0

Cyfweliad â Hywel Griffiths #tuchwith34

Comisiynwyd Hywel Griffiths i greu cerddi ar gyfer rhifyn newydd cylchgrawn Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’.  Gofynwyd iddo gydweithio â Rowan O’Neill ac ac ysgrifennu cerddi fel ymateb i’w hymchwil hi ar fapio dwfn. Dyma gyfweliad å Hywel Griffiths er mwyn rhoi mwy o gefndir i’r cerddi.

Hywel Griffiths

 

Mae Hywel Grffiths yn ddarlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n byw yn Nhalybont, Ceredigion.

 

 

 

 

 

 

1. Rwyt ti’n ddaearyddwr ffisegol ac yn fardd – ydyn nhw’n ddau beth hollol wahanol yn dy fywyd neu a yw un yn dylanwadu’r llall?

 

Yn ymarferol, dwi’n trio cadw’r ddau ar wahan ac yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng gwaith academaidd a barddoniaeth.  Mae hynny’n anodd iawn fodd bynnag oherwydd yr un bwriad sydd gan y ddau mewn gwirionedd, sef trio canfod ystyr pethau, trio canfod pam mae pethau’n digwydd a chyfathrebu hynny i bobl.  Mae tirwedd wedi bod yn ddylanwad mawr ar fy marddoniaeth oherwydd dwi’n ffodus i gael teithio tipyn a bod yn yr awyr agored ac mae hynny wastad yn ybrydoli cerddi.  Mae elfen hanesyddol gref i ‘ngwaith i fel geomorffolegydd ac mae’r ymwybyddiaeth o sut y mae’r dirwedd a’r hinsawdd wedi newid dros amser, a sut mae hynny wedi effeithio ar ddiwylliant, cymdeithas a’r economi yn ychwanegu rhywbeth at fy ngherddi.  Mae hefyd yn gweithio’r ffordd arall, mae fy niddordeb llenyddol wedi arwain fi lawr ambell lwybr o ran gwaith ymchwil.

 

2. Mae gen ti gerddi yn y gyfrol newydd o Tu Chwith, cerddi a gyfansoddaist ar ôl dysgu mwy am ‘fapio dwfn’. Sut brofiad oedd cwrdd a Rowan a dysgu mwy am fapio dwfn?

 

Roedd yn brofiad gwych iawn.  Mae syniadau arbennig o ddiddorol gan Rowan, ac mae maes mapio dwfn yn un hynod berthnasol i ymchwil academaidd sydd yn digwydd ym maes daearyddiaeth, yn enwedig daearyddiaeth ddynol, gan ei fod yn tynnu elfennau ynghyd o lenyddiaeth, hanes, daeareg ac ati.  Wrth gerdded ar hyd y llwybr arfordiol a sgwrsio am fapio dwfn, roedd yn swnio’n debyg iawn i’r hyn yr oedd cyfres llyfrau ‘Crwydro’ yn ei wneud yn y ganrif ddiwethaf i raddau.  Yr hyn yr oeddwn yn hoffi am fapio dwfn oedd ei fod yn gwneud y pwynt bod cymaint mwy i fapio lle na rhoi llinellau ar bapur, mae’n ymwneud ag atofion pobl, a’r hyn nas cofnodwyd cymaint a’r hyn a gofnodwyd yn ffurfiol

 

3. Beth oedd y broses greadigol tu ôl i greu’r cerddi?

 

Roedd y dair cerdd yn wahanol iawn i’w gilydd o ran tarddiad.  Daeth dwy ohonynt wrth gerdded, sef ‘Y Llwybr’ a ‘Croes dros Gei Newydd.’   Ar rannau hir o’r llwybr, teimlais ychydig yn siomedig, oherwydd roedd y llwybr ar ganol y clogwyn.  Doedden ni ddim i lawr wrth ei droed, yn teimlo’r ewyn ar ein hwynebau ac yn clywed cyffro’r tonnau wrth ein hymyl, na chwaith reit ar ben y clogwyn, yn medru gweld mewn panorama 360 gradd o’n cwmpas.  Dyna oedd cefndir y gerdd y llwybr, ac mae rhyw syniad o ofyn a yw’r gwydr yn hanner llawn neu’n hanner gwag, ac o rwystredigaeth bywyd ynddi.  O ran ‘Croes dros Gei Newydd’, mae yna groes wen bren ar y tir uchel i’r de o Gei Newydd, a daeth y gymhariaeth tafod yn y boch gyda Christ Rio yn syth fel cyflwyniad i’r gerdd.  Roedd y gwylanod yn crio, ac mae rhywbeth tlws a thrist yn eu swn, yn yr un modd ag y mae rhywbeth tlws a thrist am Gei Newydd ei hunan, gyda’r ddibyniaeth drom ar dwristiaeth a bythynnod haf.  Arweinia’r llwybr arfordirol ar hyd stryd o fythynnod yng Nghei Newydd, a phob un yn edrych dros y mor.  Gofynnais ar y pryd, tybed faint o fythynnod a thai Cei sydd yn dai gwyliau?  Prynon ni becyn o sglodion yr un wedyn, ac eto, roedd teimlad chwerw-felys wrth ystyried ei bod yn aeaf, a bod y lle mor dawel.  Felly roedd y ddwy gerdd yna yn codi o brofiad uniongyrchol ar y llwybr.  Mae ‘Y map dwfn’ yn fyfyrdod ar natur mapio dwfn, a’r syniad bod y dirwedd yn gywaith a grewyd gan brosesau ffisegol y tonnau a’r tywydd a’r bobl a’u clecs.

 

4. Wyt ti’n credu bod gormod o fwlch rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau yng Nghymru?

 

Mae’n debyg bod yna, er bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar y rhyngwyneb rhwng y ddau trwy feysydd fel mapio dwfn, daearyddiaeth ddiwylliannol a chelf weledol yn arbennig.  Mae llawer o waith yn cael ei wneud gan artistiaid sydd yn defnyddio patrymau naturiol o fyd ffiseg, daearyddiaeth ffisegol a bioleg er mwyn creu celfyddyd.  Efallai nad oes llawer o feirdd ac artisitiaid cyfrwng Cymraeg yn ymwneud rhyw lawer a byd gwyddoniaeth, ond mae potensial mawr iawn.  Mae gwyddonwyr hefyd yn defnyddio llenyddiaeth er mwyn canfod mwy am y gorffennol e.e. gwaith Cerys Jones, Cathryn Charnell-Wthite, Dafydd Johnston, ac eraill ar gofnodion llenyddol o dywydd (gw. y rhifyn cyfredol o Taliesin).  Mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn yn fawr ei barhau.  Dwi’n meddwl bod closio rhwng gwyddoniaeth a llenorion yn rhywbeth sydd yn rhwym o ddigwydd oherwydd mae sialens fwya gwyddoniaeth, sef newid hinsawdd, yn rhywbeth sydd yn greiddiol i ddyfodol pawb yn byd. Mae’n creu tensiynau ym mhob gwlad, ac yn peri i hen gwestiynau ynghylch anghyfartaledd gael eu gofyn unwaith eto.

 

5. A yw hi’n wir fod mathemategwyr yn well cynganeddwyr?

 

Mae’n debyg ei fod yn helpu oherwydd y gallu i weld patrymau a chymesuredd mewn pethau.  Ond mae hynny fel dweud bod mecanic yn medru bod yn yrrwr fformiwla un da.  ‘Dyw cynganeddu ddim wastad gyfystyr a barddoni, mae angen mynd ymhellach.  Wedi dweud hynny, mae rhywbeth artistig iawn i elfennau o fathemateg.  Gradd gyfun mewn daearyddiaeth a mathemateg sydd gen i, ac er nad oeddwn yn arbennig o alluog yn y maes, roedd ceinder rhai o’r ‘proofs’ ym maes mathemateg bur yn gwbl amlwg.  Allai ddim peidio a meddwl bod angen yr un fath o ysbrydoliaeth i sgwennu cerdd ag sydd i lunio ‘proof’ o’r fath.  Felly mae tebygrwydd technegol ac artistig rhwng y ddau faes yn fy marn i.  Mae Karen Owen yn llunio cyfrol ar destun Mathemateg ar hyn o bryd, ac mae nifer o feirdd eraill (e.e. Gruffudd Antur) yn pontio meysydd gwyddonol a barddonol.

 

6. Beth rwyt ti wedi ei mwynhau am y rhifyn newydd o Tu Chwith?

 

Mwynheuais gartwn Huw Aaron ac Osian Rhys yn fawr iawn, a hefyd cerddi Karen Owen, Llyr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones a John Gruffydd Jones.  Mae thema’r gyfrol yn rhywbeth i’w groesawu, oherwydd ei fod yn trafod y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chelfyddyd.

 

Gellir darllen y cerddi yng nghylchgrawn Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’.

Prynu Tu Chwith

Tanysgrifio i Tu Chwith

 

0

Podlediad #1 Tu Chwith

Helo!

Dyma bodlediad cyntaf Tu Chwith! Yng nghwmni Rhodri Llŷr Evans a Manon Wyn Williams a Menna Machreth.

Ymhlith y pynciau rydym ni’n trafod yn y podlediad mae The King’s Speech, y dramodydd Aled Jones Williams, y refferendwm a’r diffyg egni creadigol o’i gwmpas, trafod adborth i erthygl ddadleuol Rhodri yn y gyfrol diwethaf – ‘Croesi Ffiniau’, a Manon yn darllen ei gwaith.

Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn cofrestru’r podlediad ar wasanaethau fel iTunes. Yn y cyfamser mae modd gwrando ar y podlediad cyntaf isod:

Podlediad Tu Chwith – Rhif 1 (29/02/2011) gan tuchwith

0

Rhodri ap Dyfrig yn sôn am lansiad DVD Pictiwrs/Tu Chwith yn Aberystwyth

0

Cyhoeddi ffilmiau newydd yng nghylchgrawn tu chwith

Bu Pictiwrs yn chwilio am ffilmiau byr annibynnol i fynd ar DVD arbennig. Mae’r DVD hwnnw yn cael ei gyhoeddi â rhifyn 32 o tu chwith sydd ar werth nawr. Gallwch brynu’r cylchgrawn sydd â’r DVD ynddo yn eich siop Gymraeg leol neu oddi ar y wefan hon neu trwy danysgrifio i’r cylchgrawn.

Dyma’r ail DVD mae Pictiwrs a Tu Chwith wedi ei gyhoeddi. Diolch i Rondo am noddi’r DVD.

Llond Bol o Jeli

Dyma’r gyntaf o brosiectau animeiddio blynyddol Galeri Caernarfon.

Caiff pobol ifanc ag anghenion arbennig gyfle i gyd-weithio â cherddorion ac animeiddwyr proffesiynnol i greu ffilm animeiddiedg.

Egin

Cyfarwyddwr: Nerys Wyn Davies

Awdur: Karl Luke

Caiff Lewis blanhigyn bychan i’w dyfu fel rhan o’i ddosbarth gwyddoniaeth. Ond gyda Tad sy’n fwli, a phroblemau â cariad ei ffrind, gall Lewis wneud i fwy na’r planhigyn egino.

Yr Injan Odli

Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod

Comisiwn gan yr Academi oedd Yr Injan Odli fel rhan o wŷl Llên y Lli. Gofynom i 24 bardd a llenorion i gyfleu mewn cwpled ystyr “Beth yw dychymyg”  iddyn nhw. Ar noson y perfformiad, roedd 24 cliced (trigger) ar y llawr, a gwahoddwyd y gynulleidfa i wasgu botymau ar hap, gan gyfuno’r cwpledi ar hap.

Y Neidiwr

Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod

Casgliad ar gyfer Amgueddfa Cymru oedd prosiect llechi Cymdeithas y Rhyfeddod. Y bwriad oedd cyfleu y defnydd cyfoes sy’n cael ei wneud o ardaloedd y Chwareli yng Ngogledd Cymru. Mae Y Neidiwr yn ddarn o ffilm archif o berson yn gwneud naid feiddgar uwchben Chwarel Cors y Bryniau.

Datblygu hawlfraint Pete Telfer

Datblygu 2008

Cyfarwyddwr: Pete Telfer

Roeddwn i’n falch iawn pan ofynnodd Em’s Ankst i fi i ffilmio David Rupert Edwards a Pat Morgan yn dychwelyd i’r stiwdio yn Fflach yn Aberteifi. Hwn oedd y tro cyntaf i David fod unrhywle’n agos at feicroffôn mewn 13 mlynedd. Roedd yn fraint cael bod yno pan ddychwelodd Gwir Dywysog Cymru.

Eisteddodd Pat wrth y piano ac estynnodd David ddarn o bapur plygedig o’i boced. Roedd ysgrifen flêr ar ddwy ochr y cerpyn papur, y rhan fwyaf ohono wedi ei ddileu. Edrychai’r ddogfen werthfawr hon, oedd â phenillion ‘Cân y Mynach Modern’ arni, y farddoniaeth roedd David am ei ryddhau i’r byd ar ôl absenoldeb mor hir, fel petai wedi cael ei ddiosg a’i godi eto sawl gwaith.

Chwaraeodd Pat y piano a darllennodd Dave ei farddoniaeth. A dyna ni.

Roedd Dave yn barod i fynd ar ôl un take.

Roedd rhaid i mi ofyn iddyn nhw wneud un take arall fel fy mod yn gallu cael ychydig mwy o saethiadau. Fe gytunon nhw. Cefais ragor o saethiadau a’r take hwn a roddwyd ar y sengl. Does dim dybio, dim ychwanegu na dileu. Ddatblygu ar ei ffurf buraf yw hwn.

Diolch Pat a David am ddychwelyd unwaith yn rhagor, er dim ond am ennyd fechan, i’n hatgoffa bod Datblygu wedi torri’r mowld fel bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhydd. Diolch am eich gonestrwydd.

Methu Meddwl (She’s Got Spies)

Cynhyrchydd: Laura Nunez

Mae Methu Meddwl yn gân gan She’s Got Spies am benblethdod a theimlo ar goll heb gyn-gariad. Mae hi eisiau dianc rhag y teimladau, ond methu gwneud hynny yn unrhywle yn y byd. Cafodd y fideo ei recordio ym Milano, Yr Eidal ac Ogwr, Cymru a mae’n dilyn stori’r gân.

Y Fargen

Cyfarwyddwr: James Nee

Cynhyrchydd: Rhodri ap Dyfrig

Yn dilyn marwolaeth ei frawd, mae Maredudd un dychwelyd i’r tŷ lle treulion nhw sawl gwyliau gyda’u gilydd, a lle dwedon nhw eu ffarwel diwethaf cyn i Caradog adael i fynd i’r Unol Daleithiau. Gan ofni na fyddai’n gweld ei frawd bach eto wedi iddo ddiflannu yno unwaith o’r blaen, mae’r ddau yn gwneud addewid y byddant yn cyfarfod eto yn y tŷ, flwyddyn union o’r dyddiad, beth bynnag ddigwyddith.

Gyda’r atgofion o’i frawd dal yn glir fel gwydr yn ei ben ac yn y tŷ hwnnw, mae iechyd meddyliol Maredudd yn graddol ddirywio. Ond alla ei ewyllys i weld ei frawd un waith eto, ddod â fo’n ôl? Bron…

1

Cyfweliad â Pete Telfer

‘‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill’ meddai’r gerdd, ond cred Pete Telfer y mae’n bosib ein bod ni ar drothwy rhyw fath o symudiad os meddianwn y we. Dyna’r meddylfryd tu ôl i’w brosiect newydd, gwefan Y Wladfa Newydd (Culture Colony). Fe gefais i’r cyfle i fynd i’w holi am y prosiect (ei gyfweliad cyntaf amdano) yn ei gartref ym mhentref hyfryd llun-cerdyn-post Esgairgeiliog, ger Machynlleth. Bydd ffilm fer gan Pete Telfer, Datblygu 2008, yn ymddangos ar DVD arbennig sy’n cael ei gyhoeddi gan Pictiwrs a tu chwith; bydd y DVD o ffilmiau byr annibynnol ym mhob copi o gyfrol newydd tu chwith a gaiff ei gyhoeddi yr wythnos hon.

Cynhyrchydd ffilm a ffotograffydd yw Pete Telfer sydd yn enwog am ei awydd i ddogfennu ac i ddweud stori. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n ffilmio bandiau o’r Sin Roc Gymraeg gan ddilyn bandiau fel Yr Anrhefn (band pync) ar deithiau i Wlad y Basg – y band Cymraeg cyntaf i fynd ar daith dramor a chanu’n Gymraeg – oherwydd gwyddai cyn bwysiced oedd cofnodi’r hanes hynny ar ffilm.

Wrth i frwdfrydedd Pete am Y Wladfa Newydd godi chwilfrydedd ynghylch y prosiect hwn, daw’n amlwg mai ei awydd i ddweud stori sy’n dal i gymhell Pete Telfer – a bod y cyfuno hwnnw ynghyd â phosibiliadau’r we yn mynd i arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol.

‘Y syniad tu ôl i’r Wladfa Newydd yw cynnig rhywbeth gwahanol i’r teledu,’ meddai Pete Telfer. ‘Cynnwys diwylliannol sydd ar y wefan. Gall artistiaid rhoi eu syniadau ar y wefan ac yna gall pobl sy’n edrych ar y wefan ddilyn taith y syniad i’r darn o gelf gorffenedig – dilyn syniadau tra bo pethau’n cael eu creu.’

Dyma arf newydd i’r artist, felly. Dywed Pete fod digon o wefannau rhwydweithio ar gael ar gyfer artistiaid yn barod: ‘Nid facebook arall yw hwn ar gyfer artistiaid, byddwch chi ddim yn gallu taflu peli eira neu ddefaid at artistiaid. Y pwrpas yw creu offer creadigol newydd ar gyfer artistiaid i rannu’r broses o greu eu gwaith.’

Un o’r artistiaid sydd wedi gafael yng ngweledigaeth Y Wladfa Newydd yw David Nash, artist o Flaenau Ffestiniog. Gweithia David Nash â choed mawr iawn a bu Pete yn ei ffilmio ers 1996. Mae Pete wedi rhoi llawer o’r ffilm hynny ar y wefan er mwyn dangos gwaith David Nash yn tyfu – yn llythrennol – dros y blynyddoedd. Mae lluniau a ffilmiau o gerfluniau coed gan David Nash yn ystod y camau cynharaf o’u gwneud yn Cincinnati ar y wefan; yna cofnod o’r pren yn cael ei dorri a’r offer arbennig a ddefnyddiwyd i wneud hynny; ynghyd â cofnod o symud y gwaith i Ascot a sut y llwyddwyd i wneud hynny heb ddifrodi’r cerflun. Gan ei fod yn gweithio â choed, mae nifer o ddarnau gan David Nash yn waith sydd wedi ei gynllunio i dyfu dros amser felly mae’r ffilmiau a’r lluniau ar y wefan yn cofnodi’r tyfiant a datblygiad y gwaith. Felly, gall pobl sy’n ymweld â’r wefan weld y stori tu ôl i’r darn terfynol o gelf a welant yn yr oriel.

Dywed Pete Telfer: ‘Mae artistiaid yn gweld y safle we fel added value. Gall pobl weld y gwaith yn datblygu ac mae galeriau yn gweld gwerth yn y cofnod hwnnw – y cefndir sydd wedi arwain at y darn o gelf gorffenedig.’ Mae’r wefan yn galluogi’r artist i ddweud y stori wrth i’w waith deithio i Chicago, Sbaen, yr Almaen a thu hwnt. Yn ôl Pete mae’r ffilm sy’n adrodd stori’r celf o’r syniad i realiti yn golygu ein bod yn cael profiad agosach o waith yr artist.

Nash Chicago - Pete Telfer

Nash Chicago gan Pete Telfer

Arddangosodd David Nash ei waith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala a’r Cyffiniau y llynedd, ac un o’r cerfluniau oedd ‘Wooden Boulder.’ Taflwyd y darn hwn o gelf i’r afon, ac fe ddangoswyd ffilm ger y cerflun yn dangos David Nash yn mynd i chwilio am y cerflun yn yr afon rhai blynyddau’n ddiweddarach. Oherwydd fod modd i’r gynulleidfa weld datblygiad y gwaith a dod i berthynas ag e’, roedd eu cysylltiad â’r cerflun o’u blaenau’n gryfach. ‘Roedd hi’n brofiad i weld pobl yn cerdded o gwylio hanes y cerflun hwn oedd o’u blaen yn y ffilm, a’u gweld nhw’n troi’n emosiynol iawn o weld y cerflun yn teithio i fyny ac i lawr yr afon,’ meddai Pete Telfer.

Y profiad mae defnyddwyr y wefan yn ei gael o ddod wyneb yn wyneb â’r celf ar-lein sy’n mynd at wraidd prosiect Y Wladfa Newydd. Mae’r wefan yn galluogi unigolion i ddod yn nes at y gwaith a phrofi’r gwaith fel mae’r artist ei eisiau yn ôl Pete. ‘Mae edrych ar y teledu yn rywbeth ‘passive’ iawn,’ meddai. ‘Maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth yn y cefndir er mwyn eich gwneud i deimlo mewn ffordd arbennig, ond efallai nad dyna’r profiad yr oedd yr artist wedi ei fwriadu i chi ei gael. Rydych chi’n profi’r un peth ag y mae miloedd o eraill yn ei brofi. Mae mwy o ryddid gen i fel gwneuthurwr ffilm na pe bawn i’n gweithio i’r teledu. Dwi’n osgoi defnyddio cerddoriaeth er mwyn i’r defnyddiwr gael profiad unigryw o’r celf. Y gobaith yw y bydd defnyddwyr y wefan yn dod yn fwy agos at y gwaith ac at y person sy’n gwneud y gwaith.’

Bu Pete ei hun yn gweithio i raglenni celf ar gyfer y BBC, HTV ac S4C. Tyfodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl mynychu coleg celf. Mae’n dweud mae’r hyn oedd yn ei ddenu at ffotograffiaeth oedd bod llun yn gofnod o amser a’i fod yn hoffi sut y gellid dweud y stori mewn un llun. Datblygodd ei ddiddordeb mewn fideo a theledu; ei nod unwaith eto oedd cofnodi a dweud y stori ‘mor wir ag sy’n bosib.’

Yn ogystal â rhoi llwyfan i’r gwaith, mae ffilmio’r gwaith celf yn gofnod i’r artist. Pe bae’r artist yn ddigon lwcus i gael slot ar raglen deledu nid yw’r teledu’n gallu cyfleu y gwaith yn ddigonol. Yn ddiweddar, bu Pete Telfer yn ffilmio darn o waith gan Katherine Ashill o’r enw ‘Sws’ lle roedd hi’n aros yn llonydd drwy’r dydd ac yn gwahodd pobl i wisgo minlliw a rhoi cusan iddi rhywle ar ei gwisg wen. Gan ei fod yn ddarn dros amser hir ni fyddai wedi gallu cael ei gyfleu’n llwyddiannus ar y teledu. Gellir gweld sawl ffilm o gerddoriaeth fyw ar y wefan hefyd, fel Bob Delyn a’r Ebillion mewn gŵyl ym Machynlleth, a nod Pete bob tro yw ceisio cyfleu ar ffilm y profiad o fod yno: ‘Mae’n wahanol i deledu,’ meddai. ‘Mewn darn i deledu, bydd cyfweliad â’r artist yr un pryd â dangos y darn celf. Ar wefan Y Wladfa Newydd rydym ni eisiau cyflwyno’r darn drwy ffilm neu ffotograff y ffordd roedd yr artist eisiau iddo gael ei gofio.’

Mae Pete Telfer wedi cadw llawer o’r ffilmiau a gynhyrchodd o’r Sin Roc Gymraeg ers yr 80au, ond ni wyddai beth i wneud â’r silffoedd a’r silffoedd o dapiau. Offer syml oedd ganddo ond roedd yn gweld gwerth mewn cofnodi’r mwynhâd. Mae fel pe bai ei syniadau dros y blynyddoedd yn dod at ei gilydd nawr yn Y Wladfa Newydd. Mae Pete yn feirniadol nad yw celf yn cael ei gyflwyno’n iawn ar y teledu, ond serch hynny, gwêl arwyddion o fwrlwm yr 80au yn ôl yng Nghymru. A yw hi’n beth da bod artistiaid yn dibynnu llai ar y teledu? ‘Mae cyn lleied o gelf ar y teledu. Ond dwi’n teimlo cynnwrf ar hyn o bryd sy’n debyg i gyfnod Yr Anrhefn. Efallai bod hi’n dda bod teledu’n osgoi diwylliant. Mae’r teledu’n tueddi i roi popeth mewn bocs a gwneud pethau’n saff, a colli bwriad yr artist. Weithiau mae’n well i’r celf aros yn danddaearol. Mae’n gyffous gweld grwpiau o artistiaid yn dod at ei gilydd i arbrofi, fel Framework, Blaengar a Chymdeithas y Rhyfeddod. Mae angen i ni ddibynnu llai ar grantiau, nid fy mod i’n erbyn grantiau ond mae’r fiwrocratiaeth yn ddrwg. Dyna pam dwi’n ceisio cael pobl i danysgrifio i’r Wladfa Newydd.’

A oes peryg i’r defnyddiwr gael ei ddrysu gan gymaint y deunydd artistig ar y we? Sut mae barnu beth sy’n dda a beth sy’n wael – pwy sy’n cynnig arweiniad? ‘Ni’n gobeithio bydd pobl yn dod â barn adeiladol i’r wefan, yn gadael eu sylwadau ac yn trafod. Pwrpas beirniadaeth yw datblygu gwaith.’

Mae Pete Telfer hefyd ynghlwm â threfnu arddangosfa Yr Hen Tanerdy ym Machynlleth, sef gofod er mwyn i artistiaid newydd i arddangos eu gwaith ac i artistiaid eraill i arbrofi a dangos gwaith nad yw’n orffenedig eto. ‘Mae’n ffordd i artisitiaid i ysbrydoli ei gilydd. Os ydyn nhw’n styc gyda syniad, gallan nhw ddod o hyd i artist arall i gydweithio â nhw i weithio’r syniad yn ei flaen. Rhaid meddwl yn greadigol am y ffordd ni’n gweithio mewn cyfnod ariannol anodd. Ond fel sydd wedi digwydd yn nirwasgiadau’r gorffennol, y diwydiant creadigol yw’r olaf i fynd mewn i recession a’r cyntaf i ddod allan o’r recession. Mae pobl yn gweld fod celfyddyd yn gwneud lles i fywyd y genedl.’

Mae’r wefan yn cael ei defnyddio eisoes gan orielau celf. Gall orielau ddefnyddio’r wefan i weld mwy o waith yr artistiaid ac mae rhai wedi eu comisiynu o ganlyniad i’r gwaith mae orielau wedi gweld ar y wefan.

Yn ddiweddar, arddangosodd Pete Telfer gasgliad o luniau yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Enw’r casgliad yw ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ sy’n cynnwys delweddau o ddiwedd y mileniwm o wal Berlin i grwpiau Cymraeg. ‘Doeddwn i ddim wedi gweld y lluniau ers y 1990au’, meddai Pete. ‘Dim ond dwy frawddeg o esboniad gallai’r Oriel roi o dan bob llun, ond fe wnes i ysgrifennu paragraffau hir wrth i’r atgofion dod yn ôl. Fe wnes i roi y lluniau a’r paragraffau hynny ar y wefan, ac roedd hynny’n annog pobl i fynd i weld y gwaith yn y galeri.’

Gan fod Pete Telfer wedi cyfrannu i DVD Pictiwrs/tu chwith o ffilmiau byrion, pa fath o gyngor fyddai e’n ei roi i gynhyrchwyr ifanc? ‘Beth bynnag chi’n ei ffilmio, rhaid i chi fod yn gyfforddus a rhaid i’r person chi’n ei ffilmio fod yn gyfforddus. Er mwyn dogfennu’r gwir, rhaid i bawb fod yn gyfforddus gan gynnwys eich gallu chi â’r camera – yna fe fydd y ffilmiau’n gwneud eu hunain.’

Wrth yrru o bentref tawel Esgairgeiliog sylweddolais nad pentref cyffredin mohono – oherwydd ar gyrion y pentref mae Canolfan Technoleg Amgen Machynlleth sy’n enwog am ei flaengarwch ynghylch cynaliadwyedd. Dyna ddangos mai nad mewn metropolis o flaen o flaen camera mae newid y byd, ond unrhyw lecyn sy’n eich ysbrydoli i ddefnyddio’ch dychymyg!

Diolch i Pete Telfer am ei amser.

Y Wladfa Newydd / Culture Colony: http://www.culturecolony.com/

Bydd ‘Datblygu 2008’ gan Pete Telfer ar DVD Pictiwrs/tu chwith yng nghyfrol 32: Mapio’r Byd.

Pages ... 1 2