Riverside
Riverside
Stori fer gan Leusa Fflur Llewelyn
Cicio’n sodlau oeddwn i rywle yng nghyffiniau Riverside – yn teimlo piti dros fy hun, ‘swni’n bod yn onest. Ro’n i newydd symud o Lanuwchllyn i Gaerdydd, a’m cyd-letywyr wedi mynd i galifantio dros y penwythnos – a ‘ngadael i ymgyfarwyddo â’r ddinas fudr drwy fynd ar goll yn llwyr.
Chwilio am adre o’n i yn yr afon mae’n debyg, ond dydi’r Taf ddim yn cymharu â’r Ddyfrdwy. Mi arnofiodd colomen farw heibio ar wyneb llonydd y dwr – a pe bawn i’n fardd, mae’n siwr y byddwn i wedi cymryd hynny fel symbolaeth.
Wrth ymlwybro rhwng y coed a’r cachu ci, mi deimlais fy ffroenau yn llenwi ag arogl pupur du cryf. Cosodd y blew bach yn fy nhrwyn, anadlais yn ddwfn, a thisian yn aflafar nes bod ei adlais yn bownsio oddi ar Stadiwm y Mileniwm. Agorais fy llygaid a neidio mewn braw. O’m blaen, lle na fu corrach mewn het gogydd eiliad ynghynt – y safai corrach mewn het gogydd. Roedd ganddo un o’r potiau pupur enfawr rheiny – fel pot pupur cawr, a hwnnw bron yn dalach na’r gwr bychan hwn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi chwerthin yn uchel (o ran traw a swn) am ei ben. Peidiwch â fy nghamddeall – dydw i ddim fel rheol yn chwerthin ar gorachod, ond dyna ni.
“Pupur du?” holodd y corrach mewn llais anghyffredin o ddwfn, cyn troi a cherdded tuag at y tai gerllaw.
‘Dwi’n licio pupur du, ond ddim ar ei ben ei hun.
“Ydech chi’n coginio rhywbeth?” atebais yn obeithiol, wedi sylwi ‘mod i erbyn hyn yn llwglyd iawn, a heb fwyta tamaid ers fy nhost Marmite beunyddiol yn Llanuwchllyn ben bore, cyn symud i fyw. Ymlwybrais ar ôl y corrach, a thybiais i mi ei glywed yn mwmian rhywbeth am beidio ei alw yn ‘chi’.
Fe’i dilynais drwy ddrws coch – sy’n od gan mai dyna liw ein drws adref, ac er nad ydw i’n berson gor-deimladwy mi achosodd hynny ychydig o hiraeth. Ond lleddfwyd hynny’n ddigon buan gan i’m harchwaeth ddileu pob synnwyr arall wrth i arogl bwyd hyfryd lenwi fy ffroenau. Mewn stafell fechan dywyll, wedi ei goleuo gan oleuadau tylwyth teg, a chanhwyllau dychryn cacwn, yr oedd cynulliad o bobl o bob oed, maint, hîl a thras yn eistedd o amgylch gwledd. Nid te parti mohono – byddai hynny wedi bod yn rhy debyg i stori Alice in Wonderland. Ond yn hytrach, roedd yno lasagnes, sbageti bolognese, risottos, pysgod, pizzas, ac Orangina mewn poteli gwydr.
Eisteddais, a dilyn esiampl fy nghyfeillion newydd, a stwffio pob math o seigiau hyfryd i ‘ngheg, a drachtio o’r poteli Orangina fel petai ‘nhafod i wedi troi’n lwmp o halen. A chyn pen dim roeddwn i’n llawn, ac yn ymlacio fesul eiliad – cymaint felly nes i mi sylwi ar y tro cyntaf ar yr hen ddyn bach Asiaidd yn eistedd yn y gornel yn chwarae’r sitar. Roedd y nodau’n beryglus o hudolus, nes i mi ystyried a oedd yn ceisio bwrw rhywfath o swyn arnom gan ein bod oll bellach mor farwol o lonydd.
Ond swrth neu beidio, cychwynnodd yr ymddiddan – a phawb mewn tymer dda oherwydd y bwyd, a chwerthin yn adleisio drwy’r ty. Roedd pob unigolyn o amgylch y bwrdd yn aelodau newydd o’r gymdeithas. Ambell un o Ddwyrain Ewrop, un o Affrica, dau o Loegr, un o Abertawe.
Roedd gan Mulogo stori ddifyr am ei ymweliad â’r Sw yn Uganda pan oedd yn blentyn. Fe welodd o bengwin am y tro cyntaf, a heb feddwl dim, mi herwgipiodd y pengwin bach â’i guddio yn ei fag. Yn hwyrach yn y dydd, mi agorodd ei fag, ac roedd y pengwin wedi bwyta ei frechdanau!
Wrthi’n chwerthin yn meddwl am y pengwin llwglyd oeddwn i pan neidiodd y corrach mewn het gogydd o’r gegin a’i bot bupur yn ei ddwylaw uwch ei ben fel cleddyf.
“AHAAAAA” gwaeddodd yn fygythiol.
Yna’n ddirybudd, neidiodd yr hen wr yn y gornel i’r awyr – a chwifio’i sitar o amgylch ei ben fel lasw.
“AHAAAA!” gwaeddodd yntau’n gas.
Ac fel rhes o ddominos, fe neidiodd Agnieszka, Jakub, Kamil, Mulogo, Dave, Steve, a Bryn ar eu traed gan afael yn y peth agosaf atynt i’w ddefnyddio fel arf – fforc, baguette, potel Orangina wag. Roeddwn i wedi fy amgylchynu – a phawb yn chwifio eu harfau i’m cyfeiriad, ac yn gweiddi “AHAAAA!” fel môr ladron.
Roedd yr awyrgylch wedi newid, fel storm sydyn.
“Lladrad arfog yw hwn!” meddai’r corrach-gogydd. “Gwagia dy bocedi!”
Mi wagiais fy mhocedi yn drist, a’r unig bethau oedd gen i oedd £1.52 a hen restr siopa.
“Ai dyma oedd eich cynllun o’r cychwyn cyntaf?” gofynnais yn ddagreuol. Edrychais i fyw llygaid pob un o’m ffrindiau newydd, ond ildiodd neb. Roeddent wedi newid, a phob chwerthiniad a charedigrwydd wedi diflannu o’u hwynebau. Anodd credu fy mod wedi llyncu’r stori bengwin. Celwydd oedd y cyfan. Cerddais yn benisel tuag at y drws coch, a chredaf i mi glywed llais dwfn o’m hôl yn dweud wrthyf am beidio ei alw yn ‘chi’.

