Yasi Grist!
Ryden ni yng Nghymru yn hoff o siarad am y tywydd. Bron ei fod yn obsesiwn ganddon ni i drafod pa mor drwm ydi’r glaw, neu ers pa bryd mae hi’n bwrw bellach, neu pa mor gryf ydi’r gwynt.
Ai oherwydd ein bod ni’n byw mewn gwlad mor amaethyddol yw’r rheswm tybed? Yn y siop leol tu ôl i’r cownter bob bore ‘dwi’n delio a degau o ffermwyr yn gwneud siarad mân am y tywydd, a finnau’n cytuno’n frwd gyda’r un linnell stoc er nad ydwi’n gwrando gair mewn gwirionedd. Neu efallai ei fod gan nad oes dim arall gwerth sôn amdano wrth gyfnewid geiriau â dieithriaid. Neu yden ni’n genedl o gwynwrs?
“Ewww mae hi’n fudur”, meddai un ffermwr wrth dalu am ei Daily Sport. A dydi o ddim yn cyfeirio at y ferch llac ei moesau sy’n dangos ei thin ar y dudalen flaen. Mae hi’n tywallt y glaw, ac mae ei gaeau wedi troi yn fwd. Ac mae hanner y cae hwnnw wedi dod ar ei welingtyns i faeddu fy llawr.
“Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn” medd gwraig fach flin arall wrth dalu fesul ceiniog goch am ei chacenau cri drud, gan bwyso’r drwm ar ei ffon. A ‘dwi’n dychmygu sut deimlad fyddai bwrw hen wragedd â ffyn mewn gwirionedd.
‘Dwi’n ymddiheuro am fod yn chwerw. Ond wedi cael llond bol ar y tywydd yma ydw i yn de? Yn tydw i’n treulio oriau bob diwrnod yn syllu ar wefannau cwmniau awyr yn chwilio am fargeinion i fan gwyn fan draw? Mi archebais ficini newydd sbon o sale arlein gychwyn mis Ionawr, dim ond i gael syllu arno yn fy wardrôb a breuddwydio bod ar lan y môr.
Ond wrth syllu dros bennau fy nghwsmeriaid y siop siarad, ar sianel newyddion y BBC heddiw’r bore, daeth ton o euogrwydd drosda i.
Mae storm o wynt, eira a rhew wrthi’n ymosod ar ddarnau o’r Unol Daleithiau a Chanada, a disgwylir i dair troedfedd o eira ddisgyn yn Chicago. Mae corwynt enfawr wrthi’n rheibio gogledd ddwyrain Awstralia. Mae’r corwynt wedi ei raddio fel corwynt categori rhif 5. Dyma’r rhif uchaf ar y raddfa. Mae disgwyl i wyntoedd gyrraedd i gyflymder o bron 200mya. Mae’r ddwy storm yn debyg o achosi difrod enfawr i’r wlad, heb sôn am farwolaethau.
Rhaid peidio anghofio hefyd am y llifogydd enfawr yn Awstralia dros yr wythnosau diwethaf, a Brazil a sawl gwlad yng Nghanolbarth America.
Mae yna ddarn mewn nofel o’r enw White Teeth gan un o fy hoff awduron, Zadie Smith, sy’n cymharu byw mewn rhywle sydd mewn perygl o ddaeargryn neu ffrwydriad llosgfynydd neu berygl naturiol arall – a byw yn rhywle fel Prydain lle nad yw peryglon felly’n realiti. Dydw i ddim yn cofio’r darn yn iawn, achos fel yr esboniais am fy ymddygiad yn y siop leol – ryw hanner gwrando (a gwib-ddarllen) ydw i. Ond y pwynt oedd hi’n drio ei gyfleu oedd na fedrwch chi roi pris ar y sicrwydd o ddiogelwch rhag peryglon naturiol. Efallai nad oes gennon ni haul drwy’r flwyddyn, a’i bod hi’n bwrw bob yn ail a pheidio, ond anhebygol iawn y bydd neb yn y dyfodol agos yn gwylio live stream dros y we o Lanuwchllyn yn cael ei lyncu gan gorwynt categori 5.
“Mae ‘na awel go fain heddiw ‘ma Musus Jones….waaaaaaaaaaaaaa!”
Cyhoeddi ffilmiau newydd yng nghylchgrawn tu chwith
Bu Pictiwrs yn chwilio am ffilmiau byr annibynnol i fynd ar DVD arbennig. Mae’r DVD hwnnw yn cael ei gyhoeddi â rhifyn 32 o tu chwith sydd ar werth nawr. Gallwch brynu’r cylchgrawn sydd â’r DVD ynddo yn eich siop Gymraeg leol neu oddi ar y wefan hon neu trwy danysgrifio i’r cylchgrawn.
Dyma’r ail DVD mae Pictiwrs a Tu Chwith wedi ei gyhoeddi. Diolch i Rondo am noddi’r DVD.
Llond Bol o Jeli
Dyma’r gyntaf o brosiectau animeiddio blynyddol Galeri Caernarfon.
Caiff pobol ifanc ag anghenion arbennig gyfle i gyd-weithio â cherddorion ac animeiddwyr proffesiynnol i greu ffilm animeiddiedg.
Egin
Cyfarwyddwr: Nerys Wyn Davies
Awdur: Karl Luke
Caiff Lewis blanhigyn bychan i’w dyfu fel rhan o’i ddosbarth gwyddoniaeth. Ond gyda Tad sy’n fwli, a phroblemau â cariad ei ffrind, gall Lewis wneud i fwy na’r planhigyn egino.
Yr Injan Odli
Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod
Comisiwn gan yr Academi oedd Yr Injan Odli fel rhan o wŷl Llên y Lli. Gofynom i 24 bardd a llenorion i gyfleu mewn cwpled ystyr “Beth yw dychymyg” iddyn nhw. Ar noson y perfformiad, roedd 24 cliced (trigger) ar y llawr, a gwahoddwyd y gynulleidfa i wasgu botymau ar hap, gan gyfuno’r cwpledi ar hap.
Y Neidiwr
Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod
Casgliad ar gyfer Amgueddfa Cymru oedd prosiect llechi Cymdeithas y Rhyfeddod. Y bwriad oedd cyfleu y defnydd cyfoes sy’n cael ei wneud o ardaloedd y Chwareli yng Ngogledd Cymru. Mae Y Neidiwr yn ddarn o ffilm archif o berson yn gwneud naid feiddgar uwchben Chwarel Cors y Bryniau.
Datblygu 2008
Cyfarwyddwr: Pete Telfer
Roeddwn i’n falch iawn pan ofynnodd Em’s Ankst i fi i ffilmio David Rupert Edwards a Pat Morgan yn dychwelyd i’r stiwdio yn Fflach yn Aberteifi. Hwn oedd y tro cyntaf i David fod unrhywle’n agos at feicroffôn mewn 13 mlynedd. Roedd yn fraint cael bod yno pan ddychwelodd Gwir Dywysog Cymru.
Eisteddodd Pat wrth y piano ac estynnodd David ddarn o bapur plygedig o’i boced. Roedd ysgrifen flêr ar ddwy ochr y cerpyn papur, y rhan fwyaf ohono wedi ei ddileu. Edrychai’r ddogfen werthfawr hon, oedd â phenillion ‘Cân y Mynach Modern’ arni, y farddoniaeth roedd David am ei ryddhau i’r byd ar ôl absenoldeb mor hir, fel petai wedi cael ei ddiosg a’i godi eto sawl gwaith.
Chwaraeodd Pat y piano a darllennodd Dave ei farddoniaeth. A dyna ni.
Roedd Dave yn barod i fynd ar ôl un take.
Roedd rhaid i mi ofyn iddyn nhw wneud un take arall fel fy mod yn gallu cael ychydig mwy o saethiadau. Fe gytunon nhw. Cefais ragor o saethiadau a’r take hwn a roddwyd ar y sengl. Does dim dybio, dim ychwanegu na dileu. Ddatblygu ar ei ffurf buraf yw hwn.
Diolch Pat a David am ddychwelyd unwaith yn rhagor, er dim ond am ennyd fechan, i’n hatgoffa bod Datblygu wedi torri’r mowld fel bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhydd. Diolch am eich gonestrwydd.
Methu Meddwl (She’s Got Spies)
Cynhyrchydd: Laura Nunez
Mae Methu Meddwl yn gân gan She’s Got Spies am benblethdod a theimlo ar goll heb gyn-gariad. Mae hi eisiau dianc rhag y teimladau, ond methu gwneud hynny yn unrhywle yn y byd. Cafodd y fideo ei recordio ym Milano, Yr Eidal ac Ogwr, Cymru a mae’n dilyn stori’r gân.
Y Fargen
Cyfarwyddwr: James Nee
Cynhyrchydd: Rhodri ap Dyfrig
Yn dilyn marwolaeth ei frawd, mae Maredudd un dychwelyd i’r tŷ lle treulion nhw sawl gwyliau gyda’u gilydd, a lle dwedon nhw eu ffarwel diwethaf cyn i Caradog adael i fynd i’r Unol Daleithiau. Gan ofni na fyddai’n gweld ei frawd bach eto wedi iddo ddiflannu yno unwaith o’r blaen, mae’r ddau yn gwneud addewid y byddant yn cyfarfod eto yn y tŷ, flwyddyn union o’r dyddiad, beth bynnag ddigwyddith.
Gyda’r atgofion o’i frawd dal yn glir fel gwydr yn ei ben ac yn y tŷ hwnnw, mae iechyd meddyliol Maredudd yn graddol ddirywio. Ond alla ei ewyllys i weld ei frawd un waith eto, ddod â fo’n ôl? Bron…
Adolygiad o The Devil Inside Him (John Osborne) National Theatre Wales
Adolygiad gan Menna Machreth
Brwydr unigolyn yn erbyn crefydd y dydd yw un o’r pethau rydyn ni’n credu ein bod yn deall yn ein hoes ni, ond dwi’n amau’n fawr ein bod ni. Thema gyffredin yw dangos gorthrwm cymdeithas ar ryddid ac ewyllys yr arwr, ond yr un yw’r peryglon o grefyddoldeb, boed yn seiliedig ar grefydd sefydliadau crefyddol fel y ddrama hon, neu arian, delweddau perffaith, sefydliadau gwleidyddol neu seciwlariaeth. Roedd llais Huw Prosser a oedd yn erfyn am anadl wrth iddo fygu yn ei gymdeithas anoddefgar yn annog meddwl am leisiau coll ein cymdeithas ‘blwralaidd’ heddiw. Dyma un o’r rhesymau nad yw’r ddrama wedi dyddio fel y credai nifer o fynychwyr y Theatr Newydd, Caerdydd ar Fai’r 11eg.
Denodd y ddrama gryn sylw oherwydd dyma’r eildro erioed iddi gael ei chynhyrchu ers ei ysgrifennu ym 1948 ac mae’n siŵr fod y National Theatre Wales newydd yn meddwl bod pob Nadolig wedi dod ar unwaith gan fod y ddrama wedi ei lleoli rhyw ddeg milltir tu allan i Abertawe. ‘Don’t Look Back in Anger’ yw drama byd-enwog John Osbourne am y dyn ifanc cynddeiriog, ac roedd gwreiddiau hwnnw i’w weld yng nghymeriad Huw Prosser. Cafodd ei darganfod yn archifau’r Arglwydd Chamberlain yn y Llyfrgell Brydeinig yn 2008 ar ôl gwaharddiad hir rhag ei pherfformio. Roedd gan John Osborne gysylltiadau cryf â Chymru oherwydd Cymro oedd ei dad, a’r darlun o’i fam-gu a garai emynau a’i athro Ysgrythur o Gymru a arweiniodd iddo ysgrifennu yn ei hunangofiant: ‘I assumed that being Welsh and believing in God were the darkest heart of religion. It was easy to imagine God with a firmament South Wales accent, whereas Jesus might easily come from Surrey.’
Cydiodd y perfformiad o’r cychwyn yn bennaf oherwydd yr actio ystyrlon o’r safon uchaf ac a ddangosai ôl meddwl caled ynghylch taith y cymeriadau yn ystod y ddrama. Roedd portread Rachel Lumberg o’r Mrs Evans llawn clecs a barn am bawb a phopeth yn siŵr o osod haenen ychwanegol o Gymreictod lliwgar ar y sgript; cymaint y llwyddodd i ddwyn doniolwch i’r ddrama fel y chwerthynai’r gynulleidfa wrth dybio i’w hymateb hi i ddigwyddiadau erchyll y ddrama. Roedd Jamie Ballard yn effeithiol fel Burn sef llais cydymdeimlad, a llwyddodd i ddenu’r gynulleidfa ar y daith o rwystredigaeth tuag at agwedd cymdeithas y pentref at Huw Prosser, tra perfformiodd Catrin Stewart cymeriad Dilys yn dawelach nac y disgwylwyd. Gellir edmygu portread Derek Hutchinson am beidio â gadael i’r tad, Mr Prosser, lithro i’r ystrydeb o dad llym a welir yn y script yn enwedig pan rhuthra i mewn i amddiffyn ei fab rhag y brwmstan y gweinidog ar ddiwedd Act 1 (er y mae’n bosib fod hynny’n y sgript). Llwyddodd Helen Griffin i ddehongli perthynas y fam a’r mab yn ingol wrth iddi edrych yn ôl ar ei mab cyn gadael y tŷ fel pe bae’n gwybod na fyddai’n derbyn dealltwriaeth wrth neb arall. Roedd disgwyliadau mawr ar ysgwyddau Iwan Rheon wedi ei lwyddinat yn y West End yn ddiweddar ond llwyddodd i gyfleu ankst dynol Huw Prosser er ei fod yn rhy awyddus i bortreadu’r dyn ifanc cythryblus ‘Don’t Look Back in Anger’ ar ddechrau’r ddrama, ac yn sicr fel lwyddodd i wneud y mwyaf o iaith dreisiol y ddrama. Yn wir, byddai’n ddifyr edrych ar daith Huw Prosser i ganfod ei ewyllys ei hun ochr yn ochr â chymeriadau John Gwilym Jones yn ‘Ac eto nid Myfi.’
Rhaid canmol set gwych, yn enwedig y cloc yn tician yn ddisgwylgar (fel Dr Faustus), a galluogodd agor y nenfwd ar ddiwedd y ddrama i ddatgelu grisiau at y gwynt nerthol a ysai Huw Prosser i’w brofi, gan rhoi terfyn gafaelgar i’r ddrama a allai wedi gorffen yn fflat fel arall. Rhaid dweud efallai nad oedd y cynhyrchiad wedi chwarae digon â’r syniad o ‘ddiafol’ fel yr awgryma’r teitl; byddai ystyried faint o ddrygioni oedd yng nghymeriad oedd yn Huw Prosser a faint o ddylanwad y gymdeithas o’i gwmpas a’i arweiniod i’r erchylltra a gyflawna ar ddiwedd y ddrama. Wedi’r cyfan, ar ddechrau’r ddrama mae Huw Prosser yn disgrifio lladd mochyn sy’n rhagfynegi diwedd Dilys y forwyn wyrdroedig, ond mae diwedd y ddrama yn anwybyddu hynny’n llwyr.
Cafwyd perfformiad llwyddiannus iawn gan roi golwg i ni ar ddrama â themâu oesol o beryglon deddfoldeb credoau yr oes ar gymdeithas, ac rwy’n siŵr fod y National Theatre Wales yn edrych ymlaen at ymweld eto â’r cyfnod hwn yn hanes Cymru yn ddyfnach ac mewn ffordd llai ystrydebol na’r ddrama hon.
Adolygiad o DAU.UN.UN.DIM a Yn y Tren gan Michelle Davies
Michelle Davies sy’n adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn ac Yn y Trên gan Saunders Lewis ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Nos Wener, Mai 14eg.
“Er mwyn i’r hil barhau, rhaid glanhau”
Dyna sail y byd tywyll, sinistr, y mae’r ddau brif gymeriad yn byw ynddi yn DAU.UN.UN.DIM. Gyda’r naill yn perthyn i’r garfan bur, a’r llall i’r amhur; mae’r tensiynau rhyngddynt yn drydanol. Arweinir ni fel cynulleidfa ar daith Awen Alaw – y ferch bur gyntaf – wrth iddi chwilio am rywbeth mwy i’w bodolaeth di-emosiwn a di-ystyr. Yr un i’w harwain i weld y goleuni yw Brân, terfysgwr perycla’r wlad, dyn sy’n mwynhau pethau anghyfreithlon y byd – celf a chariad. Chwaraeir gêm eiriol beryglus rhwng y ddau drwy gydol y ddrama wrth i ni fethu ag ymddiried yn yr un ohonynt…a yw’r ddau yn bwriadu bradychu ei gilydd?
Wedi ei gosod ganrif i’r dyfodol, archwilir pa fath o fywyd fydd ar y blaned wrth i ddatblygiadau gwyddonol a’r chwilfrydedd am berson ‘perffaith’ fynd i’r eithaf. Defnyddir technoleg fodern i beri i’r gynulleidfa brofi’r teimlad annifyr o gael eich gwylio – byd pan mae’r brawd mawr wirioneddol ym mhob twll a chornel. Yn yr un modd mae synau annifyr sgrechiadau a gynau yn y pellter yn cryfhau’r teimlad mai byd arswydus ydyw ac na ellid ymddiried yn neb.
Ar lwyfan traws, agos atoch chi, a oedd yn adlewyrchu byd caeëdig, mwll y byd Teledu Cylch Cyfyng, roedd modd gweld pob symudiad gan y ddau actor – Lowri Gwynne a Rhodri Meilir – a teimlir ar brydiau eu bod yn meddwl am y linell nesaf yn hytrach na pherfformio. Rhywbeth a fydd yn gwella wrth i’r daith fynd rhagddi gobeithio. Roedd cyfarwyddo Betsan Llwyd yn wych wrth i’r ddau gymeriad symud o naill ben i’r llwyfan i’r llall heb amharu ar fwynhâd y gynulleidfa (a oedd yn siomedig o fychan o ystyried mai cynhyrchiad Theatr Genedlaethol oedd hon).
Dyma sgript gwych sy’n plethu ac yn troelli yn gywrain ac yn cynnig mewnwelediad ddifyr i fyd ffuglen-wyddonol Gymraeg. Rhoddwyd cyfle i arbrofi ag arddull y cynhyrchiad a chonfensiynau’r theatr draddodiadol, gyda golygfeydd agoriadol y ddrama’n digwydd ar y ddau sgrîn fawr i gerddoriaeth ffynci, addas.
Wedi’r egŵyl cafwyd cyfle i weld un o ddramâu llai adnabyddus Saunders Lewis – drama fer iawn – Yn y Trên. Roedd tempo hon yn wahanol iawn i’r thriller gan Manon Wyn ond mae hon hefyd yn ymwneud â diffyg pwrpas bywyd wrth i’r teithiwr rhyfedd fyned ar daith y trên heb wybod i ble yr aiff na phaham. Pwysleisir yma abswrdiaeth bywyd wrth iddynt oll deithio ar drên na fydd byth yn cyrraedd pen ei thaith a gwelir marwolaeth cymunedau wrth i’r gorsafoedd bychain rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gau – “Does dim Dyfed, mae pob stêshion wedi marw”. Roedd hon yn ddrama mor fyr ei bod bron yn rhy fyr, ond fe aeth Betsan Llwyd ati’n gelfydd i gyfleu’r teimlad bod y ddau gymeriad ar drên wrth iddynt suo yn ôl ac ymlaen yn ddibaid drwy gydol y ddrama fer (er bod Rhodri Meilir yn edrych fwyfwy fel meddwyn na theithiwr trên wrth iddo golli’i falans ar adegau).
Dyma ddau gynhyrchiad pur gwahanol i’w gilydd a braf iawn yw cael dweud i mi fwynhau’r ddwy yn eu ffyrdd eu hunain. Roedd hi’n arbennig o braf cael clywed llais heriol a ffres Manon Wyn mewn cynhyrchiad cyffrous, iasol. Piti na fyddai DAU.UN.UN.DIM ychydig hirach ac yn medru hawlio noson cyfan o theatr i’w hun.
Mae Michelle Davies yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.
Cofiwch am rhifyn newydd tu chwith wedi ei olygu gan Jon Gower. Gallwch brynu neu danysgrifio i’r cylchgrawn ar y wefan hon.








