0

Adolygiad o noson theatr Dirty Protest gan Lowri Cooke

Pan oedd pawb yn meddwl bod digon o ddrama ar noson etholiad, roedd criw theatr ‘Dirty Protest’ wedi mynd ati i berfformio nifer o ddramâu newydd gan ddramodwyr ifanc. Bu Lowri Cooke yna i brofi’r arlwy etholiadol ei naws:

(Os am ddarllen mwy am y project theatr, bu tu chwith yn cyfweld â Tim Price, un o sylfaenwyr Dirty Protest, ar gyfer rhifyn 29 y gallwch ei brynu yma.)

Dirty Protest: nosweithiau theatr yng Nghaerdydd

A minnau’n hen gyfarwdd ag yfed chilli mojitos yn bar Milgi y Rhath, doeddwn i erioed wedi manteisio ar y cyfle i fynychu un o nosweithiau’r criw theatr Dirty Protest yno tan iddyn nhw gynnal eu llwyfaniad diweddara’ ddechrau’r mis.

Ac fel rhywun sy’n tueddu i lynnu at leoliadau mwy confensiynol y Chapter a’r Sherman fel cyrchfannau theatr yn y brifddinas,  y cwbl ro’n i’n wybod oedd y dylwn gyrraedd cyn 8 yr hwyr ar Fai y 6ed er mwyn profi chwe drama fer wedi eu llwyfanu mewn lleoliad “cyfagos”, oll yn ymateb i’r thema “Counted”- gydag ambell un yn cyffwrdd â digwyddiad mawr y noson dan sylw, sef yr Etholiad Cyffredinol.

Teg dweud i’r gynulleidfa brofi amrywiaeth o ran safon a themâu yn y warws gyfagos, oedd wedi’i ddodrefnu’n gynnil â bynting blodeuog, goleuadau coed-Dolig, a waliau’n dangos olion protest liwgar, os nad cwbl ffiaidd- a hynny i gyfeiliant mash-up o un o ganeuon Corinne Bailey Rae.

Ar ôl i Corinne dawelu, cyflwynwyd tri actor y noson-Tom Cullen, Remy Beasley a Ceri Murphy-  gan eu cyfarwyddwraig Mared Swain, a ffwrdd â ni, gan ddechrau- yn fy marn i- gyda’r ddrama wanaf, sef 2020 Vision, a sgwennwyd gan wyryf- neu“cherrypopper”-  y noson, y bardd lleol Mab Jones.

O’r chwe drama fer, roedd hi’n amlwg mai hon roedd yr actorion eu hunain â’r lleia o hyder ynddi, gan iddynt lynnu’n gadarn yn eu sgriptiau, a llithro’n achlysurol dros y geiriau, oedd yn cynrychioli dadl deledu hallt rhwng arweinwyr dwy brif blaid ryngwladol yn y flwyddyn 2020. Mae gen i ofn mai deialog go gyfarwydd a gafwyd, yn cynrhychioli ymryson rhwng yr adain chwith a’r adain dde, gan orffen yn weddol ystrydebol cyn i’r cyflwynydd teledu gyhoeddi enillydd yr etholiad.

Diolch byth felly am y llwyfaniad nesa, sef Not a Funeral gan Ed Hime. Dyma ddrama fer oedd yn ateb gofynion y cyfrwng i’r dim, a cafwyd actio, sgwennu a chyfarwyddo caboledig drwyddi draw. Gofynwyd i ni wrando ar ddau frawd a chwaer yn adrodd moliant gwahanol i’w diweddar dad wrth yr ychydig bobol arhosodd am baned yn dilyn ei gynhebrwng. Llwyddodd y tri i hoelio sylw’r gynulleidfa o’r cychwyn cynta, wrth bupuro tameidiau bychain o wybodaeth ynglyn ag amgylchiadau ei farwolaeth, a llwyddwyd i gyfleu tensiwn nerfus wrth ddatgelu’r pwnc dadleuol dan sylw, a hynny trwy gyfrwng hiwmor aruthrol o dywyll. Wnai ddim datgelu’r troad, gan yr hoffwn eich annog i gofio enw’r ddrama a’i hawdur, ac i geisio’i gweld os gewch y cyfle rhywdro eto.

Use it or Lose it gan Mark Williams oedd y drydedd ddrama. Cafodd y gynulleidfa eu plesio’n arw gan syniad syml ond hynod ddifyr am y cynghorydd cariad “Clive St John; Life Recycler” . Dechreuwyd â phrofiad sy’n gyffredin dros y bydysawd, sef diwedd aflwyddianus i ddêt trychinebus rhwng William (Tom Cullen) a Donna (Remy Beasley). Yna, tra’n aros am y bws ola, daw William i synhwyro presenoldeb Clive (Ceri Murphy), wrth i’r angel anghonfensiynol fesur ei “lefelau-gwastraff” a’i ddyfarnu’n sefyllfa enbydus, neu yn ei eiriau ef, “Code Red”. Deallwn fod modd i Clive ddiddymu’r hen William o’r blaned, fel y gwnaeth gyda’r deinosoriaid dwetha’,  gan bwysleisio’r holl gyfleoedd a wastraffwyd gan y Romeo rwtsh-sbwriel yn ystod ei oes. Dyma ddrama fer ag iddi sgript gadarn gan awdur sy’n dangos potensial mawr.

Mae’n wir mai actio Ceri Murphy ddisgleiriodd fwya yn Use it or Lose It, ond dangosodd y bedwaredd ddrama- Hug a Tory gan Atiha Sen Gupta- y ddau actor gwrywaidd yn cydweithio’n dda â’i gilydd wrth bortreadu Craig a Luke- dau ffrind ar stâd cyngor. Gwyrdroir ein disgwyliadau o’r ddau “hoody” pan gyrhaedda un o ymgyrchwyr y Torîaid, Tabitha, i ofyn iddynt fod yn “artistiaid cefndirol” yn ystod ymweliad gan “Dave”. Dyma enghraifft dda o stori newyddion yn sbarduno drama fer effeithiol, gyda sgript sydd sy’n byrlymu o ffraethineb ac sy’n groesbeilliad difyr o waith gorau Armando Iannucci a Samuel Beckett.

Rhaid cyfadde i mi ddiflasu rhywfaint ar The Statement unwaith i’r cysyniad canolog gael ei sefydlu. Mae’r ddrama, gan Jack Thorne, yn cyflwyno cwpwl cyfoglyd o gariadus (a chwareir gan Remy Beasley a Tom Cullen) sy’n baglu dros ei gilydd i rannu manylion bychain yr achlysur dan sylw. Daw’n amlwg yn fuan nad priodi yw’r Datganiad mawr, ond yn hytrach cytundeb i gyflawni hunanladdiad. Syniad da sy’n mynd i nunlle braidd a geir yma, ond roedd hi’n braf gweld yr actores yn cael y cyfle i chwarae rôl ganolog.

Dychwelyd i thema’r Etholiad Gyffredinol wnaeth y cynhyrchiad olaf, sef Independence Fay gan James Graham, a hynny’n llawer mwy effeithiol na’r ddrama agoriadol. Clustfeinio wnaethom ar sbinfeistr y Ceidwadwyr wrth iddo geisio dwyn perswâd ar ferch ifanc ag iddi ddilyniant enfawr ar Facebook i sefyll yn yr etholiad er mwyn denu dilynwyr Llafur a sicrhau llwyddiant i’w ymgeisydd ef. Ymgais i ddychanu dryswch y drefn etholiadol a geir yn y ddrama hon, a rhaid dweud y llwyddwyd i gynnal y syniad canolog hyd at ddiweddglo sydd yn hynod foddhaol.

Mae’n wir nad oedd pob drama’n plesio, ac efallai byddai’n syniad gofyn i’r cymdogion droi lefel sain  eu mash-ups hwythau lawr rhyw fymryn y tro nesa.  Ond rhaid dweud i mi fwynhau’r profiad o weld y chwe chynyrchiad cryno yn fawr. Fel gŵyl flynyddol Egin cwmni Sherman Cymru, mae hi’n bleser cael gweld hadau o syniadau ar waith, ac yn ddifyrrach byth dyfalu pa rai sy’n haeddu datblygiad pellach.

Felly, y tro nesa fyddwch am fwynhau un o Fojito’s gore Caerdydd, cofiwch am y brathiadau bach blasus o theatr sydd i’w profi’n achlysurol tu hwnt i’r Yurt yn y Milgi.

Mae Lowri Cooke yn byw yng Nghaerdydd.

1

Cyfweliad â Pete Telfer

‘‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill’ meddai’r gerdd, ond cred Pete Telfer y mae’n bosib ein bod ni ar drothwy rhyw fath o symudiad os meddianwn y we. Dyna’r meddylfryd tu ôl i’w brosiect newydd, gwefan Y Wladfa Newydd (Culture Colony). Fe gefais i’r cyfle i fynd i’w holi am y prosiect (ei gyfweliad cyntaf amdano) yn ei gartref ym mhentref hyfryd llun-cerdyn-post Esgairgeiliog, ger Machynlleth. Bydd ffilm fer gan Pete Telfer, Datblygu 2008, yn ymddangos ar DVD arbennig sy’n cael ei gyhoeddi gan Pictiwrs a tu chwith; bydd y DVD o ffilmiau byr annibynnol ym mhob copi o gyfrol newydd tu chwith a gaiff ei gyhoeddi yr wythnos hon.

Cynhyrchydd ffilm a ffotograffydd yw Pete Telfer sydd yn enwog am ei awydd i ddogfennu ac i ddweud stori. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n ffilmio bandiau o’r Sin Roc Gymraeg gan ddilyn bandiau fel Yr Anrhefn (band pync) ar deithiau i Wlad y Basg – y band Cymraeg cyntaf i fynd ar daith dramor a chanu’n Gymraeg – oherwydd gwyddai cyn bwysiced oedd cofnodi’r hanes hynny ar ffilm.

Wrth i frwdfrydedd Pete am Y Wladfa Newydd godi chwilfrydedd ynghylch y prosiect hwn, daw’n amlwg mai ei awydd i ddweud stori sy’n dal i gymhell Pete Telfer – a bod y cyfuno hwnnw ynghyd â phosibiliadau’r we yn mynd i arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol.

‘Y syniad tu ôl i’r Wladfa Newydd yw cynnig rhywbeth gwahanol i’r teledu,’ meddai Pete Telfer. ‘Cynnwys diwylliannol sydd ar y wefan. Gall artistiaid rhoi eu syniadau ar y wefan ac yna gall pobl sy’n edrych ar y wefan ddilyn taith y syniad i’r darn o gelf gorffenedig – dilyn syniadau tra bo pethau’n cael eu creu.’

Dyma arf newydd i’r artist, felly. Dywed Pete fod digon o wefannau rhwydweithio ar gael ar gyfer artistiaid yn barod: ‘Nid facebook arall yw hwn ar gyfer artistiaid, byddwch chi ddim yn gallu taflu peli eira neu ddefaid at artistiaid. Y pwrpas yw creu offer creadigol newydd ar gyfer artistiaid i rannu’r broses o greu eu gwaith.’

Un o’r artistiaid sydd wedi gafael yng ngweledigaeth Y Wladfa Newydd yw David Nash, artist o Flaenau Ffestiniog. Gweithia David Nash â choed mawr iawn a bu Pete yn ei ffilmio ers 1996. Mae Pete wedi rhoi llawer o’r ffilm hynny ar y wefan er mwyn dangos gwaith David Nash yn tyfu – yn llythrennol – dros y blynyddoedd. Mae lluniau a ffilmiau o gerfluniau coed gan David Nash yn ystod y camau cynharaf o’u gwneud yn Cincinnati ar y wefan; yna cofnod o’r pren yn cael ei dorri a’r offer arbennig a ddefnyddiwyd i wneud hynny; ynghyd â cofnod o symud y gwaith i Ascot a sut y llwyddwyd i wneud hynny heb ddifrodi’r cerflun. Gan ei fod yn gweithio â choed, mae nifer o ddarnau gan David Nash yn waith sydd wedi ei gynllunio i dyfu dros amser felly mae’r ffilmiau a’r lluniau ar y wefan yn cofnodi’r tyfiant a datblygiad y gwaith. Felly, gall pobl sy’n ymweld â’r wefan weld y stori tu ôl i’r darn terfynol o gelf a welant yn yr oriel.

Dywed Pete Telfer: ‘Mae artistiaid yn gweld y safle we fel added value. Gall pobl weld y gwaith yn datblygu ac mae galeriau yn gweld gwerth yn y cofnod hwnnw – y cefndir sydd wedi arwain at y darn o gelf gorffenedig.’ Mae’r wefan yn galluogi’r artist i ddweud y stori wrth i’w waith deithio i Chicago, Sbaen, yr Almaen a thu hwnt. Yn ôl Pete mae’r ffilm sy’n adrodd stori’r celf o’r syniad i realiti yn golygu ein bod yn cael profiad agosach o waith yr artist.

Nash Chicago - Pete Telfer

Nash Chicago gan Pete Telfer

Arddangosodd David Nash ei waith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala a’r Cyffiniau y llynedd, ac un o’r cerfluniau oedd ‘Wooden Boulder.’ Taflwyd y darn hwn o gelf i’r afon, ac fe ddangoswyd ffilm ger y cerflun yn dangos David Nash yn mynd i chwilio am y cerflun yn yr afon rhai blynyddau’n ddiweddarach. Oherwydd fod modd i’r gynulleidfa weld datblygiad y gwaith a dod i berthynas ag e’, roedd eu cysylltiad â’r cerflun o’u blaenau’n gryfach. ‘Roedd hi’n brofiad i weld pobl yn cerdded o gwylio hanes y cerflun hwn oedd o’u blaen yn y ffilm, a’u gweld nhw’n troi’n emosiynol iawn o weld y cerflun yn teithio i fyny ac i lawr yr afon,’ meddai Pete Telfer.

Y profiad mae defnyddwyr y wefan yn ei gael o ddod wyneb yn wyneb â’r celf ar-lein sy’n mynd at wraidd prosiect Y Wladfa Newydd. Mae’r wefan yn galluogi unigolion i ddod yn nes at y gwaith a phrofi’r gwaith fel mae’r artist ei eisiau yn ôl Pete. ‘Mae edrych ar y teledu yn rywbeth ‘passive’ iawn,’ meddai. ‘Maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth yn y cefndir er mwyn eich gwneud i deimlo mewn ffordd arbennig, ond efallai nad dyna’r profiad yr oedd yr artist wedi ei fwriadu i chi ei gael. Rydych chi’n profi’r un peth ag y mae miloedd o eraill yn ei brofi. Mae mwy o ryddid gen i fel gwneuthurwr ffilm na pe bawn i’n gweithio i’r teledu. Dwi’n osgoi defnyddio cerddoriaeth er mwyn i’r defnyddiwr gael profiad unigryw o’r celf. Y gobaith yw y bydd defnyddwyr y wefan yn dod yn fwy agos at y gwaith ac at y person sy’n gwneud y gwaith.’

Bu Pete ei hun yn gweithio i raglenni celf ar gyfer y BBC, HTV ac S4C. Tyfodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl mynychu coleg celf. Mae’n dweud mae’r hyn oedd yn ei ddenu at ffotograffiaeth oedd bod llun yn gofnod o amser a’i fod yn hoffi sut y gellid dweud y stori mewn un llun. Datblygodd ei ddiddordeb mewn fideo a theledu; ei nod unwaith eto oedd cofnodi a dweud y stori ‘mor wir ag sy’n bosib.’

Yn ogystal â rhoi llwyfan i’r gwaith, mae ffilmio’r gwaith celf yn gofnod i’r artist. Pe bae’r artist yn ddigon lwcus i gael slot ar raglen deledu nid yw’r teledu’n gallu cyfleu y gwaith yn ddigonol. Yn ddiweddar, bu Pete Telfer yn ffilmio darn o waith gan Katherine Ashill o’r enw ‘Sws’ lle roedd hi’n aros yn llonydd drwy’r dydd ac yn gwahodd pobl i wisgo minlliw a rhoi cusan iddi rhywle ar ei gwisg wen. Gan ei fod yn ddarn dros amser hir ni fyddai wedi gallu cael ei gyfleu’n llwyddiannus ar y teledu. Gellir gweld sawl ffilm o gerddoriaeth fyw ar y wefan hefyd, fel Bob Delyn a’r Ebillion mewn gŵyl ym Machynlleth, a nod Pete bob tro yw ceisio cyfleu ar ffilm y profiad o fod yno: ‘Mae’n wahanol i deledu,’ meddai. ‘Mewn darn i deledu, bydd cyfweliad â’r artist yr un pryd â dangos y darn celf. Ar wefan Y Wladfa Newydd rydym ni eisiau cyflwyno’r darn drwy ffilm neu ffotograff y ffordd roedd yr artist eisiau iddo gael ei gofio.’

Mae Pete Telfer wedi cadw llawer o’r ffilmiau a gynhyrchodd o’r Sin Roc Gymraeg ers yr 80au, ond ni wyddai beth i wneud â’r silffoedd a’r silffoedd o dapiau. Offer syml oedd ganddo ond roedd yn gweld gwerth mewn cofnodi’r mwynhâd. Mae fel pe bai ei syniadau dros y blynyddoedd yn dod at ei gilydd nawr yn Y Wladfa Newydd. Mae Pete yn feirniadol nad yw celf yn cael ei gyflwyno’n iawn ar y teledu, ond serch hynny, gwêl arwyddion o fwrlwm yr 80au yn ôl yng Nghymru. A yw hi’n beth da bod artistiaid yn dibynnu llai ar y teledu? ‘Mae cyn lleied o gelf ar y teledu. Ond dwi’n teimlo cynnwrf ar hyn o bryd sy’n debyg i gyfnod Yr Anrhefn. Efallai bod hi’n dda bod teledu’n osgoi diwylliant. Mae’r teledu’n tueddi i roi popeth mewn bocs a gwneud pethau’n saff, a colli bwriad yr artist. Weithiau mae’n well i’r celf aros yn danddaearol. Mae’n gyffous gweld grwpiau o artistiaid yn dod at ei gilydd i arbrofi, fel Framework, Blaengar a Chymdeithas y Rhyfeddod. Mae angen i ni ddibynnu llai ar grantiau, nid fy mod i’n erbyn grantiau ond mae’r fiwrocratiaeth yn ddrwg. Dyna pam dwi’n ceisio cael pobl i danysgrifio i’r Wladfa Newydd.’

A oes peryg i’r defnyddiwr gael ei ddrysu gan gymaint y deunydd artistig ar y we? Sut mae barnu beth sy’n dda a beth sy’n wael – pwy sy’n cynnig arweiniad? ‘Ni’n gobeithio bydd pobl yn dod â barn adeiladol i’r wefan, yn gadael eu sylwadau ac yn trafod. Pwrpas beirniadaeth yw datblygu gwaith.’

Mae Pete Telfer hefyd ynghlwm â threfnu arddangosfa Yr Hen Tanerdy ym Machynlleth, sef gofod er mwyn i artistiaid newydd i arddangos eu gwaith ac i artistiaid eraill i arbrofi a dangos gwaith nad yw’n orffenedig eto. ‘Mae’n ffordd i artisitiaid i ysbrydoli ei gilydd. Os ydyn nhw’n styc gyda syniad, gallan nhw ddod o hyd i artist arall i gydweithio â nhw i weithio’r syniad yn ei flaen. Rhaid meddwl yn greadigol am y ffordd ni’n gweithio mewn cyfnod ariannol anodd. Ond fel sydd wedi digwydd yn nirwasgiadau’r gorffennol, y diwydiant creadigol yw’r olaf i fynd mewn i recession a’r cyntaf i ddod allan o’r recession. Mae pobl yn gweld fod celfyddyd yn gwneud lles i fywyd y genedl.’

Mae’r wefan yn cael ei defnyddio eisoes gan orielau celf. Gall orielau ddefnyddio’r wefan i weld mwy o waith yr artistiaid ac mae rhai wedi eu comisiynu o ganlyniad i’r gwaith mae orielau wedi gweld ar y wefan.

Yn ddiweddar, arddangosodd Pete Telfer gasgliad o luniau yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Enw’r casgliad yw ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ sy’n cynnwys delweddau o ddiwedd y mileniwm o wal Berlin i grwpiau Cymraeg. ‘Doeddwn i ddim wedi gweld y lluniau ers y 1990au’, meddai Pete. ‘Dim ond dwy frawddeg o esboniad gallai’r Oriel roi o dan bob llun, ond fe wnes i ysgrifennu paragraffau hir wrth i’r atgofion dod yn ôl. Fe wnes i roi y lluniau a’r paragraffau hynny ar y wefan, ac roedd hynny’n annog pobl i fynd i weld y gwaith yn y galeri.’

Gan fod Pete Telfer wedi cyfrannu i DVD Pictiwrs/tu chwith o ffilmiau byrion, pa fath o gyngor fyddai e’n ei roi i gynhyrchwyr ifanc? ‘Beth bynnag chi’n ei ffilmio, rhaid i chi fod yn gyfforddus a rhaid i’r person chi’n ei ffilmio fod yn gyfforddus. Er mwyn dogfennu’r gwir, rhaid i bawb fod yn gyfforddus gan gynnwys eich gallu chi â’r camera – yna fe fydd y ffilmiau’n gwneud eu hunain.’

Wrth yrru o bentref tawel Esgairgeiliog sylweddolais nad pentref cyffredin mohono – oherwydd ar gyrion y pentref mae Canolfan Technoleg Amgen Machynlleth sy’n enwog am ei flaengarwch ynghylch cynaliadwyedd. Dyna ddangos mai nad mewn metropolis o flaen o flaen camera mae newid y byd, ond unrhyw lecyn sy’n eich ysbrydoli i ddefnyddio’ch dychymyg!

Diolch i Pete Telfer am ei amser.

Y Wladfa Newydd / Culture Colony: http://www.culturecolony.com/

Bydd ‘Datblygu 2008’ gan Pete Telfer ar DVD Pictiwrs/tu chwith yng nghyfrol 32: Mapio’r Byd.

0

Clawr tu chwith ‘Mapio’r Byd’ : lluniau o’r rhyfel gan Iolo ap Dafydd

Delweddau o'r Rhyfel gan Iolo ap Dafydd

Delweddau o'r Rhyfel gan Iolo ap Dafydd

Dyma gipolwg o glawr y rhifyn nesaf o tu chwith a gyhoeddir yr wythnos nesaf. Daw’r llun o gasgliad Iolo ap Dafydd o luniau o rhyfeloedd y mae wedi gweld wrth ohebu i’r BBC. Mae ysgrif gan Iolo yn y gyfrol yn sôn am ei brofiadau.

Cofiwch am y cynnig arbennig (sydd ar gael tan Fawrth 28ain, 2010) i danysgrifio i gylchgrawn tu chwith fel y cewch y gopi o’r gyfrol drwy’r post. Pwyswch yma i gymryd mantais o’r cynnig.

Tanysgrifio am flwyddyn = £10

Tanysgrifio am 2 flynedd = £18

0

Cyfrol newydd tu chwith ‘Mapio’r Byd’ yn y siopau’n fuan!

Bydd cyfrol newydd tu chwith yn y siopau’n fuan iawn. Mae’r gyfrol wedi ei golygu gan Jon Gower, beirniad celfyddydol, awdur a newyddiadurwr. Edrychwch ar y cyfweliad â Jon Gower ar wefan tu chwith am y broses o olygu’r gyfrol. Ymysg uchafbwyntiau’r gyfrol mae:

ysgrif ‘Y Pedwerydd Peth’ gan Sian Melangell Dafydd
cerdd gan Ceri Wyn Jones am Washington DC
Megan Jones o Fethesda (un o feirniaid newydd National Theatre Wales) yn ysgrifennu am fapiau a chasgliad o lên meicro ganddi hefyd
cerdd gan Ifan Erwyn Pleming
ysgrifau gan Fflur Dafydd
myfyrdod am rhyfel gan Iolo ap Dafydd ynghyd â  ffotograffau gwych
holi Mike Parker, awdur ‘Map Addict’
ysgrif am y Gaiman gan Ana Rees
delweddau Ken Elias

Hefyd, bydd DVD arbennig yn cael ei gyhoeddi (mewn cydweithrediad â Pictiwrs ac wedi ei noddi gan gwmni Rondo) sy’n cynnwys 7 ffilm fer gan gynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru. Ymysg y ffilmiau mae ffilm gan Pete Telfer yn dangos y band Datblygu yn mynd yn ôl i’r stiwdio, ffilm gerddoriaeth gan She’s Got Spies a ffilmiau arbrofol fel ‘Yr Injian Odli’ gan Cymdeithas y Rhyfeddod.

Beth am danysgrifio i tu chwith nawr er mwyn cael eich copi pan gaiff ei gyhoeddi? Cynnig arbennig tan Fawrth 28ain yn unig!

0

Jon Gower yn sôn am olygu’r rhifyn nesaf o tu chwith

Bydd rhifyn nesaf tu chwith yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y mis. Wrth edrych ymlaen at hynny, rhaid oedd mynd i holi golygydd gwadd y gyfrol – Jon Gower – am beth allwn ni ddisgwyl yn y cylchgrawn ac am y broses o fynd ati i olygu cylchgrawn tu chwith. Edrychwch ar y cyfweliad i gael gwybod beth yw thema’r cylchgrawn hefyd!

I gael gafael ar gopi, beth am gymryd mantais o’r cynnig tanysgrifio sydd ganddom ni ar hyn o bryd? Tanysgrifiwch ar y wefan hon cyn Mawrth 28ain, ac fe gewch chi tu chwith drwy’r post, yn rhatach a post am ddim hefyd! Tanysgrifiwch.

Pages ... 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10