Cyflwyno Tu Chwith
Cylchgrawn unigryw, bywiog a heriol yw tu chwith sy’n edrych ar y celfyddydau, diwylliant a’r byd o’n cwmpas. Fel yr awgryma ‘tu chwith’ allan mae gweld y byd’, y nod cyhoeddi ysgrifennu blaengar Cymraeg y Gymru ifanc, gyfoes. Mae tu chwith yn rhoi llwyfan i ysgrifenwyr ifanc neu unrhyw un sy’n meddwl tu allan i’r bocs.
Mae gan bob rhifyn o’r cylchgrawn thema wahanol sy’n ymddangos ddwywaith y flwyddyn, ac ymysg y themâu diweddar y mae ‘Dinas’, ‘Na!’, ‘Newid’ a ‘Map y byd’. Mewn rhifyn o tu chwith gallwch ddisgwyl ysgrifennu creadigol gwreiddiol gan awduron profiadol ac awduron newydd, erthyglau ac ysgrifau drwy lygaid amgen. Hefyd, cewch wledd o ddelweddau gan artistiaid ifanc o Gymru yn ogystal ag adolygiadau amrywiol.
Daw nifer o bobl ar draws tu chwith yn y chweched dosbarth neu’r brifysgol a cael eu hysbrydoli gan yr ysgrifennu newydd a heriol hwn yn y Gymraeg ac am eu Cymru nhw. Byddai cylchgrawn tu chwith hefyd o ddiddordeb i ddysgwyr sydd eisiau darllen deunydd bachog yn y Gymraeg.
Dechreuodd y cylchgrawn yn y 90au cynnar gan Simon Brooks a grŵp o fyfyrwyr yn Aberystwyth gyda’r bwriad o gyhoeddi ysgrifennu radical. Bydd lansiad gwefan newydd tu chwith yn parhau â’r ysbryd hwn – tuchwith.com – ac yn gymuned ar gyfer ysgrifennwyr ifanc yn llawn newyddion, cyngor wrth awduron profiadol, deunydd o’r archif a llawer mwy!
Ariennir tu chwith gan Cyngor Llyfrau Cymru
