Podlediad #2 – pigion o lansiad Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’
Dyma podlediad #2 Tu Chwith ac mae’n cynnwys pigion o lansiad cyfrol 34 Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’ yn Gwdihŵ, Caerdydd ddechrau mis Ebrill. Gallwch brynu neu danysgrifio er mwyn derbyn y cylchgrawn drwy’r post.
Ar ddechrau’r noson mae Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio am ei agwedd ef fel ‘person llenyddol’ tuag at wyddoniaeth. Mae’n agor trafodaeth am y cysylltiad rhwng gwyddoniaeth a llenyddiaeth, felly os oes gennych unrhyw sylwadau ar hyn, nodwch eich sylwadau yma er mwyn ehangu’r sgwrs.
Hefyd, mae Osian Rhys Jones yn darllen cerdd am y siom o beidio a chael ei ddewis yn was priodas i William yn ogystal â cherdd arall o’i eiddo.
Bydd fideos o sesiwn Tu Chwith yng Ngŵyl Talacharn ar y wefan yn fuan!
Ymateb i erthygl ‘Monopoli’r Eisteddfod’ cyfrol 33
Yng nghyfrol 33 ‘Croesi Ffiniau’ o gylchgrawn Tu Chwith, cyhoeddwyd erthygl dan y teitl ‘Monopoli’r Eisteddfod’ gan Rhodri Llŷr Evans a drafodai cystadleuaethau llên cenedlaethol. Mae’r erthygl ar dudalen 117.
Derbyniom yr ymateb canlynol i’r erthygl a hoffem dynnu sylw darllenwyr Tu Chwith tuag ato.
_____________________________________________________
Monopoli’r Eistedddfod Genedlaethol – y gwir
Yn yr erthygl ‘Monopoli’r Eisteddfod’ yn rhifyn Haf 2010 o Tu Chwith ceir y paragraff hwn:
Fel yn achos debacle y Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005, pan ddaru’r beirniaid wobrwyo nofel hanesyddol, saff ar draul nofel gyntaf Llwyd Owen, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau – er mai hi oedd yr enghraifft orau o athrylith ar waith yn y gystadleuaeth yn ôl y beirniaid – a hynny am fod yn nofel Owen ‘wendidau ieithyddol’(a dim oll i’w wneud â’r ffaith fod ynddi regfeydd a golygfeydd o drais a rhyw allai beri gofid i rai eisteddfodwyr…). Bwydo darllenwyr y genedl â bwyd llwy oedd peth felly, dim llai na bradychu safonau yn enw parchusrwydd Nain a pharhau ag obsesiwn unllygeidiog yr Eisteddfod o ystyried cynnwys ac arddull yn ddau endid ar wahân.
Y mae hwn yn baragraff anhygoel ac yn cynnwys ar y gorau gamliwio dybryd ac ar ei waethaf gelwydd. Oherwydd hyn y mae’n rhaid i ni, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth hon ymateb i’r erthygl. Yn anffodus mae un o’r beirniaid, Catrin Puw Davies, wedi ein gadael, ond gwarth ar ei henw da fyddai peidio ateb yr honiadau cibddall a geir yn yr erthygl hon.
Pe bai’r awdur (Rhodri Llŷr Evans) wedi mynd ati yn ddiragfarn a heb ragdybiaethau i ddarllen y feirniadaeth gyfansawdd yn y Cyfansoddiadau am y flwyddyn honno, gan gynnwys y rhagymadrodd, fe fyddai siawns wedi deall mai ar sail ei hiaith wallus – yn cynnwys idiomau Saesneg wedi eu cyfieithu, cam gyfieithu o’r Saesneg ac yn arbennig cystrawen wallus y penderfynwyd na ellid gwobrwyo Llwyd Owen.
Dyma baragraff allweddol o’r feirniadaeth:
I’r llenor, y gystrawen yw’r craidd, fel y mae’r gynghanedd yn hanfodol i fardd y mesurau caeth, ac ni ellir dychmygu sefyllfa lle y byddai beirniaid y gadair am wobrwyo awdl sy’n llawn o wallau cynganeddol. Nid elfen sy’n ychwanegol i gynllunio a datblygu syniadau, i ddisgrifio a chymeriadu, i gyfleu gwrthdaro rhwng cymeriadau, yw mynegiant, ond rhan annatod o’r holl wead.
O fod wedi darllen y paragraff yna sut ar y ddaear y gallai awdur yr erthygl ddatgan i ni ‘fradychu safonau’, na chwaith sut y gallai ddweud fod yna ystyried cynnwys ac arddull yn ddau endid ar wahân? Onid y fo sy’n gwneud hynny?
Dyma nifer fach o enghreifftiau byrion o‘r camgymeriadau oedd yn britho’r gwaith ac yn llesteirio’r mynegiant. Roedd y gyfrol yn llawn ohonyn nhw.
Mae’r caniad dal yn llwyddo.
O leiaf deg galwad.
Fy mhigyrnau
O’r gors gystadleuol hyn.
Er y gwlybanwch
Yn gyflym ddiflannu.
Cododd wynt main o’r dwyrain.
Dim ond ymweliad wrth y medelwr.
A’i phoblogaeth famolol.
Thema’r erthygl yw fod gan yr Eisteddfod fonopoli ar feirniadaeth gyfoes a chyfeiria’r paragraff ddyfynnwyd at “obsesiwn unllygeidiog yr Eisteddfod”. (nid bod gan sefydliad lygaid). P’run bynnag ni roddir i feirniaid y cystadleuthau llenyddol unrhyw gyfarwyddiadau gan neb parthed chwaeth a chynnwys, dangosir ynddynt ymddiriedaeth lwyr fel pobl sy’n gwybod be di be ym myd llenyddiaeth, yn ymwybodol fod yna safonau a bod yna seiliau cadarn i feirniadaeth lenyddol. Prin fod beirniaid llenyddol yn ymwybodol o unrhyw ‘friff diwylliannol-wleidyddol’ ar ran yr eisteddfod, beth bynnag yw ystyr hynny, ond mae’n sicr fod y mwyafrif ohonynt yn gwybod am gyfrol John Gwilym Jones ‘Crefft y Llenor’ sy’n glasur yn y maes.
Dadl Rhodri Llŷr Evans yw fod yr Eisteddfod yn gweithredu trwy ei beirniaid a’u bod, yn y cystadleuthau hyn (Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen) “ fel rheol yn gyn enillwyr eisteddfodau cenedlaethol blaenorol.” O’r deg ar hugain fu’n beirniadu’r ddwy gystadleuaeth yn ystod y pum mlynedd diwethaf y mae deg yn gyn enillwyr ac ugain nad ydynt. Byddai tipyn o ymchwil elfennol efallai wedi atal yr awdur rhag gwneud datganiadau ysgubol fel yna.
Beth bynnag am hynny, rhwydd hynt i’r awdur i wneud datganiadau ynglŷn â llenyddiaeth a pherthynas yr eisteddfod â llenyddiaeth, rhwydd hynt iddo i wneud datganiadau lled faleisus sy’n sawru o oedoliaeth (taro blaenor 90 oed a chyfeirio at barchusrwydd Nain), rhwydd hynt iddo ddamcaniaethu fel y gwna, ond nid ar sail camliwio a cham gyflwyno craidd un feirniadaeth. A dyna a wnaed yma. Dyma ddau ddyfyniad arall o’r feirniadaeth honno :
Mae’n ddiamau mai Luc Swan (Llwyd Owen) yw meddwl praffaf y gystadleuaeth a’r athrylith mwyaf sydd ynddi. Mae ei nofel yn un uchelgeisiol yn ymdrin â phroblemau dyrys, yn ddwys ac yn ddoniol, yn gynnil ac yn graffig. Ond, er ein bod yn barod i ganiatáu rhai gwendidau ieithyddol, a hyd yn oed ieithwedd newydd anturus, onid oes yna hefyd ffiniau y mae’n rhaid cadw o’u mewn gan gofio’r cwestiwn ddyfynnwyd ar ddechrau’r feirniadaeth hon – ‘Sut mae trafod a chyfnewid syniadau heb gystrawen sicr?’ Pan fydd gwendidau ieithyddol yn tarfu ar y mynegiant, mae’n rhaid ystyried hynny o ddifri. A dyna wendid mawr Luc Swan.
A’r ail ddyfyniad:
Yr oeddem yn ymwybodol ein bod yn trafod gwobrwyo dwy nofel hollol wahanol, un fyddai’n dod o fewn terfynau diogel y cyhoeddi arferol ac un fyddai’n camu allan y tu hwnt i’r terfynau diogel hynny. Yn y diwedd, bwriwyd y coelbren ar waith Cae Cors, nid am ein bod yn ofni mentro ond am ei fod wedi llwyddo’n well, o fewn terfynau ei fwriadau, i gyflawnwi’r bwriadau hynny.
Y mae pum mlynedd ers hyn oll, ac fe lifodd llawer o ddŵr dan y bont oddi ar hynny, Ond dyna’r ffeithiau fel y cofnodwyd hwy yn y feirniadaeth gyfansawdd ar y pryd, ffeithau sy’n dangos yn eglur mai ar sail ei iaith wallus a‘i gystrawen ansicr y collodd Luc Swan y dydd yn y gystadleuaeth honno. (Gyda llaw fe’n cystwywyd yn llym gan Geraint Jones mewn erthygl yn y Cymro am feiddio hyd yn oed ei ystyried am y wobr a’i iaith mor wallus).
Y mae’n gwbl amlwg gredwn ni, o’r dyfyniadau uchod, pam y bwriwyd y coelbren o blaid Cae Cors yn hytrach na Luc Swan. Os nad yw Rhodri Llŷr Evans yn derbyn hynny yna rhaid ei fod yn amau ein gonestrwydd, ac y mae hynny’n fater difrifol. Mater arall yw fod yr erthygl gyfan, gan ei bod wedi ei seilio ar y paragraff camarweiniol ddyfynnwyd ar y dechrau, heb unrhyw gredinedd yn perthyn iddi.
Elfyn Pritchard
Bethan Mair
Tu Chwith @Gŵyl Talacharn 2011 #laugharne2011
Bydd sesiwn Tu Chwith yng Ngŵyl Talacharn am 12:30pm yn y Fountain Inn yn Nhalacharn, sef y Clwb Rygbi ar y sgwâr, ar Ddydd Sul, Ebrill 17eg.
Yn cadw cwmni i ni bydd Clare Potter, bardd perfformiadol yn wreiddiol o’r Coed Duon ond a ddechreuodd farddoni tra bu’n byw yn yr Unol Daleithiau. Cyfranodd Clare ddwy gerdd i’r rhifyn diwethaf o Tu Chwith ‘Croesi Ffiniau‘ – y tro cyntaf iddi gyhoeddi cerddi yn y Gymraeg. Hefyd bydd Aneirin Karadog yn rapio ac yn darllen ei waith diweddaraf, ac yna bydd cyfweliad bach gyda’r ddau a fydd yn gyfle i’w holi am eu gwaith, cyfieithu mewn dwy iaith a’r elfen berfformiadol yn eu gwaith.
Byddwn yn dathlu cyhoeddi rhifyn newydd Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’!
Yn syth ar ôl slot Tu Chwith bydd Cate Le Bon a Meilyr Race Horses yn gwneud set.
Rhaglen lawn Penwythnos Talacharn yma.
Gobeithio bydd yr haul yn gwenu!
Llyfr y Flwyddyn 2011: eich dewis chi?
Nos Fercher, Ebrill 13eg, bydd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi. Mae tipyn o amrywiaeth ymhlith y llyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn 2010.
Beth fyddai ar eich rhestr chi? Beth am ddanfon eich rhestr chi atom ni gyda nodyn o esboniad pam? Neu danfonwch eich hoff dri gan ddweud pam yn gryno, a rhestri rhai eraill rydych chi wedi eu darllen ac yr hoffech eu gweld ar y rhestr hir.
Yn bersonol, mae’r nofelau yn llywodraethu o ran safon y deunydd a gyhoeddwyd yn 2010. Mae Llyfr y Flwyddyn wedi llwyddo i fod yn destun dadleuol sawl tro dros y blynyddoedd, gan gynnwys y llynedd pan na gydnabyddwyd cyfraniad Marian Delyth i’r cyhoeddiad buddugol sef ’100 Lle i’w Gweld cyn Marw’ gan John Davies a lluniau gan Marian Delyth. Mae’n ddigon teg i ddweud bod y gystadleuaeth wedi peri penbleth i sawl un dros y blynyddoedd, o geisio gwneud synnwyr o’r rheolau a pha gyhoeddiadau sy’n gymwys i geisio deall sut y daeth y tri beirniad i’w penderfyniadau. Mae Dogfael yn enwedig wedi blogio’n wych am restrau Llyfr y Flwyddyn yn 2008 a 2009.
Felly dyma fy nghynigion i. Yn anochel, mae nifer o nofelau oherwydd dyna dwi’n eu darllen yn bennaf tu allan i’m gwaith dyddiol o ddarllen yn y llyfrgell. Cofiwch ddanfon eich cynigion chi at tuchwith@googlemail.com a gallwn eu cyhoeddi yma.
Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn
dewis Menna Machreth
1. Ned Thomas, Bydoedd – Cofiant Cyfnod (Y Lolfa, 2010)
Heb os, llyfr y flwyddyn! Disgrifia Ned Thomas y gyfrol fel ‘cofiant cyfnod’ yn hytrach na hunangofiant, ac yn sicr llwydda i gyfleu awyrgylch gwahanol gyfnodau yn ei hanes mewn ffordd ddiffuant yn y gyfrol hon. Darllen anhepgor i’r sawl sydd eisiau deall mwy am yr iaith Gymraeg a’i chyd-destun rhyngwladol.
2. Dewi Prysor, Lladd Duw (Y Lolfa, 2010)
Nofel llawn grit sy’n mynd i’r afael a dadfeiliad cymdeithas yn ein broydd Cymraeg. Mae’r ddeialog yn grafog ac yn eich cipio i fynd tanddaearol y cymeriadau sy’n ceisio dianc oddi wrth y grymoedd mawr sy’n eu rheoli.
3. Angharad Price, Caersaint (Y Lolfa, 2010)
Daw crefft yr awdur i’r amlwg yn y nofel hon sy’n symud yn effeithiol rhwng y doniol a’r ingol. Mae awyrgylch y tref Caersaint yn holl bresennol ar bob tudalen.
4. Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-So – Theori Beirniadaeth Lenyddol R. M. (Bobi) Jones (Gwasg Prifysgol Cymru Caerdydd, 2010)
Cyfrol sy’n gyflwyniad ac yn gymorth mawr wrth fynd i’r afael â chyfraniad enfawr Yr Athro Bobi Jones i feirniadaeth Gymraeg.
5. Gwyn Thomas, Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
Cerddi sy’n gweld pethau mawr yn y pethau bach gan fardd mawr y vers libre yn y Gymraeg.
6. Jerry Hunter, Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)
Cymeriadau sy’n gafael mewn stori am frawd a chwaer a’u gwewyr meddwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd, heb fod yn sentimental.
7. Hywel Gwynfryn, Hugh Griffith (Gwasg Gomer, 2010)
Camp oedd ysgrifennu cofiant ym mhersona yr actor disglair hwn, a chynnig rhywbeth gwahanol i’r arlwy arall o gofiannau.
8. Ifan Morgan Jones, Yr Argraff Gyntaf (Y Lolfa, 2010)
Nofel dditectif sy’n cydio.
9. Dafydd Huws, Nefar In Ewrop – Llyfr Taith gan y Dyn Dwâd, Goronwy Jones (Y Lolfa, 2010)
Y nofel olaf yn nhrioleg Y Dyn Dwâd, gan roi dychan sydd mawr ei angen ymhlith y cyhoeddiadau Cymraeg.
10. Elin Haf, Ar Fôr Tymhestlog (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Taith epig sy’n dangos dyfalbarhâd Cymraes i gyrraedd y nod, wedi eu hadrodd mewn ffordd ddynol ac annwyl iawn.
Stori Graffeg – gwrandewch ar y gerddoriaeth tra darllenwch!
Yng nghyfrol newydd Tu Chwith sydd newydd ei chyhoeddi mae stori graffeg wych gan Huw Aaron ac Osian Rhys Jones. Ar gyfer lansiad y cylchgrawn nos Lun yng Nghaerdydd, fe greodd Osian fideo byr sy’n cynnwys cerddoriaeth i gyd-fynd â’r stribed gartŵn. Beth am wrando ar y gerddoriaeth tra darllenwch y stori graffeg yn y cylchgrawn?
I brynu Tu Chwith, tanysgrifiwch yma: http://tuchwith.com/tanysgrifio-am-flwyddyn/
28 Cân Hiraethlon from Osian Rhys Jones on Vimeo.

