Adolygiad: The Beach (Cynhyrchiad National Theatre Wales).
The Beach
National Theatre for Wales
Prestatyn
27ain mis Awst 2010
Nid oedd gennyf syniad beth i’w ddisgwyl yng nghynyrchiad diweddaraf y National Theatre Wales a ddisgrifwyd fel ‘outdoor gaming on the beach at Prestatyn.’ Roedd y gorchymyn ‘come and join us’ hefyd yn awgrymu rhyw elfen o weithred gan y gynulleidfa, ac fel un sydd yn mwynhau ymlacio mewn cadair foethus yn y theatr i fwynhau’r arlwy ar y llwyfan, nid oeddwn yn siŵr a oedd cymryd rhan mewn rhyw syrcas awyr-agored yn mynd i fod at fy nant. O ddeall fod y gynulleidfa’n rhan o’r perfformiad byw, roeddwn felly’n teimlo’n nerfus fel aelod o’r cast! Roedd y gair ‘gemau’ hefyd yn awgrymu mai adloniant ysgafn heb unrhyw ystyr yn perthyn iddo a oedd yn fy nisgwyl. Ond fe’m siomwyd ar yr ochr orau. … Continue Reading
Adolygiad o noson theatr Dirty Protest gan Lowri Cooke
Pan oedd pawb yn meddwl bod digon o ddrama ar noson etholiad, roedd criw theatr ‘Dirty Protest’ wedi mynd ati i berfformio nifer o ddramâu newydd gan ddramodwyr ifanc. Bu Lowri Cooke yna i brofi’r arlwy etholiadol ei naws:
(Os am ddarllen mwy am y project theatr, bu tu chwith yn cyfweld â Tim Price, un o sylfaenwyr Dirty Protest, ar gyfer rhifyn 29 y gallwch ei brynu yma.)
A minnau’n hen gyfarwdd ag yfed chilli mojitos yn bar Milgi y Rhath, doeddwn i erioed wedi manteisio ar y cyfle i fynychu un o nosweithiau’r criw theatr Dirty Protest yno tan iddyn nhw gynnal eu llwyfaniad diweddara’ ddechrau’r mis.
Ac fel rhywun sy’n tueddu i lynnu at leoliadau mwy confensiynol y Chapter a’r Sherman fel cyrchfannau theatr yn y brifddinas, y cwbl ro’n i’n wybod oedd y dylwn gyrraedd cyn 8 yr hwyr ar Fai y 6ed er mwyn profi chwe drama fer wedi eu llwyfanu mewn lleoliad “cyfagos”, oll yn ymateb i’r thema “Counted”- gydag ambell un yn cyffwrdd â digwyddiad mawr y noson dan sylw, sef yr Etholiad Cyffredinol.
Teg dweud i’r gynulleidfa brofi amrywiaeth o ran safon a themâu yn y warws gyfagos, oedd wedi’i ddodrefnu’n gynnil â bynting blodeuog, goleuadau coed-Dolig, a waliau’n dangos olion protest liwgar, os nad cwbl ffiaidd- a hynny i gyfeiliant mash-up o un o ganeuon Corinne Bailey Rae.
Ar ôl i Corinne dawelu, cyflwynwyd tri actor y noson-Tom Cullen, Remy Beasley a Ceri Murphy- gan eu cyfarwyddwraig Mared Swain, a ffwrdd â ni, gan ddechrau- yn fy marn i- gyda’r ddrama wanaf, sef 2020 Vision, a sgwennwyd gan wyryf- neu“cherrypopper”- y noson, y bardd lleol Mab Jones.
O’r chwe drama fer, roedd hi’n amlwg mai hon roedd yr actorion eu hunain â’r lleia o hyder ynddi, gan iddynt lynnu’n gadarn yn eu sgriptiau, a llithro’n achlysurol dros y geiriau, oedd yn cynrychioli dadl deledu hallt rhwng arweinwyr dwy brif blaid ryngwladol yn y flwyddyn 2020. Mae gen i ofn mai deialog go gyfarwydd a gafwyd, yn cynrhychioli ymryson rhwng yr adain chwith a’r adain dde, gan orffen yn weddol ystrydebol cyn i’r cyflwynydd teledu gyhoeddi enillydd yr etholiad.
Diolch byth felly am y llwyfaniad nesa, sef Not a Funeral gan Ed Hime. Dyma ddrama fer oedd yn ateb gofynion y cyfrwng i’r dim, a cafwyd actio, sgwennu a chyfarwyddo caboledig drwyddi draw. Gofynwyd i ni wrando ar ddau frawd a chwaer yn adrodd moliant gwahanol i’w diweddar dad wrth yr ychydig bobol arhosodd am baned yn dilyn ei gynhebrwng. Llwyddodd y tri i hoelio sylw’r gynulleidfa o’r cychwyn cynta, wrth bupuro tameidiau bychain o wybodaeth ynglyn ag amgylchiadau ei farwolaeth, a llwyddwyd i gyfleu tensiwn nerfus wrth ddatgelu’r pwnc dadleuol dan sylw, a hynny trwy gyfrwng hiwmor aruthrol o dywyll. Wnai ddim datgelu’r troad, gan yr hoffwn eich annog i gofio enw’r ddrama a’i hawdur, ac i geisio’i gweld os gewch y cyfle rhywdro eto.
Use it or Lose it gan Mark Williams oedd y drydedd ddrama. Cafodd y gynulleidfa eu plesio’n arw gan syniad syml ond hynod ddifyr am y cynghorydd cariad “Clive St John; Life Recycler” . Dechreuwyd â phrofiad sy’n gyffredin dros y bydysawd, sef diwedd aflwyddianus i ddêt trychinebus rhwng William (Tom Cullen) a Donna (Remy Beasley). Yna, tra’n aros am y bws ola, daw William i synhwyro presenoldeb Clive (Ceri Murphy), wrth i’r angel anghonfensiynol fesur ei “lefelau-gwastraff” a’i ddyfarnu’n sefyllfa enbydus, neu yn ei eiriau ef, “Code Red”. Deallwn fod modd i Clive ddiddymu’r hen William o’r blaned, fel y gwnaeth gyda’r deinosoriaid dwetha’, gan bwysleisio’r holl gyfleoedd a wastraffwyd gan y Romeo rwtsh-sbwriel yn ystod ei oes. Dyma ddrama fer ag iddi sgript gadarn gan awdur sy’n dangos potensial mawr.
Mae’n wir mai actio Ceri Murphy ddisgleiriodd fwya yn Use it or Lose It, ond dangosodd y bedwaredd ddrama- Hug a Tory gan Atiha Sen Gupta- y ddau actor gwrywaidd yn cydweithio’n dda â’i gilydd wrth bortreadu Craig a Luke- dau ffrind ar stâd cyngor. Gwyrdroir ein disgwyliadau o’r ddau “hoody” pan gyrhaedda un o ymgyrchwyr y Torîaid, Tabitha, i ofyn iddynt fod yn “artistiaid cefndirol” yn ystod ymweliad gan “Dave”. Dyma enghraifft dda o stori newyddion yn sbarduno drama fer effeithiol, gyda sgript sydd sy’n byrlymu o ffraethineb ac sy’n groesbeilliad difyr o waith gorau Armando Iannucci a Samuel Beckett.
Rhaid cyfadde i mi ddiflasu rhywfaint ar The Statement unwaith i’r cysyniad canolog gael ei sefydlu. Mae’r ddrama, gan Jack Thorne, yn cyflwyno cwpwl cyfoglyd o gariadus (a chwareir gan Remy Beasley a Tom Cullen) sy’n baglu dros ei gilydd i rannu manylion bychain yr achlysur dan sylw. Daw’n amlwg yn fuan nad priodi yw’r Datganiad mawr, ond yn hytrach cytundeb i gyflawni hunanladdiad. Syniad da sy’n mynd i nunlle braidd a geir yma, ond roedd hi’n braf gweld yr actores yn cael y cyfle i chwarae rôl ganolog.
Dychwelyd i thema’r Etholiad Gyffredinol wnaeth y cynhyrchiad olaf, sef Independence Fay gan James Graham, a hynny’n llawer mwy effeithiol na’r ddrama agoriadol. Clustfeinio wnaethom ar sbinfeistr y Ceidwadwyr wrth iddo geisio dwyn perswâd ar ferch ifanc ag iddi ddilyniant enfawr ar Facebook i sefyll yn yr etholiad er mwyn denu dilynwyr Llafur a sicrhau llwyddiant i’w ymgeisydd ef. Ymgais i ddychanu dryswch y drefn etholiadol a geir yn y ddrama hon, a rhaid dweud y llwyddwyd i gynnal y syniad canolog hyd at ddiweddglo sydd yn hynod foddhaol.
Mae’n wir nad oedd pob drama’n plesio, ac efallai byddai’n syniad gofyn i’r cymdogion droi lefel sain eu mash-ups hwythau lawr rhyw fymryn y tro nesa. Ond rhaid dweud i mi fwynhau’r profiad o weld y chwe chynyrchiad cryno yn fawr. Fel gŵyl flynyddol Egin cwmni Sherman Cymru, mae hi’n bleser cael gweld hadau o syniadau ar waith, ac yn ddifyrrach byth dyfalu pa rai sy’n haeddu datblygiad pellach.
Felly, y tro nesa fyddwch am fwynhau un o Fojito’s gore Caerdydd, cofiwch am y brathiadau bach blasus o theatr sydd i’w profi’n achlysurol tu hwnt i’r Yurt yn y Milgi.
Mae Lowri Cooke yn byw yng Nghaerdydd.
Llwyth: adolygiad gan Catrin Rogers
Catrin Rogers sy’n adolygu cynhyrchiad newydd Sherman Cymru.
Pan berfformwyd Look Back in Anger, drama chwyldroadol John Osborne, am y tro cyntaf ym 1956, gwreiddyn y sioc oedd bod dramodydd – a chwmni theatr o’r brif ffrwd – wedi troi eu sylw at bobl dosbarth gweithiol am y tro cyntaf, ac felly’n dechrau cyfnod gwbl newydd yn hanes theatr Lloegr.
Gyda Llwyth, mae Dafydd James wedi cymryd camau enfawr lle wnaeth Pam fi, Duw? gan John Owen ond mentro. Ar yr olwg gyntaf, ‘gwrywgydiaeth’ yw’r brif thema. Mae’r script yn amlygu pa mor annigonol ac afiach yw’r gair, a hefyd mor annigonol mae’r portread o fywyd hoyw wedi bod yn niwylliant Cymru.
Pedwar dyn hoyw ar noson allan yn y brifddinas, un nos Sadwrn wedi gêm ryngwladol. Aneurin, eu harweinydd magnetig yw’r adroddwr. Wedi dod adre o Lundain, lle mae ei anturiaethau rhywiol a’i yrfa fel nofelydd yn bwydo ei ego, mae e wrth ei fodd yn brolio am ei hanesion wrth ei gynulleidfa addolgar – Rhys a Gareth, cwpl dadleugar ond ffyddlon, a Dada, dyn mamol, cariadus, hŷn na’r lleill.
Byddai disgrifio’r plot ddim yn gwneud unrhyw gyfiawnder â’r ddrama – cystal crynhoi drwy ddweud bod y script, y cyflymder, datblygiad pob un cymeriad a safon yr actio yn gwneud hon yn un o’r dramau mwyaf crefftus, difyr, dwys – a hir-ddisgwyliedig – yn hanes theatr Cymru dros y ganrif ddwytha.
Un o’i chryfderau mwyaf ydy’r mynegiant o’r schizophrenia o fod yn Gymro Cymraeg ag un troed yn Llundain, yn ddyn hoyw ymysg diwylliant rygbi llethol y de, ac ynglwm wrth eich teulu ac eto’n ysu am gael dianc. Mae’r drafodaeth o Gymreictod yn enwedig, i mi, yn ffraeth a heriol, ac eto’n hynod ddeallus. “Cult yw e,” meddai Aneurin am y Steddfod. “All those parents, cheering for their offspring… it’s just like a fascist rally.”
Rhaid diolch, mae’n siŵr, i gyfuniad o lwc dda a gwaith caled arwain at ffeindio actorion o safon uchel, yn enwedig Siôn Young sy’n chwarae Gavin, y bachgen naïf, hoffus, y mae’r pedwar yn cwrdd mewn clwb nos. Hawdd oedd anghofio taw actor oedd yna o gwbl, mor ddi-ymdrech a real oedd ei berfformiad.
Dyw’r cyfanwaith ddim yn berffaith. Mae’r set yn siomedig – yn hen-ffasiwn a di-ddychymyg – ac mae’r diwedd braidd yn flêr a diymatal o’i gymharu â’r gweddill. Ond cwynion bach yw’r rhain am ddrama o’r safon uchaf.
Mae na ymdeimlad cryf yng Nghaerdydd, ymysg y cannoedd fu’n ddigon lwcus i gael tocyn i weld Llwyth, ein bod wedi gweld dechrau pennod newydd bwysig yn hanes theatr Gymraeg. Dwi’n mawr, mawr obeithio bod hi’n arwydd o’r hyn sydd i ddod gan Dafydd – ac yn fwy na hyn, yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o ddramodwyr.
Mae Catrin Rogers yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i National Theatre Wales.




