0

Jon Gower yn sôn am olygu’r rhifyn nesaf o tu chwith

Bydd rhifyn nesaf tu chwith yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y mis. Wrth edrych ymlaen at hynny, rhaid oedd mynd i holi golygydd gwadd y gyfrol – Jon Gower – am beth allwn ni ddisgwyl yn y cylchgrawn ac am y broses o fynd ati i olygu cylchgrawn tu chwith. Edrychwch ar y cyfweliad i gael gwybod beth yw thema’r cylchgrawn hefyd!

I gael gafael ar gopi, beth am gymryd mantais o’r cynnig tanysgrifio sydd ganddom ni ar hyn o bryd? Tanysgrifiwch ar y wefan hon cyn Mawrth 28ain, ac fe gewch chi tu chwith drwy’r post, yn rhatach a post am ddim hefyd! Tanysgrifiwch.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Tanysgrifiwch i tu chwith – cynnig arbennig tan Fawrth 31ain!

CYNNIG ARBENNIG

I ddathlu fod gan tu chwith wefan newydd, rydym yn cynnig gostyngiad yn ein pris tanysgrifio i gylchgrawn tu chwith.

Os tanysgrifiwch nawr, gallwch dderbyn tu chwith drwy’r post am ddwy flynedd am £18.00 felly byddwch yn arbed tua £10 (gostyngiad a pris postio am ddim). Byddwch yn derbyn copi o rifyn diweddaraf tu chwith yn syth drwy’r post. Bydd tu chwith yn cymryd £18 o’ch cyfrif unwaith bob 2 flynedd.

Mae’r cynnig wedi dod i ben ar Fawrth 31ain, 2010.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

tu chwith yng nghynhadledd Dydd y Farn (Dafydd Morgan Lewis yn adolygu Mr Blaidd)

Yn ystod prynhawn cynhadledd Dydd y Farn (a drefnwyd gan yr Academi i drafod adolygu/beirniadaeth y celfyddydau) gosodwyd her i Dafydd Morgan Lewis i wneud adolygiad byw o nofel Mr Blaidd gan Llwyd Owen. Dyma glip o’i adolygiad i chi weld. Mae ei eglurder a’i ffraethineb yn sicr yn bethau i’w cofio wrth fynd ati i gyflwyno darn o gelfyddyd i gynulleidfa.

Hefyd bu Sioned Williams yn adolygu Y Gofalwr drama sydd yn cael ei pherfformio gan Theatr Genedlaethol Cymru ar lwyfannau Cymru ar hyn o bryd a cafwyd adolygiad o Ryan a Ronnie ac Ar y Tracs sef ffilmiau’r Nadolig ar S4C gan Kate Woodward.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

tu chwith yng nghynhadledd Dydd y Farn (cyfweliad â Sian Melangell Dafydd)

Dyma flas i chi o gynhadledd Dydd y Farn a gynhaliwyd gan yr Academi yn Aberystwyth ar Fawrth 6ed, 2010. Yma, rwy’n cyfweld â Sian Melangell Dafydd sef un o olygyddion Tu Chwith. Gwyliwch y fideo er mwyn darganfod mwy am beth oedd yn mynd ymlaen yn y gynhadledd ac am dips oddi wrth Sian am ysgrifennu adolygiad!

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

croeso i wefan newydd tu chwith

Croeso i wefan newydd tu chwith.

Dewch yn ôl yn fuan i weld cyfweliadau, darllen pigion o’r archif a darllen syniadau difyr!

A tanysgrifio i gylchgrawn gwych tu chwith.

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
Pages ... 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13