0

Cyfweliad â Rowan O’Neill – cyfrannwr #tuchwith34

Yn dilyn cyfweliad â Hywel Griffiths, dyma gyfweliad â Rowan O’Neill a ysgrifennodd erthygl am ‘fapio dwfn’ ac mae’r cerddi gan Hywel yn ymateb i’r syniad hwn. ‘Mapio’r Byd’ oedd thema Tu Chwith 32 a olygwyd gan Jon Gower, felly mae’r testun hwn wedi bod o ddiddordeb i Tu Chwith ers amser erbyn hyn.

Mae Rowan yn astudio ar gyfer PhD yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n ymchwilio i waith Clive McLucas sy’n enwog am ei waith â Theatr Brith Gof.

 

 

1. Pa fath o brofiad oedd gweithio gyda Hywel Griffiths?

 

Roedd hi’n bleser gweithio gyda Hywel.  Aethon ni am dro ar hyd yr arfordir o Gwmtydu i Gei Newydd.  Taith o bedair milltir.  Cawsom ni sgwrs eang a triais smyglo ei wybodaeth ddaearyddol wrtho!  Roedd e’n deimlad anhygoel i weld ei gerddi ar ôl y daith ac i feddwl yr oeddwn i yno hefyd ac yn rhan o’r broses creadigol, ac yn rhannu ei brofiad.

 

2. Mewn un brawddeg, beth yw ‘mapio dwfn’?

 

Mae ‘mapio dwfn’ yn edrych ar leoliad neu dirlun penodol, ac yn ymchwilio i’r gwahanol ffyrdd o feddwl am y lleoliad hwnnw e.e. daearyddiaeth y lle, hanes, hanesion personol, emosiwn. Y nod yw cael darlun llawnach o fywyd y tirlun, nid dim ond y ddaearddiaeth. Map pedwar deimensiwn os hoffech.

 

3. Pryd nes di ddod ar draws ‘mapio dwfn’ yn gyntaf?

 

Des i ar draws mapio dwfn yn gyntaf trwy ddarllen transcript o ddarlith gan y ddiweddar Cliff McLucas ar wefan Prifysgol Stanford.  http://humanitieslab.stanford.edu/52/88

Mae’r ddogfen yn gorffen gyda math o faniffesto ar gyfer creu Mapiau Dwfn.  Siŵr o fod hwn tua wyth mlynedd yn ôl.  Roedd hi’n siom fawr i ddarganfod bod Cliff wedi marw ac na chafodd ei syniadau gyfle i ymddangos a datblygu.  Roedd y gwaith yn bwysig i mi achos roedd e’n teimlo fel pe bai e’n tyfu mas o’r ardal lle cefais fy magu (Ceredigion).

 

4. Beth a pwy oedd Theatr Brith Gof a pa fath o theatr roedden nhw’n ei greu?

 

Cwmni Theatr arbrofol oedd Brith Gof a ddatblygodd o waith Cardiff Lab yn gynnar yn yr wythdegau o dan ofal Lis Hughes Jones a Mike Pearson.  Ymunodd Cliff McLucas gyda’r cwmni yn 1988 i weithio ar sioe lleoliad penodol ‘Gododdin’.  Roedd Cliff yn gyfrifol am y senograffi, hynny yw cynllunio sets enfawr.  Roedd y cwmni yn gweithio mewn ffordd unigryw, yn creu digwyddiadau yn hytrach ‘na perfformiadau traddodiadol.  Er na welais unrhyw sioe ganddynt (wen i’n sâl pan aeth trip ysgol i weld eu cynhyrchiad ‘Pax’ yng ngorsaf Abersytwyth) rwy’n teimlo roedd eu gweld nhw’n perfformio yn brofiad aml-haenog.

 

5. Os bydde ti’n gwneud prosiect ‘mapio dwfn’, ble fyddet ti’n ei ddewis a sut fyddet ti’n mynd o’i chwmpas?

 

Byddwn yn cychwyn mewn man dwi ddim yn adnabod o gwbl, ddim hyd yn oed lle mae e, ond rwy’n gwybod ei fod wedi bodoli ar un adeg.  Fferm yw’r lle.  Fferm yn Zimbabwe fel y mae’r lle yn cael ei alw heddiw, ond Rhodesia oedd enw’r tir yn y gorffennol a dyna ble byddwn yn cychwyn y map.  Perchennog y fferm oedd Wncwl fy Nhad-cu, fy hen Ewythr Les.  Mae fy mrawd yn dweud pe tasai’r ail ryfel byd ddim wedi digwydd byddaf fy Nhad-cu wedi symud i Rodesia i ffermio gydag ef, gan nad oedd plant gan ei wncwl. Daeth Hen Wncwl Les i fferm yng Ngorllewin Cymru, Rhos-y-gadair Uchaf unwaith, a rhoddodd gwch bach tegan i ferch fach. Dwi’n hoffi’r syniad o weld y byd mewn gronyn o dywod.

 

6. Beth yw dy farn am Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales?

 

Mae’n rhaid i fi gyfaddef dwi ddim wedi gweld unrhyw beth gan National Theatre Wales eto.  Efallai mai protest ddistaw yw gan iddynt fethu rhoi Aberteifi a Theatr Mwldan ar eu map theatrig o Gymru.  Diffyg gweledigaeth!  Dwi wedi gweld sawl sioe gan Theatr Genedlaethol Cymru ac wedi mwynhau ond yn bersonol hoffwn i weld mwy o gydweithio yn y dyfodol.  Roeddwn yn ffan mawr o arbrofion Ian Rowlands gyda theatr aml-ieithog.

 

 

7. Beth arall rwyt ti wedi ei mwynhau am rifyn newydd Tu Chwith?

 

Hoffais yn fawr iawn erthygl Elin Angharad Owen ynglŷn â bywyd a gwaith Jennie Eirian Davies.  Hanes trist ond hanes pwysig.  Dwi’n falch bod Elin wedi dod å hi i’m sylw.  Menyw oedd yn barod i sefyll am ei hegwyddorion er gwaethaf y teimladau cryf o wrthwynebiad o’i chwmpas.  Hoffais hefyd Gwaed ar y Ddalen gan Mair Rees.  Erthygl annisgwyl i mi.  Trafodaeth ddifyr o’r personol a’r man croesi gyda’r gwleidyddol.

 

Pwyswch yma i:

Brynu Tu Chwith

Tanysgrifio i Tu Chwith

 

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us