1

Cyfweliad â Pete Telfer

‘‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill’ meddai’r gerdd, ond cred Pete Telfer y mae’n bosib ein bod ni ar drothwy rhyw fath o symudiad os meddianwn y we. Dyna’r meddylfryd tu ôl i’w brosiect newydd, gwefan Y Wladfa Newydd (Culture Colony). Fe gefais i’r cyfle i fynd i’w holi am y prosiect (ei gyfweliad cyntaf amdano) yn ei gartref ym mhentref hyfryd llun-cerdyn-post Esgairgeiliog, ger Machynlleth. Bydd ffilm fer gan Pete Telfer, Datblygu 2008, yn ymddangos ar DVD arbennig sy’n cael ei gyhoeddi gan Pictiwrs a tu chwith; bydd y DVD o ffilmiau byr annibynnol ym mhob copi o gyfrol newydd tu chwith a gaiff ei gyhoeddi yr wythnos hon.

Cynhyrchydd ffilm a ffotograffydd yw Pete Telfer sydd yn enwog am ei awydd i ddogfennu ac i ddweud stori. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n ffilmio bandiau o’r Sin Roc Gymraeg gan ddilyn bandiau fel Yr Anrhefn (band pync) ar deithiau i Wlad y Basg – y band Cymraeg cyntaf i fynd ar daith dramor a chanu’n Gymraeg – oherwydd gwyddai cyn bwysiced oedd cofnodi’r hanes hynny ar ffilm.

Wrth i frwdfrydedd Pete am Y Wladfa Newydd godi chwilfrydedd ynghylch y prosiect hwn, daw’n amlwg mai ei awydd i ddweud stori sy’n dal i gymhell Pete Telfer – a bod y cyfuno hwnnw ynghyd â phosibiliadau’r we yn mynd i arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol.

‘Y syniad tu ôl i’r Wladfa Newydd yw cynnig rhywbeth gwahanol i’r teledu,’ meddai Pete Telfer. ‘Cynnwys diwylliannol sydd ar y wefan. Gall artistiaid rhoi eu syniadau ar y wefan ac yna gall pobl sy’n edrych ar y wefan ddilyn taith y syniad i’r darn o gelf gorffenedig – dilyn syniadau tra bo pethau’n cael eu creu.’

Dyma arf newydd i’r artist, felly. Dywed Pete fod digon o wefannau rhwydweithio ar gael ar gyfer artistiaid yn barod: ‘Nid facebook arall yw hwn ar gyfer artistiaid, byddwch chi ddim yn gallu taflu peli eira neu ddefaid at artistiaid. Y pwrpas yw creu offer creadigol newydd ar gyfer artistiaid i rannu’r broses o greu eu gwaith.’

Un o’r artistiaid sydd wedi gafael yng ngweledigaeth Y Wladfa Newydd yw David Nash, artist o Flaenau Ffestiniog. Gweithia David Nash â choed mawr iawn a bu Pete yn ei ffilmio ers 1996. Mae Pete wedi rhoi llawer o’r ffilm hynny ar y wefan er mwyn dangos gwaith David Nash yn tyfu – yn llythrennol – dros y blynyddoedd. Mae lluniau a ffilmiau o gerfluniau coed gan David Nash yn ystod y camau cynharaf o’u gwneud yn Cincinnati ar y wefan; yna cofnod o’r pren yn cael ei dorri a’r offer arbennig a ddefnyddiwyd i wneud hynny; ynghyd â cofnod o symud y gwaith i Ascot a sut y llwyddwyd i wneud hynny heb ddifrodi’r cerflun. Gan ei fod yn gweithio â choed, mae nifer o ddarnau gan David Nash yn waith sydd wedi ei gynllunio i dyfu dros amser felly mae’r ffilmiau a’r lluniau ar y wefan yn cofnodi’r tyfiant a datblygiad y gwaith. Felly, gall pobl sy’n ymweld â’r wefan weld y stori tu ôl i’r darn terfynol o gelf a welant yn yr oriel.

Dywed Pete Telfer: ‘Mae artistiaid yn gweld y safle we fel added value. Gall pobl weld y gwaith yn datblygu ac mae galeriau yn gweld gwerth yn y cofnod hwnnw – y cefndir sydd wedi arwain at y darn o gelf gorffenedig.’ Mae’r wefan yn galluogi’r artist i ddweud y stori wrth i’w waith deithio i Chicago, Sbaen, yr Almaen a thu hwnt. Yn ôl Pete mae’r ffilm sy’n adrodd stori’r celf o’r syniad i realiti yn golygu ein bod yn cael profiad agosach o waith yr artist.

Nash Chicago - Pete Telfer

Nash Chicago gan Pete Telfer

Arddangosodd David Nash ei waith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala a’r Cyffiniau y llynedd, ac un o’r cerfluniau oedd ‘Wooden Boulder.’ Taflwyd y darn hwn o gelf i’r afon, ac fe ddangoswyd ffilm ger y cerflun yn dangos David Nash yn mynd i chwilio am y cerflun yn yr afon rhai blynyddau’n ddiweddarach. Oherwydd fod modd i’r gynulleidfa weld datblygiad y gwaith a dod i berthynas ag e’, roedd eu cysylltiad â’r cerflun o’u blaenau’n gryfach. ‘Roedd hi’n brofiad i weld pobl yn cerdded o gwylio hanes y cerflun hwn oedd o’u blaen yn y ffilm, a’u gweld nhw’n troi’n emosiynol iawn o weld y cerflun yn teithio i fyny ac i lawr yr afon,’ meddai Pete Telfer.

Y profiad mae defnyddwyr y wefan yn ei gael o ddod wyneb yn wyneb â’r celf ar-lein sy’n mynd at wraidd prosiect Y Wladfa Newydd. Mae’r wefan yn galluogi unigolion i ddod yn nes at y gwaith a phrofi’r gwaith fel mae’r artist ei eisiau yn ôl Pete. ‘Mae edrych ar y teledu yn rywbeth ‘passive’ iawn,’ meddai. ‘Maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth yn y cefndir er mwyn eich gwneud i deimlo mewn ffordd arbennig, ond efallai nad dyna’r profiad yr oedd yr artist wedi ei fwriadu i chi ei gael. Rydych chi’n profi’r un peth ag y mae miloedd o eraill yn ei brofi. Mae mwy o ryddid gen i fel gwneuthurwr ffilm na pe bawn i’n gweithio i’r teledu. Dwi’n osgoi defnyddio cerddoriaeth er mwyn i’r defnyddiwr gael profiad unigryw o’r celf. Y gobaith yw y bydd defnyddwyr y wefan yn dod yn fwy agos at y gwaith ac at y person sy’n gwneud y gwaith.’

Bu Pete ei hun yn gweithio i raglenni celf ar gyfer y BBC, HTV ac S4C. Tyfodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl mynychu coleg celf. Mae’n dweud mae’r hyn oedd yn ei ddenu at ffotograffiaeth oedd bod llun yn gofnod o amser a’i fod yn hoffi sut y gellid dweud y stori mewn un llun. Datblygodd ei ddiddordeb mewn fideo a theledu; ei nod unwaith eto oedd cofnodi a dweud y stori ‘mor wir ag sy’n bosib.’

Yn ogystal â rhoi llwyfan i’r gwaith, mae ffilmio’r gwaith celf yn gofnod i’r artist. Pe bae’r artist yn ddigon lwcus i gael slot ar raglen deledu nid yw’r teledu’n gallu cyfleu y gwaith yn ddigonol. Yn ddiweddar, bu Pete Telfer yn ffilmio darn o waith gan Katherine Ashill o’r enw ‘Sws’ lle roedd hi’n aros yn llonydd drwy’r dydd ac yn gwahodd pobl i wisgo minlliw a rhoi cusan iddi rhywle ar ei gwisg wen. Gan ei fod yn ddarn dros amser hir ni fyddai wedi gallu cael ei gyfleu’n llwyddiannus ar y teledu. Gellir gweld sawl ffilm o gerddoriaeth fyw ar y wefan hefyd, fel Bob Delyn a’r Ebillion mewn gŵyl ym Machynlleth, a nod Pete bob tro yw ceisio cyfleu ar ffilm y profiad o fod yno: ‘Mae’n wahanol i deledu,’ meddai. ‘Mewn darn i deledu, bydd cyfweliad â’r artist yr un pryd â dangos y darn celf. Ar wefan Y Wladfa Newydd rydym ni eisiau cyflwyno’r darn drwy ffilm neu ffotograff y ffordd roedd yr artist eisiau iddo gael ei gofio.’

Mae Pete Telfer wedi cadw llawer o’r ffilmiau a gynhyrchodd o’r Sin Roc Gymraeg ers yr 80au, ond ni wyddai beth i wneud â’r silffoedd a’r silffoedd o dapiau. Offer syml oedd ganddo ond roedd yn gweld gwerth mewn cofnodi’r mwynhâd. Mae fel pe bai ei syniadau dros y blynyddoedd yn dod at ei gilydd nawr yn Y Wladfa Newydd. Mae Pete yn feirniadol nad yw celf yn cael ei gyflwyno’n iawn ar y teledu, ond serch hynny, gwêl arwyddion o fwrlwm yr 80au yn ôl yng Nghymru. A yw hi’n beth da bod artistiaid yn dibynnu llai ar y teledu? ‘Mae cyn lleied o gelf ar y teledu. Ond dwi’n teimlo cynnwrf ar hyn o bryd sy’n debyg i gyfnod Yr Anrhefn. Efallai bod hi’n dda bod teledu’n osgoi diwylliant. Mae’r teledu’n tueddi i roi popeth mewn bocs a gwneud pethau’n saff, a colli bwriad yr artist. Weithiau mae’n well i’r celf aros yn danddaearol. Mae’n gyffous gweld grwpiau o artistiaid yn dod at ei gilydd i arbrofi, fel Framework, Blaengar a Chymdeithas y Rhyfeddod. Mae angen i ni ddibynnu llai ar grantiau, nid fy mod i’n erbyn grantiau ond mae’r fiwrocratiaeth yn ddrwg. Dyna pam dwi’n ceisio cael pobl i danysgrifio i’r Wladfa Newydd.’

A oes peryg i’r defnyddiwr gael ei ddrysu gan gymaint y deunydd artistig ar y we? Sut mae barnu beth sy’n dda a beth sy’n wael – pwy sy’n cynnig arweiniad? ‘Ni’n gobeithio bydd pobl yn dod â barn adeiladol i’r wefan, yn gadael eu sylwadau ac yn trafod. Pwrpas beirniadaeth yw datblygu gwaith.’

Mae Pete Telfer hefyd ynghlwm â threfnu arddangosfa Yr Hen Tanerdy ym Machynlleth, sef gofod er mwyn i artistiaid newydd i arddangos eu gwaith ac i artistiaid eraill i arbrofi a dangos gwaith nad yw’n orffenedig eto. ‘Mae’n ffordd i artisitiaid i ysbrydoli ei gilydd. Os ydyn nhw’n styc gyda syniad, gallan nhw ddod o hyd i artist arall i gydweithio â nhw i weithio’r syniad yn ei flaen. Rhaid meddwl yn greadigol am y ffordd ni’n gweithio mewn cyfnod ariannol anodd. Ond fel sydd wedi digwydd yn nirwasgiadau’r gorffennol, y diwydiant creadigol yw’r olaf i fynd mewn i recession a’r cyntaf i ddod allan o’r recession. Mae pobl yn gweld fod celfyddyd yn gwneud lles i fywyd y genedl.’

Mae’r wefan yn cael ei defnyddio eisoes gan orielau celf. Gall orielau ddefnyddio’r wefan i weld mwy o waith yr artistiaid ac mae rhai wedi eu comisiynu o ganlyniad i’r gwaith mae orielau wedi gweld ar y wefan.

Yn ddiweddar, arddangosodd Pete Telfer gasgliad o luniau yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Enw’r casgliad yw ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ sy’n cynnwys delweddau o ddiwedd y mileniwm o wal Berlin i grwpiau Cymraeg. ‘Doeddwn i ddim wedi gweld y lluniau ers y 1990au’, meddai Pete. ‘Dim ond dwy frawddeg o esboniad gallai’r Oriel roi o dan bob llun, ond fe wnes i ysgrifennu paragraffau hir wrth i’r atgofion dod yn ôl. Fe wnes i roi y lluniau a’r paragraffau hynny ar y wefan, ac roedd hynny’n annog pobl i fynd i weld y gwaith yn y galeri.’

Gan fod Pete Telfer wedi cyfrannu i DVD Pictiwrs/tu chwith o ffilmiau byrion, pa fath o gyngor fyddai e’n ei roi i gynhyrchwyr ifanc? ‘Beth bynnag chi’n ei ffilmio, rhaid i chi fod yn gyfforddus a rhaid i’r person chi’n ei ffilmio fod yn gyfforddus. Er mwyn dogfennu’r gwir, rhaid i bawb fod yn gyfforddus gan gynnwys eich gallu chi â’r camera – yna fe fydd y ffilmiau’n gwneud eu hunain.’

Wrth yrru o bentref tawel Esgairgeiliog sylweddolais nad pentref cyffredin mohono – oherwydd ar gyrion y pentref mae Canolfan Technoleg Amgen Machynlleth sy’n enwog am ei flaengarwch ynghylch cynaliadwyedd. Dyna ddangos mai nad mewn metropolis o flaen o flaen camera mae newid y byd, ond unrhyw lecyn sy’n eich ysbrydoli i ddefnyddio’ch dychymyg!

Diolch i Pete Telfer am ei amser.

Y Wladfa Newydd / Culture Colony: http://www.culturecolony.com/

Bydd ‘Datblygu 2008’ gan Pete Telfer ar DVD Pictiwrs/tu chwith yng nghyfrol 32: Mapio’r Byd.