0

Arddangosfa project/ten, Caerdydd: map Debbie Smyth ac adolygiad Cynan Llwyd

'world table' Debbie Smyth (hawlfraint project/ten)

'world table' Debbie Smyth (hawlfraint project/ten)

Mae map unigryw wedi ymddangos yng Nghaerdydd yr wythnos hon mewn arddangosfa newydd gan project/ten. Gallwch ddarllen isod adolygiad Cynan Llwyd o’r arddangosfa ar gyfer gwefan tu chwith.

Aeth Debbie Smyth, artist tecstiliau, ati i fapio’r byd gan ddefnyddio nodwyddau ac edau. Yr effaith yw fod y nodwyddau yn diffinio siâp tirlun y byd, fel pe bai rhywun wedi eu gosod yno dros dro ond heb allu dod yn ôl i winio’r cyfan at ei gilydd. Mae’r map wedi ei osod mewn bwrdd coffi (isod) sy’n addas iawn o ddychmygu pobl yn cynllunio newid y byd o gwmpas y bwrdd.

Mae’r gwaith o lunio’r edau yn fanwl a chymhleth ac yn arbrofi â’r syniad o linellau – sut mae llinellau un deimensiwn (fel rhai wedi eu tynnu â phensil) yn ymddangos yn wahanol o’u dylunio â deunydd.

‘Mapio’r Byd’ yw thema’r rhifyn nesaf o gylchgrawn tu chwith a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan ac felly diolch i project/ten am ddanfon y delweddau hyn atom ni (tanysgrifiwch yma er mwyn ei dderbyn drwy’r post).

Gellir gweld arddangosfa project/ten yn y Cardiff Arts Institute ar hyn o bryd (Mawrth 22-Ebrill 12). Mae’r lansiad yfory, Dydd Gwener Mawrth 26ain, am 7pm.  Isod mae adolygiad gan Cynan Llwyd o’r arddangosfa gyfan.

'world table' Debbie Smyth: hawlfraint project/ten

'world table' Debbie Smyth: hawlfraint project/ten

Adolygiad o arddangosfa project/ten @ Cardiff Arts Institute

gan Cynan Llwyd

Menter newydd gyffrous yw project/ten sydd wedi bodoli ar-lein ers rhai misoedd. Creu oriel gelf a chynllunio cyfoes yw bwriad y trefnwyr Catrin ac Andy Gardener, pâr priod ifanc, y ddau’n byw ac yn ymwneud â diwylliant unigryw a dyrchafol Caerdydd. Tan Ebrill 12fed mae’r Cardiff Arts Institute wedi rhoi gofod i’w  arddangosfa ‘pop-up’ sydd yn cynnwys gwaith deg artist – pob un â chysylltiadau Cymreig.

O, na! Artistiaid Cymreig?

Mynyddoedd? Llynoedd? Salem? Ffermydd? Graffiti Gwleidyddol?

Na. Dim o gwbl.

Mae’n amlwg fod Catrin ac Andy wedi cal llond bol ar orielau hen ffasiwn Caerdydd nad ydynt yn  llwyddo i adlewyrchu egni a bwrlwm ein prifddinas ifanc.

Artistiaid ifanc sydd yn anelu at ddenu cynulleidfa ifanc y cawn yma. Er bod sawl galeri yng Nghaerdydd, nid oes un yn rhoi’r fath lwyfan i gelf gyfoes, ond dyma amcan project/ten, ac mae hyn i’w groesawu.

Gwelwn arddangosfa sydd yn dangos doniau a thalentau amlwg. Mae’r gweithiau yn drawiadol, yn hardd, yn hyll, yn llawn egni ac yn wych. Ceir arlwy eang; o bortread Huw Aaron o’r dramodydd Samuel Beckett i bedwarawd coch Jon Oakes sy’n hoelio eich sylw’n syth ar waelod y grisiau ac yn gosod safon uchel go gyfer gweddill yr arddangosfa.

Does dim rhaid poeni am undonedd chwaith. Mae pob artist wedi cael rhwydd hynt i amlygu eu doniau unigol, o waith olew ar ganfas i frodwaith.

Cyn gorffen, rhaid dweud gair am y lleoliad mae’r arddangosfa wedi ei ddewis, sef y ‘sefydliad’ newydd yng nghysgod Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Yn ôl maniffesto’r Cardiff Arts Institute, mae’r lleoliad yn gantîn, yn glwb cymdeithasol ac yn ystafell gerddoriaeth. Mae’n le, yn ôl pob sôn, i archwilio gweledigaethau creadigol ac i wthio ffiniau beth y mae’n ei olygu i fyw, gweithio a chwarae yng Nghaerdydd – neu rhywbeth fel yna. Mae eu gwefan yn ein gwahodd ni, y werin, i gymryd rhan yn yr antur fawr â cherddorion, beirdd, artistiaid, meddylwyr (dydw i heb gweld Dr Simon Brooks yno eto), digrifwyr, DJs a phob math o berfformwyr.

Ond mae yna broblem. Mae’r holl beth yn drewi o rodresgarwch!

Mae gan y perchnogion lygaid da, does dim dwy waith am hynny. Mae’r addurn, y celfi ail-law a’r wal lego (ie, wal lego!) yn edrych yn anhygoel ac mae naws hamddenol braf i’r lle. Does dim rhaid poeni am dywallt eich diod dros chav ac wynebu’r goblygiadau, oherwydd, fel mae’r gwefan yn ei ddweud, mae’n hafan i bobl sy’n ‘rhannu’r un meddwl’, ac yn ysbryd y lle, gwahaddwn y chav i fynegi’n greadigol ei ankst drwy greu celf o’r hylif ar y llawr.

Ond wrth gwrs, mae yna broblem arall. Maent yn galw ei hunain yn sefydliad. Dyma beth yw honiad dewr!

Er mwyn cyfiawnhau’r enw hwn rhaid iddynt ymroi eu holl egni i hyrwyddo artistiaid o’r radd flaenaf, ond yn sicr mae’r arddangosfa hwn yn gam i gyfiawnhau’r enw.

Blaengar yw’r ansoddair gorau i ddisgrifio project/ten, y ddau arweinydd, a’r deg artist. Mae’n chwa o awyr iach ac wedi peri i mi fod yn gyffrous am gelf da unwaith yn rhagor.

Llongyfarchiadau Mr a Mrs Gardner, a llongyfarchiadau chi artistiaid.

Mae Cynan Llwyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r Gymraeg. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, llên a chelf.

Os hoffech chi roi adolygiad/ysgrif/ gwaith creadigol ar wefan tu chwith e-bostiwch Menna: tuchwith@googlemail.com

Cofiwch am ein cynnig arbennig tan Fawrth 28ain i danysgrifio i gylchgrawn tu chwith a derbyn y rhifyn nesaf – ‘Mapio’r Byd’ – drwy’r post

1

Pigion o’r Archif: cyfrol Cymru a’r Byd (tu chwith 12, Gaeaf 1999): Tair risêt wrth drafod Cymru a’r Bydd…

Delwedd: Le monde etier dans une feuille de trefle gan Heinrich Bunting (1545-1606)*

Wrth edrych ymlaen at gyhoeddi cyfrol nesaf tu chwith ‘Mapio’r Byd’ mi fues i’n pori mewn hen rifynnau o’r cylchgrawn. Mae gan bob cyfrol o tu chwith thema arbennig. Thema debyg i ‘Mapio’r Byd’ oedd ‘Cymru / y byd’ sef rhifyn Gaeaf 1999 o tu chwith. Mae’r gyfrol yn brin iawn ond mae modd cael gafael ar gopi mewn llyfrgell dda. Dyma’r gyfrol olaf i Angharad Price a Sioned Puw Rowlands gyd-olygu.

Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfweliad â’r beirniad o Ffrainc, Jean-Jacques Lecercle sy’n dweud yn y cyfweliad fod ysgrifennu yn y Gymraeg yn wleidyddol bwysig ar yr amod fod yr iaith yn cael ei gwthio i’w therfynau – dyna’r unig ffordd o’i chadw’n fyw. Mae’r Angharad Price a Sioned Puw Rowlands yn dweud mai dyma be sy’n arbennig ac y dylai fod yn nod i’r cylchgrawn – ‘tynnu’r Gymraeg i gorneli newydd’. Maent yn cynnig tair risêt i’w ‘dilyn/diawlio’ wrth drafod Cymru a’r Bydd ym 1999, felly dyma nhw i chi fan hyn oherwydd maent yn defnyddio’r thema o fapio. Mae’n berthnasol hefyd oherwydd bu Gareth Miles yn sôn yn ddiweddar yng nghynhadledd yr Academi am y broblem sylfaenol â beirniaid y celfyddydau sef nad ydynt yn gwybod beth yw Cymru. Mae’r tri risêt hwn yn mynnu fod rhaid gwthio’r Gymraeg i fannau newydd yn barhaus:

Risêt 1: Magu hunan-barch cenedlaethol

Tynnwch y poses Cymreig oddi amdanoch (nid y chi piau nhw).

Sylwch mor braf ydi byw yn eich croen eich hun.

Gwisgwch yr owtffit a fynnwch (yn ôl hinsawdd ac awydd).

Ewch allan am dro.

Risêt 2: Dod allan o’r cyfnos Celtaidd

Diffoddwch y peiriant creu niwl ethnig.

Symudwch y Brenin Arthur (Guiness) o ganol y llwyfan.

Dad-golurwch eich gwedd ar y Gwyddel.

Dad-bypedwch y Llydawr ar y llinyn yn eich llaw.

Trowch y sbotolau at gyrion pellach y theatr fawr, at silwet lled-gyfarwydd y stondinau llai.

Risêt 3: Bydoli yr iaith Gymraeg

Dad-sgroliwch fap yr iaith.

Chwythwch y llwch oddi arno (gan disian unwaith neu ddwy yn lled-swnllyd).

Sganiwch y map i gof eich system electronig.

Tafluniwch yr iaith ar sgriniau rhyngweithiol y byd.

Dodwch y sgrôl-fap gwreiddiol mewn lle amlwg a’i wylio’n ymfywiocau wrth i’r iaith, fel burum mewn bara, ddechrau gweithio.

Angharad Price a Sioned Puw Rowlands (tu chwith 12, Gaeaf 1999)

**Dyma’r llun a ddefnyddiwyd ar y clawr sef Le monde etier dans une feuille de trefle gan Heinrich Bunting (1545-1606). Gwyddai Bunting nad oedd y byd yn edrych fel meillionen ond ei fwriad oedd cyfuno sumboliaeth â realaeth; meillionen oedd arfbais ei fan geni, Hanover. Yn ei fap, mae’r byd wedi ei rannu’n dair rhan – Ewrop, Asia ac Affrica – gydag un man canol sef Jeriwsalem sy’n dangos dylanwad map sumbolaidd Sant Isidore. Ar y gornel chwith waelod mae darn o dir ‘America’ ac mae tir ar dop y map ag enw Denmarc a Sweden.