Pigion o’r Archif: cyfrol Cymru a’r Byd (tu chwith 12, Gaeaf 1999): Tair risêt wrth drafod Cymru a’r Bydd…
Delwedd: Le monde etier dans une feuille de trefle gan Heinrich Bunting (1545-1606)*
Wrth edrych ymlaen at gyhoeddi cyfrol nesaf tu chwith ‘Mapio’r Byd’ mi fues i’n pori mewn hen rifynnau o’r cylchgrawn. Mae gan bob cyfrol o tu chwith thema arbennig. Thema debyg i ‘Mapio’r Byd’ oedd ‘Cymru / y byd’ sef rhifyn Gaeaf 1999 o tu chwith. Mae’r gyfrol yn brin iawn ond mae modd cael gafael ar gopi mewn llyfrgell dda. Dyma’r gyfrol olaf i Angharad Price a Sioned Puw Rowlands gyd-olygu.
Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfweliad â’r beirniad o Ffrainc, Jean-Jacques Lecercle sy’n dweud yn y cyfweliad fod ysgrifennu yn y Gymraeg yn wleidyddol bwysig ar yr amod fod yr iaith yn cael ei gwthio i’w therfynau – dyna’r unig ffordd o’i chadw’n fyw. Mae’r Angharad Price a Sioned Puw Rowlands yn dweud mai dyma be sy’n arbennig ac y dylai fod yn nod i’r cylchgrawn – ‘tynnu’r Gymraeg i gorneli newydd’. Maent yn cynnig tair risêt i’w ‘dilyn/diawlio’ wrth drafod Cymru a’r Bydd ym 1999, felly dyma nhw i chi fan hyn oherwydd maent yn defnyddio’r thema o fapio. Mae’n berthnasol hefyd oherwydd bu Gareth Miles yn sôn yn ddiweddar yng nghynhadledd yr Academi am y broblem sylfaenol â beirniaid y celfyddydau sef nad ydynt yn gwybod beth yw Cymru. Mae’r tri risêt hwn yn mynnu fod rhaid gwthio’r Gymraeg i fannau newydd yn barhaus:
Risêt 1: Magu hunan-barch cenedlaethol
Tynnwch y poses Cymreig oddi amdanoch (nid y chi piau nhw).
Sylwch mor braf ydi byw yn eich croen eich hun.
Gwisgwch yr owtffit a fynnwch (yn ôl hinsawdd ac awydd).
Ewch allan am dro.
Risêt 2: Dod allan o’r cyfnos Celtaidd
Diffoddwch y peiriant creu niwl ethnig.
Symudwch y Brenin Arthur (Guiness) o ganol y llwyfan.
Dad-golurwch eich gwedd ar y Gwyddel.
Dad-bypedwch y Llydawr ar y llinyn yn eich llaw.
Trowch y sbotolau at gyrion pellach y theatr fawr, at silwet lled-gyfarwydd y stondinau llai.
Risêt 3: Bydoli yr iaith Gymraeg
Dad-sgroliwch fap yr iaith.
Chwythwch y llwch oddi arno (gan disian unwaith neu ddwy yn lled-swnllyd).
Sganiwch y map i gof eich system electronig.
Tafluniwch yr iaith ar sgriniau rhyngweithiol y byd.
Dodwch y sgrôl-fap gwreiddiol mewn lle amlwg a’i wylio’n ymfywiocau wrth i’r iaith, fel burum mewn bara, ddechrau gweithio.
Angharad Price a Sioned Puw Rowlands (tu chwith 12, Gaeaf 1999)
**Dyma’r llun a ddefnyddiwyd ar y clawr sef Le monde etier dans une feuille de trefle gan Heinrich Bunting (1545-1606). Gwyddai Bunting nad oedd y byd yn edrych fel meillionen ond ei fwriad oedd cyfuno sumboliaeth â realaeth; meillionen oedd arfbais ei fan geni, Hanover. Yn ei fap, mae’r byd wedi ei rannu’n dair rhan – Ewrop, Asia ac Affrica – gydag un man canol sef Jeriwsalem sy’n dangos dylanwad map sumbolaidd Sant Isidore. Ar y gornel chwith waelod mae darn o dir ‘America’ ac mae tir ar dop y map ag enw Denmarc a Sweden.

