0

Enwi golygyddion newydd Tu Chwith

Mae’n bleser cael cyhoeddi pwy yw golygyddion newydd tu chwith a fydd yn dechrau ar eu gwaith fis Awst 2011. Elin Angharad Owen a Rhiannon Marks yw golygyddion newydd Tu Chwith. Mae Elin yn wreiddiol o Nefyn, Gwynedd, ond bellach mae’n astudio ar gyfer doethuriaeth yn Adran Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Daw Rhiannon o Gil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin, ac mae newydd ennill ei doethuriaeth am ei hastudiaeth o waith ffeminyddol Menna Elfyn. Bydd y ddwy yn rhannu’r olygyddiaeth. Bydd cyfle i glywed wrthynt yn lansiad cyfrol newydd Tu Chwith ar Ddydd Sadwrn Awst 6ed am 12y.p. yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod.

 

Meddai Menna Machreth, uwch-olygydd tu chwith:

 

‘Roedd hi’n fraint aruthrol i fi gael golygu cylchgrawn tu chwith, a dod i gysylltiad â doniau celfyddydol ar draws Cymru. Dymunaf yn dda i Elin a Rhiannon, dwylo abl iawn, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n rhoi cyfeiriad cyffrous a ffresh i’r cylchgrawn.’

 

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Lansiad #tuchwith #cymdeithas 6.8.11 yn y Babell Lên

Awduron ifanc yn ymateb i’r ‘gymdeithas fawr / big society’

 

Y ‘gymdeithas fawr’, y toriadau, cynaladwyedd – dyma rai o’r materion a gaiff sylw yn rhifyn newydd y cylchgrawn tu chwith a gyhoeddir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Y golygydd yw Osian Rhys Jones, bardd o’r Ffôr yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Thema’r gyfrol yw ‘Cymdeithas’ sef un o eiriau poblogaidd y funud oherwydd maniffesto y ‘gymdeithas fawr’. Yn y gyfrol, ceir ymatebion creadigol ac erthyglau o gwmpas y pwnc, yn ogystal â gwaith celf newydd.

 

Yn lansiad y gyfrol ar Ddydd Sadwrn 6ed yn y Babell Lên am 11y.b. bydd cyfle i glywed rhai o’r cyfranwyr yn ogystal â chlywed oddi wrth olygyddion newydd y cylchgrawn.

 

Meddai Osian Rhys Jones, golygydd y rhifyn diweddaraf:

 

‘Roedd yn dipyn o her i’r cyfranwyr ymateb i’r thema ‘cymdeithas’. Er bod rhyw optimistiaeth gynnil yn dal i belydru’i olau yn dilyn canlyniad refferendwm y Cynulliad eleni mae yna gymylau digon tywyll uwchben o hyd; y cyni economaidd, bygythiadau i’r sefydliadau sy’n hanfodol i barhad ein hiaith, yn ogystal â datblygiad dyddiol straeon cenedlaethol am newyddiadurwyr a heddweision llwgr.

 

‘Er gwaethaf hynny ymatebodd y cyfranwyr yn y rhifyn hwn trwy gynnig llwybrau newydd i ni eu dilyn. Dengys Gwenith Hughes yn ei herthygl “Cymdeithas Gynaliadwy” fod cynaliadwyedd yn greiddiol hanfodol i barhad ein cymdeithasau gan gynnig rhai ffyrdd y gallwn gyflawni’r nod hwnnw. Yn erthygl Esyllt Williams, ‘Defnyddio cerddoriaeth i ddod â chymunedau ynghyd’, fe ddadlennir i ni nad yw’r gair “cymuned” yn gyfystyr ymhob diwylliant. Mae pob cyfraniad i’r rhifyn, ym mha bynnag gyfrwng, yn dangos bod llais gan lenorion a beirdd Cymru, boed yn hawddfyd neu adfyd.’

 

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Cyfweliad â Steffan John – cyfrannwr #tuchwith34

Mae Steffan John yn astudio hanes athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac fe ysgrifennodd erthygl am y rôl sydd gan wyddoniaeth wrth greu polisi cymdeithasol ar gyfer Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’.

 

1. Beth sy’n dy ddenu di i astudio hanes athroniaeth?

 

Yn aml, mae athroniaeth yn cael ei drin fel rhywbeth tu hwnt i amser, ond dwi’n teimlo ei fod yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio mewn amser a sefyllfa benodol. Mae’n hefyd yn rhoi darlun i ni o gredoau ac ofnau’r cyfnod dan sylw. Clywir y ddadl bod athroniaeth yn bell o’r ‘byd-go-iawn’ ac felly’n ddibwrpas, ond y gwirionedd yw ein hymddygiad yn deillio o’r zeitgeist  neu safononau sy’n dderbyniol gan gymdeithas. Syniadau – hynny ydi, athroniaeth – sy’n gyrru, siapio a diffinio ein bywydau.

 

2. Yn dy erthygl yn rhifyn newydd Tu Chwith, rwyt ti’n trafod creu polisi cyhoeddus ar sail gwyddoniaeth. A allai gwyddoniaeth reoli polisi yn fwy na idioleg yn y dyfodol?

 

I raddau helaeth, mae’n rheoli’n mwy na idioleg yn barod. Edrychwch ar y economi. Mae’r llywodraeth (San Steffan) a’u cefnogwyr yn mynnu rhaid cwtogi’r ddyled cyn gynted â phosib ac mai dyma’r unig ateb wedi ei brofi gan wyddoniaeth yr economi – yn hytrach na chydnabod mai un ymateb ideolegol allan o amrywiaeth o safbwyntiau yw hwn. Rydw i’n dal i synnu ar dlodi syniadaeth y Chwith o ran eu methiant i lunio ymateb gwahanol eu hunain, yn enwedig gan fod diffyg enghreifftiau hanesyddol o lywodraethau yn tyfu eu heconomïau yn ystod dirwasgiad drwy doriadau hallt ar wariant cyhoeddus.

 

Nid rhwng gwyddoniaeth ac idioleg y mae’r ymgiprys ar hyn o bryd ond rhwng gwyddoniaeth â phoblogrwydd a gallai hyn barhau am beth amser. Wedi dweud hynny, mae unrhyw ymgais i reoli cymdeithas yn wyddonol yn methu yn hwyr neu hwyrach, ac mae athroniaeth wleidyddol bob amser yn ailymddangos ar ôl cyfnodau o absenoldeb, felly tybiaf y bydd ideoleg ddychwelyd i ganol gwleidyddiaeth unwaith eto, er ei bod hi’n anodd dweud sut ar hyn o bryd.

 

3. Beth yw dy farn am bolisi Llywodraeth Cymru i ddifa moch-daear?

 

Problem gymharol tecnocrataidd yn hytrach nag un gwleidyddol na chymdeithasol yw hi, felly mae llai o broblemau wrth defnyddio technegau ymchwil gwyddonol yn yr achos yma. Does dim llawer o dystiolaeth i brofi y bydd cynllun difa yn effeithiol. Gellir dadlau fod ffinau naturiol yng Ngheredigion i rwystro Moch-daear i ddianc i lefydd eraill i gludo TB, ond does dim llawer o ymchwil wedi ei wneud i fesur hyn. Mae lefelodd TB wedi hanneri bron â bod dros y blynyddoedd diwethaf heb bolisi difa, felly ar y cyfan, rwy’n feirniadol o bolisi’r Llywodraeth Cymru. Ar fater technocrataidd fel hyn dylent naill ai dilyn y dystiolaeth, neu brofi fod sail y dystiolaeth yn wael. Nid ydynt wedi gwneud y nail neu’r llall.

 

4. Wyt ti’n credu bod gormod o fwlch rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau yng Nghymru?

 

‘Dwi ddim yn meddwl fod yn llawer o ddealltwriaeth o gryfderau a gwendidau y ddau fyd, na’r problemau o blethu’r ddau ohonynt gyda’i gilydd. Os rydym eisiau datblygu fel gwlad, rhaid i ni gael fwy o barch, dealltwriaeth a chefnogaeth tuag at y ddau, ond ofnaf fod ein gwrthwynebiad tuag unrhyw fath o elitiaeth – yn enwedig elitiaeth ddeallusol – yn ein dal ni’n nôl, ond mae hynny’n fater arall!

 

5. Pwy yw dy hoff athronydd a dy hoff wyddonydd?

 

Rwy’n hoff iawn o Marx a Weber, ond mae’n debyg mai Karl Popper yw fy ffefryn, oherwydd ei amddiffyniad o feirniadaeth agored, a’i feirniadaeth hallt o’r rheini a fynnodd eu bônt â dealltwriaeth sicr o’r byd, fel y medrent anwybyddu democratiaeth yn gyfan gwbl.

 

6. Beth rwyt ti wedi ei fwynhau am y rhifyn newydd o Tu Chwith?

 

Fe fwynheuais ‘rant’ Gethin Rhys Thomos am sut mae gwyddoniaeth yn cael ei drin yn y cyfryngau yn fawr, ac roedd erthygl wrth-batriachaidd Mair Rees yn ddidorol iawn. Anaml rwy’n gweld safbwynt o’r fath yn cael ei ddatgan, ag roedd hi’n bleser darllen rhywbeth fel ‘na.

 

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Rhowch i mi ‘rwtsh da’ y Gelli, cariad…

Lowri Cooke sy’n edrych ymlaen at wythnos o ddiwylliant yng Ngŵyl y Gelli, ond mae’r Gymraes ynddi yn gweld mwy nag un agwedd i’r ŵyl.

 

Mae Lowri Cooke yn ymchwilydd ac yn feirniad diwylliannol ac mae’n byw yng Nghaerdydd.

 


 

Rob Lowe, John Waters, Ralph Fiennes a Vanessa Redgrave. Rhai o sêr y byd ffilm a fu’n cerdded La Croisette yn Cannes wythnos ddwetha? Dim o’r fath beth. Dyma ddetholiad yn unig o’r enwau mawrion fydd yn hyrwyddo eu prosiectau diweddaraf yng Ngŵyl y Gelli eleni. Ychwanegwch restr o sêr y byd ‘sgwennu at yr Hollywood hotties- gan gynnwys Henning Mankell, Paul O’Grady, Niall Ferguson a Nigella Lawson, heb sôn am gewri gwleidyddol ac athrylithwyr athronyddol- a coeliwch chi fi, does na numan gwell ar benwythnos y Sulgwyn nag yn gorweddian mewn  deckchair llenyddol ar faes yr ŵyl, gyda llyfr mewn un llaw a glasied o Pimms yn y llall, yn gwylio’r byd a’i frawd yn mynd heibio.

 

Yn dilyn blwyddyn lwyddianus yn y Gelli y llynedd pan lwyddais i ac un o’m chwiorydd i gael ein pap-io gan y Guardian a chwrdd ag un o’m arwyr llenyddol, Roddy Doyle, dros beint yn nhafarn y Three Tuns, bu’r teulu Cooke ers tro yn trafod strategaeth ar gyfer gŵyl eleni. Archebwyd Yurt yn Tangerine Fields, a bwrdd yn y River Café – yr unig le i swpera gyda’r hwyr, cariad – ymhell o flaen llaw, heb sôn am rybuddio siopau vintage y dre a’r Anna angylaidd yn siop Llewelyn & Company ein bod yn dychwelyd i brofi bach o glam y Gelli.

 

Yn wir, diolch i’r sîn fringe ffuantus sy’n tyfu bob blwyddyn, mae’n hawdd anghofio mai llenyddiaeth sy’n llywyddu ac mai’r llyfr-bryf sy’n deyrn. Diolch byth, llwyddias i fachu tocynnau i bron pob un digwyddiad ro’n i am eu gweld eleni, gan gynnwys; y dduwies ddomestig Nigella Lawson yn trafod bwyd, Justine Picardie yn trafod ei chofiant Coco Chanel; The Legend and The Life, Owen Sheers yn dangos clipiau ecsgliwsif o’r addasiad ffilm o’i nofel Resistance, a’r Brat-Pack Brat ei hun, Rob Lowe, sy’n hyrwyddo’i hunagofiant hynod ddarllenadwy

Stories I Only Tell My Friends.

 

Ydi, mae’r Gelli’n glanio union ‘run pryd ag Eisteddfod yr Urdd, sy’n rhwystro nifer rhag profi’r ecstrafagansa llenyddol, ond os nad oes plant bach yn y teulu, neu gôr ysgol cyfagos i’w gefnogi, wel does dim rheswm i’r Cymry Cymraeg gadw draw. Yn wir, yr hyn sy’n galonogol yw cymaint o’r iaith Gymraeg a glywir, serch presenoldeb yr Hooray Henry’s a’r Yummy Mummy’s Llundeinaidd gyda’u Baby Bjorlns a’u Hunter Wellies, “Glamping it down in Wales,darling”.

 

Bydd ambell ddigwyddiad o ddiddordeb Cymreig fel Dafydd Ellis Thomas yn trafod pensaerniaeth y Senedd, a Fflur Dafydd, Owen Sheers a T. James Jones yn ymuno â lawnsiad Llenyddiaeth Cymru yn siop lyfrau Booth’s yn y Dre. Ond ar wahân i hynny a’r pwyslais ar werthu cynhyrchion über-chwaethus o Gymru, mae’n siom flynyddol i sylweddoli cyn lleied o ddigwyddiadau Cymraeg – yn enwedig y digwyddiadau sy’n dathlu’r “Rwtsh Da” chwedl y diweddar Eirug Wyn – sydd ar yr amserlen, gyda hyd yn oed Eurig Salisbury yn trafod barddoniaeth Gymraeg yn yr iaith fain.

 

Yn fy marn i, dyw hi ddim digon da i fynnu nad yw’r Cymry Cymraeg yn tyrru i’r Ŵyl. Y llinell glywa’ i fwya ar hyd yr wythnos – yn amlach hyd yn oed na “Oh look, there’s Mariella Fostrup over there, isn’t she tiny?” ydi “Da chi ddim yn yr Urdd eleni?”

 

Yn dilyn Bedwen Lyfrau tra llwyddiannus yng Nghaerdydd fis dwetha, a gyda’r Babell Lên yn dal i ddenu llên-garwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn eu canoedd bob mis Awst, onid yw hi’n bryd i ni’r Cymry Cymraeg gael y cyfle i stelcian rhai o’n selebs ni ar faes y Gelli? Pleser o’r mwya yn 2012 fyddai dal Dewi Prysor a Llwyd Owen yn beirniadu trefn newydd gwobr Llyfr y Flwyddyn dros ddec-chair neu ddau, a glasied o Pimms ym mhob llaw.

 

*I ddarganfod sut hwyl gafodd Lowri yn Y Gelli eleni , mynwch gopi o

Golwg dydd Iau, Mehefin yr 2il!*

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Cyfweliad â Rowan O’Neill – cyfrannwr #tuchwith34

Yn dilyn cyfweliad â Hywel Griffiths, dyma gyfweliad â Rowan O’Neill a ysgrifennodd erthygl am ‘fapio dwfn’ ac mae’r cerddi gan Hywel yn ymateb i’r syniad hwn. ‘Mapio’r Byd’ oedd thema Tu Chwith 32 a olygwyd gan Jon Gower, felly mae’r testun hwn wedi bod o ddiddordeb i Tu Chwith ers amser erbyn hyn.

Mae Rowan yn astudio ar gyfer PhD yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n ymchwilio i waith Clive McLucas sy’n enwog am ei waith â Theatr Brith Gof.

 

 

1. Pa fath o brofiad oedd gweithio gyda Hywel Griffiths?

 

Roedd hi’n bleser gweithio gyda Hywel.  Aethon ni am dro ar hyd yr arfordir o Gwmtydu i Gei Newydd.  Taith o bedair milltir.  Cawsom ni sgwrs eang a triais smyglo ei wybodaeth ddaearyddol wrtho!  Roedd e’n deimlad anhygoel i weld ei gerddi ar ôl y daith ac i feddwl yr oeddwn i yno hefyd ac yn rhan o’r broses creadigol, ac yn rhannu ei brofiad.

 

2. Mewn un brawddeg, beth yw ‘mapio dwfn’?

 

Mae ‘mapio dwfn’ yn edrych ar leoliad neu dirlun penodol, ac yn ymchwilio i’r gwahanol ffyrdd o feddwl am y lleoliad hwnnw e.e. daearyddiaeth y lle, hanes, hanesion personol, emosiwn. Y nod yw cael darlun llawnach o fywyd y tirlun, nid dim ond y ddaearddiaeth. Map pedwar deimensiwn os hoffech.

 

3. Pryd nes di ddod ar draws ‘mapio dwfn’ yn gyntaf?

 

Des i ar draws mapio dwfn yn gyntaf trwy ddarllen transcript o ddarlith gan y ddiweddar Cliff McLucas ar wefan Prifysgol Stanford.  http://humanitieslab.stanford.edu/52/88

Mae’r ddogfen yn gorffen gyda math o faniffesto ar gyfer creu Mapiau Dwfn.  Siŵr o fod hwn tua wyth mlynedd yn ôl.  Roedd hi’n siom fawr i ddarganfod bod Cliff wedi marw ac na chafodd ei syniadau gyfle i ymddangos a datblygu.  Roedd y gwaith yn bwysig i mi achos roedd e’n teimlo fel pe bai e’n tyfu mas o’r ardal lle cefais fy magu (Ceredigion).

 

4. Beth a pwy oedd Theatr Brith Gof a pa fath o theatr roedden nhw’n ei greu?

 

Cwmni Theatr arbrofol oedd Brith Gof a ddatblygodd o waith Cardiff Lab yn gynnar yn yr wythdegau o dan ofal Lis Hughes Jones a Mike Pearson.  Ymunodd Cliff McLucas gyda’r cwmni yn 1988 i weithio ar sioe lleoliad penodol ‘Gododdin’.  Roedd Cliff yn gyfrifol am y senograffi, hynny yw cynllunio sets enfawr.  Roedd y cwmni yn gweithio mewn ffordd unigryw, yn creu digwyddiadau yn hytrach ‘na perfformiadau traddodiadol.  Er na welais unrhyw sioe ganddynt (wen i’n sâl pan aeth trip ysgol i weld eu cynhyrchiad ‘Pax’ yng ngorsaf Abersytwyth) rwy’n teimlo roedd eu gweld nhw’n perfformio yn brofiad aml-haenog.

 

5. Os bydde ti’n gwneud prosiect ‘mapio dwfn’, ble fyddet ti’n ei ddewis a sut fyddet ti’n mynd o’i chwmpas?

 

Byddwn yn cychwyn mewn man dwi ddim yn adnabod o gwbl, ddim hyd yn oed lle mae e, ond rwy’n gwybod ei fod wedi bodoli ar un adeg.  Fferm yw’r lle.  Fferm yn Zimbabwe fel y mae’r lle yn cael ei alw heddiw, ond Rhodesia oedd enw’r tir yn y gorffennol a dyna ble byddwn yn cychwyn y map.  Perchennog y fferm oedd Wncwl fy Nhad-cu, fy hen Ewythr Les.  Mae fy mrawd yn dweud pe tasai’r ail ryfel byd ddim wedi digwydd byddaf fy Nhad-cu wedi symud i Rodesia i ffermio gydag ef, gan nad oedd plant gan ei wncwl. Daeth Hen Wncwl Les i fferm yng Ngorllewin Cymru, Rhos-y-gadair Uchaf unwaith, a rhoddodd gwch bach tegan i ferch fach. Dwi’n hoffi’r syniad o weld y byd mewn gronyn o dywod.

 

6. Beth yw dy farn am Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales?

 

Mae’n rhaid i fi gyfaddef dwi ddim wedi gweld unrhyw beth gan National Theatre Wales eto.  Efallai mai protest ddistaw yw gan iddynt fethu rhoi Aberteifi a Theatr Mwldan ar eu map theatrig o Gymru.  Diffyg gweledigaeth!  Dwi wedi gweld sawl sioe gan Theatr Genedlaethol Cymru ac wedi mwynhau ond yn bersonol hoffwn i weld mwy o gydweithio yn y dyfodol.  Roeddwn yn ffan mawr o arbrofion Ian Rowlands gyda theatr aml-ieithog.

 

 

7. Beth arall rwyt ti wedi ei mwynhau am rifyn newydd Tu Chwith?

 

Hoffais yn fawr iawn erthygl Elin Angharad Owen ynglŷn â bywyd a gwaith Jennie Eirian Davies.  Hanes trist ond hanes pwysig.  Dwi’n falch bod Elin wedi dod å hi i’m sylw.  Menyw oedd yn barod i sefyll am ei hegwyddorion er gwaethaf y teimladau cryf o wrthwynebiad o’i chwmpas.  Hoffais hefyd Gwaed ar y Ddalen gan Mair Rees.  Erthygl annisgwyl i mi.  Trafodaeth ddifyr o’r personol a’r man croesi gyda’r gwleidyddol.

 

Pwyswch yma i:

Brynu Tu Chwith

Tanysgrifio i Tu Chwith

 

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
Pages ... 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13