0
Dyfodol Tu Chwith
Rydym yn hynod siomedig i glywed nad yw’r Cyngor Llyfrau am gefnogi cylchgrawn Tu Chwith yn ariannol o hyn ymlaen. Dyma’r unig gyhoeddiad i bobl ifainc, gan bobl ifainc, a bydd yn ergyd fawr i’r rhai sydd am gyhoeddi am y tro cyntaf a meithrin hyder yn eu gwaith. Mae’n ergyd i ni hefyd am i’r penderfyniad gael ei wneud cyn i ni, fel golygyddion newydd, gael cyfle i gyhoeddi ein cyfrol gyntaf.
Mae llawer iawn o bobl wedi gweithio’n wirfoddol, i gadw’r cylchgrawn yma ar ei draed gan fod cyfran helaeth y grant yn mynd tuag at gostau cynhyrchu. Mae’n drueni bod y cylchgrawn, a gychwynnwyd o dan olygyddiaeth Dr Simon Brooks, ac a fu’n llwyfan i waith cymaint o lenorion ac academyddion blaenllaw dros y blynyddoedd, bellach yn wynebu dyfodol ansicr. Mae gennym lawer i’w gynnig i’r cylchgrawn ac rydym yn awyddus iawn i fynd ag ef i gyfeiriad newydd trwy gyhoeddi erthyglau difyr a ffres, trafodaethau deallusol blaengar ynghyd â gwaith creadigol arbrofol gan awduron ifainc o Gymru a thu hwnt, ond diwedd y gân yw’r geiniog…
Rydym ar hyn o bryd yn ystyried dyfodol y cylchgrawn ac yn ymchwilio i ddulliau eraill o gyhoeddi a rhoi llwyfan i waith gan bobl ifainc. Byddwn yn cyhoeddi’r rhifyn nesaf, Gwreiddiau, ym mis Mawrth 2012.
Y GOLYGYDDION
Elin Angharad Owen, Aberystwyth
Dr Rhiannon Marks, Caerdydd
