Argraffiadau dwy o Deffro’r Gwanwyn
Manon Wynn Davies ac Angharad Thomas sy’n adolygu Deffro’r Gwanwyn, prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol.
Gynhyrchwyr cwmnïau annibynnol S4C, talwch sylw a chymerwch gyngor gan y Theatr Genedlaethol er mwyn dysgu beth yw safon. Wedi i sawl rhaglen wael gael ei darlledu gan S4C yn ddiweddar, ac rydw i’n prysuro i ddweud bod lle i ganmol ambell gyfres yn fawr, mae’n braf gwybod bod lle o hyd i droi at y theatr yng Nghymru os am adloniant o’r radd flaenaf.
Deffro’r Gwanwyn oedd prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol, a bu ar daith yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2011. Bu’r sioe ar daith unwaith yn barod, rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2011, ac yn dilyn ymateb hynod galonogol gyda neuaddau dan eu sang, roedd galw am i’r sioe ddychwelyd. Sioe gerdd roc yw hon â chast o dri ar ddeg, sy’n addasiad o ddrama Almaeneg Frank Wedekind o’r un enw, Frühlings Erwachen, a gyfansoddwyd rhwng 1890 ac 1891. Troswyd y ddrama yn sioe gerdd Saesneg ac fe’i llwyfannwyd ar Broadway yn 2006, gyda Lea Michelle, un o wynebau cyfarwydd y rhaglen deledu boblogaidd Glee, yn chwarae rhan un o’r prif gymeriadau. Yn sgil llwyddiant ysgubol yn Efrog Newydd, daeth y sioe i’r West End yn 2009, a bu dau Gymro yn rhan o gast gwreiddiol y cynhyrchiad hwnnw: Aneurin Barnard ac Iwan Rheon.
Cyfieithiad Dafydd James oedd cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, ac nid tasg hawdd oedd cyfieithu’r fath sioe. Gyda dwy haen wahanol i’r naratif, roedd iaith y ddeialog yn adlewyrchu cyfnod Piwritanaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef adeg cyfansoddi’r ddrama wreiddiol, tra bo’r caneuon yn perthyn yn nes i ddiwylliant roc a phop heddiw. Cadwodd Dafydd James enwau Almaeneg y cymeriadau sy’n ein hatgoffa’n gyson ymhle y lleolwyd y ddrama. Sioe yw hon am grŵp o bobl ifainc yn cyrraedd eu glasoed, ac felly er iddynt gydymffurfio ar yr wyneb gyda chymdeithas Biwritanaidd lem y cyfnod, mae’r caneuon yn rhoi cyfle iddynt fynegi’r dyheadau a’r teimladau na feiddient eu trafod yn agored nac yn gyhoeddus. Dyma sioe gerdd sy’n sicr yn gwthio ffiniau, hyd yn oed heddiw, gyda chymeriadau’r ddrama yn trafod rhyw, rhywioldeb a phob math o bynciau tabŵ: pethau a anwybyddid gan gymdeithas y cyfnod dan sylw. Gwelir hyn yn yr olygfa gyntaf wrth i gymeriad Wendla flino ei mam â’i holi diddiwedd am feichiogrwydd ei chwaer. Gwrthoda’r fam drafod gyda’i merch sut mae cenhedlu plentyn, ac mae hi’n anniddig iawn ynghylch chwilfrydedd Wendla. Cynrychiola Wendla chwilfrydedd y grŵp cyfan, ac mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod diffyg ymwybyddiaeth o faterion rhywiol gan y to ifainc. Y chwilfrydedd hwn law yn llaw â diniweidrwydd plant yw thema ganolog y ddrama.
Wedi inni glywed am lwyddiant taith gyntaf y cynhyrchiad, roedd y ddwy ohonom yn awyddus iawn i gael blas ar yr hyn a oedd wedi hawlio cymaint o sylw a chanmoliaeth. Felly aethom o Aberystwyth i Gaerfyrddin i weld y ddrama ddechrau Tachwedd. Gallwn ddychmygu bod gweld cymaint o gynulleidfa wedi ymgasglu yn rhyddhad i’r cwmni, ac yn profi mai cam doeth oedd dechrau ar ail daith. Wedi dweud hynny, nid oedd pob sedd wedi ei llenwi chwaith. Yn syth ar ôl dod allan o neuadd Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, roeddem wedi penderfynu’n barod ein bod eisiau gweld y ddrama eto! Ac felly y bu hi. Do, fe aethom ni’r holl ffordd i’r Trallwng er mwyn gweld Deffro’r Gwanwyn am yr ail waith, ond siom garw oedd gweld bod neuadd Canolfan Hamdden y Fflach yno yn hanner gwag.
Roedd hi’n drueni gweld bod cymaint wedi colli’r cyfle i weld cynhyrchiad a oedd o’r un safon â’r hyn a geir yn y West End yn Llundain; yn enwedig o ystyried bod nifer wedi methu â chael tocynnau yng Nghaerdydd gan fod y sioe mor boblogaidd. Mae perygl y bydd y niferoedd prin yn golygu y bydd y Theatr Genedlaethol yn cadw draw o’r ardaloedd hynny ar y ffin yr ystyrir eu bod yn fwy ‘Seisnig’ yn y dyfodol. Efallai nad oes cynulleidfa i’w denu yn yr ardaloedd hyn neu efallai y dylid gofyn y cwestiwn: pwy sy’n gyfrifol am farchnata a hyrwyddo digwyddiadau o’r fath? Byddai hi wedi bod yn werth cynnig tocynnau am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth yr ysgolion cyfagos, oherwydd ni fyddai’r cwmni wedi bod ar eu colled yn ariannol gan mai seddi gwag oedd yno fel arall. Mae’n amlwg i’r sioe ddenu ambell un na fyddai wedi mynd i weld cynhyrchiad Cymraeg fel arfer ac i’r cast ifainc fod yn rhannol gyfrifol am hynny hefyd; ond gallai hon fod wedi bod yn sioe i gyflwyno cenhedlaeth ifainc i’r theatr Gymraeg gyfoes.
Ni lwyfannwyd y cynhyrchiad hwn mewn theatrau confensiynol, ac wrth sylwi ar y llwyfan gwth oedd yn torri drwy’r gynulleidfa, roedd modd deall pam. Dyma ddewis mentrus o ran llwyfan, ac un a oedd yn gofyn am gyfarwyddo crefftus a gofalus. Wedi dweud hynny, llwyddodd yr actorion i ystyrieda chydnabod presenoldeb y gynulleidfa ar bob tu yn benigamp. Roedd y defnydd o’r set hefyd yn anturus ac yn hyblyg iawn: newidiodd o fod yn ystafell ddosbarth i fod yn llannerch mewn coedwig, o fod yn ystafell mewn tŷ i fod yn fynwent. Agorwyd rhan ar lawr y llwyfan i fod yn fedd, ac fe godwyd rhan arall er mwyn creu math o ogof oedd yn ein cyfeirio at fywyd y tu hwnt i farwolaeth. Doedd dim newid mawr yn y set ynddi ei hun ac yn aml fe ddefnyddiwyd cyrff yr actorion i gyfleu lleoliad; buont yn goed, yn rhan o eglwys ac yn feddau mewn mynwent.
Gydag wyth o’r cast wedi eu hyfforddi’n actorion yn Llundain, roedd ein disgwyliadau’n uchel, ac ni chawsom ein siomi. Roedd perfformiad y cast fel ensemble yn gryf, ond roedd ambell un yn serennu yn eu plith. Aled Pedrick oedd yn chwarae rhan Melchior, un o’r prif gymeriadau, a llwyddodd i gyfleu angerdd y geiriau yn berffaith. Roedd cymeriadu Iddon Jones fel Moritz hefyd yn bwerus, ac roedd yntau’n canu’n bwrpasol gyda chraster amrwd oedd yn addas ar gyfer y cymeriad. Cafwyd perfformiad addawol arall gan Sion Ifan, sef Georg; ac iddo ef y perthyn yr egni a’r brwdfrydedd mwyaf. Ni chafodd y merched gymaint o gyfle i ddangos eu doniau unigol, ond roedd perfformiad Zoë George (a actiai rhan Martha) yn drawiadol iawn yn yr olygfa a ddarluniai drais yn y cartref. Enw newydd arall oedd Ceri Lloyd, a chwaraeai un o’r prif gymeriadau, Wendla, ac roedd hithau’n llwyddo i’n swyno gyda’i llais.
Dau actor oedd yn cyflwyno holl gymeriadau’r oedolion yn y ddrama: Victoria Pugh, sy’n gweithio’n gyson gyda chynyrchiadau Theatr Clwyd, a Dyfed Thomas a ymddangosodd yn y gyfres deledu, Sombreros, ar S4C. Nid tasg hawdd oedd ceisio portreadu dros ddeg o gymeriadau rhyngddynt, ac yn anffodus tueddai’r cymeriadau i ymdoddi i’w gilydd gan mor debyg yr oeddent. Wrth gwrs, gallai hyn fod yn beth bwriadol ac mai’r nod oedd cyflwyno delwedd ystrydebol o oedolion y cyfnod mewn cymdeithas gyfyng a chul, er mwyn ei gyfrebynnu â bywiogrwydd a chwilfrydedd y bobl ifainc.
Trafodwyd pynciau dwys yn y ddrama hon: hunanladdiad, erthyliad, rhywioldeb a diffyg addysg ryw. Er mai plant, mewn gwirionedd, oedd y rhan fwyaf o’r cymeriadau, nid sioe i blant mo hon! Gyda golygfeydd rhywiol ac iaith gref, byddai wedi bod yn syniad rhoi rhybudd o flaen llaw neu gyflwyno cyfyngiad oedran. Lledodd llygaid ambell blentyn wrth weld Melchior a Wendla yn caru’n angerddol ar ganol y llwyfan a chafwyd ebychiadau o syndod gan wragedd hŷn a eisteddai yn un o’r rhesi blaen pan ddechreuodd Aled Pedrick ganu ‘Dwi’n F****d’!
Dyma sioe gerdd sy’n sicr yn dod â diwedd cyfnod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fyw heddiw ac mae hi’n cydio’n dynn yn ei chynulleidfa am ddwy awr dda. Er ei bod yn trafod pynciau llosg y cyfnod, nid yw’r tabŵs hyn yn bynciau trafod amlwg i ni’r Cymry heddiw mewn gwirionedd. Mae modd gweld y sioe hon fel un sy’n ceisio chwalu’r ffiniau parchus sy’n bodoli yn y gymdeithas Gymraeg, ac annog trafodaeth agored ar bynciau pwysig a all godi cywilydd neu beri chwithdod. Dyma lwyddiant arall i’r Theatr Genedlaethol, ac i Arwel Gruffydd fel cyfarwyddwr artistig newydd. Llwyddodd y cynhyrchiad a’r cymeriadau i ennyn gwên o gydymdeimlad bob hyn a hyn ac ambell ddeigryn hefyd.
Manon Wynn Davies, myfyrwraig MPhil, Adran y Gymraeg, Aberystwyth
Angharad Thomas, myfyrwraig MA, Adran Daearyddiaeth, Aberystwyth
Gwaith/Cartref – rhagflas o’r bennod gyntaf #rhagolygiad
Dr Michelle Davies sydd wedi gwylio’r bennod gyntaf ac yn rhoi rhagolygiad i wefan Tu Chwith.
Gwaith/Cartref: Mwy o’r Gwaith /Llai o’r Cartref
Mae cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan – Gwaith/Cartref gan Roger Williams – yn ddrama sydd â dwy ochr iddi. Ar y naill ochr gwelir criw o athrawon wrth eu gwaith bob dydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf, Caerdydd, ac ar y llaw arall gwelir yr un set o athrawon yn meddwi’n rhacs (dyna brif hanfod y bennod gyntaf, o leiaf) yn ystod eu hamser hamdden.
Y peth cyntaf ddywedaf i amdani yw bod y bennod gyntaf yn hwyl. Mae hi’n symud yn slic, yn llawn cerddoriaeth ffynci, gyda golygfeydd difyr a stori dda. Yn syml, dwi’n ei hoffi hi. Mae pawb wedi bod yn yr ysgol ac mae pawb yn cofio’r antics a’r helynt a fu tra’r oedden nhw yna, ac yn hynny o beth mae pawb yn gallu uniaethu gyda hanner awr gyntaf y ddrama – sy’n canolbwyntio ar fywyd yn yr ysgol.
Ond nid pawb sydd yn athro, ac nid pob athro sy’n yfed yn drom. Dyma lle gall y ddrama hon dramgwyddo. Mae’r ail hanner – sy’n canolbwyntio ar fywydau cymdeithasol yr athrawon – yn cael ei ganoli yn y bennod gyntaf o amgylch yfed, rhyw a ffraeo plentynnaidd. Mae apêl amlwg yma at bobl ifanc a’r ifanc eu hysbryd ond da chi, peidiwch â gwylio os ydych chi’n athro cydwybodol sydd wedi cael llond bol ar bobl yn awgrymu eich bod chi gyd yn alcis – wneith y ddrama hon ddim lles i’ch ‘enw da’. Yr argraff gyntaf a geir o’r prif gymeriadau yw eu bod naill ai’n yfed gormod, yn ddifywyd neu wedi colli eu marblis yn llwyr!
Fel pennod gyntaf, roedd y gymysgfa o gymeriadau yn esgor ar ddeunydd dramatig effeithiol. Nid gor-ddweud bysai awgrymu mai cymeriadau ystrydebol yw’r athrawon ar yr olwg gyntaf – pawb yn ffansïo’r athrawes chwaraeon, athrawes gelf sy’n artist tlawd, athro Cymraeg sy’n cywiro iaith pawb, athro daearyddiaeth ar ego trip, athrawes ganol oed sydd ar drothwy chwalfa nerfol a phrifathro sydd â’i fryd ar gadw enw da’r ysgol yn hytrach na diswyddo athrawon gwael. Rhaid peidio anghofio’r myfyriwr druan ar ei brofiad ymarfer dysgu sy’n ymdebygu at oen yn mynd i’r lladd-dy wrth wynebu dosbarth afreolus blwyddyn 9. Defnyddir yr elfennau adnabyddus hyn mewn athrawon i greu hiwmor a drama ac mae’n anodd peidio dechrau hel atgofion am eich cyn athrawon wrth adnabod y nodweddion cyfarwydd yn eu cymeriadau. A dyna lwyddiant y ddrama hon – bron. I mi, nid yw ail hanner y ddrama yn cydio cymaint wrth i’r canolbwynt fod ar noson gyri heb anghofio’r llond bolied o win a chwrw yn bwdin.
Er bod y rhyngweithio rhwng y cymeriadau’n taro deuddeg afraid dweud bod y ffocws ar or-yfed yn ffordd hawdd i greu drama heb orfod dyfeisio sefyllfaoedd cymhleth er mwyn gosod seiliau ar gyfer gwrthdaro. Yn hynny o beth, gallaf ond gobeithio y bydd mwy o ddychymyg yn ail haneri’r penodau nesaf neu bydd gwylio criw o athrawon yn meddwi, bachu a chwympo mas yn siŵr o ddiflasu rhywun.
Braidd yn rhyfedd oedd sylweddoli bod dau o’r cymeriadau yn adnabyddus i’r gwylwyr eisoes. Roedd Emyr Tomos a Sara Harris yn gymeriadau yn y ddrama Caerdydd a oedd yn gweithio fel athrawon yn y gyfres honno. Dydw i ddim yn gweld union bwrpas defnyddio’r cymeriadau hyn gan ein bod eisoes yn gyfarwydd â’u hang-ups personol ac wedi meddwl ein bod ni wedi gweld cefn ar Emyr a’i Life Rules ond ysywaeth mae e’n ôl gydag Irritating Lodger Facts - mae’n rhannu fflat gyda’r cyw fyfyriwr diniwed sy’n ffan o gerddoriaeth Dafydd Iwan.
Er mor hoffus oedd perthynas Emyr a Sara yng nghyfres Caerdydd nid ellir rhagweld y bydd y ddau gymeriad yn ychwanegu unrhyw beth newydd at Gwaith/Cartref, braidd yn llac oedd peidio dechrau o’r newydd gyda chymeriadau newydd ac mae’n anodd dychmygu pam y digwyddodd hyn o gwbl. Ar ben y cyfan, roedd yr actor sy’n chwarae rhan Dan yr athro Daearyddiaeth yn chwarae rhan Danny yn Caerdydd – oni wnaeth Peter a Kate gladdu Danny wedi i Kate ei lofruddio?! Ydi e’n mynd i ddod yn ôl yn farw-fyw?! Os ydych chi’n bwriadu cadw dau gymeriad o Caerdydd allwch chi ddim gwneud camgymeriad fel hyn wrth gastio cymeriadau eraill. Rhyfedd iawn.
Ar y cyfan roedd y bennod agoriadol yn diddanu ac yn sicr yn denu rhywun yn ôl i wylio mwy. Mae’r cysylltu geiriau rhwng y dosbarthiadau yn wych ac yn sicrhau arddull gyfoes, feistrolgar. Nid oes angen sôn am y penderfyniad i gastio gog (Rhian Blythe) fel hwntw er mor agos yw hi at lwyddo i basio fel un, ond mae gan ei chwaer Beca (Hannah Daniel) acen wahanol iddi ac mae pethau bach fel yna’n gwneud gwahaniaeth i bobl fel fi sydd angen i bob manylyn fod yn ei le er mwyn cael fy argyhoeddi. Ond fel ddywedais i, nid oes angen sôn am hynny. Os ydych chi awydd gwylio rhywbeth ysgafn wneith roi gwên ar eich wyneb, gwyliwch y gyfres hon. Mae hi’n llawer gwell na lot o’r stwff sydd wedi dod mas o stabl S4C yn ddiweddar, gydag ymdrech go lew i symud gyda’r oes ac apelio at wylwyr ifanc, gyda hanner gyntaf y bennod agoriadol yn arbennig o dda. Mae ganddi’r potensial i fod yn wych…croesi bysedd iddi wireddu hynny a chanolbwyntio fwy ar y golygfeydd yn y gwaith a llai ar y meddwi a’r cartref, mae ail gyfres ar ei ffordd waeth beth fydd barn y gwylwyr, felly gobeithio am y gorau amdani.
Dr Michelle Davies
Adolygiad o The Devil Inside Him (John Osborne) National Theatre Wales
Adolygiad gan Menna Machreth
Brwydr unigolyn yn erbyn crefydd y dydd yw un o’r pethau rydyn ni’n credu ein bod yn deall yn ein hoes ni, ond dwi’n amau’n fawr ein bod ni. Thema gyffredin yw dangos gorthrwm cymdeithas ar ryddid ac ewyllys yr arwr, ond yr un yw’r peryglon o grefyddoldeb, boed yn seiliedig ar grefydd sefydliadau crefyddol fel y ddrama hon, neu arian, delweddau perffaith, sefydliadau gwleidyddol neu seciwlariaeth. Roedd llais Huw Prosser a oedd yn erfyn am anadl wrth iddo fygu yn ei gymdeithas anoddefgar yn annog meddwl am leisiau coll ein cymdeithas ‘blwralaidd’ heddiw. Dyma un o’r rhesymau nad yw’r ddrama wedi dyddio fel y credai nifer o fynychwyr y Theatr Newydd, Caerdydd ar Fai’r 11eg.
Denodd y ddrama gryn sylw oherwydd dyma’r eildro erioed iddi gael ei chynhyrchu ers ei ysgrifennu ym 1948 ac mae’n siŵr fod y National Theatre Wales newydd yn meddwl bod pob Nadolig wedi dod ar unwaith gan fod y ddrama wedi ei lleoli rhyw ddeg milltir tu allan i Abertawe. ‘Don’t Look Back in Anger’ yw drama byd-enwog John Osbourne am y dyn ifanc cynddeiriog, ac roedd gwreiddiau hwnnw i’w weld yng nghymeriad Huw Prosser. Cafodd ei darganfod yn archifau’r Arglwydd Chamberlain yn y Llyfrgell Brydeinig yn 2008 ar ôl gwaharddiad hir rhag ei pherfformio. Roedd gan John Osborne gysylltiadau cryf â Chymru oherwydd Cymro oedd ei dad, a’r darlun o’i fam-gu a garai emynau a’i athro Ysgrythur o Gymru a arweiniodd iddo ysgrifennu yn ei hunangofiant: ‘I assumed that being Welsh and believing in God were the darkest heart of religion. It was easy to imagine God with a firmament South Wales accent, whereas Jesus might easily come from Surrey.’
Cydiodd y perfformiad o’r cychwyn yn bennaf oherwydd yr actio ystyrlon o’r safon uchaf ac a ddangosai ôl meddwl caled ynghylch taith y cymeriadau yn ystod y ddrama. Roedd portread Rachel Lumberg o’r Mrs Evans llawn clecs a barn am bawb a phopeth yn siŵr o osod haenen ychwanegol o Gymreictod lliwgar ar y sgript; cymaint y llwyddodd i ddwyn doniolwch i’r ddrama fel y chwerthynai’r gynulleidfa wrth dybio i’w hymateb hi i ddigwyddiadau erchyll y ddrama. Roedd Jamie Ballard yn effeithiol fel Burn sef llais cydymdeimlad, a llwyddodd i ddenu’r gynulleidfa ar y daith o rwystredigaeth tuag at agwedd cymdeithas y pentref at Huw Prosser, tra perfformiodd Catrin Stewart cymeriad Dilys yn dawelach nac y disgwylwyd. Gellir edmygu portread Derek Hutchinson am beidio â gadael i’r tad, Mr Prosser, lithro i’r ystrydeb o dad llym a welir yn y script yn enwedig pan rhuthra i mewn i amddiffyn ei fab rhag y brwmstan y gweinidog ar ddiwedd Act 1 (er y mae’n bosib fod hynny’n y sgript). Llwyddodd Helen Griffin i ddehongli perthynas y fam a’r mab yn ingol wrth iddi edrych yn ôl ar ei mab cyn gadael y tŷ fel pe bae’n gwybod na fyddai’n derbyn dealltwriaeth wrth neb arall. Roedd disgwyliadau mawr ar ysgwyddau Iwan Rheon wedi ei lwyddinat yn y West End yn ddiweddar ond llwyddodd i gyfleu ankst dynol Huw Prosser er ei fod yn rhy awyddus i bortreadu’r dyn ifanc cythryblus ‘Don’t Look Back in Anger’ ar ddechrau’r ddrama, ac yn sicr fel lwyddodd i wneud y mwyaf o iaith dreisiol y ddrama. Yn wir, byddai’n ddifyr edrych ar daith Huw Prosser i ganfod ei ewyllys ei hun ochr yn ochr â chymeriadau John Gwilym Jones yn ‘Ac eto nid Myfi.’
Rhaid canmol set gwych, yn enwedig y cloc yn tician yn ddisgwylgar (fel Dr Faustus), a galluogodd agor y nenfwd ar ddiwedd y ddrama i ddatgelu grisiau at y gwynt nerthol a ysai Huw Prosser i’w brofi, gan rhoi terfyn gafaelgar i’r ddrama a allai wedi gorffen yn fflat fel arall. Rhaid dweud efallai nad oedd y cynhyrchiad wedi chwarae digon â’r syniad o ‘ddiafol’ fel yr awgryma’r teitl; byddai ystyried faint o ddrygioni oedd yng nghymeriad oedd yn Huw Prosser a faint o ddylanwad y gymdeithas o’i gwmpas a’i arweiniod i’r erchylltra a gyflawna ar ddiwedd y ddrama. Wedi’r cyfan, ar ddechrau’r ddrama mae Huw Prosser yn disgrifio lladd mochyn sy’n rhagfynegi diwedd Dilys y forwyn wyrdroedig, ond mae diwedd y ddrama yn anwybyddu hynny’n llwyr.
Cafwyd perfformiad llwyddiannus iawn gan roi golwg i ni ar ddrama â themâu oesol o beryglon deddfoldeb credoau yr oes ar gymdeithas, ac rwy’n siŵr fod y National Theatre Wales yn edrych ymlaen at ymweld eto â’r cyfnod hwn yn hanes Cymru yn ddyfnach ac mewn ffordd llai ystrydebol na’r ddrama hon.





