1

Cyfrol ‘Gwyddoniaeth’ ar y ffordd!

Rydym ni’n paratoi ar gyfer cyhoeddi’r gyfrol nesaf ar hyn o bryd, ac fel arfer mae’n llawn o ddeunydd cyffrous!

Un o’r cyfraniadau yw stori fer graffeg gan Huw Aaron ac Osian Rhys Jones – stori sydd wedi ei gosod yn y dyfodol yng Nghymru lle mae pawb yn siarad Cymraeg ac yn addoli canu gwlad!

Cewch rhagflas o’r stori graffeg yma, cyn fod y fersiwn llawn yn ymddangos yn Tu Chwith!:

http://huwaaron.com/blog/2011/03/07/comics-tu-chwith-canu-gwlad-a-zombies/?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter

8 Can Hiraethlon gan Huw Aaron ac Osian Rhys Jones

Stori fer graffeg

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Podlediad #1 Tu Chwith

Helo!

Dyma bodlediad cyntaf Tu Chwith! Yng nghwmni Rhodri Llŷr Evans a Manon Wyn Williams a Menna Machreth.

Ymhlith y pynciau rydym ni’n trafod yn y podlediad mae The King’s Speech, y dramodydd Aled Jones Williams, y refferendwm a’r diffyg egni creadigol o’i gwmpas, trafod adborth i erthygl ddadleuol Rhodri yn y gyfrol diwethaf – ‘Croesi Ffiniau’, a Manon yn darllen ei gwaith.

Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn cofrestru’r podlediad ar wasanaethau fel iTunes. Yn y cyfamser mae modd gwrando ar y podlediad cyntaf isod:

Podlediad Tu Chwith – Rhif 1 (29/02/2011) gan tuchwith

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Gwyddoniaeth a Chymru

Fel tamaid i aros pryd, dyma ysgrif fer gan Gruffudd Antur i’ch cadw ar flaen eich seddi nes cyhoeddi’r rhifyn nesaf o gylchgrawn Tu Chwith sydd wedi ei selio ar y thema Gwyddoniaeth. 

———— 

Gwyddoniaeth a Chymru 

Go brin y buasai unrhyw un yn meddwl yn reddfol am Gymru pan sonnir am wyddoniaeth a mathemateg. Tueddir i’w chysylltu fwy â chanu, pyllau glo, eisteddfodau, rygbi, ac ambell ystrydeb arall sy’n llai dymunol. Wedi’r cyfan, gwlad fechan iawn ydyw, gyda llawer llai na hanner poblogaeth y ddinas fwyaf yn Lloegr. Fyth oddi ar Lyfrau Gleision 1847, mae adroddiadau yn adrodd yn gyson nad yw safon yr addysg yng Nghymru gystal â safonau addysg Lloegr. ‘Does ryfedd felly nad yw’r pynciau gwyddonol mor boblogaidd â’r celfyddydau yma, ond cwbl anghywir yw dweud na chafodd unrhyw Gymro ddylanwad ar wyddoniaeth erioed. 

Bob dydd, torrir tir newydd mewn gwyddoniaeth. Mae blaen y gad yn hynod gyffrous, ac mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario bob blwyddyn er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Un o’r llefydd sy’n cael sylw mawr ar hyn o bryd yw safle CERN o dan y ddaear yn y Swistir, sef y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr, neu’r Large Hadron Collider. Prif bwrpas y prosiect yw ceisio dod o hyd i’r Boson Higgs arfaethedig, sef un o ronynnau sylfaenol y bydysawd. 

Mae’n bell iawn o Gymru mewn sawl ffordd. Er hyn, mae’r cysylltiad rhwng yr LHC a Chymru yn agos iawn, gan mai gwyddonydd o Gymro yw arweinydd y prosiect blaengar hwn. Brodor o Aberdâr yw Dr Lyn Evans, ac ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, datblygodd i fod yn un o’r pennaf arbenigwyr yn y byd mewn ffiseg gronynnau. Yr hyn sydd hefyd yn arbennig yw fod Evans yr Atom yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Gymry eraill yn y gorffennol pell. 

O gwmpas y flwyddyn 1510, ganed i Thomas  a Rose Recorde o Ddinbych y Pysgod fab o’r enw Robert. Ym 1525, aeth i Rydychen, lle graddiodd cyn symud ymlaen i Gaergrawnt tan 1545. Er gwaethaf yr yrfa ddisglair hon, bu farw heb geiniog yng ngharchar Southwark ym 1558, ond nid heb adael gwaddol enfawr ar ei ôl. 

Yn ystod ei yrfa, cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys The Grounde of Artes (1542), The Urinal of Physick (1548), The Pathway to Knowledge (1551), The Castle of Knowledge (1556) a Whetstone of Witte (1557). Erbyn heddiw, mae’r llyfrau hyn yn hynod o brin, a gwerthwyd copi o’r argraffiad cyntaf o’r Whetstone of Witte ym 1998 am $27,000. Ydy, mae’n llawer o arian, ond mae arwyddocâd pendant i’r llyfr hwn, oherwydd mai dyma lle daeth sumbol newydd a chwyldroadol i sylw’r byd. Y mae’n sumbol a ddefnyddir gan filiynau o bobl bob dydd heb iddynt feddwl ddwywaith. Dywed Recorde: 

…to auoide the tediouſe repetition of theſe  

woordes : is equalle to : I will ſette as I doe  

often in woorke vſe, a paire of paralleles, or  

Gemowe lines of one lengthe, thus: =, bicauſe  

noe .2. thynges, can be moare equalle.  

sef 

…er mwyn osgoi ailadrodd y geiriau “yn hafal i” hyd syrffed, gosodaf, fel y gwnaf yn aml yn fy ngwaith, bâr o linellau paralel, neu linellau dwbl (Gemowe) o’r un hyd, fel hyn: =, oherwydd nis gall dau beth fod yn fwy hafal i’w gilydd. 

O dan y geiriau hyn, ceir yr hafaliad cyntaf un fel sy’n gyfarwydd i bawb heddiw: 

 

(Mewn nodiant diweddar: 14x + 15 =71) 

Felly, dyma Gymro a osododd batrwm a ddefnyddir filoedd o weithiau bob dydd gan blant ysgol ac ysgolheigion fel ei gilydd, a hynny bron i bum can mlynedd ar ôl ei farwolaeth. 

Ychydig dros ganrif ar ôl marw Recorde, ganed gŵr a gafodd ddylanwad enfawr arall ar fathemateg. Y gŵr hwn oedd William Jones, mab John ac Elisabeth Jones o Lanfihangel Tre’r Beirdd, Ynys Môn. Dyna ddechrau gwylaidd i fywyd os bu un erioed, a go brin y buasai neb yn disgwyl iddo sefydlu confensiwn rhyngwladol a ddefnyddir hyd heddiw. Er hyn, ar ôl derbyn addysg mewn ysgol elusen yn Llanfechell o bobman, daeth William yn gyfaill agos i rai o gewri mawrion y dydd, gan gynnwys Syr Edmund Halley a Syr Isaac Newton neb llai. 

Yn debyg i Recorde o’i flaen, trwy lyfr y sefydlwyd enwogrwydd ac etifeddiaeth William Jones. Enw’r llyfr y tro hwn oedd Synopsis Palmariorum Matheseos: or, a new introduction to the Mathematics, a gyhoeddwyd ym 1706. Yn y llyfr hwn y cafwyd, am y tro cyntaf, y llythyren Roegaidd π, neu pi, ar gyfer dynodi cymhareb cylchedd cylch i’w ddiamedr. Dilynwyd awgrym William Jones, ac fel yr arwydd ar gyfer yn hafal i a gynigwyd ym 1557, defnyddir π gan filoedd o bobl hyd heddiw, a daeth yn un o’r sumbolau a’r cysyniadau mwyaf sylfaenol mewn mathemateg a gwyddoniaeth. 

Yn wir, mae π wedi dod yn rhywfaint o obsesiwn. Rhoddir gwerth π fel arfer i tua 3.142, ond gan ei fod yn rhif anghymarebol, nid oes ganddo werth terfynol, ac mae rhai mathemategwyr wedi darganfod gwerth π i driliwn lle degol! Braidd yn eithafol efallai. Hefyd, dyma ran o gerdd foliant i π: 

Pi is transcendental.
The endless number cannot be expressed by any algebraic equation.
No pattern has been found in its digits,
Yet it cannot be proven in a finite amount of time
That no pattern exists in an infinite number of digits.
Pi goes beyond our reality.

 

 Ie, tila iawn, ond anhygoel yw meddwl mai Cymro o Lanfihangel Tre’r Beirdd oedd arloeswr hyn oll, a bod gwyddonwyr ledled y byd yn defnyddio confensiynau a osodwyd gan ddau Gymro o gefndiroedd digon di-nod. 

Dywedodd y colofnydd A. N. Wilson unwaith am y Cymry: 

The Welsh have never made any significant contribution to any branch of knowledge, culture or entertainment …  

Diolch byth mai mewn anwybodaeth remp y dywedwyd hyn, a’n bod ni, bellach, yn gwybod yn well.

Gruffudd Antur

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
0

Yasi Grist!

Ryden ni yng Nghymru yn hoff o siarad am y tywydd. Bron ei fod yn obsesiwn ganddon ni i drafod pa mor drwm ydi’r glaw, neu ers pa bryd mae hi’n bwrw bellach, neu pa mor gryf ydi’r gwynt.

Ai oherwydd ein bod ni’n byw mewn gwlad mor amaethyddol yw’r rheswm tybed? Yn y siop leol tu ôl i’r cownter bob bore ‘dwi’n delio a degau o ffermwyr yn gwneud siarad mân am y tywydd, a finnau’n cytuno’n frwd gyda’r un linnell stoc er nad ydwi’n gwrando gair mewn gwirionedd. Neu efallai ei fod gan nad oes dim arall gwerth sôn amdano wrth gyfnewid geiriau â dieithriaid. Neu yden ni’n genedl o gwynwrs?

“Ewww mae hi’n fudur”, meddai un ffermwr wrth dalu am ei Daily Sport. A dydi o ddim yn cyfeirio at y ferch llac ei moesau sy’n dangos ei thin ar y dudalen flaen. Mae hi’n tywallt y glaw, ac mae ei gaeau wedi troi yn fwd. Ac mae hanner y cae hwnnw wedi dod ar ei welingtyns i faeddu fy llawr.

“Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn” medd gwraig fach flin arall wrth dalu fesul ceiniog goch am ei chacenau cri drud, gan bwyso’r drwm ar ei ffon. A ‘dwi’n dychmygu sut deimlad fyddai bwrw hen wragedd â ffyn mewn gwirionedd.

‘Dwi’n ymddiheuro am fod yn chwerw. Ond wedi cael llond bol ar y tywydd yma ydw i yn de? Yn tydw i’n treulio oriau bob diwrnod yn syllu ar wefannau cwmniau awyr yn chwilio am fargeinion i fan gwyn fan draw? Mi archebais ficini newydd sbon o sale arlein gychwyn mis Ionawr, dim ond i gael syllu arno yn fy wardrôb a breuddwydio bod ar lan y môr.

Ond wrth syllu dros bennau fy nghwsmeriaid y siop siarad, ar sianel newyddion y BBC heddiw’r bore, daeth ton o euogrwydd drosda i.

Mae storm o wynt, eira a rhew wrthi’n ymosod ar ddarnau o’r Unol Daleithiau a Chanada, a disgwylir i dair troedfedd o eira ddisgyn yn Chicago. Mae corwynt enfawr wrthi’n rheibio gogledd ddwyrain Awstralia. Mae’r corwynt wedi ei raddio fel corwynt categori rhif 5. Dyma’r rhif uchaf ar y raddfa. Mae disgwyl i wyntoedd gyrraedd i gyflymder o bron 200mya. Mae’r ddwy storm yn debyg o achosi difrod enfawr i’r wlad, heb sôn am farwolaethau.

Rhaid peidio anghofio hefyd am y llifogydd enfawr yn Awstralia dros yr wythnosau diwethaf, a Brazil a sawl gwlad yng Nghanolbarth America.

Mae yna ddarn mewn nofel o’r enw White Teeth gan un o fy hoff awduron, Zadie Smith, sy’n cymharu byw mewn rhywle sydd mewn perygl o ddaeargryn neu ffrwydriad llosgfynydd neu berygl naturiol arall – a byw yn rhywle fel Prydain lle nad yw peryglon felly’n realiti. Dydw i ddim yn cofio’r darn yn iawn, achos fel yr esboniais am fy ymddygiad yn y siop leol – ryw hanner gwrando (a gwib-ddarllen) ydw i. Ond y pwynt oedd hi’n drio ei gyfleu oedd na fedrwch chi roi pris ar y sicrwydd o ddiogelwch rhag peryglon naturiol. Efallai nad oes gennon ni haul drwy’r flwyddyn, a’i bod hi’n bwrw bob yn ail a pheidio, ond anhebygol iawn y bydd neb yn y dyfodol agos yn gwylio live stream dros y we o Lanuwchllyn yn cael ei lyncu gan gorwynt categori 5.

“Mae ‘na awel go fain heddiw ‘ma Musus Jones….waaaaaaaaaaaaaa!”

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
1

PenTalarPedia – cyfranwch i’r prosiect ar-lein!

Os ydych chi wedi darllen y rhagolygiad o gyfres ddrama newydd S4C, Pen Talar, ar y wefan hon fe gofiwch fod cais i’r gynulleidfa ymateb a thrafod y gyfres.

O ganlyniad, un o’r syniadau oedd creu PenTalarPedia sef wiki i gasglu gymaint o wyodaeth ag sy’n bosib am gyfnodau’r ddrama ynghyd â’r cymeriadau a’r plot.

Bydd nifer o gyfeiriadau at wleidyddiaeth a diwylliant Cymru, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda i gael gwefan oedd yn adnodd i bobl nad ydynt yn gyfarwydd â’r pethau hyn. Pe bawn i ddeng mlynedd yn iau nag ydw i nawr a heb ddarllen hanes diweddar Cymru a holi pobl yn dwll yna fydden i ddim yn gyfarwydd â rhai o’r pethau fydd yn cael eu crybwyll neu eu trafod yn y ddrama, a dwi’n gwybod y byddwn i wedi gwerthfawrogi adnodd fel hwn. Hefyd, mae’n ffordd o drafod ‘llunyddiaeth’ Pen Talar a gwerthfawrogi crefft y cyfarwyddwyr a’r cynhyrchwyr. … Continue Reading

Rhannwch:
  • Facebook
  • Twitter
  • Tumblr
  • MySpace
  • del.icio.us
Pages ... 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13