg ar hugain fu’n beirniadu’r ddwy gystadleuaeth yn ystod y pum mlynedd diwethaf y mae deg yn gyn enillwyr ac ugain nad ydynt. Byddai tipyn o ymchwil elfennol efallai wedi atal yr awdur rhag gwneud datganiadau ysgubol fel yna.
Beth bynnag am hynny, rhwydd hynt i’r awdur i wneud datganiadau ynglŷn â llenyddiaeth a pherthynas yr eisteddfod â llenyddiaeth, rhwydd hynt iddo i wneud datganiadau lled faleisus sy’n sawru o oedoliaeth (taro blaenor 90 oed a chyfeirio at barchusrwydd Nain), rhwydd hynt iddo ddamcaniaethu fel y gwna, ond nid ar sail camliwio a cham gyflwyno craidd un feirniadaeth. A dyna a wnaed yma. Dyma ddau ddyfyniad arall o’r feirniadaeth honno :
Mae’n ddiamau mai Luc Swan (Llwyd Owen) yw meddwl praffaf y gystadleuaeth a’r athrylith mwyaf sydd ynddi. Mae ei nofel yn un uchelgeisiol yn ymdrin â phroblemau dyrys, yn ddwys ac yn ddoniol, yn gynnil ac yn graffig. Ond, er ein bod yn barod i ganiatáu rhai gwendidau ieithyddol, a hyd yn oed ieithwedd newydd anturus, onid oes yna hefyd ffiniau y mae’n rhaid cadw o’u mewn gan gofio’r cwestiwn ddyfynnwyd ar ddechrau’r feirniadaeth hon – ‘Sut mae trafod a chyfnewid syniadau heb gystrawen sicr?’ Pan fydd gwendidau ieithyddol yn tarfu ar y mynegiant, mae’n rhaid ystyried hynny o ddifri. A dyna wendid mawr Luc Swan.
A’r ail ddyfyniad:
Yr oeddem yn ymwybodol ein bod yn trafod gwobrwyo dwy nofel hollol wahanol, un fyddai’n dod o fewn terfynau diogel y cyhoeddi arferol ac un fyddai’n camu allan y tu hwnt i’r terfynau diogel hynny. Yn y diwedd, bwriwyd y coelbren ar waith Cae Cors, nid am ein bod yn ofni mentro ond am ei fod wedi llwyddo’n well, o fewn terfynau ei fwriadau, i gyflawnwi’r bwriadau hynny.
Y mae pum mlynedd ers hyn oll, ac fe lifodd llawer o ddŵr dan y bont oddi ar hynny, Ond dyna’r ffeithiau fel y cofnodwyd hwy yn y feirniadaeth gyfansawdd ar y pryd, ffeithau sy’n dangos yn eglur mai ar sail ei iaith wallus a‘i gystrawen ansicr y collodd Luc Swan y dydd yn y gystadleuaeth honno. (Gyda llaw fe’n cystwywyd yn llym gan Geraint Jones mewn erthygl yn y Cymro am feiddio hyd yn oed ei ystyried am y wobr a’i iaith mor wallus).
Y mae’n gwbl amlwg gredwn ni, o’r dyfyniadau uchod, pam y bwriwyd y coelbren o blaid Cae Cors yn hytrach na Luc Swan. Os nad yw Rhodri Llŷr Evans yn derbyn hynny yna rhaid ei fod yn amau ein gonestrwydd, ac y mae hynny’n fater difrifol. Mater arall yw fod yr erthygl gyfan, gan ei bod wedi ei seilio ar y paragraff camarweiniol ddyfynnwyd ar y dechrau, heb unrhyw gredinedd yn perthyn iddi.
Elfyn Pritchard
Bethan Mair
