Llenyddiaeth ar y We #1
Pe bydde rhywun wedi gofyn i fi flwyddyn yn ôl – beth wyt ti’n ei wybod am lenyddiaeth ar y we? Siŵr braidd y byswn i wedi sôn fod nofel Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn i gyd i’w gael yma. Ond y gwir ydi, os ceisiwch chi ei darllen yn ei chyfanrwydd ar y sgrin, mae’n berryg y bydd eich llygaid yn troi’n sgŵar.
Dyna pam fod llenyddiaeth ar y we wedi gorfod addasu i’r cyfrwng.
Tybiaf fod attention span y syrffiwr we cyffredin yn para tua 3 munud. Mae’n debyg eich bod chi, ddarllenwr, eisoes wedi cael llond bol ar ddarllen y llith hwn ac wrthi’n aml-dasgio drwy sgwrsio ar facebook / edrych ar ddiweddariadau Twitter rhywun na fyse chi hyd yn oed yn ei gyfarch yn yr arhosfan fws.
Sylwch sut ‘dw i’n gorfod paragraffu mor aml – mae bloc o destun yn dychryn syrffiwr we. Sylwch ar wefan newyddion y BBC, er enghraifft. Does prin dair llinnell yn dilyn ei gilydd heb baragraff newydd. Yma am dameidiau o wybodaeth y maent – nid traethawd. A dyna hefyd pan fod angen lluniau – i gadw diddordeb. Coeliwch chi fi, mae gen i bethau gwell i’w gwneud na aros munudau bwy’i gilydd yn aros i lun lwytho ar y blog.
Felly sut mae llenyddiaeth wedi ei ddatblygu gyda’r we?
I ddechrau, mae pob un ohonon ni wedi troi yn storïwr. Mae pob diweddariad statws Facebook yn stori, pob Tweet – ac os ydyn nhw yn storïwyr gwael – yna ‘Cuddio’r Person Hwn’ neu ‘Unfollow’ amdani. Amser cinio, does gen i ddim amser i afael mewn clamp o nofel – felly dwi’n aml yn troi at Twitter, a darllen cegeidiau o straeon. Mae pawb yn hoffi cynulleidfa – ac mae’r we yn blatfform anhygoel.
Rhai o fy hoff gymeriadau ar Twitter yw rhai ffuglenol – fel y ffug Frenhines a Camilla Duges Cernyw. Mae rhywun yn esgus trydar o safbwynt y ddwy - gan ddweud pethau angrhedadwy a doniol. Mae’n amlwg mai ffug yw’r trydar, ond erbyn hyn – rwy’n eu darllen mor gyson nes i mi ddechrau dychmygu mai nhw ydyn nhw go iawn!

Yna mae llai o bwyslais ar gywirdeb, a iaith ddisgrifiadol – gyda’r pwyslais yn gwyro tuag at fod yn fachog a chryno. A fydd hyn yn arwain trend mewn llenyddiaeth oddi ar y we, hefyd? A oes testun pryder am ddyfodol cywirdeb gramadegol a iaith lenyddol?
Yn ddiweddar, roedd pump o ddeg llyfr uchaf y siartiau yn Japan yn lyfrau oedd wedi datblygu o’r ‘nofel ffôn symudol’. Nofelau byrion yw’r rhain a gaiff eu gyrru i ffonau dros negeseuon testun. Maent yn boblogaidd, gan fod pob pennod yr hyd perffaith i’w darllen rhwng gorsafoedd y tren tanddaearol ar y ffordd i’w gwaith.
Tybed a yw llenyddiaeth y we yn brysur fygu’r llenyddiaeth traddodiadol?
Beth ydi’r gorau gennych chi ar fws/trên – y we ar eich ffôn symudol, ynte nofel?
Trafodwch!



Mae’r nofelau ffôn symudol yn chwilfrydig. Mae’r testun yn fyrrach yn Japaneg – mae tair gwyddor gyda nhw, un darluniadol a dwy eraill gyda mwy o lythrennau na Chymraeg.