0

Argraffiadau dwy o Deffro’r Gwanwyn

Manon Wynn Davies ac Angharad Thomas sy’n adolygu Deffro’r Gwanwyn, prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol.

 

Gynhyrchwyr cwmnïau annibynnol S4C, talwch sylw a chymerwch gyngor gan y Theatr Genedlaethol er mwyn dysgu beth yw safon.  Wedi i sawl rhaglen wael gael ei darlledu gan S4C yn ddiweddar, ac rydw i’n prysuro i ddweud bod lle i ganmol ambell gyfres yn fawr, mae’n braf gwybod bod lle o hyd i droi at y theatr yng Nghymru os am adloniant o’r radd flaenaf.

Deffro’r Gwanwyn oedd prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol, a bu ar daith yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2011.  Bu’r sioe ar daith unwaith yn barod, rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2011, ac yn dilyn ymateb hynod galonogol gyda neuaddau dan eu sang, roedd galw am i’r sioe ddychwelyd.  Sioe gerdd roc yw hon â chast o dri ar ddeg, sy’n addasiad o ddrama Almaeneg Frank Wedekind o’r un enw, Frühlings Erwachen, a gyfansoddwyd rhwng 1890 ac 1891.  Troswyd y ddrama yn sioe gerdd Saesneg ac fe’i llwyfannwyd ar Broadway yn 2006, gyda Lea Michelle, un o wynebau cyfarwydd y rhaglen deledu boblogaidd Glee, yn chwarae rhan un o’r prif gymeriadau.  Yn sgil llwyddiant ysgubol yn Efrog Newydd, daeth y sioe i’r West End yn 2009, a bu dau Gymro yn rhan o gast gwreiddiol y cynhyrchiad hwnnw: Aneurin Barnard ac Iwan Rheon.

Cyfieithiad Dafydd James oedd cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, ac nid tasg hawdd oedd cyfieithu’r fath sioe.  Gyda dwy haen wahanol i’r naratif, roedd iaith y ddeialog yn adlewyrchu cyfnod Piwritanaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef adeg cyfansoddi’r ddrama wreiddiol, tra bo’r  caneuon yn perthyn yn nes i ddiwylliant roc a phop heddiw.  Cadwodd Dafydd James enwau Almaeneg  y cymeriadau sy’n ein hatgoffa’n gyson ymhle y lleolwyd y ddrama.  Sioe yw hon am grŵp o bobl ifainc yn cyrraedd eu glasoed, ac felly er iddynt gydymffurfio ar yr wyneb  gyda chymdeithas Biwritanaidd lem y cyfnod, mae’r caneuon yn rhoi cyfle iddynt fynegi’r dyheadau a’r teimladau na feiddient eu trafod yn agored nac yn gyhoeddus.  Dyma sioe gerdd sy’n sicr yn gwthio ffiniau, hyd yn oed heddiw, gyda chymeriadau’r ddrama yn trafod rhyw, rhywioldeb a phob math o bynciau tabŵ:  pethau a anwybyddid  gan gymdeithas  y cyfnod dan sylw.  Gwelir hyn yn yr olygfa gyntaf wrth i gymeriad Wendla flino ei mam â’i holi diddiwedd am feichiogrwydd ei chwaer.  Gwrthoda’r fam drafod gyda’i merch sut mae cenhedlu plentyn, ac mae hi’n anniddig iawn ynghylch chwilfrydedd Wendla.  Cynrychiola Wendla chwilfrydedd y grŵp cyfan, ac mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod diffyg ymwybyddiaeth o faterion rhywiol gan y to ifainc.  Y chwilfrydedd hwn law yn llaw â diniweidrwydd plant yw thema ganolog y ddrama.

Wedi inni glywed am lwyddiant taith gyntaf y cynhyrchiad, roedd y ddwy ohonom yn awyddus iawn i gael blas ar yr hyn a oedd wedi hawlio cymaint o sylw a chanmoliaeth.  Felly aethom o Aberystwyth i Gaerfyrddin i weld y ddrama ddechrau Tachwedd.  Gallwn ddychmygu bod gweld cymaint o gynulleidfa wedi ymgasglu yn rhyddhad i’r cwmni, ac yn profi mai cam doeth oedd dechrau ar ail daith.  Wedi dweud hynny, nid oedd pob sedd wedi ei llenwi chwaith.  Yn syth ar ôl dod allan o neuadd Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, roeddem wedi penderfynu’n barod ein bod eisiau gweld y ddrama eto!  Ac felly y bu hi.  Do, fe aethom ni’r holl ffordd i’r Trallwng er mwyn gweld Deffro’r Gwanwyn am yr ail waith, ond siom garw oedd gweld bod neuadd Canolfan Hamdden y Fflach yno yn hanner gwag.

Roedd hi’n drueni gweld bod cymaint wedi colli’r cyfle i weld cynhyrchiad a oedd o’r un safon â’r hyn a geir yn y West End yn Llundain; yn enwedig o ystyried bod nifer wedi methu â chael tocynnau yng Nghaerdydd gan fod y sioe mor boblogaidd.  Mae perygl y bydd y niferoedd prin yn golygu y bydd y Theatr Genedlaethol yn cadw draw o’r ardaloedd hynny ar y ffin yr ystyrir eu bod yn fwy ‘Seisnig’ yn y dyfodol.  Efallai nad oes cynulleidfa i’w denu yn yr ardaloedd hyn neu efallai y dylid gofyn y cwestiwn: pwy sy’n gyfrifol am farchnata a hyrwyddo digwyddiadau o’r fath?  Byddai hi wedi bod yn werth cynnig tocynnau am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth yr ysgolion cyfagos, oherwydd ni fyddai’r cwmni wedi bod ar eu colled yn ariannol gan mai seddi gwag oedd yno fel arall.  Mae’n amlwg i’r sioe ddenu ambell un na fyddai wedi mynd i weld cynhyrchiad Cymraeg fel arfer ac i’r cast ifainc fod yn rhannol gyfrifol am hynny hefyd; ond gallai hon fod wedi bod yn sioe i gyflwyno cenhedlaeth ifainc i’r theatr Gymraeg gyfoes.

Ni lwyfannwyd y cynhyrchiad hwn mewn theatrau confensiynol, ac wrth sylwi ar y llwyfan gwth oedd yn torri drwy’r gynulleidfa, roedd modd deall pam.  Dyma ddewis mentrus o ran llwyfan, ac un a oedd yn gofyn am gyfarwyddo crefftus a gofalus.  Wedi dweud hynny, llwyddodd yr actorion i ystyrieda chydnabod presenoldeb y gynulleidfa ar bob tu yn benigamp.  Roedd y defnydd o’r set hefyd yn anturus ac yn hyblyg iawn: newidiodd o fod yn ystafell ddosbarth i fod yn llannerch mewn coedwig, o fod yn ystafell mewn tŷ i fod yn fynwent.  Agorwyd rhan ar lawr y llwyfan i fod yn fedd, ac fe godwyd rhan arall er mwyn creu math o ogof oedd yn ein cyfeirio at fywyd y tu hwnt i farwolaeth.  Doedd dim newid mawr yn y set ynddi ei hun ac yn aml fe ddefnyddiwyd cyrff yr actorion i gyfleu lleoliad; buont yn goed, yn rhan o eglwys ac yn feddau mewn mynwent.

Gydag wyth o’r cast wedi eu hyfforddi’n actorion yn Llundain, roedd ein disgwyliadau’n uchel, ac ni chawsom ein siomi.  Roedd perfformiad y cast fel ensemble yn gryf, ond roedd ambell un yn serennu yn eu plith.  Aled Pedrick oedd yn chwarae rhan Melchior, un o’r prif gymeriadau, a llwyddodd i gyfleu angerdd y geiriau yn berffaith.  Roedd cymeriadu Iddon Jones fel Moritz hefyd yn bwerus, ac roedd yntau’n canu’n bwrpasol gyda chraster amrwd oedd yn addas ar gyfer y cymeriad.  Cafwyd perfformiad addawol arall gan Sion Ifan, sef Georg; ac iddo ef y perthyn yr egni a’r brwdfrydedd mwyaf.  Ni chafodd y merched gymaint o gyfle i ddangos eu doniau unigol, ond roedd perfformiad Zoë George (a actiai rhan Martha) yn drawiadol iawn yn yr olygfa a ddarluniai drais yn y cartref.  Enw newydd arall oedd Ceri Lloyd, a chwaraeai un o’r prif gymeriadau, Wendla, ac roedd hithau’n llwyddo i’n swyno gyda’i llais.

Dau actor oedd yn cyflwyno holl gymeriadau’r oedolion yn y ddrama: Victoria Pugh, sy’n gweithio’n gyson gyda chynyrchiadau Theatr Clwyd, a Dyfed Thomas a ymddangosodd yn y gyfres deledu, Sombreros, ar S4C.  Nid tasg hawdd oedd ceisio portreadu dros ddeg o gymeriadau rhyngddynt, ac yn anffodus tueddai’r cymeriadau i ymdoddi i’w gilydd gan mor debyg yr oeddent.  Wrth gwrs, gallai hyn fod yn beth bwriadol ac mai’r nod oedd cyflwyno delwedd ystrydebol o oedolion y cyfnod mewn cymdeithas gyfyng a chul, er mwyn ei gyfrebynnu â bywiogrwydd a chwilfrydedd y bobl ifainc.

Trafodwyd pynciau dwys yn y ddrama hon: hunanladdiad, erthyliad, rhywioldeb a diffyg addysg ryw.  Er mai plant, mewn gwirionedd, oedd y rhan fwyaf o’r cymeriadau, nid sioe i blant mo hon!  Gyda golygfeydd rhywiol ac iaith gref, byddai wedi bod yn syniad rhoi rhybudd o flaen llaw neu gyflwyno cyfyngiad oedran.  Lledodd llygaid ambell blentyn wrth weld Melchior a Wendla yn caru’n angerddol ar ganol y llwyfan a chafwyd ebychiadau o syndod gan wragedd hŷn a eisteddai yn un o’r rhesi blaen pan ddechreuodd Aled Pedrick ganu ‘Dwi’n F****d’!

Dyma sioe gerdd sy’n sicr yn dod â diwedd cyfnod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fyw heddiw ac mae hi’n cydio’n dynn yn ei chynulleidfa am ddwy awr dda.  Er ei bod yn trafod pynciau llosg y cyfnod, nid yw’r tabŵs hyn yn bynciau trafod amlwg i ni’r Cymry heddiw mewn gwirionedd.  Mae modd gweld y sioe hon fel un sy’n ceisio chwalu’r ffiniau parchus sy’n bodoli yn y gymdeithas Gymraeg, ac annog trafodaeth agored ar bynciau pwysig a all godi cywilydd neu beri chwithdod.  Dyma lwyddiant arall i’r Theatr Genedlaethol, ac i Arwel Gruffydd fel cyfarwyddwr artistig newydd. Llwyddodd y cynhyrchiad a’r cymeriadau i ennyn gwên o gydymdeimlad bob hyn a hyn ac ambell ddeigryn hefyd.

Manon Wynn Davies, myfyrwraig MPhil, Adran y Gymraeg, Aberystwyth

Angharad Thomas, myfyrwraig MA, Adran Daearyddiaeth, Aberystwyth

1

Adolygiad o DAU.UN.UN.DIM a Yn y Tren gan Michelle Davies

Michelle Davies sy’n adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o  DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn ac Yn y Trên gan Saunders Lewis ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Nos Wener, Mai 14eg.

Rhodri Meilir a Lowri Gwynne yn DAU.UN.UN.DIM

Rhodri Meilir a Lowri Gwynne yn DAU.UN.UN.DIM

“Er mwyn i’r hil barhau, rhaid glanhau”

Dyna sail y byd tywyll, sinistr, y mae’r ddau brif gymeriad yn byw ynddi yn DAU.UN.UN.DIM.  Gyda’r naill yn perthyn i’r garfan bur, a’r llall i’r amhur; mae’r tensiynau rhyngddynt yn drydanol. Arweinir ni fel cynulleidfa ar daith Awen Alaw – y ferch bur gyntaf – wrth iddi chwilio am rywbeth mwy i’w bodolaeth di-emosiwn a di-ystyr.  Yr un i’w harwain i weld y goleuni yw Brân, terfysgwr perycla’r wlad, dyn sy’n mwynhau pethau anghyfreithlon y byd – celf a chariad.  Chwaraeir gêm eiriol beryglus rhwng y ddau drwy gydol y ddrama wrth i ni fethu ag ymddiried yn yr un ohonynt…a yw’r ddau yn bwriadu bradychu ei gilydd?

Wedi ei gosod ganrif i’r dyfodol, archwilir pa fath o fywyd fydd ar y blaned wrth i ddatblygiadau gwyddonol a’r chwilfrydedd am berson ‘perffaith’ fynd i’r eithaf.  Defnyddir technoleg fodern i beri i’r gynulleidfa brofi’r teimlad annifyr o gael eich gwylio – byd pan mae’r brawd mawr wirioneddol ym mhob twll a chornel.  Yn yr un modd mae synau annifyr sgrechiadau a gynau yn y pellter yn cryfhau’r teimlad mai byd arswydus ydyw ac na ellid ymddiried yn neb.

DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn

DAU.UN.UN.DIM gan Manon Wyn

Ar lwyfan traws, agos atoch chi, a oedd yn adlewyrchu byd caeëdig, mwll y byd Teledu Cylch Cyfyng, roedd modd gweld pob symudiad gan y ddau actor – Lowri Gwynne a Rhodri Meilir – a teimlir ar brydiau eu bod yn meddwl am y linell nesaf yn hytrach na pherfformio.  Rhywbeth a fydd yn gwella wrth i’r daith fynd rhagddi gobeithio.  Roedd  cyfarwyddo Betsan Llwyd yn wych wrth i’r ddau gymeriad  symud o naill ben i’r llwyfan i’r llall heb amharu ar fwynhâd y gynulleidfa (a oedd yn siomedig o fychan o ystyried mai cynhyrchiad Theatr Genedlaethol oedd hon).

Dyma sgript gwych sy’n plethu ac yn troelli yn gywrain ac yn cynnig mewnwelediad ddifyr i fyd ffuglen-wyddonol Gymraeg.  Rhoddwyd cyfle i arbrofi ag arddull y cynhyrchiad a chonfensiynau’r theatr draddodiadol, gyda golygfeydd agoriadol y ddrama’n digwydd ar y ddau sgrîn fawr i gerddoriaeth ffynci, addas.

Wedi’r egŵyl cafwyd cyfle i weld un o ddramâu llai adnabyddus Saunders Lewis – drama fer iawn – Yn y Trên.  Roedd tempo hon yn wahanol iawn i’r thriller gan Manon Wyn ond mae hon hefyd yn ymwneud â diffyg pwrpas bywyd wrth i’r teithiwr rhyfedd fyned ar daith y trên heb wybod i ble yr aiff na phaham.  Pwysleisir yma abswrdiaeth bywyd wrth iddynt oll deithio ar drên na fydd byth yn cyrraedd pen ei thaith a gwelir marwolaeth cymunedau wrth i’r gorsafoedd bychain rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gau – “Does dim Dyfed, mae pob stêshion wedi marw”.  Roedd hon yn ddrama mor fyr ei bod bron yn rhy fyr, ond fe aeth Betsan Llwyd ati’n gelfydd i gyfleu’r teimlad bod y ddau gymeriad ar drên wrth iddynt suo yn ôl ac ymlaen yn ddibaid drwy gydol y ddrama fer (er bod Rhodri Meilir yn edrych fwyfwy fel meddwyn na theithiwr trên wrth iddo golli’i falans ar adegau).

Dyma ddau gynhyrchiad pur gwahanol i’w gilydd a braf iawn yw cael dweud i mi fwynhau’r ddwy yn eu ffyrdd eu hunain.  Roedd hi’n arbennig o braf cael clywed llais heriol a ffres Manon Wyn mewn cynhyrchiad cyffrous, iasol.  Piti na fyddai DAU.UN.UN.DIM ychydig hirach ac yn medru hawlio noson cyfan o theatr i’w hun.

Mae Michelle Davies yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Cofiwch am rhifyn newydd tu chwith wedi ei olygu gan Jon Gower. Gallwch brynu neu danysgrifio i’r cylchgrawn ar y wefan hon.

Yn y Tren gan Saunders Lewis