Llenyddiaeth ar y We #1
Pe bydde rhywun wedi gofyn i fi flwyddyn yn ôl – beth wyt ti’n ei wybod am lenyddiaeth ar y we? Siŵr braidd y byswn i wedi sôn fod nofel Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn i gyd i’w gael yma. Ond y gwir ydi, os ceisiwch chi ei darllen yn ei chyfanrwydd ar y sgrin, mae’n berryg y bydd eich llygaid yn troi’n sgŵar.
Dyna pam fod llenyddiaeth ar y we wedi gorfod addasu i’r cyfrwng.
Tybiaf fod attention span y syrffiwr we cyffredin yn para tua 3 munud. Mae’n debyg eich bod chi, ddarllenwr, eisoes wedi cael llond bol ar ddarllen y llith hwn ac wrthi’n aml-dasgio drwy sgwrsio ar facebook / edrych ar ddiweddariadau Twitter rhywun na fyse chi hyd yn oed yn ei gyfarch yn yr arhosfan fws.
Sylwch sut ‘dw i’n gorfod paragraffu mor aml – mae bloc o destun yn dychryn syrffiwr we. Sylwch ar wefan newyddion y BBC, er enghraifft. Does prin dair llinnell yn dilyn ei gilydd heb baragraff newydd. Yma am dameidiau o wybodaeth y maent – nid traethawd. A dyna hefyd pan fod angen lluniau – i gadw diddordeb. Coeliwch chi fi, mae gen i bethau gwell i’w gwneud na aros munudau bwy’i gilydd yn aros i lun lwytho ar y blog.
Felly sut mae llenyddiaeth wedi ei ddatblygu gyda’r we?
I ddechrau, mae pob un ohonon ni wedi troi yn storïwr. Mae pob diweddariad statws Facebook yn stori, pob Tweet – ac os ydyn nhw yn storïwyr gwael – yna ‘Cuddio’r Person Hwn’ neu ‘Unfollow’ amdani. Amser cinio, does gen i ddim amser i afael mewn clamp o nofel – felly dwi’n aml yn troi at Twitter, a darllen cegeidiau o straeon. Mae pawb yn hoffi cynulleidfa – ac mae’r we yn blatfform anhygoel.
Rhai o fy hoff gymeriadau ar Twitter yw rhai ffuglenol – fel y ffug Frenhines a Camilla Duges Cernyw. Mae rhywun yn esgus trydar o safbwynt y ddwy - gan ddweud pethau angrhedadwy a doniol. Mae’n amlwg mai ffug yw’r trydar, ond erbyn hyn – rwy’n eu darllen mor gyson nes i mi ddechrau dychmygu mai nhw ydyn nhw go iawn!

Yna mae llai o bwyslais ar gywirdeb, a iaith ddisgrifiadol – gyda’r pwyslais yn gwyro tuag at fod yn fachog a chryno. A fydd hyn yn arwain trend mewn llenyddiaeth oddi ar y we, hefyd? A oes testun pryder am ddyfodol cywirdeb gramadegol a iaith lenyddol?
Yn ddiweddar, roedd pump o ddeg llyfr uchaf y siartiau yn Japan yn lyfrau oedd wedi datblygu o’r ‘nofel ffôn symudol’. Nofelau byrion yw’r rhain a gaiff eu gyrru i ffonau dros negeseuon testun. Maent yn boblogaidd, gan fod pob pennod yr hyd perffaith i’w darllen rhwng gorsafoedd y tren tanddaearol ar y ffordd i’w gwaith.
Tybed a yw llenyddiaeth y we yn brysur fygu’r llenyddiaeth traddodiadol?
Beth ydi’r gorau gennych chi ar fws/trên – y we ar eich ffôn symudol, ynte nofel?
Trafodwch!
Chwilio am olygydd newydd i gylchgrawn Tu Chwith

Golygydd Tu Chwith
Rydym yn chwilio am olygydd i gydlynu gwaith y cylchgrawn celfyddydol arloesol, Tu Chwith. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfrifoldeb dros holl waith y cylchgrawn yn olygyddol ac yn weinyddol sy’n cynnwys trosolwg o werthiant a marchnata’r cylchgrawn. Bydd yn cydweithio â bwrdd ymgynghorol, golygydd iaith, dylunydd ac yn gyfrifol am gomisiynu a chydlynu golygyddion gwadd.
Dyma gyfle unigryw i unrhyw un sydd eisiau profiad o olygu cylchgrawn sy’n rhoi llwyfan i ysgrifennu newydd ac amgen yn y Gymraeg.
Cydnabyddir y golygydd fesul rhifyn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Menna Machreth:
tuchwith@googlemail.com
07973 820580 / 01286 676190
Dyddiad Cau: Mai 31ain 2011
Dechrau: Awst 1af 2011
cydnabyddir cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
Tu Chwith yn Ngŵyl Talacharn – Clare Potter ac Aneirin Karadog
Yn ystod y dyddiau nesaf byddwn yn postio rhai fideos o sesiwn Tu Chwith yng Ngŵyl Talacharn, Ebrill 2011.
Dyma Aneirin Karadog yn darllen ei gerdd ‘Y rafin yw’r prifardd’ am Eisteddfod Glyn Ebwy 2010 a Clare Potter yn darllen cerdd ‘Night Feed’, un o ddwy gerdd a gomisiynwyd iddi ysgrifennu ar gyfer Tu Chwith 33 ‘Croesi Ffiniau’ a’r tro cyntaf iddi gyhoeddi yn y Gymraeg. Mae modd prynu’r gyfrol honno o Tu Chwith yma.



