Rhestr llawn o gynnwys rhifyn newydd Tu Chwith
Mae rhifyn 34 o gylchgrawn Tu Chwith newydd gyrraedd o’r wasg. Y thema yw ‘Gwyddoniaeth’.
Dyma restr llawn o’r cynnwys yn gronolegol:
Golygyddol – Menna Machreth
Hollti Blew (stori fer) – Elis Meredydd Gomer
Gwyrth – (ymson) Branwen Haf Williams
Angel Penffordd, Diawl Pen Pentan (stori fer) – Sioned Wyn Huws
28 Cân Hiraethlon (darn comisiwn: stori graffeg) – Osian Rhys Jones a Huw Aaron
Gwyddoniaeth y Gegin (ysgrif) – Mari Elin Morgan
Cyffes y Gwyddonydd (stori fer) – Catrin Haf Jones
Sut mae pethau’n gweithio? Fy mherthynas â gwyddoniaeth (erthygl) – Huw Waters
Celf weledol – Paul Woodland
Celf weledol – Jess Balla
Gwaith Comisiwn: Mapio Dwfn – erthygl gan Rowan O’Neill a cherddi yn ymateb gan Hywel Griffiths
Emyn y Gwyddonydd (cerdd) – John Gruffydd Jones
Gwyddoniaeth vs Llenyddiaeth? (erthygl) – Llŷr Gwyn Lewis
Hunan-wellhad ynteu hunan-ddinistr? Jennie Eirian Davies a’r Tensiynau Mewnol (erthygl) – Elin Angharad Owen
Gwaed ar y Ddalen (erthygl) – Mair Rees
I’r Gwenyn (celf weledol) – Owen Griffiths a Fern Thomas
Darwin oedd yn iawn (cerdd) – Karen Owen
Celf Weledol – Sian Green
Crochan Syniadau – darnau comisiwn yn ymateb i daith geometreg i Ynys Llanddwyn:
artist – Sian Green
awdur – Branwen Huws
Creu Lle i’r Iaith ar y We (cerdd) – Osian Rhys Jones
Cyfweliad â Damini Kumar – Golygydd
Taith yn y Llong Iâ (stori fer) – Dewi Huw Owen
Y Ddau Ddiwylliant – darn comisiwn – gan Michele Davies a Gethin Rhys Thomas
Quis custodiet ipsos custodes (cerdd) – Llŷr Gwyn Lewis
Polisi yn Seiliedig ar Dystiolaeth (erthygl) – Steffan John
Adolygiadau – Golygydd
Lansio Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’ Nos Fawrth, Ebrill 5 yn Gwdihŵ, Caerdydd
Lansio Tu Chwith ‘Gwyddoniaeth’
(Cyfrol 34)
Nos Fawrth 5 Ebrill 2011, 7.30 pm
Gwdihŵ, Guilford Crescent, Caerdydd, CF10 2HJ
Tâl mynediad: £2.00
Dewch draw i fwynhau perfformiadau o’r gyfrol newydd yng nghwmni Osian Rhys Jones, Llyr Gwyn Lewis a llawer mwy. Chewch chi ddim mo’ch siomi!
Gallwch brynu copi yno, neu gallwch danysgrifio am bris gostyngol ar ein gwefan, yma: http://tuchwith.com/tanysgrifio-am-flwyddyn/
er mwyn derbyn eich cylchgrawn drwy’r post yr wythnos nesaf!
Dyma ddyfyniad o’r golygyddol i roi darlun i chi o’r deunydd deinamig yn y gyfrol:
Yn y gyfrol hon, rydyn ni’n parhau i hybu partneriaethau creadigol deinamig trwy gomisiynu artistiaid o wahanol gyfryngau i gydweithio. Mae’n hynod o bwysig ein bod fel artistiaid ifanc yn ymwybodol o waith ein gilydd ac yn ymateb i’n gilydd er mwyn adeiladu cymuned artistig gyffrous yn y Gymraeg. Comisiynwyd Huw Aaron i gydweithio ag Osian Rhys Jones i greu stori graffeg â naws ffuglen wyddonias ac mae’r canlyniad yn mynd i’ch cludo i Wythnos yng Nghymru Fydd sinistr lle mae canu gwlad yn teyrnasu. Parhawyd â’r thema ‘mapio’ a welwydyn rhifyn 32 o tu chwith, trwy gomisiynu Rowan O’Neil a Hywel Griffiths i rannu syniadau am y trywydd hwn. Yn y gyfrol, mae erthygl gan Rowan yn trafod y syniad o fapio dwfn y bu Clive McLucas, un o gyfarwyddwyr Brith Gof, yn ei ddatblygu cyn ei farwolaeth sydyn. Mapio’i daith ar hyd llwybrau arfordirol Ceredigion mae Hywel Griffiths wedi dewis ei wneud, a hynny trwy gyfrwng cerddi. Gosodwyd her gerbron Gethin Rhys, y gwyddonydd, a Michelle Davies, sy’n arbenigo mewn dramâu teledu, i gydweithio i greu cyfanwaith o’r ffeithiol a’r dychmygol ddychanol.
Yn ogystal yn y gyfrol hon, mae adran newydd o’r enw Crochan Syniadau. Comisiynwyd yr artist Siân Green, a Branwen Huws, sy’n ysgrifennu rhyddiaith, i fynd ar daith o gwmpas Ynys Llanddwyn i ddarganfod mwy am ryfeddodau geometreg yr ynys. Yn y gyfrol hon, ceir eu hymateb creadigol i’r daith;hoffwn bwysleisio nad gwaith gorffenedig mohono, ond ymateb artistiaid o fewn pum niwrnod o gyflawni’r daith.
Hefyd yn y gyfrol, mae cymysgedd o erthyglau gan wyddonwyr fel Huw Waters, sy’n esbonio’i atyniad cynhenid at wyddoniaeth a darganfod sut mae pethau’n gweithio. Wrth ymateb i Huw Waters, mae Llŷr Gwyn Lewis yn gofyn yn ei ysgrif beth yw posibiliadau chwalu’r ffiniau rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Mae Steffan John yn rhoi cyflwyniad i faes polisi, ac i ba raddau y gall tystiolaeth wyddonol gynorthwyo gwleidyddion i greu polisi llwyddiannus ar gyfer y wlad.
Ceir cryn ymateb i fioleg yn y gyfrol. Mae Karen Owen yn myfyrio ar y berthynas rhwng Darwin a Chymru mewn cerdd; Mair Rees sy’n ymchwilio i bortread y misglwyf mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mewn stori bryfoclyd, mae Elis Gomer yn ymdrin â’r sawl sy’n ceisio gwyrdroi bioleg naturiol y corff.
Yn yr ysbryd hwnnw o gydweithio ac ymateb, fe’ch anogaf chithau i ymateb i’r cylchgrawn hwn ar ein gwefan fel y gallwn ymestyn y trafodaethau sy’n cael eu cynnig yn y rhifyn hwn o tu chwith. Fel y dywedodd Gwyneth Lewis, mae digon yn gyffredin rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau:
I don’t know that I see poetry and science as diametrically opposed. In fact, they’re both provisional ways of describing a creation which is more than both, so they’re partners in their failure fully to describe the world. The discarded metaphors of science are of great use to a poet.
Taith Geometreg o gwmpas Ynys Llanddwyn gydag artist ac awdur
Dydd Sadwrn, Mawrth 19eg, bu’r Siân Green (artist gweledol) a Branwen Huws (awdur) ar daith o gwmpas traeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn i ddysgu mwy am geometreg yr ardal. Mae’r ddwy wedi eu comisiynu gan Tu Chwith i greu darn o waith yn ymateb i’r hyn a welsant ar y daith ar gyfer y gyfrol nesaf a fydd yn ymddangos yn fuan iawn, ar y thema yw ‘Gwyddoniaeth’. Y llais a glywch ar y fideo yw Menna Machreth, golygydd Tu Chwith.
Adolygiad o Ddeffro’r Gwanwyn
Dyma adolygiad o ‘Deffro’r Gwanwyn’ cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol gan Manon Elin sy’n ddisgybl ym Mro Myrddin ac o’r un oedran å’r cymeriadau yn y ddrama.
Fel ffan mawr o sioeau cerdd, ro’n i’n edrych ‘mlaen i weld y sioe gerdd gyntaf erioed i Theatr Genedlaethol Cymru ei llwyfannu, a ches i ddim fy siomi. ‘Deffro’r Gwanwyn’ yw cyfieithiad Dafydd James o’r sioe gerdd enwog ‘Spring Awakening.’ Gyda thocynnau’r ddwy noson gyntaf yng Nghaerfyrddin wedi gwerthu allan, roedd hi’n argoeli’n sioe gerdd dda.
Mae’r sioe gerdd yn adrodd hanes criw o un ar ddeg o bobl ifanc wrth iddynt arbrofi’n gorfforol ac yn emosiynol wrth fynd trwy eu glasoed. Am fod y sioe gerdd wedi cael ei gosod ar ddiwedd y 1800au, mae’n portreadu cymdeithas yr adeg honno, pan oedd nad oedd oedolion yn trafod ffeithiau bywyd gyda’r plant. Erbyn diwedd y sioe gerdd, mae canlyniad yr anwybodaeth yn drychinebus i un o’r cymeriadau. Mae cast y sioe gerdd yn cynnwys cymysgedd o 13 actor adnabyddus a newydd, sy’n profi fod Theatr Genedlaethol Cymru yn barod i feithrin talentau ifanc newydd.
Llwyddodd y sioe gerdd i gyrraedd ac i blesio ei chynulleidfa darged – sef pobl ifanc, am ei bod yn ymdrin â materion sydd o ddiddordeb i bobl yr oed yma, ac yn defnyddio iaith debyg i’r hyn mae pobl ifanc dyddiau yma yn ei defnyddio. Er hyn, roedd y bobl hŷn yn y gynulleidfa i weld fel petai nhw hefyd yn mwynhau.
Nodwedd anarferol am y sioe gerdd, oedd pa mor agos oedd y gynulleidfa yn eistedd at y set. Gan fod y seddi wedi cael eu gosod mewn hanner cylch o gwmpas y llwyfan, roedd y gynulleidfa yn teimlo’n rhan o’r sioe gerdd. Roedd hyn yn profi proffesiynoldeb yr actorion, am nad oedd hyn yn tynnu eu sylw oddi ar eu perfformiad. Roedd y set wedi cael ei adeiladu mewn ffordd ddiddorol, am ei fod yn newid yn hawdd i ddynodi lleoliad neu awyrgylch gwahanol.
Trwy gydol y sioe gerdd roedd dawn gerddorol naturiol y perfformwyr yn amlwg. O bosib, roedd safon y canu yn well na’r recordiad gwreiddiol. Er bod lleisiau anhygoel gan y ddau brif gymeriad, mi fyddai’r sioe wedi cael ei chyfoethogi petai gan weddill y cast mwy o ddarnau unawdol.
Un peth gwan am y sioe gerdd oedd bod y ddau ‘oedolyn’ yn actio nifer o gymeriadau gwahanol. Roedd hyn yn gallu bod yn ddryslyd ar adegau. Heb amheuaeth, yn fy marn i, y gân olaf oedd uchafbwynt y sioe gerdd, am fod y 13 cymeriad yn canu gyda’i gilydd ar yr un adeg. Roedd lleisiau’r perfformwyr i gyd yn asio’n dda, ac yn creu awyrgylch a naws iasol.
Gobeithio’n wir nad dyma’r sioe gerdd olaf fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ei llwyfannu.


