Rhestr llawn o gynnwys rhifyn newydd Tu Chwith: Haf 2011
Dyma restr llawn o’r cynnwys yn gronolegol:
Golygyddol: Osian Rhys Jones
Toriadau (cerdd) – Eurig Salisbury
Cysgodion (cerdd) – Casia Wiliam
Craduriaid y Cyrion (casgliad o lên meicro) – Gwilym Dwyfor
Lle bo iaith, bydd cymdeithas (cerdd)- Gruffudd Antur
Adain Avion – Marc Rees
Ei darganfod mewn odlau (celf) – Carwyn Evans
Capel Garmon – Eryl Prys Jones
Merch sy’n ysmygu… (cerdd) – Guto Dafydd
Llythyr o Ganada – Gareth Jones
J’accepte (cerdd) – Sion Pennar ac Elizabeth L’Eveillé
Riverside – Leusa Fflur Llewelyn
Golwg ar Gymdeithas – Dewi Huw Owen
‘Ymddiddan y Corff a’r Enaid Meddwl’ – Rhiannon Marks
Y Dafarn – Anni Llŷn
Cymdeithas Gynaliadwy – Gwenith Hughes
Gwydr, Golau, Gofod (Celf) – Rhian Haf
Defnyddio cerddoriaeth i ddod â chymunedau ynghyd (erthygl) – Esyllt Williams
Pornograffi – Cai Dyfan a Ciron Gruffydd
Gwylanod (cerdd) – Marged Parry
Arbrawf mewn cymdeithas – Dyfrig Lewis Smith
Cymdeithas – Menna Machreth
Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd 2011
Cynganeddwyr Cymru yn heidio i Dŷ Newydd

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi bod Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd yn ei hôl eto eleni. Ar benwythnos olaf Tachwedd (26-27) 2011, bydd digwyddiadau dirifedi ar gyfer beirdd, pobl ifainc, dysgwyr, a phawb sy’n ymddiddori mewn barddoniaeth a chlec y gynghanedd.
Ymysg digwyddiadau’r penwythnos, bydd gweithdai cynganeddu amrywiol fore Sadwrn yn Nhŷ Newydd, yn cynnwys sesiwn blas ar y gynghanedd i ddysgwyr y Gymraeg, a gweithdy ar sut i drydar eich canu caeth ar Twitter.
Brynhawn Sadwrn 26 Tachwedd, yn Amgueddfa Lloyd George, bydd yr Athro Gwyn Thomas yn cyflwyno darlith ar fywyd a gwaith brenin y gynghanedd, Dafydd ap Gwilym. Yna bydd Myrddin ap Dafydd yn cynnal sesiwn holi gyda phrifardd Eisteddfod Wrecsam 2011, Rhys Iorwerth. Bydd hefyd darlith hynod o arbennig yn trafod baled fawreddog o Hwngari a ysgrifennwyd dwy ganrif yn ôl am feirdd Cymru’n cael eu herlyn gan Edward I. Twm Morys, László Irinyi (o’r Hwngari) a John Asquith fydd yn trafod y pwnc mewn tair iaith.
Un o uchafbwyntiau’r ŵyl heb os bydd yr ymryson yng Nghwesty’r Marine yng Nghricieth nos Sadwrn, gyda deuddeg o’n beirdd gorau yn mynd benben mewn brwydr am y ffon, a theitl Pencerdd Tŷ Newydd.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Bydd pawb – boed yn gynganeddwyr neu’n ddilynwyr y grefft – yn sicr o fwynhau’r penwythnos hwn yn ysblander Tŷ Newydd. Mae yna gyffro yn y sin farddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd yn adlewyrchu’r bwrlwm hwn.”
Ewch i wefan Tŷ Newydd i weld yr amserlen lawn o sesiynau, darlithoedd, gweithdai ac adloniant gyda’r nos: www.tynewydd.org. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811.
Mae tocynnau’r Ŵyl, gyda gostyngiad hael i fyfyrwyr, ar werth yn Nhŷ Newydd ac mae modd eu prynu o flaen llaw drwy ffonio 01766 522 811. Ac eithrio’r ddarlith mewn tair iaith, cynhelir yr Ŵyl trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
Cefnogir yr ŵyl gan Golwg 360 a Chyngor Gwynedd.
Am fwy o wybodaeth neu luniau cysylltwch â:
Llenyddiaeth Cymru,
Prif Weithredwr: Lleucu Siencyn,
Tŷ Newydd,
Llanystumdwy,
Cricieth,
LL52 0LW
01766 522 811/ tynewydd@llenyddiaethcymru.org
www.llenyddiaethcymru.org / www.tynewydd.org
@LlenCymru (twitter)
Gwaith/Cartref – rhagflas o’r bennod gyntaf #rhagolygiad
Dr Michelle Davies sydd wedi gwylio’r bennod gyntaf ac yn rhoi rhagolygiad i wefan Tu Chwith.
Gwaith/Cartref: Mwy o’r Gwaith /Llai o’r Cartref
Mae cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan – Gwaith/Cartref gan Roger Williams – yn ddrama sydd â dwy ochr iddi. Ar y naill ochr gwelir criw o athrawon wrth eu gwaith bob dydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf, Caerdydd, ac ar y llaw arall gwelir yr un set o athrawon yn meddwi’n rhacs (dyna brif hanfod y bennod gyntaf, o leiaf) yn ystod eu hamser hamdden.
Y peth cyntaf ddywedaf i amdani yw bod y bennod gyntaf yn hwyl. Mae hi’n symud yn slic, yn llawn cerddoriaeth ffynci, gyda golygfeydd difyr a stori dda. Yn syml, dwi’n ei hoffi hi. Mae pawb wedi bod yn yr ysgol ac mae pawb yn cofio’r antics a’r helynt a fu tra’r oedden nhw yna, ac yn hynny o beth mae pawb yn gallu uniaethu gyda hanner awr gyntaf y ddrama – sy’n canolbwyntio ar fywyd yn yr ysgol.
Ond nid pawb sydd yn athro, ac nid pob athro sy’n yfed yn drom. Dyma lle gall y ddrama hon dramgwyddo. Mae’r ail hanner – sy’n canolbwyntio ar fywydau cymdeithasol yr athrawon – yn cael ei ganoli yn y bennod gyntaf o amgylch yfed, rhyw a ffraeo plentynnaidd. Mae apêl amlwg yma at bobl ifanc a’r ifanc eu hysbryd ond da chi, peidiwch â gwylio os ydych chi’n athro cydwybodol sydd wedi cael llond bol ar bobl yn awgrymu eich bod chi gyd yn alcis – wneith y ddrama hon ddim lles i’ch ‘enw da’. Yr argraff gyntaf a geir o’r prif gymeriadau yw eu bod naill ai’n yfed gormod, yn ddifywyd neu wedi colli eu marblis yn llwyr!
Fel pennod gyntaf, roedd y gymysgfa o gymeriadau yn esgor ar ddeunydd dramatig effeithiol. Nid gor-ddweud bysai awgrymu mai cymeriadau ystrydebol yw’r athrawon ar yr olwg gyntaf – pawb yn ffansïo’r athrawes chwaraeon, athrawes gelf sy’n artist tlawd, athro Cymraeg sy’n cywiro iaith pawb, athro daearyddiaeth ar ego trip, athrawes ganol oed sydd ar drothwy chwalfa nerfol a phrifathro sydd â’i fryd ar gadw enw da’r ysgol yn hytrach na diswyddo athrawon gwael. Rhaid peidio anghofio’r myfyriwr druan ar ei brofiad ymarfer dysgu sy’n ymdebygu at oen yn mynd i’r lladd-dy wrth wynebu dosbarth afreolus blwyddyn 9. Defnyddir yr elfennau adnabyddus hyn mewn athrawon i greu hiwmor a drama ac mae’n anodd peidio dechrau hel atgofion am eich cyn athrawon wrth adnabod y nodweddion cyfarwydd yn eu cymeriadau. A dyna lwyddiant y ddrama hon – bron. I mi, nid yw ail hanner y ddrama yn cydio cymaint wrth i’r canolbwynt fod ar noson gyri heb anghofio’r llond bolied o win a chwrw yn bwdin.
Er bod y rhyngweithio rhwng y cymeriadau’n taro deuddeg afraid dweud bod y ffocws ar or-yfed yn ffordd hawdd i greu drama heb orfod dyfeisio sefyllfaoedd cymhleth er mwyn gosod seiliau ar gyfer gwrthdaro. Yn hynny o beth, gallaf ond gobeithio y bydd mwy o ddychymyg yn ail haneri’r penodau nesaf neu bydd gwylio criw o athrawon yn meddwi, bachu a chwympo mas yn siŵr o ddiflasu rhywun.
Braidd yn rhyfedd oedd sylweddoli bod dau o’r cymeriadau yn adnabyddus i’r gwylwyr eisoes. Roedd Emyr Tomos a Sara Harris yn gymeriadau yn y ddrama Caerdydd a oedd yn gweithio fel athrawon yn y gyfres honno. Dydw i ddim yn gweld union bwrpas defnyddio’r cymeriadau hyn gan ein bod eisoes yn gyfarwydd â’u hang-ups personol ac wedi meddwl ein bod ni wedi gweld cefn ar Emyr a’i Life Rules ond ysywaeth mae e’n ôl gydag Irritating Lodger Facts - mae’n rhannu fflat gyda’r cyw fyfyriwr diniwed sy’n ffan o gerddoriaeth Dafydd Iwan.
Er mor hoffus oedd perthynas Emyr a Sara yng nghyfres Caerdydd nid ellir rhagweld y bydd y ddau gymeriad yn ychwanegu unrhyw beth newydd at Gwaith/Cartref, braidd yn llac oedd peidio dechrau o’r newydd gyda chymeriadau newydd ac mae’n anodd dychmygu pam y digwyddodd hyn o gwbl. Ar ben y cyfan, roedd yr actor sy’n chwarae rhan Dan yr athro Daearyddiaeth yn chwarae rhan Danny yn Caerdydd – oni wnaeth Peter a Kate gladdu Danny wedi i Kate ei lofruddio?! Ydi e’n mynd i ddod yn ôl yn farw-fyw?! Os ydych chi’n bwriadu cadw dau gymeriad o Caerdydd allwch chi ddim gwneud camgymeriad fel hyn wrth gastio cymeriadau eraill. Rhyfedd iawn.
Ar y cyfan roedd y bennod agoriadol yn diddanu ac yn sicr yn denu rhywun yn ôl i wylio mwy. Mae’r cysylltu geiriau rhwng y dosbarthiadau yn wych ac yn sicrhau arddull gyfoes, feistrolgar. Nid oes angen sôn am y penderfyniad i gastio gog (Rhian Blythe) fel hwntw er mor agos yw hi at lwyddo i basio fel un, ond mae gan ei chwaer Beca (Hannah Daniel) acen wahanol iddi ac mae pethau bach fel yna’n gwneud gwahaniaeth i bobl fel fi sydd angen i bob manylyn fod yn ei le er mwyn cael fy argyhoeddi. Ond fel ddywedais i, nid oes angen sôn am hynny. Os ydych chi awydd gwylio rhywbeth ysgafn wneith roi gwên ar eich wyneb, gwyliwch y gyfres hon. Mae hi’n llawer gwell na lot o’r stwff sydd wedi dod mas o stabl S4C yn ddiweddar, gydag ymdrech go lew i symud gyda’r oes ac apelio at wylwyr ifanc, gyda hanner gyntaf y bennod agoriadol yn arbennig o dda. Mae ganddi’r potensial i fod yn wych…croesi bysedd iddi wireddu hynny a chanolbwyntio fwy ar y golygfeydd yn y gwaith a llai ar y meddwi a’r cartref, mae ail gyfres ar ei ffordd waeth beth fydd barn y gwylwyr, felly gobeithio am y gorau amdani.
Dr Michelle Davies
Ôl-rifynnau o Tu Chwith ar gael nawr
Mae nifer o bobl wedi bod yn gofyn am ôl-rifynnau o’r cylchgrawn. Dyma gyfle i chi gael gafael ar rifynnau prin iawn o 1999 ymlaen. E-bostiwch tuchwith@googlemail.com er mwyn archebu a dod i drefniant talu a chludo. Ni fydd modd talu drwy’r wefan.
O’r 21 gwahanol ôl-rifyn o Tu Chwith sydd ganddom ni. Gan ddechrau â’r set sy’n cynnwys y mwyaf prin, dim ond 3 set llawn sydd ar gael. 1 set o 20 cyfrol, 3 set o 19 cyfrol, 2 set o 18 cyfrol, 2 set o 17 cyfrol, ac yn y blaen!
Dyma enghreifftiau o rai o’r cyfrolau sydd ar gael:
Cyfrol 12: Cymru / Lloegr - gol. Angharad Price a Sioned Puw Rowlands - PRIN IAWN!
Cyfrol 13: Pechod - gol. Lowri I. Davies – PRIN IAWN!
Cyfrol 14: Ffasiwn – gol. Lowri I. Davies - PRIN IAWN!
Cyfrol 16: Bwyd a Diod - gol. Lowri I. Davies
Cyfrol 19: Mygydau – gol. Dyfrig Jones
Cyfrol 20: Plentyndod – gol. Fflur Dafydd - PRIN IAWN!!!
Cyfrol 21: Ffiniau – gol. Mari Siôn
Cyfrol 22: Rhyddid - gol. Angharad Elen
Cyfrol 25: Gwerin - gol. Gwenfair Michael - PRIN IAWN!
Cyfrol 26: Egni - gol. Catrin Dafydd
Cyfrol 27: Newid – gol. Catrin Dafydd
Cyfrol 28: Adoniant – gol. Rhiannon Michael
Cyfrol 29: Dinas - gol. Menna Machreth
Cyfrol 30: Na! – gol. Steffan Cravos ac Angharad Elen
Cyfrol 31: Creu - gol. Menna Machreth
Cyfrol 32: Mapio’r Byd - gol. Jon Gower
Cyfrol 33: Croesi Ffiniau – gol. Ceri Elen a Menna Machreth
Cyfrol 34: Gwyddoniaeth – gol. Menna Machreth



