Taith Geometreg o gwmpas Ynys Llanddwyn gydag artist ac awdur
Dydd Sadwrn, Mawrth 19eg, bu’r Siân Green (artist gweledol) a Branwen Huws (awdur) ar daith o gwmpas traeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn i ddysgu mwy am geometreg yr ardal. Mae’r ddwy wedi eu comisiynu gan Tu Chwith i greu darn o waith yn ymateb i’r hyn a welsant ar y daith ar gyfer y gyfrol nesaf a fydd yn ymddangos yn fuan iawn, ar y thema yw ‘Gwyddoniaeth’. Y llais a glywch ar y fideo yw Menna Machreth, golygydd Tu Chwith.
Cyfweliad â Pete Telfer
‘‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill’ meddai’r gerdd, ond cred Pete Telfer y mae’n bosib ein bod ni ar drothwy rhyw fath o symudiad os meddianwn y we. Dyna’r meddylfryd tu ôl i’w brosiect newydd, gwefan Y Wladfa Newydd (Culture Colony). Fe gefais i’r cyfle i fynd i’w holi am y prosiect (ei gyfweliad cyntaf amdano) yn ei gartref ym mhentref hyfryd llun-cerdyn-post Esgairgeiliog, ger Machynlleth. Bydd ffilm fer gan Pete Telfer, Datblygu 2008, yn ymddangos ar DVD arbennig sy’n cael ei gyhoeddi gan Pictiwrs a tu chwith; bydd y DVD o ffilmiau byr annibynnol ym mhob copi o gyfrol newydd tu chwith a gaiff ei gyhoeddi yr wythnos hon.
Cynhyrchydd ffilm a ffotograffydd yw Pete Telfer sydd yn enwog am ei awydd i ddogfennu ac i ddweud stori. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n ffilmio bandiau o’r Sin Roc Gymraeg gan ddilyn bandiau fel Yr Anrhefn (band pync) ar deithiau i Wlad y Basg – y band Cymraeg cyntaf i fynd ar daith dramor a chanu’n Gymraeg – oherwydd gwyddai cyn bwysiced oedd cofnodi’r hanes hynny ar ffilm.
Wrth i frwdfrydedd Pete am Y Wladfa Newydd godi chwilfrydedd ynghylch y prosiect hwn, daw’n amlwg mai ei awydd i ddweud stori sy’n dal i gymhell Pete Telfer – a bod y cyfuno hwnnw ynghyd â phosibiliadau’r we yn mynd i arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol.
‘Y syniad tu ôl i’r Wladfa Newydd yw cynnig rhywbeth gwahanol i’r teledu,’ meddai Pete Telfer. ‘Cynnwys diwylliannol sydd ar y wefan. Gall artistiaid rhoi eu syniadau ar y wefan ac yna gall pobl sy’n edrych ar y wefan ddilyn taith y syniad i’r darn o gelf gorffenedig – dilyn syniadau tra bo pethau’n cael eu creu.’
Dyma arf newydd i’r artist, felly. Dywed Pete fod digon o wefannau rhwydweithio ar gael ar gyfer artistiaid yn barod: ‘Nid facebook arall yw hwn ar gyfer artistiaid, byddwch chi ddim yn gallu taflu peli eira neu ddefaid at artistiaid. Y pwrpas yw creu offer creadigol newydd ar gyfer artistiaid i rannu’r broses o greu eu gwaith.’
Un o’r artistiaid sydd wedi gafael yng ngweledigaeth Y Wladfa Newydd yw David Nash, artist o Flaenau Ffestiniog. Gweithia David Nash â choed mawr iawn a bu Pete yn ei ffilmio ers 1996. Mae Pete wedi rhoi llawer o’r ffilm hynny ar y wefan er mwyn dangos gwaith David Nash yn tyfu – yn llythrennol – dros y blynyddoedd. Mae lluniau a ffilmiau o gerfluniau coed gan David Nash yn ystod y camau cynharaf o’u gwneud yn Cincinnati ar y wefan; yna cofnod o’r pren yn cael ei dorri a’r offer arbennig a ddefnyddiwyd i wneud hynny; ynghyd â cofnod o symud y gwaith i Ascot a sut y llwyddwyd i wneud hynny heb ddifrodi’r cerflun. Gan ei fod yn gweithio â choed, mae nifer o ddarnau gan David Nash yn waith sydd wedi ei gynllunio i dyfu dros amser felly mae’r ffilmiau a’r lluniau ar y wefan yn cofnodi’r tyfiant a datblygiad y gwaith. Felly, gall pobl sy’n ymweld â’r wefan weld y stori tu ôl i’r darn terfynol o gelf a welant yn yr oriel.
Dywed Pete Telfer: ‘Mae artistiaid yn gweld y safle we fel added value. Gall pobl weld y gwaith yn datblygu ac mae galeriau yn gweld gwerth yn y cofnod hwnnw – y cefndir sydd wedi arwain at y darn o gelf gorffenedig.’ Mae’r wefan yn galluogi’r artist i ddweud y stori wrth i’w waith deithio i Chicago, Sbaen, yr Almaen a thu hwnt. Yn ôl Pete mae’r ffilm sy’n adrodd stori’r celf o’r syniad i realiti yn golygu ein bod yn cael profiad agosach o waith yr artist.
Nash Chicago gan Pete Telfer
Arddangosodd David Nash ei waith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala a’r Cyffiniau y llynedd, ac un o’r cerfluniau oedd ‘Wooden Boulder.’ Taflwyd y darn hwn o gelf i’r afon, ac fe ddangoswyd ffilm ger y cerflun yn dangos David Nash yn mynd i chwilio am y cerflun yn yr afon rhai blynyddau’n ddiweddarach. Oherwydd fod modd i’r gynulleidfa weld datblygiad y gwaith a dod i berthynas ag e’, roedd eu cysylltiad â’r cerflun o’u blaenau’n gryfach. ‘Roedd hi’n brofiad i weld pobl yn cerdded o gwylio hanes y cerflun hwn oedd o’u blaen yn y ffilm, a’u gweld nhw’n troi’n emosiynol iawn o weld y cerflun yn teithio i fyny ac i lawr yr afon,’ meddai Pete Telfer.
Y profiad mae defnyddwyr y wefan yn ei gael o ddod wyneb yn wyneb â’r celf ar-lein sy’n mynd at wraidd prosiect Y Wladfa Newydd. Mae’r wefan yn galluogi unigolion i ddod yn nes at y gwaith a phrofi’r gwaith fel mae’r artist ei eisiau yn ôl Pete. ‘Mae edrych ar y teledu yn rywbeth ‘passive’ iawn,’ meddai. ‘Maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth yn y cefndir er mwyn eich gwneud i deimlo mewn ffordd arbennig, ond efallai nad dyna’r profiad yr oedd yr artist wedi ei fwriadu i chi ei gael. Rydych chi’n profi’r un peth ag y mae miloedd o eraill yn ei brofi. Mae mwy o ryddid gen i fel gwneuthurwr ffilm na pe bawn i’n gweithio i’r teledu. Dwi’n osgoi defnyddio cerddoriaeth er mwyn i’r defnyddiwr gael profiad unigryw o’r celf. Y gobaith yw y bydd defnyddwyr y wefan yn dod yn fwy agos at y gwaith ac at y person sy’n gwneud y gwaith.’
Bu Pete ei hun yn gweithio i raglenni celf ar gyfer y BBC, HTV ac S4C. Tyfodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl mynychu coleg celf. Mae’n dweud mae’r hyn oedd yn ei ddenu at ffotograffiaeth oedd bod llun yn gofnod o amser a’i fod yn hoffi sut y gellid dweud y stori mewn un llun. Datblygodd ei ddiddordeb mewn fideo a theledu; ei nod unwaith eto oedd cofnodi a dweud y stori ‘mor wir ag sy’n bosib.’
Yn ogystal â rhoi llwyfan i’r gwaith, mae ffilmio’r gwaith celf yn gofnod i’r artist. Pe bae’r artist yn ddigon lwcus i gael slot ar raglen deledu nid yw’r teledu’n gallu cyfleu y gwaith yn ddigonol. Yn ddiweddar, bu Pete Telfer yn ffilmio darn o waith gan Katherine Ashill o’r enw ‘Sws’ lle roedd hi’n aros yn llonydd drwy’r dydd ac yn gwahodd pobl i wisgo minlliw a rhoi cusan iddi rhywle ar ei gwisg wen. Gan ei fod yn ddarn dros amser hir ni fyddai wedi gallu cael ei gyfleu’n llwyddiannus ar y teledu. Gellir gweld sawl ffilm o gerddoriaeth fyw ar y wefan hefyd, fel Bob Delyn a’r Ebillion mewn gŵyl ym Machynlleth, a nod Pete bob tro yw ceisio cyfleu ar ffilm y profiad o fod yno: ‘Mae’n wahanol i deledu,’ meddai. ‘Mewn darn i deledu, bydd cyfweliad â’r artist yr un pryd â dangos y darn celf. Ar wefan Y Wladfa Newydd rydym ni eisiau cyflwyno’r darn drwy ffilm neu ffotograff y ffordd roedd yr artist eisiau iddo gael ei gofio.’
Mae Pete Telfer wedi cadw llawer o’r ffilmiau a gynhyrchodd o’r Sin Roc Gymraeg ers yr 80au, ond ni wyddai beth i wneud â’r silffoedd a’r silffoedd o dapiau. Offer syml oedd ganddo ond roedd yn gweld gwerth mewn cofnodi’r mwynhâd. Mae fel pe bai ei syniadau dros y blynyddoedd yn dod at ei gilydd nawr yn Y Wladfa Newydd. Mae Pete yn feirniadol nad yw celf yn cael ei gyflwyno’n iawn ar y teledu, ond serch hynny, gwêl arwyddion o fwrlwm yr 80au yn ôl yng Nghymru. A yw hi’n beth da bod artistiaid yn dibynnu llai ar y teledu? ‘Mae cyn lleied o gelf ar y teledu. Ond dwi’n teimlo cynnwrf ar hyn o bryd sy’n debyg i gyfnod Yr Anrhefn. Efallai bod hi’n dda bod teledu’n osgoi diwylliant. Mae’r teledu’n tueddi i roi popeth mewn bocs a gwneud pethau’n saff, a colli bwriad yr artist. Weithiau mae’n well i’r celf aros yn danddaearol. Mae’n gyffous gweld grwpiau o artistiaid yn dod at ei gilydd i arbrofi, fel Framework, Blaengar a Chymdeithas y Rhyfeddod. Mae angen i ni ddibynnu llai ar grantiau, nid fy mod i’n erbyn grantiau ond mae’r fiwrocratiaeth yn ddrwg. Dyna pam dwi’n ceisio cael pobl i danysgrifio i’r Wladfa Newydd.’
A oes peryg i’r defnyddiwr gael ei ddrysu gan gymaint y deunydd artistig ar y we? Sut mae barnu beth sy’n dda a beth sy’n wael – pwy sy’n cynnig arweiniad? ‘Ni’n gobeithio bydd pobl yn dod â barn adeiladol i’r wefan, yn gadael eu sylwadau ac yn trafod. Pwrpas beirniadaeth yw datblygu gwaith.’
Mae Pete Telfer hefyd ynghlwm â threfnu arddangosfa Yr Hen Tanerdy ym Machynlleth, sef gofod er mwyn i artistiaid newydd i arddangos eu gwaith ac i artistiaid eraill i arbrofi a dangos gwaith nad yw’n orffenedig eto. ‘Mae’n ffordd i artisitiaid i ysbrydoli ei gilydd. Os ydyn nhw’n styc gyda syniad, gallan nhw ddod o hyd i artist arall i gydweithio â nhw i weithio’r syniad yn ei flaen. Rhaid meddwl yn greadigol am y ffordd ni’n gweithio mewn cyfnod ariannol anodd. Ond fel sydd wedi digwydd yn nirwasgiadau’r gorffennol, y diwydiant creadigol yw’r olaf i fynd mewn i recession a’r cyntaf i ddod allan o’r recession. Mae pobl yn gweld fod celfyddyd yn gwneud lles i fywyd y genedl.’
Mae’r wefan yn cael ei defnyddio eisoes gan orielau celf. Gall orielau ddefnyddio’r wefan i weld mwy o waith yr artistiaid ac mae rhai wedi eu comisiynu o ganlyniad i’r gwaith mae orielau wedi gweld ar y wefan.
Yn ddiweddar, arddangosodd Pete Telfer gasgliad o luniau yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Enw’r casgliad yw ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ sy’n cynnwys delweddau o ddiwedd y mileniwm o wal Berlin i grwpiau Cymraeg. ‘Doeddwn i ddim wedi gweld y lluniau ers y 1990au’, meddai Pete. ‘Dim ond dwy frawddeg o esboniad gallai’r Oriel roi o dan bob llun, ond fe wnes i ysgrifennu paragraffau hir wrth i’r atgofion dod yn ôl. Fe wnes i roi y lluniau a’r paragraffau hynny ar y wefan, ac roedd hynny’n annog pobl i fynd i weld y gwaith yn y galeri.’
Gan fod Pete Telfer wedi cyfrannu i DVD Pictiwrs/tu chwith o ffilmiau byrion, pa fath o gyngor fyddai e’n ei roi i gynhyrchwyr ifanc? ‘Beth bynnag chi’n ei ffilmio, rhaid i chi fod yn gyfforddus a rhaid i’r person chi’n ei ffilmio fod yn gyfforddus. Er mwyn dogfennu’r gwir, rhaid i bawb fod yn gyfforddus gan gynnwys eich gallu chi â’r camera – yna fe fydd y ffilmiau’n gwneud eu hunain.’
Wrth yrru o bentref tawel Esgairgeiliog sylweddolais nad pentref cyffredin mohono – oherwydd ar gyrion y pentref mae Canolfan Technoleg Amgen Machynlleth sy’n enwog am ei flaengarwch ynghylch cynaliadwyedd. Dyna ddangos mai nad mewn metropolis o flaen o flaen camera mae newid y byd, ond unrhyw lecyn sy’n eich ysbrydoli i ddefnyddio’ch dychymyg!
Diolch i Pete Telfer am ei amser.
Y Wladfa Newydd / Culture Colony: http://www.culturecolony.com/
Bydd ‘Datblygu 2008’ gan Pete Telfer ar DVD Pictiwrs/tu chwith yng nghyfrol 32: Mapio’r Byd.
Arddangosfa project/ten, Caerdydd: map Debbie Smyth ac adolygiad Cynan Llwyd
Mae map unigryw wedi ymddangos yng Nghaerdydd yr wythnos hon mewn arddangosfa newydd gan project/ten. Gallwch ddarllen isod adolygiad Cynan Llwyd o’r arddangosfa ar gyfer gwefan tu chwith.
Aeth Debbie Smyth, artist tecstiliau, ati i fapio’r byd gan ddefnyddio nodwyddau ac edau. Yr effaith yw fod y nodwyddau yn diffinio siâp tirlun y byd, fel pe bai rhywun wedi eu gosod yno dros dro ond heb allu dod yn ôl i winio’r cyfan at ei gilydd. Mae’r map wedi ei osod mewn bwrdd coffi (isod) sy’n addas iawn o ddychmygu pobl yn cynllunio newid y byd o gwmpas y bwrdd.
Mae’r gwaith o lunio’r edau yn fanwl a chymhleth ac yn arbrofi â’r syniad o linellau – sut mae llinellau un deimensiwn (fel rhai wedi eu tynnu â phensil) yn ymddangos yn wahanol o’u dylunio â deunydd.
‘Mapio’r Byd’ yw thema’r rhifyn nesaf o gylchgrawn tu chwith a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan ac felly diolch i project/ten am ddanfon y delweddau hyn atom ni (tanysgrifiwch yma er mwyn ei dderbyn drwy’r post).
Gellir gweld arddangosfa project/ten yn y Cardiff Arts Institute ar hyn o bryd (Mawrth 22-Ebrill 12). Mae’r lansiad yfory, Dydd Gwener Mawrth 26ain, am 7pm. Isod mae adolygiad gan Cynan Llwyd o’r arddangosfa gyfan.
Adolygiad o arddangosfa project/ten @ Cardiff Arts Institute
gan Cynan Llwyd
Menter newydd gyffrous yw project/ten sydd wedi bodoli ar-lein ers rhai misoedd. Creu oriel gelf a chynllunio cyfoes yw bwriad y trefnwyr Catrin ac Andy Gardener, pâr priod ifanc, y ddau’n byw ac yn ymwneud â diwylliant unigryw a dyrchafol Caerdydd. Tan Ebrill 12fed mae’r Cardiff Arts Institute wedi rhoi gofod i’w arddangosfa ‘pop-up’ sydd yn cynnwys gwaith deg artist – pob un â chysylltiadau Cymreig.
O, na! Artistiaid Cymreig?
Mynyddoedd? Llynoedd? Salem? Ffermydd? Graffiti Gwleidyddol?
Na. Dim o gwbl.
Mae’n amlwg fod Catrin ac Andy wedi cal llond bol ar orielau hen ffasiwn Caerdydd nad ydynt yn llwyddo i adlewyrchu egni a bwrlwm ein prifddinas ifanc.
Artistiaid ifanc sydd yn anelu at ddenu cynulleidfa ifanc y cawn yma. Er bod sawl galeri yng Nghaerdydd, nid oes un yn rhoi’r fath lwyfan i gelf gyfoes, ond dyma amcan project/ten, ac mae hyn i’w groesawu.
Gwelwn arddangosfa sydd yn dangos doniau a thalentau amlwg. Mae’r gweithiau yn drawiadol, yn hardd, yn hyll, yn llawn egni ac yn wych. Ceir arlwy eang; o bortread Huw Aaron o’r dramodydd Samuel Beckett i bedwarawd coch Jon Oakes sy’n hoelio eich sylw’n syth ar waelod y grisiau ac yn gosod safon uchel go gyfer gweddill yr arddangosfa.
Does dim rhaid poeni am undonedd chwaith. Mae pob artist wedi cael rhwydd hynt i amlygu eu doniau unigol, o waith olew ar ganfas i frodwaith.
Cyn gorffen, rhaid dweud gair am y lleoliad mae’r arddangosfa wedi ei ddewis, sef y ‘sefydliad’ newydd yng nghysgod Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Yn ôl maniffesto’r Cardiff Arts Institute, mae’r lleoliad yn gantîn, yn glwb cymdeithasol ac yn ystafell gerddoriaeth. Mae’n le, yn ôl pob sôn, i archwilio gweledigaethau creadigol ac i wthio ffiniau beth y mae’n ei olygu i fyw, gweithio a chwarae yng Nghaerdydd – neu rhywbeth fel yna. Mae eu gwefan yn ein gwahodd ni, y werin, i gymryd rhan yn yr antur fawr â cherddorion, beirdd, artistiaid, meddylwyr (dydw i heb gweld Dr Simon Brooks yno eto), digrifwyr, DJs a phob math o berfformwyr.
Ond mae yna broblem. Mae’r holl beth yn drewi o rodresgarwch!
Mae gan y perchnogion lygaid da, does dim dwy waith am hynny. Mae’r addurn, y celfi ail-law a’r wal lego (ie, wal lego!) yn edrych yn anhygoel ac mae naws hamddenol braf i’r lle. Does dim rhaid poeni am dywallt eich diod dros chav ac wynebu’r goblygiadau, oherwydd, fel mae’r gwefan yn ei ddweud, mae’n hafan i bobl sy’n ‘rhannu’r un meddwl’, ac yn ysbryd y lle, gwahaddwn y chav i fynegi’n greadigol ei ankst drwy greu celf o’r hylif ar y llawr.
Ond wrth gwrs, mae yna broblem arall. Maent yn galw ei hunain yn sefydliad. Dyma beth yw honiad dewr!
Er mwyn cyfiawnhau’r enw hwn rhaid iddynt ymroi eu holl egni i hyrwyddo artistiaid o’r radd flaenaf, ond yn sicr mae’r arddangosfa hwn yn gam i gyfiawnhau’r enw.
Blaengar yw’r ansoddair gorau i ddisgrifio project/ten, y ddau arweinydd, a’r deg artist. Mae’n chwa o awyr iach ac wedi peri i mi fod yn gyffrous am gelf da unwaith yn rhagor.
Llongyfarchiadau Mr a Mrs Gardner, a llongyfarchiadau chi artistiaid.
Mae Cynan Llwyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r Gymraeg. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, llên a chelf.
Os hoffech chi roi adolygiad/ysgrif/ gwaith creadigol ar wefan tu chwith e-bostiwch Menna: tuchwith@googlemail.com
Cofiwch am ein cynnig arbennig tan Fawrth 28ain i danysgrifio i gylchgrawn tu chwith a derbyn y rhifyn nesaf – ‘Mapio’r Byd’ – drwy’r post…




