tu chwith

Argraffiadau dwy o Deffro’r Gwanwyn
Manon Wynn Davies ac Angharad Thomas sy’n adolygu Deffro’r Gwanwyn, prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol.

Gynhyrchwyr cwmnïau annibynnol S4C, talwch sylw a chymerwch gyngor gan y Theatr Genedlaethol er mwyn dysgu beth yw safon.  Wedi i sawl rhaglen wael gael ei darlledu gan S4C yn ddiweddar, ac rydw i’n prysuro i ddweud bod lle i ganmol ambell gyfres yn fawr, mae’n braf gwybod bod lle o hyd i droi at y theatr yng Nghymru os am adloniant o’r radd flaenaf.

Deffro’r Gwanwyn oedd prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol, a bu ar daith yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2011.  Bu’r sioe ar daith unwaith yn barod, rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2011, ac yn dilyn ymateb hynod galonogol gyda neuaddau dan eu sang, roedd galw am i’r sioe ddychwelyd.  Sioe gerdd roc yw hon â chast o dri ar ddeg, sy’n addasiad o ddrama Almaeneg Frank Wedekind o’r un enw, Frühlings Erwachen, a gyfansoddwyd rhwng 1890 ac 1891.  Troswyd y ddrama yn sioe gerdd Saesneg ac fe’i llwyfannwyd ar Broadway yn 2006, gyda Lea Michelle, un o wynebau cyfarwydd y rhaglen deledu boblogaidd Glee, yn chwarae rhan un o’r prif gymeriadau.  Yn sgil llwyddiant ysgubol yn Efrog Newydd, daeth y sioe i’r West End yn 2009, a bu dau Gymro yn rhan o gast gwreiddiol y cynhyrchiad hwnnw: Aneurin Barnard ac Iwan Rheon.

Cyfieithiad Dafydd James oedd cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, ac nid tasg hawdd oedd cyfieithu’r fath sioe.  Gyda dwy haen wahanol i’r naratif, roedd iaith y ddeialog yn adlewyrchu cyfnod Piwritanaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef adeg cyfansoddi’r ddrama wreiddiol, tra bo’r  caneuon yn perthyn yn nes i ddiwylliant roc a phop heddiw.  Cadwodd Dafydd James enwau Almaeneg  y cymeriadau sy’n ein hatgoffa’n gyson ymhle y lleolwyd y ddrama.  Sioe yw hon am grŵp o bobl ifainc yn cyrraedd eu glasoed, ac felly er iddynt gydymffurfio ar yr wyneb  gyda chymdeithas Biwritanaidd lem y cyfnod, mae’r caneuon yn rhoi cyfle iddynt fynegi’r dyheadau a’r teimladau na feiddient eu trafod yn agored nac yn gyhoeddus.  Dyma sioe gerdd sy’n sicr yn gwthio ffiniau, hyd yn oed heddiw, gyda chymeriadau’r ddrama yn trafod rhyw, rhywioldeb a phob math o bynciau tabŵ:  pethau a anwybyddid  gan gymdeithas  y cyfnod dan sylw.  Gwelir hyn yn yr olygfa gyntaf wrth i gymeriad Wendla flino ei mam â’i holi diddiwedd am feichiogrwydd ei chwaer.  Gwrthoda’r fam drafod gyda’i merch sut mae cenhedlu plentyn, ac mae hi’n anniddig iawn ynghylch chwilfrydedd Wendla.  Cynrychiola Wendla chwilfrydedd y grŵp cyfan, ac mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod diffyg ymwybyddiaeth o faterion rhywiol gan y to ifainc.  Y chwilfrydedd hwn law yn llaw â diniweidrwydd plant yw thema ganolog y ddrama.

Wedi inni glywed am lwyddiant taith gyntaf y cynhyrchiad, roedd y ddwy ohonom yn awyddus iawn i gael blas ar yr hyn a oedd wedi hawlio cymaint o sylw a chanmoliaeth.  Felly aethom o Aberystwyth i Gaerfyrddin i weld y ddrama ddechrau Tachwedd.  Gallwn ddychmygu bod gweld cymaint o gynulleidfa wedi ymgasglu yn rhyddhad i’r cwmni, ac yn profi mai cam doeth oedd dechrau ar ail daith.  Wedi dweud hynny, nid oedd pob sedd wedi ei llenwi chwaith.  Yn syth ar ôl dod allan o neuadd Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, roeddem wedi penderfynu’n barod ein bod eisiau gweld y ddrama eto!  Ac felly y bu hi.  Do, fe aethom ni’r holl ffordd i’r Trallwng er mwyn gweld Deffro’r Gwanwyn am yr ail waith, ond siom garw oedd gweld bod neuadd Canolfan Hamdden y Fflach yno yn hanner gwag.

Roedd hi’n drueni gweld bod cymaint wedi colli’r cyfle i weld cynhyrchiad a oedd o’r un safon â’r hyn a geir yn y West End yn Llundain; yn enwedig o ystyried bod nifer wedi methu â chael tocynnau yng Nghaerdydd gan fod y sioe mor boblogaidd.  Mae perygl y bydd y niferoedd prin yn golygu y bydd y Theatr Genedlaethol yn cadw draw o’r ardaloedd hynny ar y ffin yr ystyrir eu bod yn fwy ‘Seisnig’ yn y dyfodol.  Efallai nad oes cynulleidfa i’w denu yn yr ardaloedd hyn neu efallai y dylid gofyn y cwestiwn: pwy sy’n gyfrifol am farchnata a hyrwyddo digwyddiadau o’r fath?  Byddai hi wedi bod yn werth cynnig tocynnau am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth yr ysgolion cyfagos, oherwydd ni fyddai’r cwmni wedi bod ar eu colled yn ariannol gan mai seddi gwag oedd yno fel arall.  Mae’n amlwg i’r sioe ddenu ambell un na fyddai wedi mynd i weld cynhyrchiad Cymraeg fel arfer ac i’r cast ifainc fod yn rhannol gyfrifol am hynny hefyd; ond gallai hon fod wedi bod yn sioe i gyflwyno cenhedlaeth ifainc i’r theatr Gymraeg gyfoes.

Ni lwyfannwyd y cynhyrchiad hwn mewn theatrau confensiynol, ac wrth sylwi ar y llwyfan gwth oedd yn torri drwy’r gynulleidfa, roedd modd deall pam.  Dyma ddewis mentrus o ran llwyfan, ac un a oedd yn gofyn am gyfarwyddo crefftus a gofalus.  Wedi dweud hynny, llwyddodd yr actorion i ystyrieda chydnabod presenoldeb y gynulleidfa ar bob tu yn benigamp.  Roedd y defnydd o’r set hefyd yn anturus ac yn hyblyg iawn: newidiodd o fod yn ystafell ddosbarth i fod yn llannerch mewn coedwig, o fod yn ystafell mewn tŷ i fod yn fynwent.  Agorwyd rhan ar lawr y llwyfan i fod yn fedd, ac fe godwyd rhan arall er mwyn creu math o ogof oedd yn ein cyfeirio at fywyd y tu hwnt i farwolaeth.  Doedd dim newid mawr yn y set ynddi ei hun ac yn aml fe ddefnyddiwyd cyrff yr actorion i gyfleu lleoliad; buont yn goed, yn rhan o eglwys ac yn feddau mewn mynwent.

Gydag wyth o’r cast wedi eu hyfforddi’n actorion yn Llundain, roedd ein disgwyliadau’n uchel, ac ni chawsom ein siomi.  Roedd perfformiad y cast fel ensemble yn gryf, ond roedd ambell un yn serennu yn eu plith.  Aled Pedrick oedd yn chwarae rhan Melchior, un o’r prif gymeriadau, a llwyddodd i gyfleu angerdd y geiriau yn berffaith.  Roedd cymeriadu Iddon Jones fel Moritz hefyd yn bwerus, ac roedd yntau’n canu’n bwrpasol gyda chraster amrwd oedd yn addas ar gyfer y cymeriad.  Cafwyd perfformiad addawol arall gan Sion Ifan, sef Georg; ac iddo ef y perthyn yr egni a’r brwdfrydedd mwyaf.  Ni chafodd y merched gymaint o gyfle i ddangos eu doniau unigol, ond roedd perfformiad Zoë George (a actiai rhan Martha) yn drawiadol iawn yn yr olygfa a ddarluniai drais yn y cartref.  Enw newydd arall oedd Ceri Lloyd, a chwaraeai un o’r prif gymeriadau, Wendla, ac roedd hithau’n llwyddo i’n swyno gyda’i llais.

Dau actor oedd yn cyflwyno holl gymeriadau’r oedolion yn y ddrama: Victoria Pugh, sy’n gweithio’n gyson gyda chynyrchiadau Theatr Clwyd, a Dyfed Thomas a ymddangosodd yn y gyfres deledu, Sombreros, ar S4C.  Nid tasg hawdd oedd ceisio portreadu dros ddeg o gymeriadau rhyngddynt, ac yn anffodus tueddai’r cymeriadau i ymdoddi i’w gilydd gan mor debyg yr oeddent.  Wrth gwrs, gallai hyn fod yn beth bwriadol ac mai’r nod oedd cyflwyno delwedd ystrydebol o oedolion y cyfnod mewn cymdeithas gyfyng a chul, er mwyn ei gyfrebynnu â bywiogrwydd a chwilfrydedd y bobl ifainc.

Trafodwyd pynciau dwys yn y ddrama hon: hunanladdiad, erthyliad, rhywioldeb a diffyg addysg ryw.  Er mai plant, mewn gwirionedd, oedd y rhan fwyaf o’r cymeriadau, nid sioe i blant mo hon!  Gyda golygfeydd rhywiol ac iaith gref, byddai wedi bod yn syniad rhoi rhybudd o flaen llaw neu gyflwyno cyfyngiad oedran.  Lledodd llygaid ambell blentyn wrth weld Melchior a Wendla yn caru’n angerddol ar ganol y llwyfan a chafwyd ebychiadau o syndod gan wragedd hŷn a eisteddai yn un o’r rhesi blaen pan ddechreuodd Aled Pedrick ganu ‘Dwi’n F****d’!

Dyma sioe gerdd sy’n sicr yn dod â diwedd cyfnod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fyw heddiw ac mae hi’n cydio’n dynn yn ei chynulleidfa am ddwy awr dda.  Er ei bod yn trafod pynciau llosg y cyfnod, nid yw’r tabŵs hyn yn bynciau trafod amlwg i ni’r Cymry heddiw mewn gwirionedd.  Mae modd gweld y sioe hon fel un sy’n ceisio chwalu’r ffiniau parchus sy’n bodoli yn y gymdeithas Gymraeg, ac annog trafodaeth agored ar bynciau pwysig a all godi cywilydd neu beri chwithdod.  Dyma lwyddiant arall i’r Theatr Genedlaethol, ac i Arwel Gruffydd fel cyfarwyddwr artistig newydd. Llwyddodd y cynhyrchiad a’r cymeriadau i ennyn gwên o gydymdeimlad bob hyn a hyn ac ambell ddeigryn hefyd.

Manon Wynn Davies, myfyrwraig MPhil, Adran y Gymraeg, Aberystwyth

Angharad Thomas, myfyrwraig MA, Adran Daearyddiaeth, Aberystwyth

Cynnig Arbennig!
Cynnig arbennig i danysgrifio i gylchgrawn Tu Chwith!

£9 am flwyddyn

Gallwch danysgrifio ar y wefan wrth glicio ar  y ddolen ‘Tanysgrifio’ neu yrru siec i’r cyfeiriad canlynol:  Tu Chwith, Pen-y-Berth, Ffordd Gwenllian, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6ND gan nodi eich enw a’ch cyfeiriad.

Am fwy o wybodaeth: tuchwith@googlemail.com

Riverside
Riverside

Stori fer gan Leusa Fflur Llewelyn

Cicio’n sodlau oeddwn i rywle yng nghyffiniau Riverside – yn teimlo piti dros fy hun, ‘swni’n bod yn onest. Ro’n i newydd symud o Lanuwchllyn i Gaerdydd, a’m cyd-letywyr wedi mynd i galifantio dros y penwythnos – a ‘ngadael i ymgyfarwyddo â’r ddinas fudr drwy fynd ar goll yn llwyr.

Chwilio am adre o’n i yn yr afon mae’n debyg, ond dydi’r Taf ddim yn cymharu â’r Ddyfrdwy. Mi arnofiodd colomen farw heibio ar wyneb llonydd y dwr – a pe bawn i’n fardd, mae’n siwr y byddwn i wedi cymryd hynny fel symbolaeth.

Wrth ymlwybro rhwng y coed a’r cachu ci, mi deimlais fy ffroenau yn llenwi ag arogl pupur du cryf. Cosodd y blew bach yn fy nhrwyn, anadlais yn ddwfn, a thisian yn aflafar nes bod ei adlais yn bownsio oddi ar Stadiwm y Mileniwm. Agorais fy llygaid a neidio mewn braw. O’m blaen, lle na fu corrach mewn het gogydd eiliad ynghynt – y safai corrach mewn het gogydd. Roedd ganddo un o’r potiau pupur enfawr rheiny – fel pot pupur cawr, a hwnnw bron yn dalach na’r gwr bychan hwn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi chwerthin yn uchel (o ran traw a swn) am ei ben. Peidiwch â fy nghamddeall – dydw i ddim fel rheol yn chwerthin ar gorachod, ond dyna ni.

“Pupur du?” holodd y corrach mewn llais anghyffredin o ddwfn, cyn troi a cherdded tuag at y tai gerllaw.

‘Dwi’n licio pupur du, ond ddim ar ei ben ei hun.

“Ydech chi’n coginio rhywbeth?” atebais yn obeithiol, wedi sylwi ‘mod i erbyn hyn yn llwglyd iawn, a heb fwyta tamaid ers fy nhost Marmite beunyddiol yn Llanuwchllyn ben bore, cyn symud i fyw. Ymlwybrais ar ôl y corrach, a thybiais i mi ei glywed yn mwmian rhywbeth am beidio ei alw yn ‘chi’.

Fe’i dilynais drwy ddrws coch – sy’n od gan mai dyna liw ein drws adref, ac er nad ydw i’n berson gor-deimladwy mi achosodd hynny ychydig o hiraeth. Ond lleddfwyd hynny’n ddigon buan gan i’m harchwaeth ddileu pob synnwyr arall wrth i arogl bwyd hyfryd lenwi fy ffroenau. Mewn stafell fechan dywyll, wedi ei goleuo gan oleuadau tylwyth teg, a chanhwyllau dychryn cacwn, yr oedd cynulliad o bobl o bob oed, maint, hîl a thras yn eistedd o amgylch gwledd. Nid te parti mohono – byddai hynny wedi bod yn rhy debyg i stori Alice in Wonderland. Ond yn hytrach, roedd yno lasagnes, sbageti bolognese, risottos, pysgod, pizzas, ac Orangina mewn poteli gwydr.

Eisteddais, a dilyn esiampl fy nghyfeillion newydd, a stwffio pob math o seigiau hyfryd i ‘ngheg, a drachtio o’r poteli Orangina fel petai ‘nhafod i wedi troi’n lwmp o halen. A chyn pen dim roeddwn i’n llawn, ac yn ymlacio fesul eiliad – cymaint felly nes i mi sylwi ar y tro cyntaf ar yr hen ddyn bach Asiaidd yn eistedd yn y gornel yn chwarae’r sitar. Roedd y nodau’n beryglus o hudolus, nes i mi ystyried a oedd yn ceisio bwrw rhywfath o swyn arnom gan ein bod oll bellach mor farwol o lonydd.

Ond swrth neu beidio, cychwynnodd yr ymddiddan – a phawb mewn tymer dda oherwydd y bwyd, a chwerthin yn adleisio drwy’r ty. Roedd pob unigolyn o amgylch y bwrdd yn aelodau newydd o’r gymdeithas. Ambell un o Ddwyrain Ewrop, un o Affrica, dau o Loegr, un o Abertawe.

Roedd gan Mulogo stori ddifyr am ei ymweliad â’r Sw yn Uganda pan oedd yn blentyn. Fe welodd o bengwin am y tro cyntaf, a heb feddwl dim, mi herwgipiodd y pengwin bach â’i guddio yn ei fag. Yn hwyrach yn y dydd, mi agorodd ei fag, ac roedd y pengwin wedi bwyta ei frechdanau!

Wrthi’n chwerthin yn meddwl am y pengwin llwglyd oeddwn i pan neidiodd y corrach mewn het gogydd o’r gegin a’i bot bupur yn ei ddwylaw uwch ei ben fel cleddyf.

“AHAAAAA” gwaeddodd yn fygythiol.

Yna’n ddirybudd, neidiodd yr hen wr yn y gornel i’r awyr – a chwifio’i sitar o amgylch ei ben fel lasw.

“AHAAAA!” gwaeddodd yntau’n gas.

Ac fel rhes o ddominos, fe neidiodd Agnieszka, Jakub, Kamil, Mulogo, Dave, Steve, a Bryn ar eu traed gan afael yn y peth agosaf atynt i’w ddefnyddio fel arf – fforc, baguette, potel Orangina wag. Roeddwn i wedi fy amgylchynu – a phawb yn chwifio eu harfau i’m cyfeiriad, ac yn gweiddi “AHAAAA!” fel môr ladron.

Roedd yr awyrgylch wedi newid, fel storm sydyn.

“Lladrad arfog yw hwn!” meddai’r corrach-gogydd. “Gwagia dy bocedi!”

Mi wagiais fy mhocedi yn drist, a’r unig bethau oedd gen i oedd £1.52 a hen restr siopa.

“Ai dyma oedd eich cynllun o’r cychwyn cyntaf?” gofynnais yn ddagreuol. Edrychais i fyw llygaid pob un o’m ffrindiau newydd, ond ildiodd neb. Roeddent wedi newid, a phob chwerthiniad a charedigrwydd wedi diflannu o’u hwynebau. Anodd credu fy mod wedi llyncu’r stori bengwin. Celwydd oedd y cyfan. Cerddais yn benisel tuag at y drws coch, a chredaf i mi glywed llais dwfn o’m hôl yn dweud wrthyf am beidio ei alw yn ‘chi’.

Dyfodol Tu Chwith
Rydym yn hynod siomedig i glywed nad yw’r Cyngor Llyfrau am gefnogi cylchgrawn Tu Chwith yn ariannol o hyn ymlaen. Dyma’r unig gyhoeddiad i bobl ifainc, gan bobl ifainc, a bydd yn ergyd fawr i’r rhai sydd am gyhoeddi am y tro cyntaf a meithrin hyder yn eu gwaith.  Mae’n ergyd i ni hefyd am i’r penderfyniad gael ei wneud cyn i ni, fel golygyddion newydd, gael cyfle i gyhoeddi ein cyfrol gyntaf.

Mae llawer iawn o bobl wedi gweithio’n wirfoddol, i gadw’r cylchgrawn yma ar ei draed gan fod cyfran helaeth y grant yn mynd tuag at gostau cynhyrchu.  Mae’n drueni bod y cylchgrawn, a gychwynnwyd o dan olygyddiaeth Dr Simon Brooks, ac a fu’n llwyfan i waith cymaint o lenorion ac academyddion blaenllaw dros y blynyddoedd, bellach yn wynebu dyfodol ansicr.  Mae gennym lawer i’w gynnig i’r cylchgrawn ac rydym yn awyddus iawn i fynd ag ef i gyfeiriad newydd trwy gyhoeddi erthyglau difyr a ffres, trafodaethau deallusol blaengar ynghyd â gwaith creadigol arbrofol gan awduron ifainc o Gymru a thu hwnt, ond diwedd y gân yw’r geiniog…

Rydym ar hyn o bryd yn ystyried dyfodol y cylchgrawn ac yn ymchwilio i ddulliau eraill o gyhoeddi a rhoi llwyfan i waith gan bobl ifainc.  Byddwn yn cyhoeddi’r rhifyn nesaf, Gwreiddiau, ym mis Mawrth 2012.

Y GOLYGYDDION

Elin Angharad Owen, Aberystwyth

Dr Rhiannon Marks, Caerdydd

Rhestr llawn o gynnwys rhifyn newydd Tu Chwith: Haf 2011
Dyma restr llawn o’r cynnwys yn gronolegol:

Golygyddol:  Osian Rhys Jones

Toriadau (cerdd) – Eurig Salisbury

Cysgodion (cerdd) – Casia Wiliam

Craduriaid y Cyrion (casgliad o lên meicro) – Gwilym Dwyfor

Lle bo iaith, bydd cymdeithas (cerdd)- Gruffudd Antur

Adain Avion – Marc Rees

Ei darganfod mewn odlau (celf) – Carwyn Evans

Capel Garmon – Eryl Prys Jones

Merch sy’n ysmygu… (cerdd) – Guto Dafydd

Llythyr o Ganada – Gareth Jones

J’accepte (cerdd) – Sion Pennar ac Elizabeth L’Eveillé

Riverside – Leusa Fflur Llewelyn

Golwg ar Gymdeithas – Dewi Huw Owen

‘Ymddiddan y Corff a’r Enaid Meddwl’ – Rhiannon Marks

Y Dafarn – Anni Llŷn

Cymdeithas Gynaliadwy – Gwenith Hughes

Gwydr, Golau, Gofod (Celf) – Rhian Haf

Defnyddio cerddoriaeth i ddod â chymunedau ynghyd (erthygl) – Esyllt Williams

Pornograffi – Cai Dyfan a Ciron Gruffydd

Gwylanod (cerdd) – Marged Parry

Arbrawf mewn cymdeithas – Dyfrig Lewis Smith

Cymdeithas – Menna Machreth

Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd 2011
Cynganeddwyr Cymru yn heidio i Dŷ Newydd

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi bod Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd yn ei hôl eto eleni.  Ar benwythnos olaf Tachwedd (26-27) 2011, bydd digwyddiadau dirifedi ar gyfer beirdd, pobl ifainc, dysgwyr, a phawb sy’n ymddiddori mewn barddoniaeth a chlec y gynghanedd.

Ymysg digwyddiadau’r penwythnos, bydd gweithdai cynganeddu amrywiol fore Sadwrn yn Nhŷ Newydd, yn cynnwys sesiwn blas ar y gynghanedd i ddysgwyr y Gymraeg, a gweithdy ar sut i drydar eich canu caeth ar Twitter.

Brynhawn Sadwrn 26 Tachwedd, yn Amgueddfa Lloyd George, bydd yr Athro Gwyn Thomas yn cyflwyno darlith ar fywyd a gwaith brenin y gynghanedd, Dafydd ap Gwilym. Yna bydd Myrddin ap Dafydd yn cynnal sesiwn holi gyda phrifardd Eisteddfod Wrecsam 2011, Rhys Iorwerth. Bydd hefyd darlith hynod o arbennig yn trafod baled fawreddog o Hwngari a ysgrifennwyd dwy ganrif yn ôl am feirdd Cymru’n cael eu herlyn gan Edward I. Twm Morys, László Irinyi (o’r Hwngari) a John Asquith fydd yn trafod y pwnc mewn tair iaith.

Un o uchafbwyntiau’r ŵyl heb os bydd yr ymryson yng Nghwesty’r Marine yng Nghricieth nos Sadwrn, gyda deuddeg o’n beirdd gorau yn mynd benben mewn brwydr am y ffon, a theitl Pencerdd Tŷ Newydd.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Bydd pawb – boed yn gynganeddwyr neu’n ddilynwyr y grefft – yn sicr o fwynhau’r penwythnos hwn yn ysblander Tŷ Newydd. Mae yna gyffro yn y sin farddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd yn adlewyrchu’r bwrlwm hwn.”

Ewch i wefan Tŷ Newydd i weld yr amserlen lawn o sesiynau, darlithoedd, gweithdai ac adloniant gyda’r nos: www.tynewydd.org.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811.

Mae tocynnau’r Ŵyl, gyda gostyngiad hael i fyfyrwyr, ar werth yn Nhŷ Newydd ac mae modd eu prynu o flaen llaw drwy ffonio 01766 522 811.  Ac eithrio’r ddarlith mewn tair iaith, cynhelir yr Ŵyl trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.

Cefnogir yr ŵyl gan Golwg 360 a Chyngor Gwynedd.

Am fwy o wybodaeth neu luniau cysylltwch â:

Llenyddiaeth Cymru,

Prif Weithredwr: Lleucu Siencyn,

Tŷ Newydd,

Llanystumdwy,

Cricieth,

LL52 0LW

01766 522 811/ tynewydd@llenyddiaethcymru.org

www.llenyddiaethcymru.org / www.tynewydd.org

@LlenCymru (twitter)

Gwaith/Cartref – rhagflas o’r bennod gyntaf #rhagolygiad
Dr Michelle Davies sydd wedi gwylio’r bennod gyntaf ac yn rhoi rhagolygiad i wefan Tu Chwith.

Gwaith/Cartref: Mwy o’r Gwaith /Llai o’r Cartref

Mae cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan – Gwaith/Cartref gan Roger Williams – yn ddrama sydd â dwy ochr iddi. Ar y naill ochr gwelir criw o athrawon wrth eu gwaith bob dydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf, Caerdydd, ac ar y llaw arall gwelir yr un set o athrawon yn meddwi’n rhacs (dyna brif hanfod y bennod gyntaf, o leiaf) yn ystod eu hamser hamdden.

Y peth cyntaf ddywedaf i amdani yw bod y bennod gyntaf yn hwyl. Mae hi’n symud yn slic, yn llawn cerddoriaeth ffynci, gyda golygfeydd difyr a stori dda. Yn syml, dwi’n ei hoffi hi. Mae pawb wedi bod yn yr ysgol ac mae pawb yn cofio’r antics a’r helynt a fu tra’r oedden nhw yna, ac yn hynny o beth mae pawb yn gallu uniaethu gyda hanner awr gyntaf y ddrama – sy’n canolbwyntio ar fywyd yn yr ysgol.

Ond nid pawb sydd yn athro, ac nid pob athro sy’n yfed yn drom. Dyma lle gall y ddrama hon dramgwyddo. Mae’r ail hanner – sy’n canolbwyntio ar fywydau cymdeithasol yr athrawon – yn cael ei ganoli yn y bennod gyntaf o amgylch yfed, rhyw a ffraeo plentynnaidd. Mae apêl amlwg yma at bobl ifanc a’r ifanc eu hysbryd ond da chi, peidiwch â gwylio os ydych chi’n athro cydwybodol sydd wedi cael llond bol ar bobl yn awgrymu eich bod chi gyd yn alcis – wneith y ddrama hon ddim lles i’ch ‘enw da’. Yr argraff gyntaf a geir o’r prif gymeriadau yw eu bod naill ai’n yfed gormod, yn ddifywyd neu wedi colli eu marblis yn llwyr!

Fel pennod gyntaf, roedd y gymysgfa o gymeriadau yn esgor ar ddeunydd dramatig effeithiol. Nid gor-ddweud bysai awgrymu mai cymeriadau ystrydebol yw’r athrawon ar yr olwg gyntaf – pawb yn ffansïo’r athrawes chwaraeon, athrawes gelf sy’n artist tlawd, athro Cymraeg sy’n cywiro iaith pawb, athro daearyddiaeth ar ego trip, athrawes ganol oed sydd ar drothwy chwalfa nerfol a phrifathro sydd â’i fryd ar gadw enw da’r ysgol yn hytrach na diswyddo athrawon gwael. Rhaid peidio anghofio’r myfyriwr druan ar ei brofiad ymarfer dysgu sy’n ymdebygu at oen yn mynd i’r lladd-dy wrth wynebu dosbarth afreolus blwyddyn 9. Defnyddir yr elfennau adnabyddus hyn mewn athrawon i greu hiwmor a drama ac mae’n anodd peidio dechrau hel atgofion am eich cyn athrawon wrth adnabod y nodweddion cyfarwydd yn eu cymeriadau. A dyna lwyddiant y ddrama hon – bron. I mi, nid yw ail hanner y ddrama yn cydio cymaint wrth i’r canolbwynt fod ar noson gyri heb anghofio’r llond bolied o win a chwrw yn bwdin.

Er bod y rhyngweithio rhwng y cymeriadau’n taro deuddeg afraid dweud bod y ffocws ar or-yfed yn ffordd hawdd i greu drama heb orfod dyfeisio sefyllfaoedd cymhleth er mwyn gosod seiliau ar gyfer gwrthdaro. Yn hynny o beth, gallaf ond gobeithio y bydd mwy o ddychymyg yn ail haneri’r penodau nesaf neu bydd gwylio criw o athrawon yn meddwi, bachu a chwympo mas yn siŵr o ddiflasu rhywun.

Braidd yn rhyfedd oedd sylweddoli bod dau o’r cymeriadau yn adnabyddus i’r gwylwyr eisoes. Roedd Emyr Tomos a Sara Harris yn gymeriadau yn y ddrama Caerdydd a oedd yn gweithio fel athrawon yn y gyfres honno. Dydw i ddim yn gweld union bwrpas defnyddio’r cymeriadau hyn gan ein bod eisoes yn gyfarwydd â’u hang-ups personol ac wedi meddwl ein bod ni wedi gweld cefn ar Emyr a’i Life Rules ond ysywaeth mae e’n ôl gydag Irritating Lodger Facts  - mae’n rhannu fflat gyda’r cyw fyfyriwr diniwed sy’n ffan o gerddoriaeth Dafydd Iwan.

Er mor hoffus oedd perthynas Emyr a Sara yng nghyfres Caerdydd nid ellir rhagweld y bydd y ddau gymeriad yn ychwanegu unrhyw beth newydd at Gwaith/Cartref, braidd yn llac oedd peidio dechrau o’r newydd gyda chymeriadau newydd ac mae’n anodd dychmygu pam y digwyddodd hyn o gwbl. Ar ben y cyfan, roedd yr actor sy’n chwarae rhan Dan yr athro Daearyddiaeth yn chwarae rhan Danny yn Caerdydd – oni wnaeth Peter a Kate gladdu Danny wedi i Kate ei lofruddio?! Ydi e’n mynd i ddod yn ôl yn farw-fyw?! Os ydych chi’n bwriadu cadw dau gymeriad o Caerdydd allwch chi ddim gwneud camgymeriad fel hyn wrth gastio cymeriadau eraill. Rhyfedd iawn.

Ar y cyfan roedd y bennod agoriadol yn diddanu ac yn sicr yn denu rhywun yn ôl i wylio mwy. Mae’r cysylltu geiriau rhwng y dosbarthiadau yn wych ac yn sicrhau arddull gyfoes, feistrolgar.  Nid oes angen sôn am y penderfyniad i gastio gog (Rhian Blythe) fel hwntw er mor agos yw hi at lwyddo i basio fel un, ond mae gan ei chwaer Beca (Hannah Daniel) acen wahanol iddi ac mae pethau bach fel yna’n gwneud gwahaniaeth i bobl fel fi sydd angen i bob manylyn fod yn ei le er mwyn cael fy argyhoeddi. Ond fel ddywedais i, nid oes angen sôn am hynny. Os ydych chi awydd gwylio rhywbeth ysgafn wneith roi gwên ar eich wyneb, gwyliwch y gyfres hon. Mae hi’n llawer gwell na lot o’r stwff sydd wedi dod mas o stabl S4C yn ddiweddar, gydag ymdrech go lew i symud gyda’r oes ac apelio at wylwyr ifanc, gyda hanner gyntaf y bennod agoriadol yn arbennig o dda. Mae ganddi’r potensial i fod yn wych…croesi bysedd iddi wireddu hynny a chanolbwyntio fwy ar y golygfeydd yn y gwaith a llai ar y meddwi a’r cartref, mae ail gyfres ar ei ffordd waeth beth fydd barn y gwylwyr, felly gobeithio am y gorau amdani.

Dr Michelle Davies

Ôl-rifynnau o Tu Chwith ar gael nawr
Mae nifer o bobl wedi bod yn gofyn am ôl-rifynnau o’r cylchgrawn. Dyma gyfle i chi gael gafael ar rifynnau prin iawn o 1999 ymlaen. E-bostiwch tuchwith@googlemail.com er mwyn archebu a dod i drefniant talu a chludo. Ni fydd modd talu drwy’r wefan.

O’r 21 gwahanol ôl-rifyn o Tu Chwith sydd ganddom ni. Gan ddechrau â’r set sy’n cynnwys y mwyaf prin, dim ond 3 set llawn sydd ar gael. 1 set o 20 cyfrol,  3 set o 19 cyfrol, 2 set o 18 cyfrol, 2 set o 17 cyfrol, ac yn y blaen!

Dyma enghreifftiau o rai o’r cyfrolau sydd ar gael:

Cyfrol 12: Cymru / Lloegr    -  gol. Angharad Price a Sioned Puw Rowlands  -  PRIN IAWN!

Cyfrol 13: Pechod    -    gol. Lowri I. Davies   –   PRIN IAWN!

Cyfrol 14: Ffasiwn     –      gol. Lowri I. Davies    -   PRIN IAWN!

Cyfrol 16: Bwyd a Diod  -  gol. Lowri I. Davies

Cyfrol 19: Mygydau   –    gol. Dyfrig Jones

Cyfrol 20: Plentyndod   –   gol. Fflur Dafydd    -   PRIN IAWN!!!

Cyfrol 21: Ffiniau     –     gol. Mari Siôn

Cyfrol 22:   Rhyddid    -   gol. Angharad Elen

Cyfrol 25:   Gwerin    -    gol. Gwenfair Michael      -     PRIN IAWN!

Cyfrol 26: Egni    -     gol. Catrin Dafydd

Cyfrol 27: Newid   –   gol. Catrin Dafydd

Cyfrol 28: Adoniant   –  gol. Rhiannon Michael

Cyfrol 29: Dinas    -  gol. Menna Machreth

Cyfrol 30: Na!   –    gol. Steffan Cravos ac Angharad Elen

Cyfrol 31: Creu  -  gol. Menna Machreth

Cyfrol 32: Mapio’r Byd    -    gol. Jon Gower

Cyfrol 33: Croesi Ffiniau   –  gol. Ceri Elen a Menna Machreth

Cyfrol 34: Gwyddoniaeth   –   gol. Menna Machreth

Lansio cyfrol newydd Tu Chwith
Cofiwch am y lansiad heddiw am 12y.p. yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod. Darlleniadau gan Eurig Salisbury, Osian Rhys Jones, Casia Wiliam, Leusa Fflur Llewelyn, Marged Parry a sgwrs gyda’r golygyddion newydd – Rhiannon Marks ag Elin Angharad.

Enwi golygyddion newydd Tu Chwith
Mae’n bleser cael cyhoeddi pwy yw golygyddion newydd tu chwith a fydd yn dechrau ar eu gwaith fis Awst 2011. Elin Angharad Owen a Rhiannon Marks yw golygyddion newydd Tu Chwith. Mae Elin yn wreiddiol o Nefyn, Gwynedd, ond bellach mae’n astudio ar gyfer doethuriaeth yn Adran Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Daw Rhiannon o Gil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin, ac mae newydd ennill ei doethuriaeth am ei hastudiaeth o waith ffeminyddol Menna Elfyn. Bydd y ddwy yn rhannu’r olygyddiaeth. Bydd cyfle i glywed wrthynt yn lansiad cyfrol newydd Tu Chwith ar Ddydd Sadwrn Awst 6ed am 12y.p. yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod.

Meddai Menna Machreth, uwch-olygydd tu chwith:

‘Roedd hi’n fraint aruthrol i fi gael golygu cylchgrawn tu chwith, a dod i gysylltiad â doniau celfyddydol ar draws Cymru. Dymunaf yn dda i Elin a Rhiannon, dwylo abl iawn, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n rhoi cyfeiriad cyffrous a ffresh i’r cylchgrawn.’