0

Adolygiad: Fala’ Surion – Cwmni’r Frân Wen

Branwen Rhys Huws fu’n gwylio perfformiad Cwmni’r Frân Wen o ‘Fala’ Surion’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth…

Pan ofynnwyd i mi ’sgwennu adolygiad o’r ddrama Fala’ Surion, rhaid cyfaddef mod i wedi mynd i banig, braidd. Er mod i’n gwybod mai addasiad o gyfrol o straeon byrion gan Rachel Trezise oedd hi, ro’n i’n cywilyddio wrth gyfaddef mod i ddim wedi darllen Fresh Apples, nac unrhyw ddarn arall o’i gwaith, o ran hynny.  Diolch byth, cefais fy niddanu drwy gydol y llwyfaniad, felly pleser oedd mynd ati i ’sgwennu’r adolygiad ’ma.

Fel dywedais i’n flaenorol, addasiad o’r straeon ydy’r ddrama a hynny gan y ddwy awdures boblogaidd: Catrin Dafydd a Manon Eames.  Rhwng hynny â’r ffaith i Fresh Apples ennill gwobr EDS Dylan Thomas ym 2006, ro’n i’n sicr y byddai’r gynulleidfa mewn dwylo profiadol a chraff – ac ro’n i’n iawn.

Yn ogystal â chael cystal awduron yn gysylltiedig â’r prosiect, roedd cast o actorion ifanc a chyffrous i hoelio’n sylw yn – a chan fod yma bum stori o fewn un ddrama, roedd y llwyfan yn fwrlwm o egni.  Efallai fod un neu ddau yn perfformio o’r newydd gyda Chwmni’r Frân Wen, ond mae’r cast i gyd yn wynebau adnabyddus ar y llwyfan ac ar y sgrin erbyn hyn, a dyma sut dwi’n eu nabod nhw: Carys Eleri, Pobl y Cwm, Teulu; Dyfrig Evans, Emyn Roc a Rôl, Tipyn o Stad; Lowri Gwynne, Rownd a Rownd, Cymru Fach; Catrin Mara, Pobl y Cwm, Cei Bach; Rhodri Meilir, R-r-r-r-rapsgaliwn!, My Family; Rhodri Miles, Con Passionate, Emyn Roc a Rôl; a Lynwen Haf Roberts, yn Deffro’r Gwanwyn yn ddiweddar.

Canolbwyntiodd y ddwy sgriptwraig ar bum stori o’r 11 o straeon byrion gwreiddiol, ac o ganlyniad, cafwyd amrywiaeth o ieuenctid ac oedolion yn rhannu’r llwyfan wrth iddyn nhw brofi ansicrwydd, gobaith, tensiynau a dryswch bywyd.  O’r hyn ro’n i wedi ei glywed am y campwaith, Fresh Apples, gwyddwn mai llwyddo i adlewyrchu bywyd yn y Gymru drefol wnaeth Trezise, yn enwedig bywyd yr ieuenctid yng nghymoedd y de. Cymerais yn ganiataol, felly, mai addasiad deheuol yn unig fyddai’r sgript Cymraeg – ond o fewn munudau o eistedd yn fy nghadair, trowyd y rhagdybiaeth honno ar ei phen, a hynny, yn y ffordd orau bosib.  Yr oedd pob stori yn wahanol, a byddai’r dafodiaith a’r acenion hefyd yn amrywio wrth lifo o enau’r actorion.  Yn ogystal â lleoli ambell stori yng nghymoedd y de, felly, cafwyd cymeriadau hefyd yn adrodd eu hanes o flaen cefnlen ddwyreiniol, neu o ystad dai yn y gogledd, megis Caernarfon neu Flaenau Ffestiniog.

Rwy’n amau i’r ffactor yma chwarae rhan fawr yn apêl gyffredinol y ddrama i mi, oherwydd er mod i wrth fy modd yn gwrando ar glonc a chlebran deheuol, roedd hi hefyd yn braf cael amrywiaeth o ran llais a chefndir wrth i ni symud o le i le.  Bu i’r ddwy sgriptwraig ei dallt hi i’r dim, felly – nid cyfieithu’r sgript yn unig a wnaethon nhw, ond ei haddasu er mwyn sicrhau ei fod yn apelio at gymaint o bobl â phosib.  O wneud hynny, roedd mwy o botensial i brofiadau’r cymeriadau fod yn berthnasol a chredadwy i bawb, lle bynnag y maent yn byw, a beth bynnag fo eu profiad o fywyd.

Egyr y ddrama gyda’r stori Fala’ Surion, sef hanes Matt (Dyfrig Evans), bachgen chwilfrydig yn ei arddegau sy’n ei ganfod ei hun mewn tipyn o bicil.  Roedd o’n byw mewn tref nid yn annhebyg i Gaernarfon, ac er ei fod yn rhannu hoffter ei dad o eiriau, nid ydynt yn cyfathrebu’n hawdd gyda’i gilydd.  Yn sgil ei rwystredigaeth, ac mewn ymgais i deimlo’n rhan o’r criw, penderfyna Matt golli ei wyryfdod un prynhawn poeth o haf – ond gwna hynny o dan amgylchiadau go wahanol i’w ffrindiau, a thra amheus at hynny…

Fe’n tywyswyd ni yn Ieir i fywyd Amber (Lynwen Haf Roberts), merch chwech oed o gymoedd y de, yn byw dan ofal ei mam-gu a’i thad-cu, a oedd yn ei magu yn absenoldeb ei mam.  Er bod gan Amber berthynas agos gyda’i thad-cu (Rhodri Miles), byddai tensiwn yn y cartref ar brydiau, yn enwedig gydag ymweliadau cyson ei chyfnither, a fyddai’n mynnu gormod o sylw’r oedolion.  Yn y diwedd daeth rhwystredigaeth Amber druan i’r amlwg gydag ymweliad â ffatri ieir, wrth iddi sylweddoli bod ieir newydd ei thad-cu wedi eu gorfodi i fyw bywydau caeth, cul, a hynny yn erbyn eu hewyllys…

Yn Jonesiaid, cafwyd stori Kristian (Rhodri Meilir), a oedd yn byw ar stad o dai ble’r oedd pawb wedi eu henwi’n ‘Jones’ – oni bai am un ferch o dras Eidalaidd, Lissa (Catrin Mara).  Er bod Lissa dipyn yn hŷn ’na Kirstian, mae’r bachgen dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi, ac yn ofnadwy o eiddigeddus o’i chariad, Alan, sy’n ei cham-drin yn ei dyb ef.  Daw Kirstian i’r casgliad y dylai ddysgu gwers i Alan, ac mai fo ydi’r ‘dyn’ i wneud hynny…

Yna, fe’n cyflwynwyd i stori serch go wahanol yn Valley Lines: cafwyd Caitlin (Lowri Gwynne), a oedd yn dal trên “Valley Lines” i’w gwaith bob dydd yng Nghaerdydd; ac Iolo (Rhodri Meilir), a oedd hefyd yn defnyddio’r un trên i gyfudo o’i gartref i’r gwaith.  Dyma ddau gymeriad unig a fyddai’n croesi llwybrau ei gilydd bob dydd, ac eto’n methu magu’r plwc i siarad gyda’i gilydd – hynny yw, tan un prynhawn pan daflwyd y ddau at ei gilydd…

Yn stori olaf y ddrama, Jigsô, fe ddysgon ni am Heidi (Carys Eleri), merch wedi ei magu i beidio â bod yn uchelgeisiol mewn bywyd.  Diolch i feddylfryd ‘traddodiadol’ ei thad, bu iddi briodi’n ddeunaw, ac o’r herwydd roedd hi’n hynod anhapus.  Wrth i’r blynyddoedd lusgo heibio iddi, hiraethai am gael treulio amser yn y caffi Eidalaidd unwaith eto, a bod yng nghwmni Paolo (Rhodri Meilir)…

Er y byddech chi’n dychmygu mai tristwch ac anobaith fyddai’n chwarae rhannau blaenllaw yn y straeon, cafwyd dogn cryf o hiwmor tywyll i felysu’r cyfan, ac roedd yna amryw o linellau cofiadwy. Cafwyd un sgwrs ffraeth, er enghraifft, rhwng Amber a’i thad-cu yn Ieir, a aeth rhywbeth fel hyn:

Amber: Tad-cu, pam fod lliw eich cwrw chi yn fwy gole na’ chwrw Mam-gu?

Tad-cu: Guinness ma’ dy Fam-gu yn yfed.

Amber: O. Pam?

Tad-cu: Achos bo ’ddi’n feminist.

Yn effeithiol iawn, ac fel modd o greu cyswllt rhwng rhai storïau, fe ddefnyddiwyd ambell gymeriad ymylol mewn mwy nag un stori – yn Fala’ Surion ac yn Jonesiaid, er enghraifft.  Felly, er y gellir dadlau fod pob stori yn sefyll ar wahân i’w gilydd, dyma gyffyrddiad bach a oedd yn ychwanegu dyfnder a llif i’r ddrama wrth iddi fynd rhagddi.  Yr unig stori a oedd yn ei datgelu ei hun mewn pytiau rhwng y straeon eraill oedd Ieir, a gwnaethpwyd hynny yn slic ac effeithiol, gan gynnig brathiadau pwysig o blentyndod Amber dros amser.

Ar brydiau, ro’n i’n teimlo fy mod i’n gweld llawer mwy ar ambell wyneb na’i gilydd, ac efallai y byddai hi wedi bod yn bosib gweld ychydig mwy ar ambell un.  Serch hynny, roedd hi mor braf gwylio actores fel Lynwen Haf Roberts, wyneb digon newydd ar y sîn, yn meddiannu’r llwyfan cystal ag yn mynnu ei lle fel af yr oedd yn ei pherfformiad penigamp yn Deffro’r Gwanwyn y llynedd.

Cyn gwylio’r ddrama, nes i ddarllen yn rhywle mai ‘cyfrifoldeb’ yw prif thema Fala’ Surion.  Ond yn fy marn i, y thema gryfa’ sy’n rhedeg drwyddi yw ‘absenoldeb’, ac absenoldeb rhiant neu rieni.  Cawn ein cyflwyno i bobl ifanc sy’n cael cryn drafferth i ddelio gyda phob math o agweddau ar fywyd, a chredaf fod pob stori’n awgrymu mai o ganlyniad i esgeulustod ac absenoldeb eu rhieni y mae hynny – boed yr absenoldeb yn un llythrennol, neu emosiynol.  Ceir rhieni sy’n methu cyfathrebu â’u plant, neu’n eu hanwybyddu’n llwyr; rhieni sy’n y carchar, neu ddim o gwmpas i osod esiampl; rhieni sydd wedi hel eu pac, ac yn byw dramor… .  Mae rhiant pob cymeriad wedi effeithio’n negyddol arno ac mae hyn oll yn bwydo ansicrwydd y plant wrth iddynt geisio canfod eu lle yn y byd.  Llwyddodd pob aelod o’r cast i ennyn fy nghydymdeimlad yn hynny o beth, ac i mi, yr absenoldeb hwn oedd yn clymu a phlethu bywydau’r cymeriadau ynghyd.

Cadwyd llwyfan Fala’ Surion yn ofod ddigon syml ac agored, ac eto, yn gefndir i’r moelni pwrpasol taflwyd amryw o wahanol ddelweddau ar gefnlen, y tu ôl i’r cymeriadau.  Felly gyda phob stori newydd, neu yng nghanol ambell stori, byddai golygfa neu lun yn cael ei daflu ar y sgrin er mwyn dynodi lleoliad neu deimladau’r cymeriadau – er enghraifft, gwelwyd rheilffyrdd a chymoedd, strydoedd ac ieir mewn cewyll, a’r cefndir diwydiannol a oedd yn chwarae rhan mor annatod ym mywydau’r ieuenctid. Roedd yno fylbiau hefyd yn crogi o’r to, a byddai’r rhain yn eu tro yn awgrymu lleoliad trefol neu ddinesig, neu’r goleuadau hynny sy’n gwibio heibio wrth sefyll ar drên.

Wrth gloi, gallaf ddweud yn onest i mi fwynhau fy noson yn y theatr yng nghwmni cast Fala’ Surion.  Ac eto, am ryw reswm, ni chefais fy argyhoeddi’n llwyr gan y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd.  Peidiwch â gofyn imi pam, oherwydd dwi’m yn rhy siŵr pam yn union fy hun!  Dwi’n meddwl i mi deimlo ar brydiau fod llinyn storïol rhai darnau ychydig yn wan, neu’n annelwig – ond wedi dweud hynny, dwi’n gwybod petawn i’n mynd ati i ddarllen y gyfrol wreiddiol o straeon y byddwn i’n canfod gwir ddyfnder i stori a llais pob cymeriad yn ddi-os.  Gall hyn ond olygu un peth – bydd yn rhaid i mi gael gafael ar gopi o Fresh Apples, ac ymdrochi eto ym myd sur-felys ieuenctid Fala’ Surion.

Lluniau gan Keith Morris

Mae Branwen yn gyn-fyfyrwraig yn yr Adran Gymraeg, Aberystwyth.  Mae bellach yn gweithio fel Pennaeth Marchnata gyda’r Lolfa.

0

Taith Geometreg o gwmpas Ynys Llanddwyn gydag artist ac awdur

Dydd Sadwrn, Mawrth 19eg, bu’r Siân Green (artist gweledol) a Branwen Huws (awdur) ar daith o gwmpas traeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn i ddysgu mwy am geometreg yr ardal. Mae’r ddwy wedi eu comisiynu gan Tu Chwith i greu darn o waith yn ymateb i’r hyn a welsant ar y daith ar gyfer y gyfrol nesaf a fydd yn ymddangos yn fuan iawn, ar y thema yw ‘Gwyddoniaeth’. Y llais a glywch ar y fideo yw Menna Machreth, golygydd Tu Chwith.

0

Cyhoeddi ffilmiau newydd yng nghylchgrawn tu chwith

Bu Pictiwrs yn chwilio am ffilmiau byr annibynnol i fynd ar DVD arbennig. Mae’r DVD hwnnw yn cael ei gyhoeddi â rhifyn 32 o tu chwith sydd ar werth nawr. Gallwch brynu’r cylchgrawn sydd â’r DVD ynddo yn eich siop Gymraeg leol neu oddi ar y wefan hon neu trwy danysgrifio i’r cylchgrawn.

Dyma’r ail DVD mae Pictiwrs a Tu Chwith wedi ei gyhoeddi. Diolch i Rondo am noddi’r DVD.

Llond Bol o Jeli

Dyma’r gyntaf o brosiectau animeiddio blynyddol Galeri Caernarfon.

Caiff pobol ifanc ag anghenion arbennig gyfle i gyd-weithio â cherddorion ac animeiddwyr proffesiynnol i greu ffilm animeiddiedg.

Egin

Cyfarwyddwr: Nerys Wyn Davies

Awdur: Karl Luke

Caiff Lewis blanhigyn bychan i’w dyfu fel rhan o’i ddosbarth gwyddoniaeth. Ond gyda Tad sy’n fwli, a phroblemau â cariad ei ffrind, gall Lewis wneud i fwy na’r planhigyn egino.

Yr Injan Odli

Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod

Comisiwn gan yr Academi oedd Yr Injan Odli fel rhan o wŷl Llên y Lli. Gofynom i 24 bardd a llenorion i gyfleu mewn cwpled ystyr “Beth yw dychymyg”  iddyn nhw. Ar noson y perfformiad, roedd 24 cliced (trigger) ar y llawr, a gwahoddwyd y gynulleidfa i wasgu botymau ar hap, gan gyfuno’r cwpledi ar hap.

Y Neidiwr

Cynhyrchwyd gan Gymdeithas y Rhyfeddod

Casgliad ar gyfer Amgueddfa Cymru oedd prosiect llechi Cymdeithas y Rhyfeddod. Y bwriad oedd cyfleu y defnydd cyfoes sy’n cael ei wneud o ardaloedd y Chwareli yng Ngogledd Cymru. Mae Y Neidiwr yn ddarn o ffilm archif o berson yn gwneud naid feiddgar uwchben Chwarel Cors y Bryniau.

Datblygu hawlfraint Pete Telfer

Datblygu 2008

Cyfarwyddwr: Pete Telfer

Roeddwn i’n falch iawn pan ofynnodd Em’s Ankst i fi i ffilmio David Rupert Edwards a Pat Morgan yn dychwelyd i’r stiwdio yn Fflach yn Aberteifi. Hwn oedd y tro cyntaf i David fod unrhywle’n agos at feicroffôn mewn 13 mlynedd. Roedd yn fraint cael bod yno pan ddychwelodd Gwir Dywysog Cymru.

Eisteddodd Pat wrth y piano ac estynnodd David ddarn o bapur plygedig o’i boced. Roedd ysgrifen flêr ar ddwy ochr y cerpyn papur, y rhan fwyaf ohono wedi ei ddileu. Edrychai’r ddogfen werthfawr hon, oedd â phenillion ‘Cân y Mynach Modern’ arni, y farddoniaeth roedd David am ei ryddhau i’r byd ar ôl absenoldeb mor hir, fel petai wedi cael ei ddiosg a’i godi eto sawl gwaith.

Chwaraeodd Pat y piano a darllennodd Dave ei farddoniaeth. A dyna ni.

Roedd Dave yn barod i fynd ar ôl un take.

Roedd rhaid i mi ofyn iddyn nhw wneud un take arall fel fy mod yn gallu cael ychydig mwy o saethiadau. Fe gytunon nhw. Cefais ragor o saethiadau a’r take hwn a roddwyd ar y sengl. Does dim dybio, dim ychwanegu na dileu. Ddatblygu ar ei ffurf buraf yw hwn.

Diolch Pat a David am ddychwelyd unwaith yn rhagor, er dim ond am ennyd fechan, i’n hatgoffa bod Datblygu wedi torri’r mowld fel bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhydd. Diolch am eich gonestrwydd.

Methu Meddwl (She’s Got Spies)

Cynhyrchydd: Laura Nunez

Mae Methu Meddwl yn gân gan She’s Got Spies am benblethdod a theimlo ar goll heb gyn-gariad. Mae hi eisiau dianc rhag y teimladau, ond methu gwneud hynny yn unrhywle yn y byd. Cafodd y fideo ei recordio ym Milano, Yr Eidal ac Ogwr, Cymru a mae’n dilyn stori’r gân.

Y Fargen

Cyfarwyddwr: James Nee

Cynhyrchydd: Rhodri ap Dyfrig

Yn dilyn marwolaeth ei frawd, mae Maredudd un dychwelyd i’r tŷ lle treulion nhw sawl gwyliau gyda’u gilydd, a lle dwedon nhw eu ffarwel diwethaf cyn i Caradog adael i fynd i’r Unol Daleithiau. Gan ofni na fyddai’n gweld ei frawd bach eto wedi iddo ddiflannu yno unwaith o’r blaen, mae’r ddau yn gwneud addewid y byddant yn cyfarfod eto yn y tŷ, flwyddyn union o’r dyddiad, beth bynnag ddigwyddith.

Gyda’r atgofion o’i frawd dal yn glir fel gwydr yn ei ben ac yn y tŷ hwnnw, mae iechyd meddyliol Maredudd yn graddol ddirywio. Ond alla ei ewyllys i weld ei frawd un waith eto, ddod â fo’n ôl? Bron…

1

Llwyth: adolygiad gan Catrin Rogers

Catrin Rogers sy’n adolygu cynhyrchiad newydd Sherman Cymru.

Llun: Farrows Creative

Llwyth - Paul Morgans (Rhys), Michael Humphreys (Gareth), Danny Grehan (Dada), Simon Watts (Aneurin) Hawlfraint Farrows Creative

Pan berfformwyd Look Back in Anger, drama chwyldroadol John Osborne, am y tro cyntaf ym 1956, gwreiddyn y sioc oedd bod dramodydd – a chwmni theatr o’r brif ffrwd – wedi troi eu sylw at bobl dosbarth gweithiol am y tro cyntaf, ac felly’n dechrau cyfnod gwbl newydd yn hanes theatr Lloegr.

Gyda Llwyth, mae Dafydd James wedi cymryd camau enfawr lle wnaeth Pam fi, Duw? gan John Owen ond mentro. Ar yr olwg gyntaf, ‘gwrywgydiaeth’ yw’r brif thema. Mae’r script yn amlygu pa mor annigonol ac afiach yw’r gair, a hefyd mor annigonol mae’r portread o fywyd hoyw wedi bod yn niwylliant Cymru.

Pedwar dyn hoyw ar noson allan yn y brifddinas, un nos Sadwrn wedi gêm ryngwladol. Aneurin, eu harweinydd magnetig yw’r adroddwr. Wedi dod adre o Lundain, lle mae ei anturiaethau rhywiol a’i yrfa fel nofelydd yn bwydo ei ego, mae e wrth ei fodd yn brolio am ei hanesion wrth ei gynulleidfa addolgar – Rhys a Gareth, cwpl dadleugar ond ffyddlon, a Dada, dyn mamol, cariadus, hŷn na’r lleill.

Llun: Farrows Creative

Llwyth - Paul Morgans (Rhys), Simon Watts (Aneurin) © Farrows Creative

Byddai disgrifio’r plot ddim yn gwneud unrhyw gyfiawnder â’r ddrama – cystal crynhoi drwy ddweud bod y script, y cyflymder, datblygiad pob un cymeriad a safon yr actio yn gwneud hon yn un o’r dramau mwyaf crefftus, difyr, dwys – a hir-ddisgwyliedig – yn hanes theatr Cymru dros y ganrif ddwytha.

Un o’i chryfderau mwyaf ydy’r mynegiant o’r schizophrenia o fod yn Gymro Cymraeg ag un troed yn Llundain, yn ddyn hoyw ymysg diwylliant rygbi llethol y de, ac ynglwm wrth eich teulu ac eto’n ysu am gael dianc. Mae’r drafodaeth o Gymreictod yn enwedig, i mi, yn ffraeth a heriol, ac eto’n hynod ddeallus. “Cult yw e,” meddai Aneurin am y Steddfod. “All those parents, cheering for their offspring… it’s just like a fascist rally.”

Rhaid diolch, mae’n siŵr, i gyfuniad o lwc dda a gwaith caled arwain at ffeindio actorion o safon uchel, yn enwedig Siôn Young sy’n chwarae Gavin, y bachgen naïf, hoffus, y mae’r pedwar yn cwrdd mewn clwb nos. Hawdd oedd anghofio taw actor oedd yna o gwbl, mor ddi-ymdrech a real oedd ei berfformiad.

Llwyth - Siôn Young (Gavin) © Farrows Creative

Llwyth - Siôn Young (Gavin) © Farrows Creative

Dyw’r cyfanwaith ddim yn berffaith. Mae’r set yn siomedig – yn hen-ffasiwn a di-ddychymyg – ac mae’r diwedd braidd yn flêr a diymatal o’i gymharu â’r gweddill. Ond cwynion bach yw’r rhain am ddrama o’r safon uchaf.

Mae na ymdeimlad cryf yng Nghaerdydd, ymysg y cannoedd fu’n ddigon lwcus i gael tocyn i weld Llwyth, ein bod wedi gweld dechrau pennod newydd bwysig yn hanes theatr Gymraeg. Dwi’n mawr, mawr obeithio bod hi’n arwydd o’r hyn sydd i ddod gan Dafydd – ac yn fwy na hyn, yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o ddramodwyr.

Mae Catrin Rogers yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i National Theatre Wales.