0

Adolygiad: Fala’ Surion – Cwmni’r Frân Wen

Branwen Rhys Huws fu’n gwylio perfformiad Cwmni’r Frân Wen o ‘Fala’ Surion’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth…

Pan ofynnwyd i mi ’sgwennu adolygiad o’r ddrama Fala’ Surion, rhaid cyfaddef mod i wedi mynd i banig, braidd. Er mod i’n gwybod mai addasiad o gyfrol o straeon byrion gan Rachel Trezise oedd hi, ro’n i’n cywilyddio wrth gyfaddef mod i ddim wedi darllen Fresh Apples, nac unrhyw ddarn arall o’i gwaith, o ran hynny.  Diolch byth, cefais fy niddanu drwy gydol y llwyfaniad, felly pleser oedd mynd ati i ’sgwennu’r adolygiad ’ma.

Fel dywedais i’n flaenorol, addasiad o’r straeon ydy’r ddrama a hynny gan y ddwy awdures boblogaidd: Catrin Dafydd a Manon Eames.  Rhwng hynny â’r ffaith i Fresh Apples ennill gwobr EDS Dylan Thomas ym 2006, ro’n i’n sicr y byddai’r gynulleidfa mewn dwylo profiadol a chraff – ac ro’n i’n iawn.

Yn ogystal â chael cystal awduron yn gysylltiedig â’r prosiect, roedd cast o actorion ifanc a chyffrous i hoelio’n sylw yn – a chan fod yma bum stori o fewn un ddrama, roedd y llwyfan yn fwrlwm o egni.  Efallai fod un neu ddau yn perfformio o’r newydd gyda Chwmni’r Frân Wen, ond mae’r cast i gyd yn wynebau adnabyddus ar y llwyfan ac ar y sgrin erbyn hyn, a dyma sut dwi’n eu nabod nhw: Carys Eleri, Pobl y Cwm, Teulu; Dyfrig Evans, Emyn Roc a Rôl, Tipyn o Stad; Lowri Gwynne, Rownd a Rownd, Cymru Fach; Catrin Mara, Pobl y Cwm, Cei Bach; Rhodri Meilir, R-r-r-r-rapsgaliwn!, My Family; Rhodri Miles, Con Passionate, Emyn Roc a Rôl; a Lynwen Haf Roberts, yn Deffro’r Gwanwyn yn ddiweddar.

Canolbwyntiodd y ddwy sgriptwraig ar bum stori o’r 11 o straeon byrion gwreiddiol, ac o ganlyniad, cafwyd amrywiaeth o ieuenctid ac oedolion yn rhannu’r llwyfan wrth iddyn nhw brofi ansicrwydd, gobaith, tensiynau a dryswch bywyd.  O’r hyn ro’n i wedi ei glywed am y campwaith, Fresh Apples, gwyddwn mai llwyddo i adlewyrchu bywyd yn y Gymru drefol wnaeth Trezise, yn enwedig bywyd yr ieuenctid yng nghymoedd y de. Cymerais yn ganiataol, felly, mai addasiad deheuol yn unig fyddai’r sgript Cymraeg – ond o fewn munudau o eistedd yn fy nghadair, trowyd y rhagdybiaeth honno ar ei phen, a hynny, yn y ffordd orau bosib.  Yr oedd pob stori yn wahanol, a byddai’r dafodiaith a’r acenion hefyd yn amrywio wrth lifo o enau’r actorion.  Yn ogystal â lleoli ambell stori yng nghymoedd y de, felly, cafwyd cymeriadau hefyd yn adrodd eu hanes o flaen cefnlen ddwyreiniol, neu o ystad dai yn y gogledd, megis Caernarfon neu Flaenau Ffestiniog.

Rwy’n amau i’r ffactor yma chwarae rhan fawr yn apêl gyffredinol y ddrama i mi, oherwydd er mod i wrth fy modd yn gwrando ar glonc a chlebran deheuol, roedd hi hefyd yn braf cael amrywiaeth o ran llais a chefndir wrth i ni symud o le i le.  Bu i’r ddwy sgriptwraig ei dallt hi i’r dim, felly – nid cyfieithu’r sgript yn unig a wnaethon nhw, ond ei haddasu er mwyn sicrhau ei fod yn apelio at gymaint o bobl â phosib.  O wneud hynny, roedd mwy o botensial i brofiadau’r cymeriadau fod yn berthnasol a chredadwy i bawb, lle bynnag y maent yn byw, a beth bynnag fo eu profiad o fywyd.

Egyr y ddrama gyda’r stori Fala’ Surion, sef hanes Matt (Dyfrig Evans), bachgen chwilfrydig yn ei arddegau sy’n ei ganfod ei hun mewn tipyn o bicil.  Roedd o’n byw mewn tref nid yn annhebyg i Gaernarfon, ac er ei fod yn rhannu hoffter ei dad o eiriau, nid ydynt yn cyfathrebu’n hawdd gyda’i gilydd.  Yn sgil ei rwystredigaeth, ac mewn ymgais i deimlo’n rhan o’r criw, penderfyna Matt golli ei wyryfdod un prynhawn poeth o haf – ond gwna hynny o dan amgylchiadau go wahanol i’w ffrindiau, a thra amheus at hynny…

Fe’n tywyswyd ni yn Ieir i fywyd Amber (Lynwen Haf Roberts), merch chwech oed o gymoedd y de, yn byw dan ofal ei mam-gu a’i thad-cu, a oedd yn ei magu yn absenoldeb ei mam.  Er bod gan Amber berthynas agos gyda’i thad-cu (Rhodri Miles), byddai tensiwn yn y cartref ar brydiau, yn enwedig gydag ymweliadau cyson ei chyfnither, a fyddai’n mynnu gormod o sylw’r oedolion.  Yn y diwedd daeth rhwystredigaeth Amber druan i’r amlwg gydag ymweliad â ffatri ieir, wrth iddi sylweddoli bod ieir newydd ei thad-cu wedi eu gorfodi i fyw bywydau caeth, cul, a hynny yn erbyn eu hewyllys…

Yn Jonesiaid, cafwyd stori Kristian (Rhodri Meilir), a oedd yn byw ar stad o dai ble’r oedd pawb wedi eu henwi’n ‘Jones’ – oni bai am un ferch o dras Eidalaidd, Lissa (Catrin Mara).  Er bod Lissa dipyn yn hŷn ’na Kirstian, mae’r bachgen dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi, ac yn ofnadwy o eiddigeddus o’i chariad, Alan, sy’n ei cham-drin yn ei dyb ef.  Daw Kirstian i’r casgliad y dylai ddysgu gwers i Alan, ac mai fo ydi’r ‘dyn’ i wneud hynny…

Yna, fe’n cyflwynwyd i stori serch go wahanol yn Valley Lines: cafwyd Caitlin (Lowri Gwynne), a oedd yn dal trên “Valley Lines” i’w gwaith bob dydd yng Nghaerdydd; ac Iolo (Rhodri Meilir), a oedd hefyd yn defnyddio’r un trên i gyfudo o’i gartref i’r gwaith.  Dyma ddau gymeriad unig a fyddai’n croesi llwybrau ei gilydd bob dydd, ac eto’n methu magu’r plwc i siarad gyda’i gilydd – hynny yw, tan un prynhawn pan daflwyd y ddau at ei gilydd…

Yn stori olaf y ddrama, Jigsô, fe ddysgon ni am Heidi (Carys Eleri), merch wedi ei magu i beidio â bod yn uchelgeisiol mewn bywyd.  Diolch i feddylfryd ‘traddodiadol’ ei thad, bu iddi briodi’n ddeunaw, ac o’r herwydd roedd hi’n hynod anhapus.  Wrth i’r blynyddoedd lusgo heibio iddi, hiraethai am gael treulio amser yn y caffi Eidalaidd unwaith eto, a bod yng nghwmni Paolo (Rhodri Meilir)…

Er y byddech chi’n dychmygu mai tristwch ac anobaith fyddai’n chwarae rhannau blaenllaw yn y straeon, cafwyd dogn cryf o hiwmor tywyll i felysu’r cyfan, ac roedd yna amryw o linellau cofiadwy. Cafwyd un sgwrs ffraeth, er enghraifft, rhwng Amber a’i thad-cu yn Ieir, a aeth rhywbeth fel hyn:

Amber: Tad-cu, pam fod lliw eich cwrw chi yn fwy gole na’ chwrw Mam-gu?

Tad-cu: Guinness ma’ dy Fam-gu yn yfed.

Amber: O. Pam?

Tad-cu: Achos bo ’ddi’n feminist.

Yn effeithiol iawn, ac fel modd o greu cyswllt rhwng rhai storïau, fe ddefnyddiwyd ambell gymeriad ymylol mewn mwy nag un stori – yn Fala’ Surion ac yn Jonesiaid, er enghraifft.  Felly, er y gellir dadlau fod pob stori yn sefyll ar wahân i’w gilydd, dyma gyffyrddiad bach a oedd yn ychwanegu dyfnder a llif i’r ddrama wrth iddi fynd rhagddi.  Yr unig stori a oedd yn ei datgelu ei hun mewn pytiau rhwng y straeon eraill oedd Ieir, a gwnaethpwyd hynny yn slic ac effeithiol, gan gynnig brathiadau pwysig o blentyndod Amber dros amser.

Ar brydiau, ro’n i’n teimlo fy mod i’n gweld llawer mwy ar ambell wyneb na’i gilydd, ac efallai y byddai hi wedi bod yn bosib gweld ychydig mwy ar ambell un.  Serch hynny, roedd hi mor braf gwylio actores fel Lynwen Haf Roberts, wyneb digon newydd ar y sîn, yn meddiannu’r llwyfan cystal ag yn mynnu ei lle fel af yr oedd yn ei pherfformiad penigamp yn Deffro’r Gwanwyn y llynedd.

Cyn gwylio’r ddrama, nes i ddarllen yn rhywle mai ‘cyfrifoldeb’ yw prif thema Fala’ Surion.  Ond yn fy marn i, y thema gryfa’ sy’n rhedeg drwyddi yw ‘absenoldeb’, ac absenoldeb rhiant neu rieni.  Cawn ein cyflwyno i bobl ifanc sy’n cael cryn drafferth i ddelio gyda phob math o agweddau ar fywyd, a chredaf fod pob stori’n awgrymu mai o ganlyniad i esgeulustod ac absenoldeb eu rhieni y mae hynny – boed yr absenoldeb yn un llythrennol, neu emosiynol.  Ceir rhieni sy’n methu cyfathrebu â’u plant, neu’n eu hanwybyddu’n llwyr; rhieni sy’n y carchar, neu ddim o gwmpas i osod esiampl; rhieni sydd wedi hel eu pac, ac yn byw dramor… .  Mae rhiant pob cymeriad wedi effeithio’n negyddol arno ac mae hyn oll yn bwydo ansicrwydd y plant wrth iddynt geisio canfod eu lle yn y byd.  Llwyddodd pob aelod o’r cast i ennyn fy nghydymdeimlad yn hynny o beth, ac i mi, yr absenoldeb hwn oedd yn clymu a phlethu bywydau’r cymeriadau ynghyd.

Cadwyd llwyfan Fala’ Surion yn ofod ddigon syml ac agored, ac eto, yn gefndir i’r moelni pwrpasol taflwyd amryw o wahanol ddelweddau ar gefnlen, y tu ôl i’r cymeriadau.  Felly gyda phob stori newydd, neu yng nghanol ambell stori, byddai golygfa neu lun yn cael ei daflu ar y sgrin er mwyn dynodi lleoliad neu deimladau’r cymeriadau – er enghraifft, gwelwyd rheilffyrdd a chymoedd, strydoedd ac ieir mewn cewyll, a’r cefndir diwydiannol a oedd yn chwarae rhan mor annatod ym mywydau’r ieuenctid. Roedd yno fylbiau hefyd yn crogi o’r to, a byddai’r rhain yn eu tro yn awgrymu lleoliad trefol neu ddinesig, neu’r goleuadau hynny sy’n gwibio heibio wrth sefyll ar drên.

Wrth gloi, gallaf ddweud yn onest i mi fwynhau fy noson yn y theatr yng nghwmni cast Fala’ Surion.  Ac eto, am ryw reswm, ni chefais fy argyhoeddi’n llwyr gan y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd.  Peidiwch â gofyn imi pam, oherwydd dwi’m yn rhy siŵr pam yn union fy hun!  Dwi’n meddwl i mi deimlo ar brydiau fod llinyn storïol rhai darnau ychydig yn wan, neu’n annelwig – ond wedi dweud hynny, dwi’n gwybod petawn i’n mynd ati i ddarllen y gyfrol wreiddiol o straeon y byddwn i’n canfod gwir ddyfnder i stori a llais pob cymeriad yn ddi-os.  Gall hyn ond olygu un peth – bydd yn rhaid i mi gael gafael ar gopi o Fresh Apples, ac ymdrochi eto ym myd sur-felys ieuenctid Fala’ Surion.

Lluniau gan Keith Morris

Mae Branwen yn gyn-fyfyrwraig yn yr Adran Gymraeg, Aberystwyth.  Mae bellach yn gweithio fel Pennaeth Marchnata gyda’r Lolfa.

0

Gwaith/Cartref – rhagflas o’r bennod gyntaf #rhagolygiad

Dr Michelle Davies sydd wedi gwylio’r bennod gyntaf ac yn rhoi rhagolygiad i wefan Tu Chwith.

Gwaith/Cartref: Mwy o’r Gwaith /Llai o’r Cartref

Mae cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan – Gwaith/Cartref gan Roger Williams – yn ddrama sydd â dwy ochr iddi. Ar y naill ochr gwelir criw o athrawon wrth eu gwaith bob dydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf, Caerdydd, ac ar y llaw arall gwelir yr un set o athrawon yn meddwi’n rhacs (dyna brif hanfod y bennod gyntaf, o leiaf) yn ystod eu hamser hamdden.

Y peth cyntaf ddywedaf i amdani yw bod y bennod gyntaf yn hwyl. Mae hi’n symud yn slic, yn llawn cerddoriaeth ffynci, gyda golygfeydd difyr a stori dda. Yn syml, dwi’n ei hoffi hi. Mae pawb wedi bod yn yr ysgol ac mae pawb yn cofio’r antics a’r helynt a fu tra’r oedden nhw yna, ac yn hynny o beth mae pawb yn gallu uniaethu gyda hanner awr gyntaf y ddrama – sy’n canolbwyntio ar fywyd yn yr ysgol.

Ond nid pawb sydd yn athro, ac nid pob athro sy’n yfed yn drom. Dyma lle gall y ddrama hon dramgwyddo. Mae’r ail hanner – sy’n canolbwyntio ar fywydau cymdeithasol yr athrawon – yn cael ei ganoli yn y bennod gyntaf o amgylch yfed, rhyw a ffraeo plentynnaidd. Mae apêl amlwg yma at bobl ifanc a’r ifanc eu hysbryd ond da chi, peidiwch â gwylio os ydych chi’n athro cydwybodol sydd wedi cael llond bol ar bobl yn awgrymu eich bod chi gyd yn alcis – wneith y ddrama hon ddim lles i’ch ‘enw da’. Yr argraff gyntaf a geir o’r prif gymeriadau yw eu bod naill ai’n yfed gormod, yn ddifywyd neu wedi colli eu marblis yn llwyr!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Fel pennod gyntaf, roedd y gymysgfa o gymeriadau yn esgor ar ddeunydd dramatig effeithiol. Nid gor-ddweud bysai awgrymu mai cymeriadau ystrydebol yw’r athrawon ar yr olwg gyntaf – pawb yn ffansïo’r athrawes chwaraeon, athrawes gelf sy’n artist tlawd, athro Cymraeg sy’n cywiro iaith pawb, athro daearyddiaeth ar ego trip, athrawes ganol oed sydd ar drothwy chwalfa nerfol a phrifathro sydd â’i fryd ar gadw enw da’r ysgol yn hytrach na diswyddo athrawon gwael. Rhaid peidio anghofio’r myfyriwr druan ar ei brofiad ymarfer dysgu sy’n ymdebygu at oen yn mynd i’r lladd-dy wrth wynebu dosbarth afreolus blwyddyn 9. Defnyddir yr elfennau adnabyddus hyn mewn athrawon i greu hiwmor a drama ac mae’n anodd peidio dechrau hel atgofion am eich cyn athrawon wrth adnabod y nodweddion cyfarwydd yn eu cymeriadau. A dyna lwyddiant y ddrama hon – bron. I mi, nid yw ail hanner y ddrama yn cydio cymaint wrth i’r canolbwynt fod ar noson gyri heb anghofio’r llond bolied o win a chwrw yn bwdin.

Er bod y rhyngweithio rhwng y cymeriadau’n taro deuddeg afraid dweud bod y ffocws ar or-yfed yn ffordd hawdd i greu drama heb orfod dyfeisio sefyllfaoedd cymhleth er mwyn gosod seiliau ar gyfer gwrthdaro. Yn hynny o beth, gallaf ond gobeithio y bydd mwy o ddychymyg yn ail haneri’r penodau nesaf neu bydd gwylio criw o athrawon yn meddwi, bachu a chwympo mas yn siŵr o ddiflasu rhywun.

Braidd yn rhyfedd oedd sylweddoli bod dau o’r cymeriadau yn adnabyddus i’r gwylwyr eisoes. Roedd Emyr Tomos a Sara Harris yn gymeriadau yn y ddrama Caerdydd a oedd yn gweithio fel athrawon yn y gyfres honno. Dydw i ddim yn gweld union bwrpas defnyddio’r cymeriadau hyn gan ein bod eisoes yn gyfarwydd â’u hang-ups personol ac wedi meddwl ein bod ni wedi gweld cefn ar Emyr a’i Life Rules ond ysywaeth mae e’n ôl gydag Irritating Lodger Facts  - mae’n rhannu fflat gyda’r cyw fyfyriwr diniwed sy’n ffan o gerddoriaeth Dafydd Iwan.

Er mor hoffus oedd perthynas Emyr a Sara yng nghyfres Caerdydd nid ellir rhagweld y bydd y ddau gymeriad yn ychwanegu unrhyw beth newydd at Gwaith/Cartref, braidd yn llac oedd peidio dechrau o’r newydd gyda chymeriadau newydd ac mae’n anodd dychmygu pam y digwyddodd hyn o gwbl. Ar ben y cyfan, roedd yr actor sy’n chwarae rhan Dan yr athro Daearyddiaeth yn chwarae rhan Danny yn Caerdydd – oni wnaeth Peter a Kate gladdu Danny wedi i Kate ei lofruddio?! Ydi e’n mynd i ddod yn ôl yn farw-fyw?! Os ydych chi’n bwriadu cadw dau gymeriad o Caerdydd allwch chi ddim gwneud camgymeriad fel hyn wrth gastio cymeriadau eraill. Rhyfedd iawn.

Ar y cyfan roedd y bennod agoriadol yn diddanu ac yn sicr yn denu rhywun yn ôl i wylio mwy. Mae’r cysylltu geiriau rhwng y dosbarthiadau yn wych ac yn sicrhau arddull gyfoes, feistrolgar.  Nid oes angen sôn am y penderfyniad i gastio gog (Rhian Blythe) fel hwntw er mor agos yw hi at lwyddo i basio fel un, ond mae gan ei chwaer Beca (Hannah Daniel) acen wahanol iddi ac mae pethau bach fel yna’n gwneud gwahaniaeth i bobl fel fi sydd angen i bob manylyn fod yn ei le er mwyn cael fy argyhoeddi. Ond fel ddywedais i, nid oes angen sôn am hynny. Os ydych chi awydd gwylio rhywbeth ysgafn wneith roi gwên ar eich wyneb, gwyliwch y gyfres hon. Mae hi’n llawer gwell na lot o’r stwff sydd wedi dod mas o stabl S4C yn ddiweddar, gydag ymdrech go lew i symud gyda’r oes ac apelio at wylwyr ifanc, gyda hanner gyntaf y bennod agoriadol yn arbennig o dda. Mae ganddi’r potensial i fod yn wych…croesi bysedd iddi wireddu hynny a chanolbwyntio fwy ar y golygfeydd yn y gwaith a llai ar y meddwi a’r cartref, mae ail gyfres ar ei ffordd waeth beth fydd barn y gwylwyr, felly gobeithio am y gorau amdani.

 

Dr Michelle Davies

1

PenTalarPedia – cyfranwch i’r prosiect ar-lein!

Os ydych chi wedi darllen y rhagolygiad o gyfres ddrama newydd S4C, Pen Talar, ar y wefan hon fe gofiwch fod cais i’r gynulleidfa ymateb a thrafod y gyfres.

O ganlyniad, un o’r syniadau oedd creu PenTalarPedia sef wiki i gasglu gymaint o wyodaeth ag sy’n bosib am gyfnodau’r ddrama ynghyd â’r cymeriadau a’r plot.

Bydd nifer o gyfeiriadau at wleidyddiaeth a diwylliant Cymru, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda i gael gwefan oedd yn adnodd i bobl nad ydynt yn gyfarwydd â’r pethau hyn. Pe bawn i ddeng mlynedd yn iau nag ydw i nawr a heb ddarllen hanes diweddar Cymru a holi pobl yn dwll yna fydden i ddim yn gyfarwydd â rhai o’r pethau fydd yn cael eu crybwyll neu eu trafod yn y ddrama, a dwi’n gwybod y byddwn i wedi gwerthfawrogi adnodd fel hwn. Hefyd, mae’n ffordd o drafod ‘llunyddiaeth’ Pen Talar a gwerthfawrogi crefft y cyfarwyddwyr a’r cynhyrchwyr. … Continue Reading

0

Pen Talar: Rhagolygiad #pethaubychain

Pen Talar

Rhagolygiad

Bydd y gyfres hir-ddisgwyliedig Pen Talar yn ymddangos ar ffurf naw pennod gan ddechrau ar Fedi’r 12fed ar S4C. Hir ddisgwyliedig am sawl rheswm ond yn bennaf oherwydd does dim byd yn mynd i gyffroi cynulleidfa S4C yn fwy na drama dda sy’n mynd i’r afael â hanes y mudiad cenedlaethol yn ystod yr hanner canrif diwethaf: fersiwn Cymru o ‘Our Friends from the North’. Drama yw rhagoriaeth S4C felly ni allai’r amseru fod yn well ar gyfer drama a allai ail-danio boliau’r gynulleidfa dros y sianel. Gallai’r ddrama hon grisialu popeth yr hoffai sylfaenwyr y sianel Gymraeg fod wedi breuddwydio amdano yn y lle cyntaf: cyfryngau creadigol sy’n codi cwestiynau ac adlewyrchu pwy ydym ni. A phwy all dynnu eu llygaid oddi ar olwg ac actio ysblennydd Richard Harrington a Ryland Teifi!

‘Nid diffinio rydym ni’n ei wneud, ond dehongli’ meddai Ed Thomas, cyd-awdur Sion Eirian, mewn dangosiad o’r bennod gyntaf yr wythnos ddiwethaf. Bydd eu dehongliad nhw o hanes y mudiad cenedlaethol yn wahanol fel y mae’n wahanol i bob unigolyn, heb amheuaeth. Y gobeith felly yw y bydd trafodaeth gwirioneddol yn tyfu wrth i’r gyfres fynd rhagddi – am y tir canol yn y dehongliadau, am y gwahaniaethau, y llwyddiannau a’r methiannau, am daith y gwerthoedd gwreiddiol i’r cwestiwn beth ydyn nhw heddiw. Taith unigolion yn ymyrryd â thynged cenedl a’r genedl honno’n ymyrryd ag unigolion yw addewid y gyfres, a dywed S4C ar eu gwefan: ‘yn stori am baradwys coll, i eraill, stori o obaith am baradwys wedi ei adennill. Yn sicr, mae hon yn ddrama daer, gref a fydd yn ysgogi atgofion a breuddwydion cenedl gyfan.’ … Continue Reading

0

Adolygiad o ‘Chwilys’ – drama newydd Aled Jones Williams – gan Non Meleri Hughes

Chwilys: Artaith bleserus

Ofn mawr Aled Jones Williams yw theatr dosbarth canol; theatr saff sy’n llenwi seddi.  A chyn gweld y ddrama hon, ofnais innau fod y theatr Gymraeg eisoes wedi mynd rhy bell i lawr y llwybr hwnnw.  Ond nid drama saff mo Chwilys.  Fel yr awgryma’i theitl, mae’n ddrama sy’n procio ac yn pryfocio, gan dreiddio’n ddwfn i galon bwdr gwleidyddiaeth gyfoes.  Yn wir, crafa ysgrifennu miniog Aled Jones Williams mor agos at yr asgwrn nes y teimlir, ar brydiau, mai ni fel cynulleidfa sydd dan ei chwyddwydr.  A rhaid cyfaddef imi brofi rhyw wefr sadomasocistaidd o artaith mor bleserus.

Owen Arwyn a Martin Thomas yn 'Chwilys'

Dau gymeriad yn unig sydd yn y ddrama – Dyn 1 (Owen Arwyn) a Dyn 2 (Martin Thomas).  Set syml sydd ar y llwyfan – dwy silff lyfrau, bwrdd, cadeiriau a chwpwrdd dillad.  Ac o ganlyniad, hoelir sylw’r gynulleidfa’n gyfan gwbl ar y cymeriadau a’u perthynas gymhleth.  Bwriad Aled Jones Williams oedd dinoethi’r theatr, ei hamddifadu o’i thrimins gan ganolbwyntio ar hanfodion y ddrama.  Yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mewn hen theatr ar ganol y stryd fawr ag olion dirwasgiad i’w gweld yn glir trwy ffenestri’r siopau gwag, cyflawnwyd ei fwriad yn ingol o effeithiol.

Egyr y ddrama wrth i Ddyn 1 baratoi ar gyfer lansiad ei lyfr: cyfieithiad o farddoniaeth gan fardd o Iran.  Yn un o amryw o olygfeydd swrrealaidd y ddrama, cama Dyn 2 allan o’r cwpwrdd dillad â gwn am ei ganol a’i fag llaw yn llawn offer arteithio.  Sefydlir yr anghydbwysedd grym rhwng y ddau o’r eiliad cyntaf ac mae’r ffaith fod Dyn 1 yn hanner noeth trwy gydol y ddrama yn fodd braidd yn naïf o bwysleisio hynny.  Ond nid perthynas ddu a gwyn am ddyn da a dyn drwg, fel yn Westerns hoff y dramodydd, mohoni.  Plethir eu hemosiynau, eu gwerthoedd a’u cymhellion fel y gellir awgrymu mai dau ochr i un cymeriad ydynt, mewn gwirionedd.

Ar yr olwg gyntaf, mae cymeriad y ddau ddyn yn gwbl wrthgyferbyniol.  Mae Dyn 1 yn academydd llwyddiannus tra bod Dyn 2 yn lofrudd gwaed oer.  Ond wrth glywed Dyn 2 yn trafod ei wraig a’i blant, gwelwn ochr dynerach i’w bersonoliaeth.  Ac erys addfwynder y “caru-mêl, caramel” yn hir yn y cof.  Dechreuwn hefyd amau diniweidrwydd Dyn 1 pan glywn fod ganddo’r cynhwysion i greu bom, ei fod yn Sbaen pan fomiwyd Madrid ac wedi bod ar daith arall, ar ail basbort, i Bacistan.  Fel tro ychwanegol yn y gynffon, cyfaddefa’r llofrudd y gwyddai nad Dyn 1 oedd ei darged cywir a chwalir y rhith mai cyflawni’i swydd er mwyn creu byd mwy diogel i’w blant ydoedd.  Sylweddolwn ninnau inni gael ein twyllo unwaith yn rhagor ac mor hawdd yw ein dylanwadu’r naill ffordd neu’r llall ac mor anwadal yw ein daliadau.

Mae ‘Chwilys’ yn gyforiog o feirniadaeth ddeifiol ar wleidyddiaeth Prydain, yn enwedig ei pholisi tramor.  Personolir bygythiad yr ymosodiadau terfysgol, hollbresennol yng nghymeriad Dyn 2.  Trwy gydol y ddrama gwthia Dyn 1 i gyfaddef ei fod yn derfysgwr (adlais o ymgais Prydain i brofi fod gan Irac arfau niwclear cyn mynd i ryfel).  Ni ellir llai na meddwl am Ymchwiliad Chilcot i ddilysrwydd y rhyfel yn Irac pan ddywed Dyn 2: “Fe ddaw’r dystiolaeth wedyn.  Eilbeth ydi tystiolaeth.  Y sicrwydd sy’n dod gyntaf.”  Ni ellir chwaith peidio â sylwi fod croen Dyn 2 yn wynnach na gwyn.  Ac o gyplysu hyn â’i osgo bygythiol a’i ragfarnau parod, cyflyrrir y gynulleidfa i’w weld fel cymeriad BNP-aidd.  Sgwarnog, efallai, ond un sy’n llwyddo i ddyfnhau ergyd ei gyfaddefiad: “Llafur Newydd ydw i.”

Er bod polisi tramor amheus gwledydd Prydain yn thema ganolog yn y ddrama, pwysleisia Valmai Jones, y gyfarwyddwraig, ei bod hi hefyd yn ddrama am Gymru a sgitsoffrenia ein sefyllfa.  Ar un llaw, rydym yn awyddus i agor ein gwlad a chroesawu dylanwadau o’r tu allan, tra ar y llaw arall ceisiwn warchod yr hyn sydd gennym.  Gellir honni hefyd bod perthynas Dyn 1 â Dyn 2 yn adlewyrchu’r berthynas rhwng y Cynulliad a’r Cymry.  Er y ceisir sefydlu perthynas iach rhyngddynt, caiff Dyn 2 hefyd ei reoli gan bŵer uwch, sef y Sais anhysbys ar ochr arall y ffôn, yn debyg i berthynas y Cynulliad â San Steffan.

Hanner ffordd trwy’r ddrama, cana gloch y tŷ.  Yn gwbl annisgwyl, gadawa Dyn 2 i’r perchennog agor y drws gan ei adael yn rhydd.  Ond ni all symud.  Saif yn ei unfan gan adael i’r foment lithro oddi wrtho.  Yma, amlygir thema bwysig arall sef golygiadau rhyddid ac ewyllys rhydd.  Gorthrymwyd Dyn 1 i’r fath raddau fel na all gymryd y cam tuag at ryddid hyd yn oed pan roddir ef iddo ar blât, megis pleidlais ’79.  Ac er yr awgryma’r ail ddiweddglo nad oedd canlyniad y ddrama’n anorfod wedi’r cwbl, sylwer mai’r cymeriad mewn grym, Dyn 2, sy’n parhau i wneud y penderfyniad tyngedfennol.  Rhith a grëwyd i’n tawelu yw’r rhyddid honedig sydd gennym.

Nid annisgwyl yw gweld fod cryn drafod ar grefydd o fewn y ddrama, fel yn nifer o ddramâu eraill Aled Jones Williams, megis Iesu!.  Ceir moment anghyfforddus pan waedda Dyn 2, “Dwi ddim yn credu mewn Duw”, o gofio y bu’r dramodydd ei hun yn brwydro â’i ffydd.  Bron fod rhywun yn clywed ei hanes, a bortreadwyd yn onest a theimladwy mewn rhaglen yng nghyfres deledu Y Daith ar S4C, yn atseinio oddi ar waliau’r theatr yn yr eiliadau o dawelwch wedi’r waedd.  Ceir hefyd ambell sylw sinigaidd megis mai beth mae rhywun yn ei gredu’n gyhoeddus sy’n cyfrif.  Awgrymir felly nad yw’r credoau cyhoeddus a’r credoau mewnol yn aml yr un.  A phwysleisir mai ofn, nid cariad, sydd mewn gwir ffydd.  Felly hefyd, yn ôl y ddrama hon, mewn gwir wleidyddiaeth.

Sioc fwyaf y ddrama yw’r ddau ddiweddglo, yn enwedig o ystyried fod gweithred y llofrudd, fel arfer, yn un na ellir ei dadwneud.  Rhydd y diweddglo deublyg haen ychwanegol i’r ddrama.  Dyma ddrama am ddrama, am natur theatr ei hun.  Bron fod perfformio’r ail ddiweddglo yn rhyw droednodyn ôl-fodernaidd i’r ddrama.  Bwriad gwreiddiol Cwmni Tandem oedd gadael i’r actorion benderfynu pa ddiweddglo i’w defnyddio ar y noson, ond penderfynwyd yn y diwedd berfformio’r ddau ddiweddglo bob nos.  Pan glywais am hyn yn wreiddiol, credais mai dyfais farchnata gelfydd ydoedd i annog cynulleidfa i fynychu mwy nag un perfformiad.  Ond yn sicr ychwanega’r dechneg hon ddimensiwn arall i ddrama sydd eisoes yn aml-haenog.  Soniwyd hefyd y byddai’r ddau actor yn newid cymeriad ar wahanol nosweithiau, ac er y gwnaethpwyd hynny ar gyfer yr ymarferion, fe ymddengys nad dyna’r bwriad ar gyfer y daith ei hun.

Yn ôl y dramodydd, mae Chwilys yn un o ddwy ddrama ac fe berfformir y chwaer ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent.  Bydd y ddrama honno yn archwilio natur personoliaeth, ac yn datblygu rhai syniadau sydd wedi’u plannu yn Chwilys.  Yn sicr, ni ellir cael hysbyseb gwell iddi na’r ddrama hon.  Dywed Aled Jones Williams y gobeithia y bydd y gynulleidfa wedi’u cythruddo â’r system wleidyddol wedi gwylio Chwilys.  Cyflawnwyd hynny, heb os.  Cefais hefyd fy nghythruddo na phrofais y wefr theatrig hon ers talwm, yn enwedig yng nghynyrchiadau diweddar canol-y-ffordd y Theatr Genedlaethol.  Rhaid gobeithio mai dyma ddechrau adfywiad cyffrous ym myd y ddrama Gymraeg, ac na pharheir ag artaith yr arlwy a fu.

Mae Non Meleri Hughes yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Pwyswch yma am dyddiadau eraill y daith.

Os hoffech chi gyfrannu adolygiad i wefan tu chwith, cysylltwch â tuchwith@googlemail.com