Cyfrol newydd tu chwith ‘Mapio’r Byd’ yn y siopau’n fuan!
Bydd cyfrol newydd tu chwith yn y siopau’n fuan iawn. Mae’r gyfrol wedi ei golygu gan Jon Gower, beirniad celfyddydol, awdur a newyddiadurwr. Edrychwch ar y cyfweliad â Jon Gower ar wefan tu chwith am y broses o olygu’r gyfrol. Ymysg uchafbwyntiau’r gyfrol mae:
ysgrif ‘Y Pedwerydd Peth’ gan Sian Melangell Dafydd
cerdd gan Ceri Wyn Jones am Washington DC
Megan Jones o Fethesda (un o feirniaid newydd National Theatre Wales) yn ysgrifennu am fapiau a chasgliad o lên meicro ganddi hefyd
cerdd gan Ifan Erwyn Pleming
ysgrifau gan Fflur Dafydd
myfyrdod am rhyfel gan Iolo ap Dafydd ynghyd â ffotograffau gwych
holi Mike Parker, awdur ‘Map Addict’
ysgrif am y Gaiman gan Ana Rees
delweddau Ken Elias
Hefyd, bydd DVD arbennig yn cael ei gyhoeddi (mewn cydweithrediad â Pictiwrs ac wedi ei noddi gan gwmni Rondo) sy’n cynnwys 7 ffilm fer gan gynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru. Ymysg y ffilmiau mae ffilm gan Pete Telfer yn dangos y band Datblygu yn mynd yn ôl i’r stiwdio, ffilm gerddoriaeth gan She’s Got Spies a ffilmiau arbrofol fel ‘Yr Injian Odli’ gan Cymdeithas y Rhyfeddod.
Beth am danysgrifio i tu chwith nawr er mwyn cael eich copi pan gaiff ei gyhoeddi? Cynnig arbennig tan Fawrth 28ain yn unig!

