0

Adolygiad o ‘Chwilys’ – drama newydd Aled Jones Williams – gan Non Meleri Hughes

Chwilys: Artaith bleserus

Ofn mawr Aled Jones Williams yw theatr dosbarth canol; theatr saff sy’n llenwi seddi.  A chyn gweld y ddrama hon, ofnais innau fod y theatr Gymraeg eisoes wedi mynd rhy bell i lawr y llwybr hwnnw.  Ond nid drama saff mo Chwilys.  Fel yr awgryma’i theitl, mae’n ddrama sy’n procio ac yn pryfocio, gan dreiddio’n ddwfn i galon bwdr gwleidyddiaeth gyfoes.  Yn wir, crafa ysgrifennu miniog Aled Jones Williams mor agos at yr asgwrn nes y teimlir, ar brydiau, mai ni fel cynulleidfa sydd dan ei chwyddwydr.  A rhaid cyfaddef imi brofi rhyw wefr sadomasocistaidd o artaith mor bleserus.

Owen Arwyn a Martin Thomas yn 'Chwilys'

Dau gymeriad yn unig sydd yn y ddrama – Dyn 1 (Owen Arwyn) a Dyn 2 (Martin Thomas).  Set syml sydd ar y llwyfan – dwy silff lyfrau, bwrdd, cadeiriau a chwpwrdd dillad.  Ac o ganlyniad, hoelir sylw’r gynulleidfa’n gyfan gwbl ar y cymeriadau a’u perthynas gymhleth.  Bwriad Aled Jones Williams oedd dinoethi’r theatr, ei hamddifadu o’i thrimins gan ganolbwyntio ar hanfodion y ddrama.  Yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mewn hen theatr ar ganol y stryd fawr ag olion dirwasgiad i’w gweld yn glir trwy ffenestri’r siopau gwag, cyflawnwyd ei fwriad yn ingol o effeithiol.

Egyr y ddrama wrth i Ddyn 1 baratoi ar gyfer lansiad ei lyfr: cyfieithiad o farddoniaeth gan fardd o Iran.  Yn un o amryw o olygfeydd swrrealaidd y ddrama, cama Dyn 2 allan o’r cwpwrdd dillad â gwn am ei ganol a’i fag llaw yn llawn offer arteithio.  Sefydlir yr anghydbwysedd grym rhwng y ddau o’r eiliad cyntaf ac mae’r ffaith fod Dyn 1 yn hanner noeth trwy gydol y ddrama yn fodd braidd yn naïf o bwysleisio hynny.  Ond nid perthynas ddu a gwyn am ddyn da a dyn drwg, fel yn Westerns hoff y dramodydd, mohoni.  Plethir eu hemosiynau, eu gwerthoedd a’u cymhellion fel y gellir awgrymu mai dau ochr i un cymeriad ydynt, mewn gwirionedd.

Ar yr olwg gyntaf, mae cymeriad y ddau ddyn yn gwbl wrthgyferbyniol.  Mae Dyn 1 yn academydd llwyddiannus tra bod Dyn 2 yn lofrudd gwaed oer.  Ond wrth glywed Dyn 2 yn trafod ei wraig a’i blant, gwelwn ochr dynerach i’w bersonoliaeth.  Ac erys addfwynder y “caru-mêl, caramel” yn hir yn y cof.  Dechreuwn hefyd amau diniweidrwydd Dyn 1 pan glywn fod ganddo’r cynhwysion i greu bom, ei fod yn Sbaen pan fomiwyd Madrid ac wedi bod ar daith arall, ar ail basbort, i Bacistan.  Fel tro ychwanegol yn y gynffon, cyfaddefa’r llofrudd y gwyddai nad Dyn 1 oedd ei darged cywir a chwalir y rhith mai cyflawni’i swydd er mwyn creu byd mwy diogel i’w blant ydoedd.  Sylweddolwn ninnau inni gael ein twyllo unwaith yn rhagor ac mor hawdd yw ein dylanwadu’r naill ffordd neu’r llall ac mor anwadal yw ein daliadau.

Mae ‘Chwilys’ yn gyforiog o feirniadaeth ddeifiol ar wleidyddiaeth Prydain, yn enwedig ei pholisi tramor.  Personolir bygythiad yr ymosodiadau terfysgol, hollbresennol yng nghymeriad Dyn 2.  Trwy gydol y ddrama gwthia Dyn 1 i gyfaddef ei fod yn derfysgwr (adlais o ymgais Prydain i brofi fod gan Irac arfau niwclear cyn mynd i ryfel).  Ni ellir llai na meddwl am Ymchwiliad Chilcot i ddilysrwydd y rhyfel yn Irac pan ddywed Dyn 2: “Fe ddaw’r dystiolaeth wedyn.  Eilbeth ydi tystiolaeth.  Y sicrwydd sy’n dod gyntaf.”  Ni ellir chwaith peidio â sylwi fod croen Dyn 2 yn wynnach na gwyn.  Ac o gyplysu hyn â’i osgo bygythiol a’i ragfarnau parod, cyflyrrir y gynulleidfa i’w weld fel cymeriad BNP-aidd.  Sgwarnog, efallai, ond un sy’n llwyddo i ddyfnhau ergyd ei gyfaddefiad: “Llafur Newydd ydw i.”

Er bod polisi tramor amheus gwledydd Prydain yn thema ganolog yn y ddrama, pwysleisia Valmai Jones, y gyfarwyddwraig, ei bod hi hefyd yn ddrama am Gymru a sgitsoffrenia ein sefyllfa.  Ar un llaw, rydym yn awyddus i agor ein gwlad a chroesawu dylanwadau o’r tu allan, tra ar y llaw arall ceisiwn warchod yr hyn sydd gennym.  Gellir honni hefyd bod perthynas Dyn 1 â Dyn 2 yn adlewyrchu’r berthynas rhwng y Cynulliad a’r Cymry.  Er y ceisir sefydlu perthynas iach rhyngddynt, caiff Dyn 2 hefyd ei reoli gan bŵer uwch, sef y Sais anhysbys ar ochr arall y ffôn, yn debyg i berthynas y Cynulliad â San Steffan.

Hanner ffordd trwy’r ddrama, cana gloch y tŷ.  Yn gwbl annisgwyl, gadawa Dyn 2 i’r perchennog agor y drws gan ei adael yn rhydd.  Ond ni all symud.  Saif yn ei unfan gan adael i’r foment lithro oddi wrtho.  Yma, amlygir thema bwysig arall sef golygiadau rhyddid ac ewyllys rhydd.  Gorthrymwyd Dyn 1 i’r fath raddau fel na all gymryd y cam tuag at ryddid hyd yn oed pan roddir ef iddo ar blât, megis pleidlais ’79.  Ac er yr awgryma’r ail ddiweddglo nad oedd canlyniad y ddrama’n anorfod wedi’r cwbl, sylwer mai’r cymeriad mewn grym, Dyn 2, sy’n parhau i wneud y penderfyniad tyngedfennol.  Rhith a grëwyd i’n tawelu yw’r rhyddid honedig sydd gennym.

Nid annisgwyl yw gweld fod cryn drafod ar grefydd o fewn y ddrama, fel yn nifer o ddramâu eraill Aled Jones Williams, megis Iesu!.  Ceir moment anghyfforddus pan waedda Dyn 2, “Dwi ddim yn credu mewn Duw”, o gofio y bu’r dramodydd ei hun yn brwydro â’i ffydd.  Bron fod rhywun yn clywed ei hanes, a bortreadwyd yn onest a theimladwy mewn rhaglen yng nghyfres deledu Y Daith ar S4C, yn atseinio oddi ar waliau’r theatr yn yr eiliadau o dawelwch wedi’r waedd.  Ceir hefyd ambell sylw sinigaidd megis mai beth mae rhywun yn ei gredu’n gyhoeddus sy’n cyfrif.  Awgrymir felly nad yw’r credoau cyhoeddus a’r credoau mewnol yn aml yr un.  A phwysleisir mai ofn, nid cariad, sydd mewn gwir ffydd.  Felly hefyd, yn ôl y ddrama hon, mewn gwir wleidyddiaeth.

Sioc fwyaf y ddrama yw’r ddau ddiweddglo, yn enwedig o ystyried fod gweithred y llofrudd, fel arfer, yn un na ellir ei dadwneud.  Rhydd y diweddglo deublyg haen ychwanegol i’r ddrama.  Dyma ddrama am ddrama, am natur theatr ei hun.  Bron fod perfformio’r ail ddiweddglo yn rhyw droednodyn ôl-fodernaidd i’r ddrama.  Bwriad gwreiddiol Cwmni Tandem oedd gadael i’r actorion benderfynu pa ddiweddglo i’w defnyddio ar y noson, ond penderfynwyd yn y diwedd berfformio’r ddau ddiweddglo bob nos.  Pan glywais am hyn yn wreiddiol, credais mai dyfais farchnata gelfydd ydoedd i annog cynulleidfa i fynychu mwy nag un perfformiad.  Ond yn sicr ychwanega’r dechneg hon ddimensiwn arall i ddrama sydd eisoes yn aml-haenog.  Soniwyd hefyd y byddai’r ddau actor yn newid cymeriad ar wahanol nosweithiau, ac er y gwnaethpwyd hynny ar gyfer yr ymarferion, fe ymddengys nad dyna’r bwriad ar gyfer y daith ei hun.

Yn ôl y dramodydd, mae Chwilys yn un o ddwy ddrama ac fe berfformir y chwaer ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent.  Bydd y ddrama honno yn archwilio natur personoliaeth, ac yn datblygu rhai syniadau sydd wedi’u plannu yn Chwilys.  Yn sicr, ni ellir cael hysbyseb gwell iddi na’r ddrama hon.  Dywed Aled Jones Williams y gobeithia y bydd y gynulleidfa wedi’u cythruddo â’r system wleidyddol wedi gwylio Chwilys.  Cyflawnwyd hynny, heb os.  Cefais hefyd fy nghythruddo na phrofais y wefr theatrig hon ers talwm, yn enwedig yng nghynyrchiadau diweddar canol-y-ffordd y Theatr Genedlaethol.  Rhaid gobeithio mai dyma ddechrau adfywiad cyffrous ym myd y ddrama Gymraeg, ac na pharheir ag artaith yr arlwy a fu.

Mae Non Meleri Hughes yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Pwyswch yma am dyddiadau eraill y daith.

Os hoffech chi gyfrannu adolygiad i wefan tu chwith, cysylltwch â tuchwith@googlemail.com